Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr
Annwen Daniels, Anwen Davies, Rheinallt Puw ac Angela Russell. Hefyd y Cynghorydd W.Gareth Roberts (Aelod
Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Nodi unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y
Cynghorydd Elin Walker Jones fuddiant personol yn Eitem 6 – Awtistiaeth –
Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Addysg – oherwydd:- ·
Ei bod yn gweithio i’r tîm cyfatebol i Derwen yn y
canol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. ·
Bod ei merch yn gweithio fel Dadansoddwraig
Ymddygiad yn Ysgol Pendalar. Nid oedd o’r farn
eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw faterion sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Mehefin, 2018 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r 7 Mehefin, 2018 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD - GWASANAETHAU ANABLEDD DYSGU PDF 109 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd W.Gareth
Roberts I dderbyn adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn
diweddaru’r aelodau ar gynllun gweithredu arolygiad Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o ansawdd y
gofal a’r cymorth a ddarperir gan y Gwasanaeth Anabledd Dysgu. Ymhelaethodd y Pennaeth a’r Uwch Reolwr ar gynnwys yr adroddiad, gan
hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau. Codwyd y prif bwyntiau a ganlyn:- ·
Gan mai’r Tîm Cefnogaeth
Weithredol a PBS yw’r tîm cyntaf o’i fath yng Nghymru, nodwyd y byddai’n
fuddiol i’r pwyllgor dderbyn adroddiad, unwaith y bydd y gwaith o gasglu’r data
wedi’i gwblhau ym Mawrth 2019, yn amlinellu’r hyn a ddysgwyd o’r model yma, y
deilliannau a sut y bwriedir ei ddatblygu i’r dyfodol gyda siroedd eraill. ·
Croesawyd cydweithio
agos a phositif y gwasanaeth gyda’r Bwrdd Iechyd. ·
Nodwyd, o ran y
gwendidau, bod angen gwella a miniogi’r berthynas gyda’r gwasanaethau therapi
galwedigaethol arbenigol o safbwynt cyfarch anghenion oedolion gydag anableddau
dysgu, sy’n fwy cymhleth a heriol.
Hefyd, byddai angen edrych ar gael swyddogion gwybodaeth a chyngor yn
rhan o’r Tim Ataliol newydd, fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2019. ·
Nodwyd bod y gwasanaeth yn cyfarch yr her ariannol
drwy gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys cydweithio gyda darparwyr allanol i
edrych ar bob cyfle i gyflwyno ceisiadau am grantiau, canfod gorddarpariaeth,
adolygu pob achos mae’r gwasanaeth yn ei gefnogi ac edrych ar leoliadau
all-sirol. ·
Croesawyd gweledigaeth y
gwasanaeth a’r gwaith datblygol sy’n digwydd gyda Dr. Sandy Toogood o Brifysgol
Bangor. ·
Mewn ymateb i ymholiad
ynglŷn â faint o geisiadau am gymorth a chefnogaeth sy’n cael eu gwrthod a
pham, eglurwyd, yn wahanol i’r drefn hanesyddol lle ‘roedd pobl yn cael eu
gwrthod oherwydd nad oeddent yn ffitio i mewn i gategori penodol, bod yr
anghenion yn cael eu diwallu mewn ffyrdd gwahanol erbyn hyn. Nodwyd y gellid edrych yn fwy manwl ar y
ffigurau, i weld oes yna ffigurau ynglŷn â phobl sy’n cael eu gwrthod, ond
credid, petai yna anghenion, y byddai’r anghenion hynny yn cael eu cyfarch,
naill ai gan y Gwasanaeth Anabledd Dysgu, neu’r Gwasanaeth Oedolion. Ychwanegwyd bod trafodaethau ar y gweill
ynglŷn â chryfhau’r trefniadau o ran yr oedolion hynny lle mae elfen o
risg, ond nad ydynt, o angenrheidrwydd, yn mynd i fod angen cefnogaeth
arbenigol. Nodwyd ymhellach, wrth edrych
ar y data sydd gan y gwasanaeth, o bosib’ y gellid canfod gwybodaeth sy’n ateb
y cwestiynau a godwyd gan yr aelod ac y gellid parhau’r drafodaeth gyda hi. ·
Diolchwyd i’r aelodau
staff hynny sy’n gweithio yn eu hamser eu hunain yn cynorthwyo gyda’r grwpiau
a’r cyfleoedd cymdeithasol fin nos, yn bennaf yn y grwpiau coginio. Fodd bynnag, cwestiynwyd pam bod hynny’n
