Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH / Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am
absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr R. Medwyn Hughes a Gwynfor
Owen. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd
datganiadau o fuddiant personol ar gyfer eitem 6 gan y Cynghorydd Rheinallt Puw
am fod ei ferch yn gweithio yn y maes gofal yn ogystal â’r Cynghorydd Eryl
Jones-Williams gan fod ei wraig yn derbyn gofal. Nid
oedd y buddiannau hyn yn rhai oedd yn rhagfarnu felly ni adawsant y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sydd yn
fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Dim i’w
nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 7fed o
Orffennaf 2022 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7
Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir. |
|
CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD - PLANT A THEULUOEDD I enwebu aelod o’r Pwyllgor i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad ar gyfer y maes gwaith Plant a Chefnogi Teuluoedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Enwebu'r
Cynghorydd Sasha Williams fel yr ail Gynghorydd i fynychu cyfarfodydd Herio
Perfformiad maes gwaith Plant a Chefnogi Teuluoedd. COFNODION: Atgoffwyd y Pwyllgor bod angen un cynrychiolydd arall i fynychu
cyfarfodydd herio Perfformiad yn y maes gwaith Plant a Chefnogi Teuluoedd.
Nodwyd y bydd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i dderbyn diweddariadau ar brosiectau
blaenoriaeth ac yn gyfle i herio a dod a materion i sylw’r Pwyllgor Craffu.
Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn. PENDERFYNWYD: Enwebu'r
Cynghorydd Sasha Williams fel yr ail Gynghorydd i fynychu cyfarfodydd Herio
Perfformiad maes gwaith Plant a Chefnogi Teuluoedd. |
|
RECRIWTIO A CHADW STAFF (ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT) PDF 429 KB I ddiweddaru’r Pwyllgor Craffu Gofal ar yr argyfwng staffio sy’n bodoli ac yn gwaethygu yn y maes gofal oedolion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod. COFNODION: Adroddodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr adroddiad
Recriwtio a Chadw Staff yn darparu cefndir ac yn amlygu’r argyfwng staffio sy’n
bodoli o fewn yr Adran. Nodwyd bod yr adroddiad yn un gonest sydd ddim yn
ceisio cuddio unrhyw broblem. Ychwanegwyd bod yr argyfwng staffio yn y maes yn
un cenedlaethol sy’n effeithio ar Awdurdodau Lleol yn ogystal â’r Gwasanaethau
Iechyd. Manteisiwyd ar y cyfle i ddiolch i staff yr Adran am eu gwaith yn
ogystal â’r Pennaeth a’r Pennaeth Cynorthwyol am yr adroddiad. Nodwyd
y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Tîm Arweinyddiaeth â’r Cabinet a bod
trafodaethau yn cael eu cynnal yn genedlaethol a Rhanbarthol er mwyn uchafu’r
argyfwng presennol. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cynorthwyol gan nodi’r cefndir
sydd yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa. Adroddwyd bod materion staffio yn y
maes wedi derbyn blaenoriaeth ers peth amser ac yn derbyn sylw yn lleol cyn y
cyfnod Cofid ond bu i’r pandemig waethygu sefyllfa oedd eisoes yn fregus. Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan dynnu sylw at y prif heriau
megis cadw gafael ar staff a cheisio denu staff newydd i’r maes. Crynhowyd y
rhesymau dros yr heriau hyn cyn nodi sut mae’r Adran yn ceisio ymateb i’r
sefyllfa a’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd. Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr
adroddiad yn un agored am yr heriau mae’r Adran yn ei wynebu a bod Adrannau
eraill megis yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd hefyd yn wynebu heriau
sylweddol. Credwyd ei bod yn bwysig rhannu’r heriau gan eu bod yn effeithio ar
allu’r Adran i ddarparu gwasanaethau. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn rhoi
darlun mewnol o sefyllfa’r Cyngor a ddim yn cynnwys heriau tebyg sy’n bodoli yn
y sector breifat a’r drydedd sector. Adroddwyd bod y sectorau hyn hefyd yn
wynebu'r un heriau recriwtio. Soniwyd am effaith y sefyllfa er enghraifft rhestrau aros maith,
cleifion yn methu dychwelyd adra o’r ysbytai a’r pwysau ar staff. Nodwyd bod
llawer o ymdrech a gweithgaredd yn digwydd, ac er bod yr Adran wedi profi
llwyddiannau bychain, nid oes eto datrysiad i’r sefyllfa sy’n peri pryder.
Pwysleisiwyd bod angen edrych ar yr hyn all gael ei wneud yn lleol a beth sydd
o fewn rheolaeth y Cyngor ac yr Adran drwy sicrhau buddsoddiad gofalus o
adnoddau presennol. Nodwyd mai adroddiad dechreuol yw hwn a gobeithir derbyn
awgrymiadau gan y Pwyllgor Craffu ac awydd gan Aelodau i gynorthwyo a bod yn
rhan o’r datrysiad. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:- ·
Diolchwyd am yr adroddiad. Credwyd ei bod yn ddyletswydd
ar Gynghorwyr i hyrwyddo’r swyddi yn y maes gofal i bobl leol. · Gofynnwyd a yw’n bosib cynyddu’r cyswllt efo Colegau megis Coleg Meirion Dwyfor a chynnig lleoliadau i ddisgyblion. Holwyd os yw’n bosib ymweld â’r Coleg i siarad am ba waith a chyfleoedd sydd ar gael yn y maes gofal. Credwyd bod angen annog y dosbarthiadau iechyd a gofal cymdeithasol i chwilio am gyfleoedd yn lleol a ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
GWASANAETH CADWRAETH YNNI NEWYDD PDF 2 MB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad oedd yn
darparu trosolwg o waith y gwasanaeth Ynni
Newydd yn ogystal â’r gwaith Newid Hinsawdd. COFNODION: Derbyniwyd rhagair gan yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo a gyfeiriodd at
waith tîm o Swyddogion yn y Gwasanaeth Eiddo sy’n ceisio lleihau ôl troed
carbon y Cyngor. Nododd eu bod wedi profi llwyddiannau ac o ganlyniad, wrth
greu’r Cynllun Gweithredu Tai, roedd awydd i helpu trigolion a’r cyhoedd yng
Ngwynedd drwy gynnig cymorth a chefnogaeth ymarferol. O ganlyniad eglurwyd bod
y Gwasanaeth Cadwraeth Ynni Newydd wedi cael ei sefydlu. Dan arweiniad y
Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol credwyd bod y gwasanaeth hwn wedi
llwyddo. Mynegwyd balchder yn y gwaith a phwysleisiwyd pwysigrwydd lledaenu’r
neges am y gwaith da sy’n cael ei wneud gan y tîm. Mynegodd y Pennaeth Tai ac Eiddo ei diolch am y cyfle i adrodd am
weithgareddau’r Gwasanaeth Ynni Newydd i’r Pwyllgor. Nododd y bydd yr adroddiad
yn cyfeirio at y daith o sefydlu’r gwasanaeth a’r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd
yma yn ogystal â’r gwaith sydd ar y gweill. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at sut
mae cynllun rheoli carbon y Cyngor yn plethu efo’r gwaith ar y cynllun newid
hinsawdd y mae’r Cyngor wedi ei ymrwymo iddo. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol gan
gyfeirio at brif negeseuon yr adroddiad. Nodwyd bod dwy ran i’r adroddiad, bydd
y rhan gyntaf yn cyfeirio at y Gwasanaeth Ynni Newydd a’r ail ran yn cyfeirio
at y Cynllun Rheoli Carbon a’r gwaith sydd wedi ei wneud dros y deuddeg mlynedd
diwethaf. Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan dynnu sylw at y gwaith o
ddatgarboneiddio tai a’r help sydd ar gael gan y Cyngor tuag at dlodi tanwydd.
Nodwyd bod y wybodaeth yn yr adroddiad megis y graffiau yn drawiadol am eu bod
yn dangos difrifoldeb y sefyllfa yng Ngwynedd a chyfeiriwyd at
aneffeithlonrwydd ynni mwyafrif o dai'r Sir. Manylwyd am y cynlluniau megis
Nyth ac ECO a’r taliadau sydd ar gael i gynnig cymorth i bobl Gwynedd a
thrigolion sydd ar fesuryddion rhagdalu. Ychwanegwyd bod y tîm yn ceisio sicrhau bod pobl y Sir yn hawlio popeth
sydd ar gael iddynt ac yn gwneud gwaith o gyfeirio unigolion at y cynlluniau
priodol. Rhagdybiwyd y bydd y galw ar y tîm yn cynyddu o ganlyniad i gostau
tanwydd cynyddol ac mai amser a ddengys a yw’r hyn sydd ar gael gan y tîm yn
ddigonol i anghenion pobl Gwynedd. Nodwyd bod hafan newydd ar gyfer tlodi ar
wefan y Cyngor yn cynnwys gwybodaeth defnyddiol am y gefnogaeth sydd ar gael. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:- ·
Diolchwyd am adroddiad arbennig a broliwyd y cynnwys
manwl. ·
Mynegwyd sylw ei bod yn fwy
costus i fod ar fesuryddion rhagdalu ond mai hwn yw’r opsiwn fwyaf fforddiadwy
i amryw yn y Sir am nad oes angen talu lwmp swm yn chwarterol. · Cyfeiriwyd at ECO 4 a’r grantiau sydd ar gael i insiwleiddio tai er mwyn arbed ynni. Pryderwyd y gall lleithder ddatblygu mewn eiddo o ganlyniad i waith insiwleiddio a holwyd os oes rywun o’r Cyngor yn cynnal ymweliadau er mwyn sicrhau ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU GOFAL 2022/23 PDF 497 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2022/23. COFNODION: Darparwyd adroddiad byr i’r Aelodau yn dangos rhaglen waith ddiweddaraf
y Pwyllgor yn dilyn newidiadau oherwydd eitemau yn llithro. Nodwyd y bydd
cyfarfodydd Tachwedd a Chwefror yn gyfarfodydd trwm gall barau drwy’r dydd. Nid oedd sylwadau na chwestiynau gan yr Aelodau. PENDERFYNIAD Derbyn
yr adroddiad a mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2022/23. |