Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Zoom
Cyswllt: Einir Rhian Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I
Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn
am y Flwyddyn 2020-21 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ail etholwyd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2020/21. COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dewi W
Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2020/21. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I
Ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn
am y Flwyddyn 2020-21 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Etholwyd
y Cynghorydd Beth Lawton yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2020/21. COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Beth Lawton
yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2020/21. |
|
YMDDIHEURIADAU I derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Y Cynghorwyr Menna Baines, Linda A Jones a
Linda Morgan |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd y datganiadau o fuddiant personol
fel a ganlyn : Cyng. R Medwyn Hughes – Aelod o Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Cyng. Eryl Jones-Williams – Perthynas
yn defnyddio cadair olwyn Cyng. Rheinallt Puw – Cyflogedig gan
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Cyng. Dewi W Roberts – Aelod o’r
Gweithgor Cyng. Angela Russell – Aelod o‘r
Gweithgor |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar y 30 Ionawr, 2020 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Ionawr, 2020
fel rhai cywir. |
|
I Dderbyn Adroddiad Cynnydd
ar Argymhellion Ymchwiliad Craffu: Cefnogi Pobl Anabl Gwynedd (Gwasanaeth
Cadeiriau Olwyn) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd
cynnwys yr adroddiad a’r dogfennau atodol gan nodi y sylwadau Gofynnwyd
am sicrwydd bod y Gwasanaeth yn cadw golwg ar yr hyn sydd yn mynd ymlaen COFNODION: Diolchwyd am yr adroddiad cynnydd, yn dilyn cyflwyno y
mater i’r Pwyllgor Craffu yn Medi 2019. Gofynnwyd am sylwadau ar y
gweithredoedd yn sgil yr argymhellion, a nodwyd fel a ganlyn : Cadarnhawyd bod yr Aelod Cabinet wedi ysgrifennu at
Vaughan Gething yn 2019 yn tynnu sylw at yr adroddiad, ond nododd nad oedd
ymateb wedi dod i law, ond teimlwyd mai materion ar gyfer gweithrediad lleol
oedd yn codi o’r argymhellion. Nododd
bod y gwaith wedi amlygu y cydweithio rhwng y Cyngor a’r Gwasanaeth Iechyd a
theimlwyd fod nifer o argymhellion yr Adroddiad ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd. Yn sgil hyn, nodwyd pwysigrwydd cadw y
cyfathrebu yn fyw gyda’r Gwasanaeth Iechyd.
Cadarnhaodd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant bod ymateb gan y Gwasanaeth Iechyd i’r
argymhelliad yn yr adroddiad. Adroddwyd ar faterion penodol i’r Gwasanaeth Iechyd
isod, gan ddangos symudiad yn y materion, ond wrth gwrs mae cynnydd wedi arafu
oherwydd COVID. Cadarnhawyd nad yw’r Gweithgor Partneriaeth Ranbarthol
wedi ei sefydlu eto, ond fod trefniadau lleol wedi eu sefydlu rhwng y
Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd a Chyngor Gwynedd i wella cydweithio. Mae penodiad Arweinydd Therapi Galwedigaethol ar gyfer
Cyngor Gwynedd wedi hwyluso cyfathrebu a chydweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd. Mae dogfennau cyfeirio electroneg yn cael eu treialu
gan y Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd, ac mae bwriad cyflwyno trefn gyfeirio
electroneg yn fuan. Mae hyfforddiant ar y cyd yn digwydd rhwng y
Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd a Thimau Adnodd Cymunedol Gwynedd. Nodwyd pryder bod arafwch o ran asesiad amgylchedd y
cartref ynghyd a phryder bod y therapyddion galwedigaethol heb hyfforddiant a
chwestiynwyd tybed a oedd hyn wedi ei ddatrys?
Cadarnhawyd mai cyfrifoldeb therapyddion galwedigaethol y Cyngor ydy
cynnal asesiad amgylchedd yn y cartref, a bod cyfrifoldeb ar therapydd
galwedigaethol y Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd i gwblhau asesiadau ar gyfer
offer arbenigol. Nid oes datblygiadau pellach ynghylch cytundeb gan y
Gwasanaeth Iechyd i Therapyddion Galwedigaethol o Awdurdodau Lleol dderbyn yr
hyfforddiant arbenigol. Serch hyn, mae cynnydd wedi bod yn yr ymweliadau ar y
cyd rhwng therapyddion yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd
sydd yn gwella cydweithio ac yn lleihau oedi mewn sicrhau offer addas yn
amserol. Cadarnhawyd y byddai unrhyw
ddatblygiadau yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor. Cadarnhawyd bod aelodau y gweithgor wedi siarad gyda
rhai cleifion am yr effaith/diffygion a chafwyd cadarnhad bod y Gweithgor wedi
gallu gwella y gwasanaeth a bod y Bwrdd Iechyd wedi symud ymlaen, a bod llawer
wedi newid, er gwell, tra roedd yr ymchwiliad ar y gweill. Nodwyd balchder wrth
ddarllen yr argymhellion ond nodwyd y gwahaniaeth sylweddol rhwng Gogledd a De
Cymru. Nodwyd ei bod yn bwysig peidio ag
anghofio yr argymhellion, dal i dderbyn diweddariadau a dal i wella er mwyn
symud ymlaen. Cadarnhawyd bod yr
asesiadau yn well yn y De a bod lle i wella y Gwasanaeth yn y Gogledd a bo hwn
angen sylw y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Iechyd. Cwestiynwyd y cyfarpar oedd yn cael ei roi allan i’r cleifion ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
PLANT A PHOBL IFANC MEWN GOFAL PDF 268 KB I Ystyried Adroddiad ar Blant a Phobl Ifanc Mewn Gofal Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad a nodwyd y sylwadau. COFNODION: Nodwyd bod yr adroddiad yn
cael ei chyflwyno
gyda balchder yn y staff a’r rhieni maeth. Adroddwyd ar sut roedd
y Gwasanaeth wedi ymateb i barhau
gyda y Gwasanaeth yn y cyfnod anodd
hwn ac wedi ymateb i’r gofyn
yn ystod y cyfnod clo. Cadarnhawyd bod 294 o blant mewn gofal ar
ddiwedd Medi 2020, ac mewn gofal am resymau
amrywiol. Nodwyd mai y dewis
olaf un yw
gosod plentyn mewn gofal, ond
weithiau nid oes dewis. Cyfeiriwyd at y ffigyrau o 27 plentyn mewn gofal am y tro cyntaf yn
ystod y cyfnod Ebrill i Fedi
- hynny yw, nad oeddynt
yn wybyddus i’r Cyngor cyn
y cyfnod hwn, tra bo derbyn
cyfeiriadau dienw wedi cynyddu i
71%. Ar y llaw arall, cadarnhawyd
bod 24 wedi gadael y gwasanaeth yn ystod
y cyfnod hefyd. Cadarnhawyd o ran y
plant sydd yn destun Gorchymyn Llys bod cydweithio wedi bod gyda rhieni. Cyfeiriwyd at yr atodiad sydd yn
manylu o ran niferoedd a lleoliadau, gan nodi bod rhai plant adref gyda theulu
neu aelodau estynedig y teulu. O ran yr adnoddau maethu,
nodwyd bod 72 o leoliadau wedi eu cofrestru
a oedd gyda’r capasiti i gynnig
lleoliadau i 139 o blant, ynghyd a 60 lleoliad maeth arall drwy deulu estynedig. Cadarnhawyd bod llefydd ychwanegol wedi eu cofrestru
yn ystod y cyfnod, a bod y ffordd o gynnal cyfarfodydd wedi newid a bod ymgyrch recriwtio wedi cymryd lle. Cadarnhawyd ei bod yn anodd cael
lleoliadau i ganran fach, sydd
yn gyfrifoldeb y Cyngor, ac mai yr opsiwn olaf un yw eu gosod mewn
lleoliadau anrheoledig. Cadarnhawyd, yn y 5 mlynedd diwethaf, bod 7 trefniant o’r math wedi cymryd
lle am gyfnod o 3 wythnos ar yr
hiraf. Cyfeiriwyd at bolisi Llywodraeth Cymru i leihau nifer
y plant mewn gofal. Atgoffwyd y Pwyllgor bod y cyfeiriad polisi yn cael
y flaenoriaeth uchaf rhai blynyddoedd yn ôl a hysbyswyd
y Llywodraeth bryd hynny na fyddai
Gwynedd yn gosod targed, ac osgoi targedau a fu : nid oedd
hwn yn safbwynt
hawdd. Nodwyd y daeth Covid a heriau newydd a bod y gweithlu wedi bod yn anhygoel
wrth newid yn sydyn, ac wedi
ymdrin â materion megis: Parhau i wneud
Asesiadau Parhau i gadw
cyswllt gyda rhieni Cau Hafan y Sêr Cydweithio gyda yr Adran Addysg A dolygiadau Rhithiol ar gyfer Plant mewn Gofal Sefydlu Llinell
Gymorth Cymorth i
gael mynediad
at ddeunydd megis ffisig a bwyd i
fabanod Yn ddiweddarach
ymdriniwyd â materion megis Ail agor Hafan
y Sêr Ail gychwyn trefniadau cyswllt plant a rhieni (mewn PPE wrth gwrs) Parhau i
weithio o adref Nodwyd pryder
am staff a nodwyd bod y Gwasanaeth
yn gweithredu eu cyfrifoldebau yn llawn, ond
mewn ffordd wahanol. O ran y staff nodwyd bod Trefniadau Iechyd
a Diogelwch yn dynn Rheolwyr yn
cysylltu yn gyson |