Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Einir Rhian Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Y Cynghorydd R Medwyn Hughes a’r Cynghorydd Peter Reid |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd
y datganiadau o fuddiant personol isod, gan fod yr unigolion/eu teuluoedd
wedi ymwneud a’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn eu bywydau personol : Y
Cynghorydd Menna Baines Y
Cynghorydd Eryl Jones-Williams Y
Cynghorydd Cai Larsen Y
Cynghorydd Linda Morgan Y
Cynghorydd Angela Russell |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2020 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2020 fel rhai cywir. |
|
GWASANAETH THERAPI GALWEDIGAETHOL, GWASANAETHAU CYMDEITHASOL GWYNEDD PDF 256 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried adroddiad
ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd cynnwys yr
adroddiad a diolchwyd i’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aled Davies, Mari W Jones a Matthew Hawes a’r tim am eu gwaith caled
iawn. Cytunwyd i gadw golwg ar effaith Covid-19 ar y galw am y gwasanaeth
therapi galwedigaethol ac effaith hynny ar y gwasanaeth. COFNODION: Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Arweinydd Therapi Galwedigaethol (ATG) er mwyn rhoi trosolwg o
waith y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol
yn ogystal â’r heriau yn sgil Covid-19. Nodwyd
bod Covid wedi
cael effaith aruthrol ar y Gwasanaeth, a bod y rhagolygon yn awgrymu y bydd
cynnydd mawr yn y gofyn am y gwasanaeth. Ategwyd bod y
cynnydd o ganlyniad i’r nifer sydd wedi bod yn cysgodi dros y cyfnod Covid a
ddim wedi bod yn cysylltu â’r gwasanaeth yn amserol ac effaith hir dymor Covid ar
iechyd unigolion. Nodwyd bod angen i’r gwasanaeth ddatblygu i fod yn fwy
rhagweithiol er mwyn cyflawni yr hyn sydd yn bwysig i’r unigolyn. Nodwyd hefyd
y byddai rhoi cefnogaeth ataliol yn fwy cost effeithiol
i’r Cyngor. Cyflwynodd
yr arweinydd ATG ei hun i’r cyfarfod. Mae wedi ei benodi i’r rôl ers cyfnod o
flwyddyn. Nododd yr ATG ei fod wedi cael cyfle dros y flwyddyn ddiwethaf
i adolygu y gwasanaeth therapi galwedigaethol a nodi blaenoriaethau ar gyfer y
12 mis nesaf i sicrhau gwasanaeth mwy effeithiol, gyda phwyslais ar wasanaethau
arbedol, a chynnal ac adennill sgiliau. Ychwanegodd nad yw aros yn llonydd yn
opsiwn ac mai’r peth pwysig yw cael gwasanaeth o safon sydd yn cynnig gwerth am
arian i’r unigolyn a’r Cyngor. Ymhelaethodd bod bylchau wedi bod yn
y gwasanaeth o ran staff o ganlyniad i ymddeoliad dau swyddog profiadol iawn a
nifer i ffwrdd a'r gyfnod mamolaeth ond eu bod wedi llwyddo i recriwtio i’r
swyddi i gyd. Yn
ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Mewn ymateb i gwestiwn
ynghylch llwybr unigolyn o’r ysbyty a’r cydweithio rhwng
Iechyd a’r Cyngor nododd yr ATG mai yr ysbyty sydd yn cychwyn y gwaith gyda’r
unigolyn. Un broblem o ganlyniad i Covid yw’r
pwysau sydd ar ysbytai i ryddhau cleientiaid, gan gynnwys rhai gydag anghenion
cymhleth. Mae gwaith yn cael ei gynnal i adolygu mewnbwn Therapi
Galwedigaethol i gefnogi rhyddhau o’r ysbyty yn effeithiol. ·
Mae’r cyfnod Covid wedi
bod yn gyfle i ddysgu ac addasu, ac o edrych yn ôl mae’n
bosib gweld ein bod wedi methu cyfleoedd i atal unigolion rhag gorfod
cael mynediad i’r ysbyty. ·
Mewn ymateb i gwestiwn
cadarnhaodd yr ATG bod digon o staff o ran Therapyddion
Galwedigaethol i gyflawni dyletswyddau hanfodol ac eu bod yn gwneud eu gwaith
yn arbennig o dda, ond nad yw’r capasiti ganddo
i wneud digon o’r gwaith ataliol a rhagweithiol gyda’r tîm presennol. ·
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â recriwtio, cadarnhaodd yr ATG bod recriwtio i swyddi Therapi Galwedigaethol o fewn y Cyngor wedi bod yn anodd yn y gorffennol. Mae y cyfle i weithio yn y maes iechyd, addysg a’r sector preifat i gyd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Nododd bod yn rhaid gwneud i weithio i’r Cyngor edrych yn fwy deniadol. Adroddodd ei fod erbyn hyn yn cydweithio yn agos gyda'r Brifysgol i roi cyfleoedd addysgu i fyfyrwyr Cymraeg a denu staff i’r Cyngor. Ategodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth yr uchod, gan gadarnhau bod nifer o ... view the full COFNODION text for item 5. |