Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679325
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:- ·
Neal Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) ·
Aled Jones-Griffith (Grŵp Llandrillo Menai) ·
Yr Athro
Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda Paul Spencer yn dirprwyo ·
Yana Williams (Coleg Cambria) ·
Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned
Williams yn dirprwyo ·
Rhun ap Gareth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)
gydag Amanda Hughes yn dirprwyo ·
Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) ·
Wendy Boddington (Sylwedydd Llywodraeth Cymru)
gyda Bryn Richards yn dirprwyo |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd
Gary Pritchard ar gyfer Eitem 10 gan ei fod yn Aelod o fwrdd Menter Môn a
Menter Môn Morlais Ltd fel Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn. Nododd o’r farn ei
fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac fe adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 06 Rhagfyr 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 06 Rhagfyr 2024 fel rhai cywir. |
|
CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2024/25 - ADOLYGIAD DIWEDD RHAGYFR 2024 Dewi Morgan
(Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya ac Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r Adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid a
Phennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya. PENDERFYNWYD 1.
Nodi a derbyn adolygiad
refeniw diwedd Rhagfyr 2024 y Bwrdd Uchelgais. 2.
Nodi a derbyn
diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais. 3.
Cytuno ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Nodi tanwariant a ragwelir o £205,405 yn
erbyn y gyllideb refeniw yn 2024/25. Bydd y tanwariant terfynol ar ddiwedd y
flwyddyn ariannol yn cael ei defnyddio i leihau’r swm a hawlir o’r Grant
Cynllun Twf Gogledd Cymru. Nodi llithriad pellach ar y rhaglen gyfalaf,
gydag amcangyfrif o wariant o £12.51m yn 2024/25 o’i gymharu â chyllideb
gymeradwy o £24.67m ar gyfer y flwyddyn. TRAFODAETH Amcanwyd bydd tanwariant o £205,000 erbyn
diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. Manylwyd ar y meysydd ble mae’r tanwariant
hynny yn deillio ohono gan egluro yr amcanwyd tanwariant o £43,000 yng
nghyllideb y Swyddfa Rheoli Portffolio gan gadarnhau mai’r prif reswm am hyn yw
bod gwir chwyddiant cyflogau oddeutu 3% o’i gymharu â 6% a amcanwyd yn
gynharach yn y flwyddyn ariannol. Ymhelaethwyd bod estyniad yng nghyllideb y
Gronfa Ffyniant Gyffredin hyd Mawrth 2025 wedi galluogi defnyddio tanwariant ar
y gyllideb ‘Cynlluniau’ er mwyn ariannu costau tri swyddog yn hytrach na gwneud
defnydd o’r gyllideb graidd. Tynnwyd sylw bod estyniad hyd at Fawrth 2025 hefyd
wedi cael ei dderbyn ar y prosiect Ynni Ardal Leol a bydd y gorwariant
perthnasol yn cael ei ariannu gan yr arian grant. Eglurwyd hefyd y rhagwelwyd tanwariant o
£17,000 yng nghyllideb ‘Gwasanaethau Cefnogol’ yn ogystal â rhagdybio
tanwariant o £34,500 yn y gyllideb ‘Cyd-bwyllgor’. Adroddwyd bod gorwariant net o £181,000 i’w
weld yng nghyllideb ‘Prosiectau’ gydag oddeutu £136,000 ohono yn orwariant ar
gostau cefnogaeth gyfreithiol allanol a oedd yn allweddol ar gyfer nifer o
brosiectau’r rhaglen gyfalaf. Ymhelaethwyd bod cyllideb ‘Datblygu Achosion
Busnes y prosiectau o fewn y gyllideb hon yn gorwario £86,000. Cadarnhawyd bod
cyfraniad o £152,000 gan y gyllideb ‘Prosiectau’ wedi ariannu cyfran o brosiect
Ynni Lleol Blaengar. Cadarnhawyd bod prif ffrydiau incwm ar gyfer
y flwyddyn ariannol hon yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, dyraniad refeniw
Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru, grant Ynni Llywodraeth Cymru, secondiad staff
Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru, y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ogystal
â’r gronfa ‘Prosiectau’ a'r gronfa wrth gefn. Eglurwyd bydd y gwarged o £205,000 a ragwelir
yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn cael ei ddefnyddio er mwyn
lleihau cyfraniad o’r Grant Cynllun Twf sydd ei angen ar gyfer y flwyddyn hon.
Cadarnhawyd bydd y cyfraniad hwn yn cael ei drosglwyddo i gyllideb 2025/26. Mynegwyd balchder yr amcanwyd bydd cyfanswm o
bron i £211,000 yn y gronfa wrth gefn cyffredinol ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol hon. Ymhelaethwyd nad oes arian yn y gronfa ‘Prosiectau’ ac amcanwyd
bydd £7.2miliwn yn y gronfa llog erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Tywyswyd yr aelodau drwy ddiweddariad ar sefyllfa’r rhaglen gyfalaf gan nodi bod gostyngiad net o £12.16miliwn yn y gwariant disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Pwysleisiwyd bod hyn yn deillio o lithriad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
PENODI SRO Y CYNLLUN TWF AC AELODAU ARWEINIOL Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) i gyflwyno’r Adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth
Gweithrediadau yn absenoldeb y Cyfarwyddwr Portffolio. PENDERFYNWYD 1.
Cytuno i’r egwyddor y
dylid gwahanu rolau’r Uwch Berchennog Cyfrifol a Chyfarwyddwr Portffolio (yn
amodol ar gyngor Adnoddau Dynol) a’u cyflawni gan wahanol unigolion a nodi’r
rhaniad arfaethedig o ddyletswyddau a chyfrifoldebau. 2.
Gofyn am enwebiad gan un
o chwe Phrif Weithredwr yr awdurdodau lleol i weithredu fel Uwch Berchennog
Cyfrifol (SRO) ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru gyda’r bwriad o gadarnhau’r
penodiad hwn yn y cyfarfod nesaf, sydd wedi ei raglennu ar gyfer 4 Ebrill 2025. 3.
Cytuno ar y newidiadau i gyfrifoldebau Aelodau Arweiniol ar draws y
Cynllun Twf. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd Uchelgais Economaidd i
wahanu rôl yr SRO a Chyfarwyddwr Portffolio mewn ymateb i’r gofyniad newydd gan
y llywodraeth. TRAFODAETH Eglurwyd bod yr
adroddiad yn cyflwyno addasiadau i strwythur llywodraethiant Cynllun Twf
Gogledd Cymru, yn dilyn arweiniad y Llywodraethau i wahanu rolau’r Cyfarwyddwr
Portffolio a’r Uwch Berchennog Cyfrifol (SRO). Atgoffwyd bod yr holl
gyfrifoldebau hyn wedi cael eu cyflawni gan y Cyfarwyddwr Portffolio presennol
ar hyn o bryd. Cadarnhawyd bod arweiniad y Llywodraethau yn ei gwneud yn
ofynnol i ddau unigolyn gwahanol fod yn cyflawni’r rolau hyn er mwyn cynyddu
atebolrwydd a darparu capasiti arweinyddiaeth ychwanegol. Gofynnwyd am enwebiad
ffurfiol i un o Brif Weithredwyr yr awdurdodau lleol weithredu fel yr SRO ar
gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru er mwyn gallu cynnal pleidlais ffurfiol ar yr
enwebiad hwnnw yn y cyfarfod nesaf o’r Bwrdd hwn. Nodwyd bod yr
adroddiad yn manylu ar Rolau penodol yr Aelodau Arweiniol, gan atgoffa bod pump
o’r Arweinwyr yn gyfrifol am un o feysydd rhaglenni’r Cynllun Twf er mwyn
darparu cysylltiad rhwng y Bwrdd Uchelgais a Byrddau’r Rhaglenni. Eglurwyd na
fyddai’r Cadeirydd yn gyfrifol am raglen benodol yn y dyfodol er mwyn sicrhau
eu bod yn canolbwyntio ar faterion strategol cyffredinol, gyda’r Rolau
Arweiniol yn cael eu dosbarthu i’r pum Arweinydd arall. Tynnwyd sylw bod
addasiadau i aelodaeth y Bwrdd yn y flwyddyn ddiwethaf a chynigwyd penodiadau
newydd i Rolau Arweiniol Rhaglenni’r Cynllun Twf fel a ganlyn: ·
Y
Cynghorydd Mark Pritchard - Materion strategol cyflawni'r Cynllun Twf ·
Y
Cynghorydd Charlie McCoubrey – Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth ·
Y
Cynghorydd Dave Hughes –Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Uwch ·
Y
Cynghorydd Jason McLellan – Rhaglen Tir ac Eiddo ·
Y
Cynghorydd Gary Pritchard – Rhaglen Ynni Carbon Isel ·
Y
Cynghorydd Nia Jeffreys –Y Rhaglen Ddigidol. Manylwyd nad oes newid i’r Aelod Arweiniol ar gyfer Rhaglenni Bwyd-amaeth a Thwristiaeth, Tir ac Eiddo ac Ynni Carbon isel er mwyn sicrhau parhad yn y gwaith mae’r Aelodau wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Eglurwyd bod y penderfyniad wedi cael ei wneud i gynnig y Rhaglen Ddigidol i Aelod Arweiniol Cyngor Gwynedd oherwydd y diffygion ac anawsterau cyswllt digidol sydd yn yr ardal honno. Tynnwyd sylw y golyga hyn bod y Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Uwch wedi cael ei nodi ar gyfer yr Aelod Arweiniol Cyngor Sir y Fflint. Ymddiheurwyd am y diffyg cyfathrebu i egluro’r rhesymeg wrth lunio’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2025/26 Dewi Morgan
(Pennaeth Cyllid yr Awdurdod
Lletya ac Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh
(Pennaeth Cyllid Cynorthwyol
yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r Adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Cymeradwyo’r Gyllideb Refeniw 2025/26. 2. Cymeradwyo’r cyfraniadau ariannu sy’n
cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol a
chyfraniadau llog partneriaid. 3. Cymeradwyo’r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y
Cynllun Twf. 4. Cymeradwyo
trosglwyddo’r llog a dderbyniwyd ar falansau grant
Bargen Twf Gogledd Cymru yn 2024/25 a 2025/26 i gronfa wrth gefn penodol i
ariannu gofynion ychwanegol y llywodraeth, cadw capasiti’r
Swyddfa Rheoli Portffolio am ddwy flynedd ychwanegol yn ogystal â chostau
datblygu prosiectau. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid a
Phennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya. PENDERFYNWYD 1.
Cymeradwyo’r Gyllideb Refeniw 2025/26. 2.
Cymeradwyo’r cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys cyfraniadau partneriaid,
cyfraniadau atodol awdurdodau lleol a chyfraniadau llog partneriaid. 3.
Cymeradwyo’r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf. 4.
Cymeradwyo trosglwyddo’r
llog a dderbyniwyd ar falansau grant Bargen Twf Gogledd Cymru yn 2024/25 a
2025/26 i gronfa wrth gefn penodol i ariannu gofynion ychwanegol y llywodraeth,
cadw capasiti’r Swyddfa Rheoli Portffolio am ddwy flynedd ychwanegol yn ogystal
â chostau datblygu prosiectau. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Er
mwyn gweithredu’n effeithiol o fewn y cyllid sydd ar gael, mae angen i gyllideb
flynyddol gael ei chymeradwyo ar gyfer y Bwrdd Uchelgais. Mae
Atodiad 1 yn gosod y gyllideb arfaethedig yn ôl pennawd gwariant a’r ffrydiau
ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn. TRAFODAETH Eglurwyd bod prif gyllideb y Swyddfa Rheoli
Portffolio yn ariannu 22.75 o swyddi, gan nodi bod dwy o’r swyddi hynny yn
swyddi ychwanegol penodol i brosiectau Digidol ac Ynni Lleol Blaengar. Nodwyd
hefyd bod cyllideb wedi cael eu gosod ar gyfer dau gyfarwyddwr anweithredol a
gweithiwr proffesiynol rheoli portffolio er mwyn adlewyrchu gofynion y ddwy
lywodraeth. Yn debyg, eglurwyd cyllidebau, costau a chyfraniadau llog ar gyfer
materion Gwasanaethau Cefnogol, Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, Prosiectau
a Throsglwyddiadau i gronfeydd. Tynnwyd sylw bod cyfraniadau ariannol gan
bartneriaid wedi codi 1.5% er mwyn adlewyrchu chwyddiant alldro 2024/25, lwfans
ar gyfer newidiadau yn nhrothwy a chanran yswiriant gwladol ac amcan chwyddiant
cyflogau 2025/26. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod cyfraniadau atodol gan yr
Awdurdodau Lleol wedi parhau i fod yn £40,000 yr un. Tywyswyd yr aelodau drwy rhai o gyfraniadau
ariannol gan gadarnhau: ·
Bod cyfanswm y Grant
Cynllun Twf o £1.35miliwn wedi cael ei neilltuo ar gyfer gwariant refeniw. ·
Neilltuwyd £116,000 o
brosiectau Digidol ac Ynni Lleol Blaengar i ariannu dwy swydd benodol. ·
Cyfalafwyd £60,000 ar
gostau staff wrth iddynt wneud gwaith penodol ar brosiectau. ·
Ariannir swyddi
llywodraeth ychwanegol a chostau datblygu prosiectau drwy £412,000 o’r Gronfa
Llog. ·
Clustnodwyd oddeutu
£61,000 o’r Gronfa wrth gefn, gan sicrhau bod £150,000 yn parhau yn y gronfa
honno. Darparwyd crynodeb o’r gyllideb ar gyfer
2025/26 yn ogystal â chyllidebau drafft ar gyfer blynyddoedd ariannol 2026/27 a
2027/28. Eglurwyd bod y swyddi llywodraeth ychwanegol, estyniad ar gytundebau
staff hyd Fawrth 2028 a rhai o gostau datblygu’r prosiectau yn cael eu hariannu
gan y llog a fydd yn cael ei dderbyn ar falansau’r Cynllun Twf ym mlynyddoedd
ariannol 2024/25 ac 2025/26. Amcangyfrifwyd bydd cyfanswm costau dros y tair
blynedd ariannol yma yn £2.7miliwn. Cadarnhawyd bydd y £3.6miliwn o log a dderbyniwyd
hyd at 2023/24 yn parhau i gael ei ddefnyddio i leihau unrhyw gostau benthyca
yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at y gyllideb cyfalaf gan nodi y
bydd yn cael ei adolygu yn ystod y flwyddyn wrth i’r achosion busnes gael eu
cymeradwyo. Rhannwyd proffil am y cyfnod 2021/22 i 2034/35 yn ogystal â’r 2.15%
o’r gyllideb sydd wedi ei neilltuo i ariannu’r gyllideb refeniw dros yr un
cyfnod. Diolchwyd i holl bartneriaid am eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 3 Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r Adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a
Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru. 2. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad
Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghyd â phwyllgorau craffu’r
awdurdodau lleol. 3. Gofyn
i’r Swyddfa Rheoli Portffolio am adroddiad pellach ar brosiectau y rhagwelir na
fydd yn bosib eu cyflawni o fewn eu hamserlenni arfaethedig, yn y cyfarfod
nesaf y Bwrdd sydd wedi ei raglennu ar gyfer 4 Ebrill 2025. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth
Gweithrediadau yn absenoldeb y Cyfarwyddwr Portffolio. PENDERFYNWYD 1.
Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio
wedi’i diweddaru. 2.
Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru
a Llywodraeth y DU ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol. 3.
Gofyn i’r Swyddfa Rheoli
Portffolio am adroddiad pellach ar brosiectau y rhagwelir na fydd yn bosib eu
cyflawni o fewn eu hamserlenni arfaethedig, yn y cyfarfod nesaf y Bwrdd sydd
wedi ei raglennu ar gyfer 4 Ebrill 2025. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae
adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn
Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan y Bwrdd Uchelgais, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda
Llywodraeth Cymru, Llywodraeth
y DU a phwyllgorau craffu’r
awdurdodau lleol. TRAFODAETH Adroddwyd ar nifer o ddigwyddiadau a fu’n
uchafbwyntiau dros y misoedd diwethaf megis cymeradwyo ceisiadau am newid ac
Achosion Busnes Amlinellol, cynnydd da mewn adeiladu ac adnewyddu safleoedd,
penodi ymgynghorwyr Umi ac WCVA i ddatblygu
prosiectau, derbyn ymatebion gwerthfawr i ymgynghoriadau a chychwyn ar waith
ymgysylltu ar gyfer prosiectau newydd. Tynnwyd sylw bod chwe phrosiect yn adrodd yn
goch ar hyn o bryd gan gynnwys: ·
Cysylltu'r Ychydig %
Olaf ·
NEW – H2 ·
Trawsfynydd ·
Porth Caergybi ·
Stiwdio Kinmel ·
Hwb Economi Wledig
Glynllifon Cadarnhawyd bod y Gofrestr Risg yn parhau yn
gyson i’r hyn a welwyd yn ail chwarter 2024/25. Ymhelaethwyd bod risg
gweddilliol ar fuddsoddiad sector gyhoeddus wedi gostwng o ganlyniad i Achosion
Busnes Llawn dan arweiniad noddwyr y sector gyhoeddus, gael eu cymeradwyo gan y
Bwrdd hwn yn ddiweddar. Gofynnwyd am adroddiad yn y cyfarfod nesaf ar
ddiweddariad pellach ar y prosiectau hynny nad yw swyddogion yn credu bod modd
eu cyflawni o fewn eu hamserlenni
arfaethedig. Diolchwyd i bartneriaid ac asiantaethau
allanol am eu cydweithrediaeth er mwyn ymdrechu i
ganfod ffyrdd o ddatblygu’r prosiectau
hyn, yn enwedig ar brosiectau Porth Caergybi a Hwb Hydrogen Caergybi. Heriwyd statws perfformiad ‘Cyfathrebu ac
Ymgysylltu’ o fewn y Gofrestr Risg, gan dynnu sylw ei fod yn perfformio’n wyrdd
ar hyn o bryd. Manylwyd ei fod yn cyfeirio at ddatganiadau i’r wasg, cyfryngau
cymdeithasol a’r wefan ac ystyriwyd beth yw’r cyfathrebu gwirioneddol wrth
ystyried os yw trigolion Gogledd Cymru yn ymwybodol o bwysigrwydd a gwaith y
Bwrdd Uchelgais. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Pennaeth
Gweithrediadau bod gwaith ymgysylltu a chyfathrebu trylwyr yn cael ei gyflawni
megis drwy ddigwyddiadau, podlediadau a’r cyfryngau
cymdeithasol gan nodi bod hyn yn cael ei gydbwyso yn ofalus gyda gwaith y
Bwrdd. Cydnabuwyd bod capasiti ac argaeledd yn her
wrth ystyried cyflawni mwy o ddyletswyddau yn y maes yma ac felly bod
partneriaid hefyd yn cydweithio i hyrwyddo gwaith y Bwrdd. Teimlwyd bod
dealltwriaeth y cyhoedd am waith y Bwrdd wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf
gan bwysleisio y bydd yn parhau i wella wrth gyflawni mwy o brosiectau yn y
dyfodol. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r
cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o
Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion
ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol
cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r
adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â
thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r
math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn
tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth
sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o
sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Cofnod: PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar Eitemau 10-13 gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes
unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er
gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth
o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r
adroddiadau yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â
thrafodaethau cysylltiedig. Byddai
cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i
fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn
ymwneud â’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus
ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
CYDNERTH - ACHOS BUSNES LAWN Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) a Dafydd Rogers (Rheolwr Prosiect Ynni
Carbon Isel) i gyflwyno’r Adroddiad. Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo’r Achos Busnes Terfynol ar
gyfer prosiect Cydnerth sy’n ddarostyngedig i Fenter Môn Morlais Ltd yn mynd
i’r afael â’r materion sydd angen gweithredu arnynt a nodir yn yr adroddiad. 2.
Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn
ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro
i gytuno ac ymrwymo i gytundeb cyllido gyda Menter Môn Morlais Ltd er mwyn
cyflawni’r prosiect. 3.
Nodi bod y model cyllido arfaethedig ar
gyfer y prosiect yn fenthyciad masnachol 100% ac yn cymeradwyo bod y llog o’r
benthyciad, unwaith y bydd cost taliadau benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad
wedi’i dalu, yn cael ei ddyrannu i gronfa wrth gefn i’w defnyddio i gyllido’r
Swyddfa Rheoli Portffolio yn y blynyddoedd i ddod. 4.
Gofyn am adroddiad diweddariad ar gynnydd
y prosiect ymhen 6 mis gyda manylion pellach am ffioedd, cyllidebau ac
amserlenni. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau a’r Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net
(Hydrogen). PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwyo’r
Achos Busnes Terfynol ar gyfer prosiect Cydnerth sy’n ddarostyngedig i Fenter
Môn Morlais Ltd yn mynd i’r afael â’r materion sydd angen gweithredu arnynt a
nodir yn yr adroddiad. 2.
Awdurdodi’r
Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog
Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ac ymrwymo i gytundeb cyllido gyda
Menter Môn Morlais Ltd er mwyn cyflawni’r prosiect. 3.
Nodi
bod y model cyllido arfaethedig ar gyfer y prosiect yn fenthyciad masnachol
100% ac yn cymeradwyo bod y llog o’r benthyciad, unwaith y bydd cost taliadau
benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad wedi’i dalu, yn cael ei ddyrannu i gronfa
wrth gefn i’w defnyddio i gyllido’r Swyddfa Rheoli Portffolio yn y blynyddoedd
i ddod. 4.
Gofyn am adroddiad diweddariad ar gynnydd y prosiect
ymhen 6 mis gyda manylion pellach am ffioedd, cyllidebau ac amserlenni. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd
Uchelgais i Achos Busnes Terfynol ar gyfer y prosiect Cydnerth. TRAFODAETH Trafodwyd
yr adroddiad. |
|
ACHOS FUSNES LLAWN PARC BRYN CEGIN David
Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) i gyflwyno’r Adroddiad. Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo. PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer prosiect Parc
Bryn Cegin. 2.
Cadarnhau’r awdurdod dirprwyedig a wnaed ar 6 Rhagfyr
2024 i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd,
Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo ac ymrwymo i’r Cytundeb
Cyd-fenter. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd Portffolio i’r Achos Busnes Llawn
ar gyfer prosiect Parc Bryn
Cegin. Cymeradwyodd y Bwrdd Achos Busnes Amlinellol y prosiect ar 6 Rhagfyr 2024. Mae’r Bwrdd Rhaglen
Tir ac Eiddo a’r Bwrdd Portffolio wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn
ym mis Ionawr 2025. Gan nad oes cytundeb
ariannu grant ar gyfer y prosiect hwn, bydd
y Cyd-fenter yn gweithredu fel cytundeb cyfreithiol rhwng Uchelgais Gogledd Cymru a Llywodraeth
Cymru. TRAFODAETH Trafodwyd
yr adroddiad. |
|
ACHOS FUSNES AMLINELLOL ANTURIAETHAU CYFRIFOL Elliw
Hughes (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf) i gyflwyno’r Adroddiad. Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo’r
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Anturiaethau Gyfrifol, yn amodol ar
gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi,
yn ogystal â Zip World yn
ymdrin â’r materion a osodwyd yn yr Adroddiad. 2.
Gofyn am adroddiad pellach i gyfarch tri
pryder penodol cyn gwahodd Cynllun Busnes Llawn ar gyfer y prosiect
Anturiaethau Cyfrifol, a gwahodd y cwmni
i gyfarch y rhain o fewn cyfnod o 3 mis; yn benodol: ·
Darparu Cynllun Buddion Lleol wedi datblygu
yn dilyn ymgysylltu gyda’r cymunedau lleol; ·
Paratoi
Strategaeth ac egwyddorion gweithrediadol i’r e-fws; ·
Darparu
Adroddiad cynnydd ar y Cynllun Ymgysylltu 3.
Dirprwyo’r gymeradwyaeth derfynol o’r
manylebau caffael a’r meini prawf gwerth cymdeithasol i’r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151
a’r Swyddog Monitro cyn dechrau caffael. 4.
Awdurdodi’r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a’r Swyddog
Monitro, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn, i’w cymeradwyo
gan y bwrdd Uchelgais Economaidd fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu
terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfiol sail y Llythyr Cynnig Grant a
gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen
Cynllun Twf. PENDERFYNIAD 1. Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Anturiaethau
Gyfrifol, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a’r DU o’r broses
sicrwydd yr ymgymerwyd â hi, yn ogystal â Zip World yn ymdrin â’r materion a osodwyd yn yr Adroddiad. 2. Gofyn am adroddiad pellach i gyfarch tri pryder penodol cyn gwahodd
Cynllun Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Anturiaethau Cyfrifol, a gwahodd y cwmni i gyfarch y rhain o fewn
cyfnod o 3 mis; yn benodol: ·
Darparu Cynllun Buddion
Lleol wedi datblygu yn dilyn ymgysylltu gyda’r cymunedau lleol; ·
Paratoi Strategaeth ac
egwyddorion gweithrediadol i’r e-fws; ·
Darparu Adroddiad
cynnydd ar y Cynllun Ymgysylltu 3. Dirprwyo’r gymeradwyaeth derfynol o’r manylebau caffael a’r meini prawf
gwerth cymdeithasol i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r
Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro cyn dechrau
caffael. 4. Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran
151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn,
i’w cymeradwyo gan y bwrdd Uchelgais Economaidd fel sail ar gyfer y trefniadau
ariannu terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfiol sail y Llythyr Cynnig
Grant a gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd
Uchelgais i’r Achos Busnes Llawn ar gyfer prosiect Anturiaethau Cyfrifol TRAFODAETH Trafodwyd yr
adroddiad. |
|
CAIS AM NEWID CANOLBWYNT ECONOMI WLEDIG GLYNLLIFON Elliw
Hughes (Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf) a Dafydd Jones (Rheolwr Prosiect
Bwyd-amaeth a Thwristiaeth) i gyflwyno’r Adroddiad. Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth
Gweithrediadau a’r Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf. PENDERFYNIAD 1. Cytuno i’r cais am newid ar gyfer y prosiect Hwb Economi Wledig
Glynllifon ac yn ddarostyngedig i’r materion sy’n weddill, gofyn i Grŵp
Llandrillo Menai ymgymryd â’r gweithgaredd angenrheidiol i gyflwyno’r achosion
busnes perthnasol i’w hystyried. 2. Cadarnhau y bydd sgôp diwygiedig y prosiect yn cael ei gyflawni o fewn y
dyraniad cyllid presennol ar gyfer y prosiect ac na fydd unrhyw gyllid pellach
ar gyfer y prosiect yn cael ei ddarparu o’r Cynllun Twf o ganlyniad i’r newid
hwn. 3. Cefnogi’r egwyddor o ystyried prosiect ar wahân yn y dyfodol ar gyfer
cyflawni’r deoryddion a gofyn i’r Swyddfa Rheoli Portffolio barhau i drafod
gyda phartïon sydd â diddordeb i archwilio’r opsiwn hwn. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth y cais am newid y prosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon. TRAFODAETH Trafodwyd yr
adroddiad. |