Lleoliad: Siambr y Cyngor, Bodlondeb, Ffordd Bangor, Conwy LL32 8DU
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
hyd Gyfarfod Blynyddol y Bwrdd ar 21 Mehefin, 2019. Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Cyngor
Gwynedd) yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor hyd Gyfarfod Blynyddol y Bwrdd ar 21
Mehefin, 2019. Nodwyd gan y Cadeirydd mai hwn, o bosib’,
fyddai’r cyfarfod diwethaf o’r Bwrdd i Sasha Davies ei fynychu yn ei rôl
bresennol. Dymunwyd yn dda iddi yn ei
swydd newydd a diolchwyd iddi am ei holl waith. Nodwyd gan y Cadeirydd fod Prifysgol Bangor
wedi penodi Dr Iwan Davies o Brifysgol Abertawe yn Is-ganghellor parhaol o 1
Medi, ac mai ef fyddai ymgynghorydd y Brifysgol ar y Bwrdd o hynny allan. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd
hyd Gyfarfod Blynyddol y Bwrdd ar 21 Mehefin, 2019. Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor
Wrecsam) yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor hyd Gyfarfod Blynyddol y Bwrdd ar 21
Mehefin, 2019. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: David Jones (Coleg Cambria). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Gadawodd y Cyfarwyddwr Arweiniol, yr Uwch
Swyddog Gweithredol a’r Swyddog Cefnogi Aelodau y cyfarfod ar gyfer eitem 15
oherwydd buddiant. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 82 KB Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill,
2019 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill, 2019 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR RAGLEN WAITH Y BWRDD UCHELGAIS AC AR GYNNYDD PROSIECTAU PDF 172 KB Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith a
nodi’r diweddariadau ar gynnydd prosiectau unigol, yn unol â’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNWYD cymeradwyo
statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith a nodi’r diweddariadau ar gynnydd
prosiectau unigol, yn unol â’r adroddiad. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Diweddaru ar gynnydd tasgau’r Rhaglen Waith. Diweddaru ar gynnydd prosiectau unigol. TRAFODAETH Nodwyd, oherwydd
yr angen i neilltuo cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 21 Mehefin ar gyfer cyfweld ymgeiswyr
ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Rhaglen, y cynhelid cyfarfod ychwanegol o’r Bwrdd
ar 28 Mehefin i drafod materion eraill o bwys sy’n rhan o’r rhaglen waith. Nodwyd, yn sgil
cyflwyno’r achosion busnes amlinellol ar gyfer y prosiectau unigol, y cafwyd
adborth cychwynnol positif gan y ddwy lywodraeth ac na ragwelid unrhyw rwystrau
ar hyn o bryd. Cyfeiriwyd at
gyfarfodydd penodol gydag Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Kevin
Foster, yr Is-weinidog, a nodwyd bod y cyfarfodydd hynny wedi bod yn adeiladol
ac yn bositif, gyda’r dyhead i gyrraedd Penawdau’r Telerau erbyn mis Gorffennaf
wedi’i amlygu’n gryf. Nodwyd bod y
berthynas gyda gweision sifil y ddwy lywodraeth yn gryf iawn hefyd, gyda
chydweithio agos yn digwydd ar lefel swyddogion. Nodwyd y cynhelid
cyfarfod gyda Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yr wythnos
ganlynol. Yn y cyfarfod hwnnw, byddai’r
Cadeirydd yn cyfleu’r dymuniad i’r ddeialog wleidyddol fod yn un fwy cyson er
sicrhau nad oes unrhyw beth yn mynd ar goll yn y trafodaethau. Rhoddwyd sicrwydd
y byddai Penawdau’r Telerau yn ymgorffori’r 14 prosiect yn y Cynllun Twf. Cyfeiriwyd at
benderfyniad blaenorol y Bwrdd i gyflwyno adroddiad cynnydd chwarterol ar waith
y Bwrdd i’r partneriaid unigol ar gyfer dibenion adrodd a chraffu'r cyrff
unigol, a gofynnwyd am gynnwys cyfeiriad at hynny yn y categori ‘Llywodraethu’
o’r rhaglen waith. Nodwyd bod angen
cynnwys bloc ychwanegol yn y tabl ynglŷn â GA2, yn nodi’r amserlennu o ran
y sefydliadau, ayb. Mewn ymateb,
eglurwyd bod hynny wedi’i gynnwys o dan y categori ‘Cyfreithiol a Chaffael’,
ond efallai bod angen amlygu’r risgiau yn gliriach. Nodwyd hefyd bod GA2 yn rhan o’r cytundeb
ehangach, a’i fod, felly, i lawr ar y cynllun. Gan gyfeirio at y
Prosiect Morlais, awgrymwyd bod angen nodi yn y golofn ‘sylwadau eraill’ bod y
rhanbarth yn colli’r £21m a gadarnhawyd o Ewrop gan fod yr arian hwnnw yn
gorfod cael ei ddychwelyd. Mewn ymateb,
eglurwyd y byddai cyrraedd Penawdau’r Telerau erbyn Gorffennaf yn rhoi digon o
sicrwydd i Ewrop bod modd tynnu’r arian i lawr er mwyn bwrw ymlaen gyda’r
cynllun. Nodwyd bod y
llywodraethau wedi gofyn am achos busnes mwy manwl mewn perthynas â’r £40m
ychwanegol a geisiwyd, ac y bwriedid cyflwyno’r wybodaeth honno iddynt erbyn
diwedd yr wythnos ganlynol. Eglurwyd bod y
ddwy lywodraeth yn gweithio ar Benawdau’r Telerau ar hyn o bryd ac y gobeithid
y byddai drafft o’r ddogfen ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf fel y gellid ei
chylchredeg i aelodau’r Bwrdd a’i thrafod yn y cyfarfod nesaf. Pwysleisiwyd bod rhaid cyrraedd Penawdau’r Telerau erbyn cychwyn gwyliau’r haf. Mewn ymateb, nodwyd mai dyma’r neges sydd wedi, ac sy’n dal ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
RHAGLEN WAITH CYTUNDEB LLYWODRAETHU 2 PDF 169 KB Adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro (ynghlwm). Penderfyniad: Cymeradwyo’r rhaglen waith arfaethedig ar gyfer paratoi a
chwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, gan ofyn i’r Swyddog Monitro gyplysu’r
gweithredoedd yn hanner isaf yr amserlen arfaethedig i gamau perthnasol yn y
rhaglen waith. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
rhaglen waith arfaethedig ar gyfer paratoi a chwblhau Cytundeb Llywodraethu 2,
gan ofyn i’r Swyddog Monitro gyplysu’r gweithredoedd yn hanner isaf yr amserlen
arfaethedig i gamau perthnasol yn y rhaglen waith. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae’r Partneriaid wedi cytuno y byddai trefn lywodraethu a phartneriaeth
gefnogol y Cais Twf a’r Weledigaeth yn cael eu datblygu mewn dau gam
cychwynnol. Mae’r Partneriaid wedi
cwblhau Cytundeb Llywodraethu 1 (“GA1”) a wnaed er mwyn symud y prosiect ymlaen
i gynnig ariannu ffurfiol. Y bwriad oedd
cytuno ar Gytundeb Llywodraethu 2 (“GA2”) dilynol er mwyn symud y bartneriaeth
ymlaen i’r cyfnod gweithredu. TRAFODAETH Nodwyd bod sefydlu
dyddiadau cyflawni ar gyfer elfennau o’r gwaith yn hanner isaf yr amserlen yn
ddarostyngedig i allbynnau Rhaglen Waith y Prosiect Twf. Awgrymwyd y dylid ceisio pennu dyddiadau
targed ar gyfer y gweithredoedd yn hanner isaf yr amserlen arfaethedig fel bod
yna rywbeth penodol i anelu tuag ato. |
|
BWRDD CYFLAWNI BUSNES PDF 179 KB Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Cymeradwyo rôl a chyfrifoldebau arfaethedig y Bwrdd
Cyflawni Busnes, yn ddarostyngedig i addasu paragraff 2.1, Rôl a Chylch Gwaith,
drwy gyfuno geiriad paragraff 2.2 yn y trydydd pwynt bwled. 2. Cymeradwyo’r broses recriwtio ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd
Cyflawni Busnes fel yr amlinellir yn yr adroddiad a dirprwyo awdurdod i Brif
Weithredwr y Corff Atebol i ymgymryd â’r broses recriwtio. 3. Cymeradwyo’r trefniadau ar gyfer dewis a recriwtio
Aelodau’r Bwrdd fel yr amlinellir yn yr adroddiad a dirprwyo awdurdod i Brif
Weithredwr y Corff Atebol i ymgymryd â’r broses recriwtio unwaith y bydd y
Cadeirydd wedi’i benodi. 4. Cadarnhau’r defnydd o hyd at £20,000 y flwyddyn o gyllideb
‘Datblygu a Chefnogi Prosiectau’ Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i
gefnogi’r Bwrdd Cyflawni Busnes. 5. Dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr y Corff Atebol i
sefydlu'r pecyn cydnabyddiaeth ar gyfer y Cadeirydd, mewn ymgynghoriad â
Chadeirydd ac Is-gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, yn unol
â’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNWYD
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Er mwyn ffurfioli’r trefniadau a sefydlu’r Bwrdd Cyflawni Busnes yn
gadarn fel rhan allweddol o’r fframwaith llywodraethu i gyflawni’r Weledigaeth
Twf ar gyfer Gogledd Cymru. TRAFODAETH Nododd Sasha
Davies ei bod yn llwyr gytuno gyda rôl a chyfrifoldebau arfaethedig y Bwrdd
Cyflawni Busnes a’i bod ar gael i gynorthwyo gyda’r broses er sicrhau cysondeb. Nodwyd y sylwadau
a ganlyn yn codi o’r drafodaeth:- ·
Pwysigrwydd
dilyn proses gadarn o ran penodi Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes. ·
Pwysigrwydd
cadw’r ffocws er mwyn cael y maen i’r wal. ·
Bod angen cryfhau geiriad paragraff 2.1 er mwyn pwysleisio
bod rôl bwysig gan y Bwrdd Cyflawni Busnes i dynnu arian i lawr gan y sector
breifat. ·
Ei bod yn bwysig bod aelodaeth y Bwrdd Cyflawni Busnes yn
adlewyrchu, ac yn cynrychioli, holl ardal ddaearyddol y Gogledd, ei sectorau
a’i chymunedau busnes. ·
Bod angen i’r Bwrdd Cyflawni Busnes ddeall beth yw mewnbwn y
grwpiau o gyflogwyr sy’n noddi ac yn cefnogi prosiectau eisoes. ·
Er y cydnabyddir bod y Weledigaeth Twf a’r Cais Twf yn
allweddol, mae yna weledigaeth arall ehangach na ddylid ei diystyru, a dylid
anfon llythyr at y Gweinidog yn dwyn sylw at hyn, yn ogystal â’r potensial o
anfantais economaidd datblygiadau, megis HS2, i Ogledd Cymru. ·
Pwysigrwydd sicrhau bod trawsdoriad o sectorau gwahanol yn
rhan o’r Bwrdd Cyflawni Busnes. |
|
IS-GRWP TWRISTIAETH PDF 183 KB Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol a Jane Richardson, Cyfarwyddwr Strategol yr Economi a Lle, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (ynghlwm). Penderfyniad: 1. Bod y Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cefnogi’r egwyddor bod
y Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol yn ffurfio perthynas ffurfiol gyda’r Bwrdd. 2. Bod statws a swyddogaeth y Fforwm yn cael eu datblygu fel rhan
o’r adolygiad o’r trefniadau llywodraethu i’w sefydlu yng Nghytundeb
Llywodraethu 2. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNWYD
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae dogfennau
cynnig a gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru yn nodi’n glir y dymuniad i
‘ddatblygu a lledaenu enw da’r Gogledd fel canolfan ragoriaeth ar gyfer y
diwydiannau seiliedig ar y tir a thwristiaeth ac yn sefydlu’n hunain yn gadarn
fel prif leoliad twristiaeth antur y DU’.
Ar gyfer sectorau a themâu allweddol eraill o fewn y Cynllun Twf, megis
digidol, trafnidiaeth a sgiliau, mae’r Bwrdd yn cael ei gefnogi naill ai gan
is-bwyllgorau ffurfiol neu is-grwpiau llai ffurfiol. Gall y grwpiau a’r pwyllgorau hyn ddarparu
cyngor a gwybodaeth arbenigol i’r Bwrdd.
Ar hyn o bryd, mae bwlch yn nhermau darparu’r cyngor arbenigol hwn ar
brosiectau a chynlluniau twristiaeth. Er bod bwlch yn
nhermau cyswllt twristiaeth uniongyrchol i’r Bwrdd, mae grŵp rhanbarthol
yn bodoli er mwyn: cyfuno ac adrodd am anghenion o fewn y sector, blaenoriaethu
strategaethau a gweithgareddau rhanbarthol, a
darparu safbwynt twristiaeth rhanbarthol i Lywodraeth Cymru. Y Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol yw hwn. Cynigir, felly, y dylid sefydlu cyswllt rhwng
y Fforwm hwn a’r Bwrdd Uchelgais er mwyn cryfhau a thanategu penderfyniadau
rhanbarthol a wneir ynghylch buddsoddiadau a datblygiadau twristiaeth o fewn
cyd-destun y Weledigaeth Twf economaidd. TRAFODAETH Pwysleisiwyd
pwysigrwydd sicrhau aliniad rhwng materion lleol a materion rhanbarthol. Awgrymwyd bod y
cyswllt rhwng y Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol a’r Bwrdd Uchelgais yn mynd
ymhellach na’r Cynllun Twf. |
|
ADRODDIAD ALLDRO 2018-19 A'R FFURFLEN FLYNYDDOL PDF 829 KB Adroddiad gan Dafydd Edwards, Swyddog Cyllid Statudol (ynghlwm). Penderfyniad: 1. Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw y
Cyd-bwyllgor ar gyfer 2018/19 (Atodiadau 1 a 2 i’r adroddiad). 2. Nodi ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi Ffurflen
Swyddogol (Datganiadau Ariannol Statudol) Flynyddol y Cyd-bwyllgor ar gyfer
2018/19 (Amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol o 15
Mehefin 2019, oedd wedi’i chwblhau a’i hardystio gan y Swyddog Cyllid Statudol
(Atodiad 3 i’r adroddiad). Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dafydd Edwards, Swyddog Adran 151. PENDERFYNWYD
