Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Hugh Evans (Cyngor Sir Ddinbych) a Mark
Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol
Bangor), Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) a Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr
Gweithrediadau) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd y canlynol fuddiant personol yn eitem 9 ar y
rhaglen – Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter – Achos Busnes Amlinellol, am y
rhesymau a nodir:- ·
Graham
Boase, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, gan ei fod, ers y 4ydd o Fawrth,
2022, yn Gyfarwyddwr Glyndŵr Innovations Limited (GIL), sy’n gwmni ym
mherchnogaeth Prifysgol Glyndŵr ar gyfer rheoli’r Ganolfan Opteg a
Pheirianneg Menter. ·
Maria Hinfelaar gan ei bod yn Brif Weithredwr Prifysgol
Glyndŵr, sef y corff noddi ar gyfer y Prosiect Canolfan Opteg a
Pheirianneg Menter. ·
Askar Sheibani, Bwrdd Cyflenwi Busnes, gan ei fod yn Aelod
Anweithredol o’r Bwrdd/ Llywodraethwr Prifysgol Glyndŵr. Roeddent o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu,
a gadawsant y cyfarfod yn dilyn y rhagarweiniad i’r eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 396 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2022 fel rhai cywir.
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2022 fel rhai cywir. |
|
SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF Y BWRDD UCHELGAIS AR GYFER 2021-22 PDF 535 KB Adroddiad
gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Nodi a derbyn adroddiad alldro refeniw y Bwrdd
Uchelgais ar gyfer 2021/22 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a'r Adolygiad Diwedd
Blwyddyn Cyfalaf fel ym Mawrth 2022 (Atodiad 3). 2.
Cymeradwyo agor dwy gronfa wrth
gefn newydd ynghyd â'r trosglwyddiadau i gronfeydd wrth gefn fel y manylir yn
Atodiad 2. 3.
Dirprwyo'r hawl i'r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Bwrdd, neu yn ei
(h)absenoldeb, yr Is-gadeirydd, a’r Swyddog Cyllid Statudol, i gymeradwyo
gwariant o'r gronfa Prosiectau wrth gefn yn 2022/23. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd
Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau). PENDERFYNWYD 1.
Nodi a derbyn adroddiad alldro refeniw y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a'r Adolygiad Diwedd
Blwyddyn Cyfalaf fel ym Mawrth
2022 (Atodiad 3). 2.
Cymeradwyo
agor dwy gronfa wrth gefn
newydd ynghyd â'r trosglwyddiadau i gronfeydd wrth
gefn fel y manylir yn Atodiad 2. 3.
Dirprwyo'r
hawl i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Bwrdd, neu yn ei absenoldeb, yr Is-gadeirydd, a’r Swyddog Cyllid
Statudol, i gymeradwyo gwariant o'r gronfa Prosiectau
wrth gefn yn 2022/23. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Hysbysu’r Bwrdd Uchelgais am ei sefyllfa ariannol ar gyfer
refeniw a chyfalaf yn 2021/22. TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Gan gyfeirio at ddiwedd paragraff 5.16 o’r
adroddiad, eglurwyd bod 2022-23, yn hytrach na 2021-22, wedi’i nodi mewn
camgymeriad. Gan gyfeirio at y trydydd argymhelliad yn yr
adroddiad, awgrymwyd y dylai’r hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio gymeradwyo
gwariant o’r gronfa Prosiectau wrth gefn yn 2022/23 fod mewn ymgynghoriad â
Chadeirydd y Bwrdd, neu yn ei absenoldeb, yr Is-gadeirydd, er mwyn sicrhau
mewnbwn gwleidyddol. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro nad
oedd hynny’n broblem o ran egwyddor, ond gan ein bod yn mynd i gyfnod etholiad,
o bosib’ na fyddai gan y Bwrdd gadeirydd mewn lle tan fis Mehefin. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Portffolio nad oedd
yn rhagweld y byddai angen cymeradwyo gwariant o’r gronfa rhwng hyn a mis
Mehefin. Diolchwyd i’r Swyddog Cyllid Statudol a’r Cyfrifydd
Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau am eu gwaith a’u harweiniad clir. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 4 PDF 354 KB Adroddiad gan
Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr
Gweithrediadau) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Nodi Adroddiad Perfformiad
Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru. 2.
Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad
Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â
phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol, gan nodi hefyd bod y Bwrdd yn bryderus
ynglŷn â’r costau cynyddol a’r risgiau sy’n wynebu cyflawniad y Cynllun
Twf, ac y bydd, o ganlyniad i’r pryderon hynny, yn trafod hyn ymhellach yn ei
gyfarfod nesaf ac, yn y cyfamser, yn ystyried camau lliniaru, fydd yn cynnwys
trafodaethau ar lefel genedlaethol. Cofnod: Cyflwynodd Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) drosolwg o uchafbwyntiau’r adroddiad, a
manylodd y Rheolwyr Rhaglen ar y diweddariadau rhaglen, fel a ganlyn:- ·
Digidol – Stuart Whitfield (Rheolwr
Rhaglen Digidol); ·
Ynni Carbon Isel -
Henry Aron (Rheolwr Rhaglen
Ynni); ·
Tir ac Eiddo - David Matthews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo); ·
Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth
ac Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel – Robyn Lovelock (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf). Yna cyflwynodd
Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) drosolwg o’r prif risgiau. PENDERFYNIAD 1.
Nodi
Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru. 2.
Cymeradwyo
cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol, gan nodi hefyd
bod y Bwrdd yn bryderus ynglŷn â’r costau cynyddol a’r risgiau sy’n
wynebu cyflawniad y Cynllun Twf, ac y bydd, o ganlyniad i’r pryderon hynny,
yn trafod hyn ymhellach yn ei gyfarfod nesaf ac, yn y cyfamser, yn ystyried camau lliniaru, fydd yn cynnwys trafodaethau ar lefel genedlaethol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn
Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Croesawyd y ffaith
y cafwyd rhywfaint o sicrwydd gan y Panel Adolygu Ffyrdd yng nghyswllt Warren
Hall, Brychdyn, ond holwyd a geisiwyd yr un sicrwydd
mewn perthynas â phrosiectau eraill sy’n cael eu hadolygu, megis Western Gateway, Wrecsam.
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo y byddai hynny’n cael
ei amlygu mewn sylwadau i’w cyflwyno gan Wrecsam i swyddfa’r Panel yr wythnos
ganlynol yn tanlinellu’r effaith ar gyffyrdd yr A483, a’r effaith ar y dref, ac
nid y safle Western Gateway yn unig, a hefyd ar y
broses o gyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol. Mynegwyd pryder ynglŷn â ffosffadau, o safbwynt camau lliniaru / lleihau ardrawiad, a phwysleisiwyd yr angen i barhau i ddwyn pwysau a dylanwadu ar lefel ranbarthol a chenedlaethol oherwydd bod hyn yn creu risg sylweddol. Pryderid yn arbennig eu bod yn edrych ar ddadansoddiad afon gyfan o ffosffadau, oherwydd, er y gallai rhan o afon fod wedi’i heffeithio lai, yn nhermau’r dalgylch, byddai, er hynny, yn cael ardrawiad sylweddol ar unrhyw brosiect ar hyd holl lwybr yr afon honno. Hefyd, gallai’r system drwyddedu fod yn weithredol ar gyfer pob cynllun trin dŵr gwastraff ar afon, yn hytrach nag ar gyfer y rhai hynny sydd yn y rhannau gwaethaf o’r afon yn unig. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo yr ystyriwyd bod y strategaeth leihau ei hun yn gam i’r cyfeiriad cywir yn nhermau amlygu dull o gyflawni camau lliniaru ffosffadau, a’r ffaith ei fod yn awr yn cael ei ystyried fel rhan o’r darlun cyflawn yn nhermau cyflenwi safleoedd datblygu cymhleth. Gan hynny, byddai ffocws cynyddol yn cael ei roi ar hyn gyda mwy o adnoddau yn cael eu neilltuo ar ei gyfer er mwyn canfod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
DIWEDDARIAD PROSIECT DATGARBONEIDDIO TRAFNIDIAETH (HYDROGEN) PDF 575 KB Adroddiad
gan Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo'r ffordd ymlaen a
ffefrir ar gyfer y prosiect. 2.
Awdurdodi'r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Rhaglen, i baratoi a chyhoeddi
Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw yn unol â'r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni). PENDERFYNWYD 1.
Cymeradwyo'r
ffordd ymlaen a ffefrir ar gyfer y prosiect. 2.
Awdurdodi'r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Rhaglen,
i baratoi a chyhoeddi Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw yn unol â'r
adroddiad. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae'r Bwrdd Prosiect a'r Bwrdd
Rhaglen wedi cytuno ar ffordd ymlaen a ffefrir sydd wedi'i gadarnhau
gan y Bwrdd Portffolio, i'w ystyried gan y Bwrdd Uchelgais. Mae'r adroddiad yn gofyn am gefnogaeth y Bwrdd i'r ffordd
ymlaen a ffefrir ac i symud ymlaen
gyda'r cam cyflawni cyntaf. TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig
mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol
cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau
ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei
gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes
ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol
sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r
Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i
rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd
cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Cofnod: PENDERFYNWYD cau
allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau
canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn
agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol
cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag
fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen
trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.
Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes
ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol
sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r
Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Cytundeb Twf i
rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.
Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn
cyfansawdd gorau. |
|
CANOLFAN OPTEG A PHEIRIANNEG MENTER - ACHOS BUSNES AMLINELLOL Adroddiad i’w
gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig. Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Canolfan
Opteg a Pheirianneg Menter ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau
Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi a bod Prifysgol
Glyndŵr, Wrecsam (WGU) yn rhoi sylw i’r materion sydd wedi’u nodi yn yr
adroddiad, bod cais Adran 7 yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i’r
Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau’r broses caffael a’r broses caniatâd. 2.
Nodi y bydd cymeradwyo’r OBC yn gweithredu fel
cymeradwyaeth i’r cais i newid mewn perthynas â chyllid cyfatebol gan Brifysgol
Glyndŵr, Wrecsam. Yn sgil
cymeradwyo argymhelliad 1, bod gofyn hysbysu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU am y newid sydd wedi’i gytuno. 3.
Derbyn argymhelliad y Swyddfa Rheoli Portffolio a'r Bwrdd
Portffolio y dylai unrhyw gymeradwyaeth i'r Achos Busnes Llawn yn y dyfodol fod
yn amodol ar i Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam barhau i gyflawni cwmpas
gwreiddiol y prosiect a buddsoddi'r un cyfanswm yn uniongyrchol yn y Gogledd ag
y cytunwyd arno'n wreiddiol er na ellir ei gyfrif fel rhan o'r prosiect Cynllun
Twf hwn 4. Dirprwyo i'r
Cyfarwyddwr Portffolio gymeradwyaeth derfynol o'r fanyleb caffael a'r meini
prawf gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael. 5. Nodi bod y
trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y
Llythyr Cynnig Grant yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac yn
awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a
Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno ar y telerau drafft i'w cymeradwyo
gan y Bwrdd. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Robyn Lovelock (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf). PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer
prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg
Menter ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses
sicrwydd yr ymgymerwyd â hi a bod Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam (WGU) yn rhoi
sylw i’r materion sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, bod cais Adran 7 yn cael ei
wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i’r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau’r
broses caffael a’r broses caniatâd. 2.
Nodi y bydd cymeradwyo’r OBC yn gweithredu
fel cymeradwyaeth i’r cais i newid mewn perthynas â chyllid cyfatebol gan
Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam. Yn sgil
cymeradwyo argymhelliad 1, bod gofyn hysbysu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU am y newid sydd wedi’i gytuno. 3.
Derbyn argymhelliad y Swyddfa Rheoli
Portffolio a'r Bwrdd Portffolio y dylai unrhyw gymeradwyaeth i'r Achos Busnes
Llawn yn y dyfodol fod yn amodol ar i Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam barhau i
gyflawni cwmpas gwreiddiol y prosiect a buddsoddi'r un cyfanswm yn uniongyrchol
yn y Gogledd ag y cytunwyd arno'n wreiddiol er na
ellir ei gyfrif fel rhan o'r prosiect Cynllun Twf hwn 4.
Dirprwyo i'r
Cyfarwyddwr Portffolio gymeradwyaeth derfynol o'r fanyleb caffael a'r meini
prawf gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael. 5.
Nodi bod y
trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y
Llythyr Cynnig Grant yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac yn
awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a
Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno ar y telerau drafft i'w cymeradwyo
gan y Bwrdd. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio cymeradwyaeth
y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol Prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter . TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Trafodwyd yr
adroddiad. |