digwydd yn y lle cyntaf a holwyd onid oedd yna rôl i’r trydydd sector fod yn
cynorthwyo gyda’r math yma o weithgareddau. · Nodwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi edrych ar yr ôl-groniad o asesiadau DoLS, ac wedi rhoi neges glir i’r adran ynglŷn â’r angen i sicrhau ymdrin ag achosion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Aelodau Cabinet – Y Cynghorwyr
W.Gareth Roberts, Dilwyn Morgan a Gareth Thomas I dderbyn yr adroddiadau
isod (ynghlwm):- (A) Gwasanaethau Anabledd Dysgu (B) Gwasanaethau
Plant (C) Gwasanaeth Addysg Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd -
adroddiadau’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, yr Aelod Cabinet Plant
a Theuluoedd a’r Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar y gwasanaethau cyfredol ym
maes Awtistiaeth a’r cynlluniau i’w datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Gan fod y gwaith yn digwydd ar draws nifer o wasanaethau ac yn cael eu
cynllunio a’u cynnal gan 3 o adrannau’r Cyngor, cyflwynwyd adroddiadau ar wahân
gan y 3 adran. Ymhelaethodd yr Aelodau Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr
adroddiadau, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau. (A) Gwasanaethau
Anableddau Dysgu Codwyd y prif bwyntiau a ganlyn:- ·
Mynegwyd pryder nad oedd
anghenion oedolion sydd ag awtistiaeth, ond heb anableddau dysgu, yn cael eu
cyfarch a bod awtistiaeth yn cael ei drafod o dan y gwasanaethau anabledd
dysgu. Nid oedd gan y mwyafrif o bobl sydd
ag awtistiaeth anableddau dysgu ac ‘roedd symudiad bellach i edrych ar
awtistiaeth fel cyflwr yn hytrach nag anabledd.
Hefyd, ‘roedd gan bawb gyfraniad i’w wneud, ac ‘roedd yn bwysig hybu
sgiliau pob unigolyn. Yn wyneb y ffaith
bod y Bil Awtistiaeth yn mynd drwy Senedd Cymru ar hyn o bryd, byddai’n rhaid
i’r Cyngor gymryd anghenion pobl ag awtistiaeth o ddifri’ ac mewn ffordd
wahanol i’r ffordd y gwnaethpwyd hynny hyd yma.
Mewn ymateb, nodwyd bod y Gwasanaeth Anabledd Dysgu yn cymryd yr
anghenion hyn o ddifri’. Cadarnhawyd nad
oedd awtistiaeth yn wasanaeth ar wahân o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant ar hyn o bryd ond y credid ei fod wedi ei leoli lle mae’r arbenigedd i
ddelio gydag achosion eithaf cymhleth yn bodoli o fewn yr adran ar hyn o bryd a
bod y rôl o gydlynu ar draws yr adran a’r cyswllt hefo adrannau eraill yn
digwydd yn y fan honno. ·
Nodwyd bod yna ddiffyg cefnogaeth ar gyfer pobl
sydd â chyflyrau llai dwys a llai hirdymor a phwysleisiwyd pwysigrwydd cefnogi
oedolion cyn iddynt fynd yn ynysig neu i sefyllfa lle mae angen cymorth
proffesiynol a meddyginiaeth arnynt.
Nodwyd hefyd bod ymyrraeth gynnar yn arbed arian yn y pen draw a
chyfeiriwyd yn ogystal at ddiffyg arbenigwyr iechyd meddwl yn y Gwasanaeth
Iechyd. ·
Mynegwyd y farn y dylai’r Cyngor gyflogi swyddog
awtistiaeth fyddai’n bwynt cyswllt i deuluoedd ac yn gallu cydweithio gyda’r
trydydd sector. Awgrymwyd hefyd y dylid
cynnwys gwybodaeth ar y wefan ynglŷn â pha adnoddau, grwpiau sydd ar gael. Mewn ymateb, nodwyd y penodwyd gweithiwr
cefnogol drwy’r Prosiect IAS fydd yn gweithio yng Ngwynedd. Hefyd, fel y byddai’r gofynion yn newid a mwy
o ddata yn dod trwodd ynglŷn â’r hyn sydd angen i’r Cyngor ei wneud,
byddai’r adran yn parhau i ystyried beth yn union sydd angen ei ddarparu. Gallai hynny, yn y pen draw, arwain at yr
angen am swyddog cydlynu neu debyg, ond nid oedd y Cyngor wedi cyrraedd y pwynt
hynny eto. (B) Gwasanaeth
Plant Manteisiodd yr Aelod Cabinet ar y cyfle i ddiolch i’r Cynghorwyr Beth Lawton ac Angela Russell am eu cyfraniad i’r cyfarfodydd herio perfformiad ac i’r Cadeirydd am ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |