Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- ·
Y
Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary
Pritchard yn dirprwyo; ·
Y
Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint) gyda’r Cynghorydd Paul Johnson yn
dirprwyo; ·
Dafydd
Evans (Grŵp Llandrillo Menai) gyda Paul Bevan yn dirprwyo; ·
Yana
Williams (Coleg Cambria); ·
Yr
Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda’r Athro Paul Spencer yn dirprwyo; ·
Ian
Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda David Fitzsimon yn dirprwyo; ·
Iwan
Evans (Swyddog Monitro) gyda Sion Huws (Dirprwy Swyddog Monitro) yn dirprwyo. Croesawodd y
Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd yr
aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 8 - Cyllid y Cynllun Twf: Proses Newid
Prosiectau - Argymhellion Terfynol, am y rhesymau a nodir:- ·
Y Cynghorydd Mark
Pritchard – Prosiect Porth Wrecsam - oherwydd mai Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam oedd yr ymgeisydd. ·
Y Cynghorydd Charlie
McCoubrey – Prosiect Stiwdio Cinmel gan Stage Fifty – oherwydd bod y tir ym
mherchnogaeth Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy. ·
Y Cynghorydd Gary
Pritchard – Prosiect Stiwdio Cinmel gan Stage Fifty – oherwydd ei fod, hyd at
30 Mehefin eleni, yn gyflogedig gyda chwmni Rondo Media yng Nghaernarfon, a bod
Rondo yn rhannol berchen Stiwdio Aria yn Llangefni. Nid oeddent yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, a chynghorwyd yr aelodau bod
modd iddynt gymryd rhan lawn yn y drafodaeth a phleidleisio ar y mater. Er hynny, nododd y Cynghorydd Mark Pritchard
y byddai’n well ganddo beidio cymryd rhan. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion
brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 282 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, 2023 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 1 PDF 368 KB Hedd
Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau,
i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Nodi Adroddiad Perfformiad
Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i ddiweddaru. 2. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad
Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â
phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) ac ymhelaethodd y
rheolwyr rhaglen ar uchafbwyntiau’r rhaglenni unigol. PENDERFYNWYD 1.
Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a
Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i ddiweddaru. 2.
Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter
1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r
awdurdodau lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun
Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr
adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau
craffu'r awdurdodau lleol. TRAFODAETH Llongyfarchwyd
Elgan Roberts ar ei benodiad i olynu Henry Aron fel Rheolwr Rhaglen Ynni a
dymunwyd yn dda iddo yn y swydd.
Eglurwyd, fel dyrchafiad mewnol, bod hyn yn lleihau rhywfaint ar y
capasiti o fewn y rhaglen am gyfnod, ond y byddai hynny’n cael ei reoli dros y
misoedd nesaf. Diolchwyd i’r
swyddogion am baratoi’r adroddiad, a nodwyd ei bod yn ddiddorol gweld cynnydd
mewn rhai meysydd. Holodd y
Cynghorydd Mark Pritchard a oedd ganddo’r hawl i gymryd rhan yn y drafodaeth a
phleidleisio ar y mater gan fod cyfeiriad yn yr adroddiad at Brosiect Porth y
Gorllewin, Wrecsam, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam. Mewn ymateb, eglurwyd, er bod
yna fuddiant, bod eithriad yn y Cod sy’n caniatáu i’r arweinyddion gymryd rhan
lawn yn y drafodaeth a phleidleisio ar y mater. Ychwanegodd y
Cadeirydd nad oedd yna benderfyniadau i’w gwneud ar brosiectau unigol yn yr
achos hwn beth bynnag, gan mai adroddiad cynnydd oedd gerbron y Bwrdd. Nodwyd na chredid
bod modd i Brosiect Porth y Gorllewin, Wrecsam fynd yn ei flaen gan fod arian y
Llywodraeth wedi’i dynnu nôl, ac awgrymwyd y dylai’r prosiect gael ei ddiddymu
cyn gynted â phosib’, fel nad yw swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru yn
gwastraffu eu hamser. Mewn ymateb,
nodwyd:- ·
Yn
dilyn y pryder a fynegwyd yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd ynglŷn â’r
prosiect hwn, y cyfarfu swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru â swyddogion o
Gyngor Wrecsam, ac y deellid bod Cyngor Wrecsam yn gweithio ar gynllun sy’n
edrych ar sut y gellir symud y prosiect yn ei flaen. ·
Unwaith
y bydd y cynllun ar gael, bydd yn cael ei adolygu gan swyddogion Uchelgais
Gogledd Cymru, a phe byddent o’r farn nad oes ffordd hyfyw ymlaen, yna byddai’n
rhaid cyflwyno adroddiad i’r Bwrdd gydag argymhelliad ar y ffordd ymlaen, fel
gydag unrhyw brosiect arall mewn sefyllfa gyffelyb. ·
Y
gallai noddwr y prosiect benderfynu tynnu nôl neu gyflwyno cais i newid, ac eto
byddai hynny’n rhywbeth y byddai’n rhaid i’r Bwrdd ei ystyried. ·
Na
chredid ein bod yn y sefyllfa honno ar y funud, gan fod swyddogion Cyngor
Wrecsam yn gweithio ar gynllun ar hyn o bryd. Pwysleisiodd aelod arall na ddylid rhoi’r gorau i Brosiect Porth y Gorllewin, Wrecsam, ac y dylai Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog fod yn ymwybodol y gallai eu penderfyniad i dynnu’r arian yn ôl beryglu prosiect pwysig iawn o fewn y Cynllun Twf. Holwyd a oedd Llywodraeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DATGANIAD O GYFRIFON Y BUEGC AM 2022-23 PDF 506 KB Dewi
A.Morgan, Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian
Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon Drafft y BUEGC (yn amodol ar
archwiliad) am 2022/23. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dewi A.Morgan (Swyddog Cyllid Statudol). Nodwyd:- ·
Bod
y Bwrdd, am yr ail flwyddyn, wedi paratoi set gyflawn o ddatganiadau cyfrifon, yn hytrach na’r ffurflen swyddogol a ddefnyddiwyd
mewn blynyddoedd blaenorol, gan fod Uchelgais Gogledd Cymru yn “gorff
perthnasol mwy” yn unol â gofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) gan
fod ei incwm neu wariant blynyddol dros £2.5m. ·
Bod y Datganiad Cyfrifon blynyddol wedi’i baratoi yn
unol â’r Cod Ymarfer ar Gyfrifyddu mewn Awdurdodau Lleol. ·
Bod y Bwrdd Uchelgais wedi derbyn y wybodaeth mewn
ffordd llawer mwy defnyddiol pan gyflwynwyd Sefyllfa Alldro Refeniw a Chyfalaf
y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2022/23 ar y 5ed o Fai, a nodwyd y penderfyniad a
wnaethpwyd yn ystod y cyfarfod hwnnw. ·
Bod
y ffigurau sy’n ymddangos yn nhabl 1 ar
dudalen 3 o’r adroddiad yn gyson gyda’r hyn oedd yn yr adroddiad alldro
refeniw, a bod yr hyn a welir yn llawer o’r ddogfen yn faterion technegol yn
ymwneud â chonfensiynau cyfrifo. Hefyd,
yn yr un modd, roedd ffigurau yn ymddangos sy’n adlewyrchu’r gwariant cyfalaf. ·
Bod
y ffigurau pensiynau yn wahanol eleni.
Nodwyd bod gan y Bwrdd Uchelgais ymrwymiad pensiwn o £942,000 ar 31
Mawrth 2022, ond ar 31 Mawrth 2023, bod gwerth yr asedau yn fwy na gwerth yr
ymrwymiadau gyda sefyllfa ased net o £572,000.
Eglurwyd mai’r rheswm am hyn oedd bod prisiad yr actiwari yn defnyddio
bondiau corfforaethol y DG, a gan fod cynnyrch rhain wedi bod yn uchel, roedd
wedi arwain at gyfraddau disgownt cyfrifyddu uchel, sy’n rhoi gwerth sylweddol
is ar yr ymrwymiadau pensiwn. Eglurwyd
ymhellach nad oedd y safon cyfrifo pensiynau yn caniatáu dangos ased ar gyfer
cynllun pensiwn buddiannau diffiniedig, felly addaswyd gwerth yr ased ar y
fantolen i £0. Disgwylid cyfarwyddiadau
pellach gan Archwilio Cymru a CIPFA ar hyn, a phetai angen unrhyw newid i’r
driniaeth yn dilyn y cyfarwyddiadau yma, byddent yn cael eu haddasu erbyn y
Datganiad Cyfrifon terfynol. ·
Bod
y Swyddog Cyllid Statudol wedi arwyddo’r cofnodion ar 7 Gorffennaf ac wedi
tystio ei fod o’r farn bod y Datganiad o'r Cyfrifon wedi ei baratoi yn unol â'r
ymarfer priodol fel a osodir yn y Cod Ymarfer CIPFA/LASAAC ar Gyfrifo ar gyfer
Awdurdodau Lleol. Nodwyd bod y Swyddog
Cyllid Statudol yn credu bod y Datganiad yn cyflwyno darlun cywir a theg o
sefyllfa ariannol Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar 31
Mawrth 2023 ac incwm a gwariant y Cyd Bwyllgor am y flwyddyn a ddaeth i ben
bryd hynny. ·
Y
bydd y datganiadau yn mynd ymlaen i gael eu hadolygu gan Archwilio Cymru, sef
archwilwyr allanol y Bwrdd Uchelgais, ac y bydd y cyfrifon terfynol, ynghyd ag
adroddiad yr archwilwyr, yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd yn ystod yr hydref. PENDERFYNWYD derbyn a nodi
Datganiad o Gyfrifon Drafft y BUEGC (yn amodol ar archwiliad) am 2022/23. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Nid oes gofyn statudol i’r
Bwrdd gymeradwyo’r fersiwn ddrafft o Ddatganiad o Gyfrifon y Cyd-bwyllgor, ond
ystyrir bod cyflwyno’r datganiad drafft er gwybodaeth yn arfer da i’w ddilyn. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr
eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 -Gwybodaeth
ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys
yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r ymgeiswyr ac yn tanseilio hyder rhai eraill i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau yma, mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: PENDERFYNWYD y dylid cau allan y wasg a’r
cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o
Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 -Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion
ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir,
fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus,
fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad ynglŷn â materion
ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif
o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r ymgeiswyr ac yn tanseilio
hyder rhai eraill i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach
o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am
y rhesymau yma, mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. |
|
CYLLID Y CYNLLUN TWF: PROSES NEWID PROSIECTAU- ARGYMHELLION TERFYNOL Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth
Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad (sydd wedi’i gylchredeg
i Aelodau’r Bwrdd yn unig). Penderfyniad: 1. Cefnogi'r argymhelliad
i'r prosiectau a ganlyn gael gwahoddiad i ymuno â phortffolio'r Cynllun Twf, yn
ddarostyngedig i gytundeb ariannwr y prosiect i'r amodau a nodir yn Atodiad A
i’r adroddiad: ·
Prosiect
Antur Cyfrifol gan Zip World - dyraniad amodol o £6.2m ·
Prosiect
Stiwdio Cinmel gan Stage Fifty - dyraniad amodol o £6.8m ·
Prosiect
Hwb Hydrogen Caergybi gan Menter Môn - dyraniad amodol o £3.8m ·
Prosiect
Gwastraff i Danwydd Glannau Dyfrdwy gan The Circular Economy Ltd - dyraniad
amodol o £6.4m ·
Prosiect
Porth Wrecsam gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - dyraniad amodol o £4.79m. 2. Dirprwyo'r awdurdod i'r
Cyfarwyddwr Portffolio a'r Swyddog Monitro i gadarnhau amodau gydag arianwyr y
prosiectau ac ymrwymo i Femorandwm o Ddealltwriaeth (MOU) gydag ariannwr pob
prosiect yn cadarnhau'r gofynion a'r disgwyliadau yn ymwneud â Chyllid y
Cynllun Twf. 3. Nodi nad yw gwahodd
prosiect i ymuno â'r Cynllun Twf yn benderfyniad i fuddsoddi yn y prosiect. Yn
unol â'r broses arferol i gael mynediad at gyllid, bydd gofyn i'r holl
brosiectau gynhyrchu achos busnes i'w ystyried gan y Bwrdd. 4. Dyrannu £350,000
ychwanegol o gyllid y Cynllun Twf i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio, drwy
gynyddu cyfraniad cyffredinol y Cynllun Twf o 2% i 2.15%. 5. Nodi argymhellion y
rhestr wrth gefn cychwynnol fel y nodir yn Atodiad D i’r adroddiad a gwneud
cais i’r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno papur mewn cyfarfod yn y dyfodol yn
cadarnhau'r argymhellion. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau). PENDERFYNWYD 1. Cefnogi'r
argymhelliad i'r prosiectau a ganlyn gael gwahoddiad i ymuno â phortffolio'r
Cynllun Twf, yn ddarostyngedig i gytundeb ariannwr y prosiect i'r amodau a
nodir yn Atodiad A i’r adroddiad: ·
Prosiect Antur
Cyfrifol gan Zip World - dyraniad amodol o £6.2m ·
Prosiect Stiwdio
Cinmel gan Stage Fifty - dyraniad amodol o £6.8m ·
Prosiect Hwb
Hydrogen Caergybi gan Menter Môn - dyraniad amodol o £3.8m ·
Prosiect Gwastraff
i Danwydd Glannau Dyfrdwy gan The Circular Economy Ltd - dyraniad amodol o
£6.4m ·
Prosiect Porth
Wrecsam gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - dyraniad amodol o £4.79m. 2. Dirprwyo'r
awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio a'r Swyddog Monitro i gadarnhau amodau
gydag arianwyr y prosiectau ac ymrwymo i Femorandwm o Ddealltwriaeth (MOU)
gydag ariannwr pob prosiect yn cadarnhau'r gofynion a'r disgwyliadau yn ymwneud
â Chyllid y Cynllun Twf. 3. Nodi
nad yw gwahodd prosiect i ymuno â'r Cynllun Twf yn benderfyniad i fuddsoddi yn
y prosiect. Yn unol â'r broses arferol i gael mynediad at gyllid, bydd gofyn
i'r holl brosiectau gynhyrchu achos busnes i'w ystyried gan y Bwrdd. 4. Dyrannu
£350,000 ychwanegol o gyllid y Cynllun Twf i gefnogi'r Swyddfa Rheoli
Portffolio, drwy gynyddu cyfraniad cyffredinol y Cynllun Twf o 2% i 2.15%. 5. Nodi
argymhellion y rhestr wrth gefn cychwynnol fel y nodir yn Atodiad D i’r
adroddiad a gwneud cais i’r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno papur mewn cyfarfod
yn y dyfodol yn cadarnhau'r argymhellion. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae angen gwneud penderfyniad ar ôl cwblhau'r
broses prosiectau newydd. TRAFODAETH Trafodwyd yr
adroddiad. |