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD I hysbysu’r Cyd-bwyllgor o’u sefyllfa ariannol ar gyfer 2018/19, ac i
gydymffurfio â gofynion statudol mewn perthynas â chwblhau’r Ffurflen
(Datganiadau Ariannol Statudol) Flynyddol. TRAFODAETH Mynegwyd
gwerthfawrogiad o’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan Bennaeth a swyddogion
Adran Gyllid Cyngor Gwynedd. Llofnodwyd y
Ffurflen Swyddogol (Datganiadau Ariannol Statudol) Flynyddol gan y Cadeirydd. |
|
CYNLLUN CYFATHREBU AC YMGYSYLLTU PDF 172 KB Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae ymgysylltu cadarn wedi bod yn thema allweddol drwy gydol y broses o
ddatblygu Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru a bydd y Cynllun Cyfathrebu ac
Ymgysylltu yn nodi cynllun clir ar gyfer sicrhau bod y weledigaeth honno yn
cael ei hyrwyddo’n gyson ac yn gyd-gysylltiedig. TRAFODAETH Nodwyd y bwriedid
rhyddhau cylchlythyr chwarterol yn hyrwyddo’r Weledigaeth Twf fyddai ar gael
i’r sefydliadau i’w raeadru, gyda’r cyntaf i’w ryddhau ar ddiwedd y chwarter yn
ystod mis Mehefin. Nodwyd y sylwadau
a ganlyn yn codi o’r drafodaeth:- ·
Ei bod yn bwysig sicrhau cysondeb o ran y negeseuon
sy’n cael eu lledaenu ynglŷn â’r Weledigaeth Twf. ·
Y byddai’n fanteisiol llunio calendr mwy
strwythuredig o weithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu. ·
Bod gan Brifysgol Glyndwr nifer o straeon i’r
wasg, a bod angen i Martin Williams sy’n gyfrifol am gysylltiadau cyhoeddus y
Bwrdd Uchelgais eu rhyddhau. Cytunwyd i
Martin Williams weithio gyda Phrifysgol Glyndwr ar ran y Bwrdd Uchelgais ar
hyn. |
|
YMCHWILIAD I EFFEITHIOLRWYDD CYNLLUNIAU TWF A BARGEINION DINESIG I GYMRU PDF 164 KB Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r ymateb i “Ymchwiliad
i effeithiolrwydd Cynlluniau Twf a Bargeinion Dinesig i Gymru” gan y Pwyllgor
Materion Cymreig. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
ymateb i “Ymchwiliad i effeithiolrwydd Cynlluniau Twf a Bargeinion Dinesig i
Gymru” gan y Pwyllgor Materion Cymreig. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Gan fod y Bwrdd Uchelgais yn gefnogol i’r ymateb sydd wedi’i gyflwyno
i’r “Ymchwiliad i effeithiolrwydd Cynlluniau Twf a Bargeinion Dinesig i Gymru”.
TRAFODAETH Nodwyd y byddai
yna gyfle i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd ymddangos gerbron y Pwyllgor
Dethol i gyflwyno gwybodaeth ar lafar.
Byddai hyn yn gyfle i amlygu’r uchelgais yn y Gogledd a’r hyn y ceisir
ei gyflawni. Nodwyd ei bod yn
bwysig pwysleisio nad ydym ond megis yn cychwyn ar y siwrne yn y Gogledd. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
ganlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw
fudd cyhoeddus sydd yn galw
am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n
gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus
yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth
yn eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr
adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n
gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O
ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. |
|
CYFARWYDDWR RHAGLEN - TYNNU RHESTR FER Tynnu rhestr fer
o ymgeiswyr ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Rhaglen (ceisiadau a dogfennau ategol
i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig). Penderfyniad: Gosod pedwar ymgeisydd ar restr
fer i fynd ymlaen i gyfweliad ar yr 21ain o Fehefin. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dilwyn Williams, Prif Weithredwr y Corff Atebol. PENDERFYNWYD gosod
pedwar ymgeisydd ar restr fer i fynd ymlaen i gyfweliad ar yr 21ain o Fehefin. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae tynnu rhestr
fer o ymgeiswyr yn un o’r cerrig milltir allweddol yn y broses o recriwtio a
phenodi unigolyn i’r swydd allweddol hon.
Cytunwyd mewn cyfarfod blaenorol y byddai’r Bwrdd yn defnyddio un o’r
cyfarfodydd rhaglenedig i dynnu rhestr fer ar gyfer y swydd. |