Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679325
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y Bwrdd. Penderfyniad: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Mark Pritchard yn Gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y
Bwrdd. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd
Mark Pritchard yn Gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y Bwrdd. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y Bwrdd, os yw’r angen yn codi. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Charlie
McCoubrey yn Is-gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y Bwrdd. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd Charlie McCoubrey yn Is-gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y
Bwrdd. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- · Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda Paul
Spencer yn dirprwyo · Yana Williams
(Coleg Cambria) · Dafydd Gibbard
(Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo · Stuart Whitfield
(Uchelgais Gogledd Cymru) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 08 Tachwedd 2024 fel rhai cywir. |
|
CAIS AM NEWID Y PROSIECT CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU David
Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: ·
Cytuno mewn egwyddor i’r cais am
newid i dderbynnydd y grant ar gyfer prosiect Cyn-Ysbyty Gogledd Cymru ·
Dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151
a’r Swyddog Monitro i gytuno ar fanylion y cais am newid, gan gynnwys unrhyw
welliannau pellach y gallai fod eu hangen i’w cwblhau ac ymrywymo i’r Cytundeb
Ariannu Grant. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Reolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo. PENDERFYNWYD · Cytuno mewn egwyddor i’r cais am
newid i dderbynnydd y grant ar gyfer prosiect Cyn-Ysbyty Gogledd Cymru ·
Dirprwyo’r
hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd,
Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar fanylion y cais am newid, gan
gynnwys unrhyw welliannau pellach y gallai fod eu hangen i’w cwblhau ac
ymrywymo i’r Cytundeb Ariannu Grant. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Cafodd yr Achos
Fusnes llawn ei pharatoi ar ran Jones Bros Ruthin (Civil Engineering) Co, Ltd
a’i gymeradwyo gan y Bwrdd ar 17 Mai 2024. Roedd yr Achos
Fusnes Llawn yn nodi mai ‘Jones Bros Ruthin (Civil Engineering) Co, Ltd fyddai
yn cytundebu’r prosiect drwy ei gwmni daliannol - Jones Bros Ruthin Development
Holdings Ltd’. Nodwyd y
trafodaethau cychwynnol nad oedd Jones Bros Ruthin (Civil Engineering) Co Ltd i
fod yn barti i unrhyw ddogfennau cytundebol oedd yn ymwneud a’r prosiect. O
ganlyniad, cyflwynwyd NWH Ltd gan Jones Bros Ruthin (Civil Engineering) Co. Ltd
fel derbynnydd newydd y grant a Chyfrwng at Ddibenion Arbennig (SPV) ar gyfer y
prosiect gyda chwmni Jones Bros Ruthin Development Holdings Ltd yn gweithredu
fel gwarantwr. TRAFODAETH Cadarnhaodd
y Swyddog Monitro bod yr addasiad hwn yn dechnegol iawn gan ei fod yn deillio o
sut mae cwmnïau yn cael eu strwythuro. Pwysleisiwyd bod y risgiau sy’n codi
wrth newid cwmni mewn cytundeb o’r math hwn yn cael ei cyfarch yn gyflawn
drwy’r ffaith bod y gwarantwr yn gwmni priodol a sylweddol. Eglurwyd bod
caniatáu’r newid hwn yn caniatáu i’r prosiect gyrraedd y broses o ddatblygu
Cytundeb Ariannu gan bod yr Achos Busnes Lawn wedi cael ei gymeradwyo eisoes.
Cadarnhawyd bod y cwmnïau wedi eu henwi’n bartion ar y Cytundeb Datblygu a
roddwyd gan Gyngor Sir Ddinbych i NWH Ltd.
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Cofnod: PENDERFYNWYD cau
allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar Eitem 9 gan ei
bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff
14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â
thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod
sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a
masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei
chyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol
ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau
cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth
fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff
a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb
Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus
ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
PARC BRYN CEGIN, BANGOR - ACHOS BUSNES AMLINELLOL David
Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) a Margaret Peters (Rheolwr Prosiect Tir
ac Eiddo) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo’r
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Parc Bryn Cegin, yn amodol ar
gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd, ac Uchelgais
Gogledd Cymru yn ymdrin â’r materion a amlinellir yn yr adroddiad, fel y’u
disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i’r Bwrdd Uchelgais fod Achos Busnes Llawn
yn cael ei baratoi i’r Bwrdd ei Ystyried. 2.
Derbyn y bydd
cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol yn gweithredu fel cymeradwyaeth i’r cais
am newid i’r prosiect i leihau cwmpas
prosiect ar gyfer Cam 1 o 3,000 metr sgwâr i 1,856 metr sgwâr o unedau
cyflogaeth newydd arfaethedig. 3.
Cytuno ar y
broses ddiwygiedig a fydd yn gweld Achos Busnes Llawn yn cael ei gyflwyno ar ôl
cwblhau’r Cytundeb Cyd-fenter a chadarnhau cyllid Llywodraeth Cymru cyn dechrau
caffael. 4.
Cytuno ar
egwyddorion y cynnig Cyd-fenter fel y’u nodir ac yn dirprwyo i’r Cyfarwyddwr
Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151
a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo a ymrwymo i’r cytundeb. 5.
Nodi’r
adenillion a ragwelir fel rhan o’r Cytundeb Cyd-fenter ac yn cymeradwyo mewn
egwyddor (yn amodol ar gadarnhau’r Achos Busnes Lawn) bod yr incwm a dderbynnir
yn cael ei ddyrannu i gronfa wrth gefn i’w defnyddio i ariannu’r Swyddfa Rheoli
Portffolio yn y blynyddoedd i ddod. 6.
Cynnal
trafodaeth bellach ar Gam 2 y Prosiect yn dilyn cwblhau Cam 1. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Rhaglen
Tir ac Eiddo. PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Parc
Bryn Cegin, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a’r DU o’r broses
sicrwydd, ac Uchelgais Gogledd Cymru yn ymdrin â’r materion a amlinellir yn yr
adroddiad, fel y’u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i’r Bwrdd Uchelgais fod
Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i’r Bwrdd ei Ystyried. 2.
Derbyn y bydd cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol yn
gweithredu fel cymeradwyaeth i’r cais am newid i’r prosiect i leihau
cwmpas prosiect ar gyfer Cam 1 o 3,000
metr sgwâr i 1,856 metr sgwâr o unedau cyflogaeth newydd arfaethedig. 3.
Cytuno ar y broses ddiwygiedig a fydd yn gweld Achos Busnes
Llawn yn cael ei gyflwyno ar ôl cwblhau’r Cytundeb Cyd-fenter a chadarnhau
cyllid Llywodraeth Cymru cyn dechrau caffael. 4.
Cytuno ar egwyddorion y cynnig Cyd-fenter fel y’u nodir ac yn
dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd,
Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo a ymrwymo
i’r cytundeb. 5.
Nodi’r adenillion a ragwelir fel rhan o’r Cytundeb Cyd-fenter
ac yn cymeradwyo mewn egwyddor (yn amodol ar gadarnhau’r Achos Busnes Lawn) bod
yr incwm a dderbynnir yn cael ei ddyrannu i gronfa wrth gefn i’w defnyddio i
ariannu’r Swyddfa Rheoli Portffolio yn y
blynyddoedd i ddod. 6.
Cynnal trafodaeth bellach ar Gam 2 y Prosiect yn dilyn
cwblhau Cam 1. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd Uchelgais i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect
Parc Bryn Cegin, a’r cais am newid prosiect dilynol. Dylai’r Bwrdd nodi
na fydd angen unrhyw gytundeb arian grant ar gyfer y Prosiect hwn, gan y bydd y
Cytundeb Cyd-fenter yn gweithredu fel contract cyfreithiol rhwng Uchelgais
Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru. Nid oes cais am gymeradwyaeth ar y cam hwn,
ond gwneir hyn pan gyflwynir yr Achos Busnes Llawn i’r Bwrdd yn y man. TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad. |
|
CAIS AM NEWID Y PROSIECT ANTURIAETHAU CYFRIFOL Elliw
Hughes (Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf) a Dafydd Jones (Rheolwr Prosiect
Bwyd-amaeth a Thwristiaeth) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: ·
Cytuno i’r
cais am newid ar gyfer y prosiect Anturiaethau Cyfrifol ac yn cynnwys siglen ar
safle Penrhyn yn y prosiect am y tro, yn amodol ar ganiatâd cynllunio. ·
Cadarnhau na
fydd unrhyw gyllid pellach ar gyfer y prosiect yn cael ei ddarparu o’r Cynllun
Twf, gyda’r gost ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cais am newid i’w hariannu
gan Ariannwr y Prosiect. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Rhaglen y
Cynllun Twf a Rheolwr Prosiect Bwyd-amaeth a Thwristiaeth. PENDERFYNIAD ·
Cytuno i’r
cais am newid ar gyfer y prosiect Anturiaethau Cyfrifol ac yn cynnwys siglen ar
safle Penrhyn yn y prosiect am y tro, yn amodol ar ganiatâd cynllunio. ·
Cadarnhau na
fydd unrhyw gyllid pellach ar gyfer y prosiect yn cael ei ddarparu o’r Cynllun
Twf, gyda’r gost ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cais am newid i’w hariannu
gan Ariannwr y Prosiect. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae ceisiadau am
newidiadau i brosiectau gan Noddwyr Prosiect yn faterion i’r Bwrdd eu
penderfynu. TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad. |