Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Menna Baines a Rheinallt Puw.
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorwyr Eryl
Jones-Williams a Gareth Coj Parry am eu bod yn denantiaid Tai Cymdeithasol. Nid
oedd y buddiant yn un a oedd yn rhagfarnu felly ni adawsant y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 26 Medi 2024, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Medi, 2024 fel rhai cywir. |
|
Y MAES TAI CYMDEITHASOL a) I ystyried yr adroddiad ar y Maes
Tai Cymdeithasol b) Cwestiynau i’w gofyn i’r
Cymdeithasau Tai (Adra, Clwyd Alyn, Grŵp Cynefin a Thai Gogledd Cymru) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r wybodaeth a diolch i’r Adran Dai ac Eiddo am y wybodaeth gynhwysfawr a
gyflwynwyd. 2.
Gofoyn am wybodaeth
ychwanegol gan yr Adran Dai ac Eiddo am: -
Y
niferoedd oedd ar y rhestr aros ar gyfer byngalos yng Ngwynedd ac yn ardal
Meirionnydd. -
Y
niferoedd Digartrefedd a faint o’r niferoedd hyn sydd ddim o Wynedd yn
wreiddiol. -
Linc i’r
dudalen ar y Fewnrwyd Aelodau sy’n darparu data am y Gofrestr Dai fesul
wardiau. -
Ddata ar y
niferoedd sy’n cyfnewid Tai (cydgyfnewid). -
Ddata am y
gofrestr Tai Teg a’i niferoedd. -
Y ffigyrau
Tanfeddiannu. -
Yr
eithriadau i’r Polisi Gosod dros y 5 mlynedd ddiwethaf gan nodi’r rheswm. 3.
Datgan
pryder am: -
Y diffyg
mewnbwn gan y Cyngor pan fo cyfnewidiadau Tai yn digwydd. -
Oblygiadau
posib y Papur Gwyn i Bolisi Gosod Tai Gwynedd yn y dyfodol. -
Y diffyg
gostyngiad yn niferoedd y Gofrestr Dai Gyffredin dros y deg mlynedd diwethaf. -
Y
niferoedd digartref yn y Sir. -
Gyfathrebu
efo’r Cymdeithasau Tai gan awgrymu i’r Adran Dai ddarparu ffurflen safonol i
Aelodau ei gwblhau ar ran tenantiaid pan fo angen gwaith cynnal a chadw gan
gynnwys darparu pwyntiau cyswllt gwahanol Adrannau’r cymdeithasau Tai. 4.
Derbyn y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Cymdeithasau Tai a’u hymatebion i
gwestiynau’r aelodau fydd wedi eu crynhoi yng nghofnodion y Pwyllgor. Cofnod: (a) I
Ystyried yr adroddiad ar y Maes Tai Cymdeithaol Cyflwynwyd adroddiad gan
Bennaeth Adran Tai ac Eiddo. Eglurwyd bod gwahoddiad wedi ei estyn i’r
cymdeithasau tai sy’n weithredol yng Ngwynedd sef Adra, Clwyd Alyn, Grŵp
Cynefin a Thai Gogledd Cymru i ymuno â’r cyfarfod i ateb cwestiynau’r Aelodau
ynglŷn â gweithrediad y Polisi Gosod Tai. Nodwyd fod y Polisi Gosod wedi
ei graffu ddwywaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Cychwynnwyd y drafodaeth gan
ofyn a yw’n bosib derbyn canran o’r holl osodiadau tai o’r sampl o 200 o
geisiadau oedd wedi ei gymryd gan yr Adran Dai. Cadarnhawyd fod y ganran
oddeutu rhwng 15-20%. Nodwyd fod y ceisiadau wedi eu dewis ar hap a bod gwaith manwl
wedi dilyn i weld beth oedd cysylltiad lleol unigolion a'u cysylltiad efo’r
gymuned ble cawsant yr eiddo cymdeithasol. Credwyd fod y ffigyrau a dynnwyd o’r
sampl yn dangos patrwm clir ac yn rhoid sicrwydd a hygrededd i’r gwaith a
gwblhawyd. Ychwanegwyd bod 95% sy’n gymwys yn y categori Cysylltiad Gwynedd yno
oherwydd preswyliad ac mai nifer fach ydi’r gweddill e.e. i ddarparu neu
dderbyn cymorth gan berson neu ddarpariaeth yng Ngwynedd a gofynnir i hyn gael
ei dystiolaethu. Ychwanegwyd y gall yr Adran Dai ddarparu’r union ffigwr i’r
Aelodau. Gofynnwyd beth yw’r amser
disgwyl ar gyfer byngalos yn ardal Gwynedd a Meirionydd gan bwysleisio eu
pwysigrwydd wrth ryddhau tai i deuluoedd sydd wir eu hangen. -
Nodwyd
nad oedd y ffigyrau galw ar gyfer byngalos ar gael heddiw ond y byddai’r Adran
Dai yn casglu’r wybodaeth yma a’n ei ddarparu i’r Aelodau, yn ogystal â rhestr
o niferoedd y byngalos sydd gan y cymdeithasau tai fel bod cymhariaeth rhwng y
galw a’r cyflenwad. Nodwyd fod rhestr aros tai
cymdeithasol Gwynedd yn faith a gofynnwyd pam nad yw rhagor o dai cymdeithasol
yn cael eu hadeiladu. -
Mewn ymateb
i’r cwestiwn, esboniwyd fod gan Wynedd gynlluniau datblygu tai cymdeithasol ar
y cyd sydd yn lewyrchus ac sy’n cael ei gydnabod fel cynllun llwyddiannus.
Nodwyd fod £50 miliwn yn cael ei wario pob blwyddyn ar adeiladu tai
cymdeithasol yng Ngwynedd. Cydnabuwyd fod y nifer o dai sydd yn bosib i’w
adeiladu yn ddibynnol ar gyllid ac argaeledd tiroedd. Gobeithiwyd y bydd y
Polisi Datblygu Lleol yn mynd i’r afael a’r cyfyngiadau yma ac y bydd rhagor o
gyllideb ar gael gan y Llywodraeth. O ran digartrefedd yng
Ngwynedd, nodwyd fod y Cynllun Gweithredu Tai werth £180 miliwn a bod canran
sylweddol o’r arian yma wedi’i neilltuo ar gyfer adeiladu ac ail bwrpasu tai ar
gyfer anghenion digartrefedd. Ar ben hynny, nodwyd fod oddeutu 88 o unedau
cefnogol yn cael ei adeiladu yng Ngwynedd ar hyn o bryd gyda’r gobaith o allu
tynnu pobl allan o lety argyfwng anaddas. Cydnabuwyd bod yr argyfwng tai yn
parhau a bod yr Adran Dai yn ceisio cyfarch yr holl anghenion tai. Mewn ymateb i gwestiwn am faint sydd ar y rhestr aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd, nodwyd bod o gwmpas 2,000-2,500 o geisiadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |