Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- ·
Y
Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam); ·
Y
Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary
Pritchard yn dirprwyo; ·
Yana
Williams (Coleg Cambria); ·
Yr
Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda’r Athro Paul Spencer yn dirprwyo; ·
Neal
Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) gydag Andrew Farrow yn dirprwyo; ·
Dafydd
Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo. Croesawodd y
Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd
Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, fuddiant personol yn eitem 7 gan fod yr
adroddiad yn ymwneud â’i secondiad fel Prif Weithredwr Dros Dro'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig. Roedd o’r farn bod y
buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. Datganodd Dafydd Evans fuddiant personol yn eitem 9 gan fod Grŵp
Llandrillo Menai yn noddwr y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth. Roedd o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y
cyfarfod yn ystod y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion
brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 379 KB Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22
Medi, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 22 Medi, 2023 fel rhai cywir. |
|
CYD-BWYLLGOR BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2023 PDF 749 KB Sioned
Owen, Archwilio Cymru, i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Derbyn adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn amlygu cynllun Archwilio’r
Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2023. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Sioned Owen (Archwilio Cymru). Nodwyd:- ·
Bod
newidiadau i Safon Ryngwladol ar Archwilio 315 yn weithredol ar gyfer
archwiliadau cyfrifon o 2022/23 ymlaen.
Golygai hynny ei bod yn ofynnol i’r Swyddfa Archwilio wneud llawer iawn
mwy o waith i ystyried y risgiau, ac yna pwyso a mesur y risgiau hynny o ran yr
archwiliad, cyn adrodd i’r Cyd-bwyllgor. ·
Bod
y Cynllun Manwl yn amlygu’r risgiau a adnabuwyd, y ffi, y tîm archwilio ac
amserlen yr archwiliad. ·
Y
gosodwyd lefel perthnasedd o £73,000 eleni, gyda lefel is ar gyfer meysydd a
ystyrir sy’n bwysicach i’r darllenwr, megis cydnabyddiaeth uwch-swyddogion a
Datgeliadau Partïon Cysylltiedig. ·
Bod
Arddangosyn 1 ar dudalen 10 o’r Cyfrifon yn nodi’r risgiau o ganlyniad i asesiad
risg yr archwilwyr o’r Cyfrifon. Roedd
un risg sylweddol wedi’i nodi (Gwrth-wneud gan y Rheolwyr), sef y risg y gallai
rheolwyr ddiystyru rheolaethau. Fodd
bynnag, roedd y risg yma’n berthnasol ymhob corff ac ymhob cynllun archwilio
yng Nghymru, ond roedd yn ofynnol i’r archwilwyr ymateb i’r risg honno fel rhan
o’r gweithdrefnau archwilio. ·
Bod
y ddwy risg yn Arddangosyn 2 ar dudalen 11 o’r Cyfrifon yn rhai generig eu
natur hefyd ac yn cael eu cynnwys yn y mwyafrif o gynlluniau archwilio eto
eleni. ·
Na
nodwyd unrhyw risgiau sy’n benodol i Gyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru yn unig eleni. ·
Bod
Arddangosyn 3 ar dudalen 12 o’r Cyfrifon yn nodi amserlen y gwaith
archwilio. Roedd yr archwilwyr yn amcanu
i gwblhau’r gwaith o archwilio’r cyfrifon erbyn dechrau mis Tachwedd a
chyflwyno’r adroddiad i’r Bwrdd ganol y mis, ond yn cadw’r amserlen honno dan
olwg gyda’r swyddogion. ·
Bod
y ffi arfaethedig ar gyfer 2023 wedi cynyddu tua 15%, sef tua 5% o ganlyniad i
chwyddiant a 10.2% ar gyfer effaith safon archwilio ddiwygiedig Safon
Ryngwladol ar Archwilio 315 ar y dull archwilio ariannol. Pe byddai’r gwir ffi yn is na hynny, byddai
ad-daliad yn cael ei wneud i’r Bwrdd Uchelgais. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd Archwilio Cymru am y cyflwyniad. PENDERFYNWYD derbyn
adroddiad Archwilio Cymru a
oedd yn amlygu cynllun Archwilio’r Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2023. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Er mwyn cyflawni eu
cyfrifoldebau statudol fel archwilydd allanol ac i gyflawni eu rhwymedigaethau
dan y Cod Ymarfer Archwilio, mae Archwilio Cymru yn cwblhau gwaith bob blwyddyn
er mwyn cyflawni’r dyletswyddau canlynol:- ·
Archwilio
datganiadau ariannol Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau y rhoddir cyfrif priodol am arian cyhoeddus; ·
Rhaid i’r Cyd-bwyllgor roi trefniadau ar waith i gael gwerth
am arian am yr adnoddau y mae’n eu defnyddio, a rhaid i’r Archwilydd
Cyffredinol fod wedi’i fodloni ei fod yn gwneud hyn. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 2 PDF 248 KB Hedd
Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Nodi Adroddiad
Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru. 2. Cymeradwyo cyflwyno
Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd
â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau. PENDERFYNWYD 1.
Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'u diweddaru. 2.
Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae
adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o
ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda
Llywodraeth Cymru, Llywodraeth
y DU a phwyllgorau craffu'r
awdurdodau lleol. TRAFODAETH Mynegwyd pryder
ynglŷn â’r oedi i amserlen prosiect Cysylltu yr Ychydig % Olaf o ganlyniad
i’r ffaith bod gweithgaredd caffael ar y prosiect wedi’i atal nes bod
Llywodraeth y DU yn cadarnhau dyddiad lansio eu hymyrraeth newydd. Nodwyd bod Prosiect Gigabit
£5bn y Llywodraeth wedi’i gyhoeddi yn 2019, ond nad oedd Cymru wedi derbyn
unrhyw fudd ohono. Awgrymwyd bod gan
Lywodraeth y DU record wael o ran cyflenwi cysylltedd digidol yng Nghymru a
chredid ein bod yn peryglu ein prosiect ein hunain tra’n aros iddynt
ymateb. Awgrymwyd y dylai’r Bwrdd osod
terfyn amser ar hyn, gan ystyried symud yn ein blaenau ein hunain os nad yw’r
Llywodraeth yn ymateb. Mewn ymateb,
nodwyd:- ·
Y
cytunid yn llwyr â’r pryderon a bod y swyddogion mewn cyswllt rheolaidd â’u cydweithwyr yn Llywodraeth y DU er mwyn amlygu arwyddocâd y risg. ·
Yn
ôl dealltwriaeth y swyddogion, bod Llywodraeth y DU
yn bwriadu lansio’r gweithgaredd caffael ar gyfer yr ymyrraeth
yma yn Ionawr 2024. ·
O
ran yr awgrym y dylem symud ymlaen
ein hunain os nad yw’r
Llywodraeth yn ymateb, bod angen cadw mewn
cof mai’r nod yn y pen draw
yw sicrhau’r cysylltedd gorau ar gyfer ein cymunedau. Pe byddem yn symud ymlaen i
weithredu’r prosiect sydd wedi’i ddatblygu
a’i ddylunio gennym, byddai’n rhaid cael sicrwydd
na fyddai hynny’n peryglu cysylltedd Gigabit yn y dyfodol i’r llefydd hynny
y gallai ein hymyrraeth ni eu
cyrraedd. ·
Er
ein bod yn barod i symud ymlaen
i gaffael ar ein prosiect ein
hunain, byddai’n rhaid i ni
ddal ein hunain yn atebol am sicrhau ein bod yn dewis y llwybr gorau i gael
y cysylltedd gorau ar gyfer ein cymunedau. Y cysylltedd gorau fyddai cysylltedd
Gigabit, na fyddai ein prosiect ni,
o reidrwydd, yn gallu ei ddarparu. ·
Bod
y drafodaeth yn un sensitif,
yn amlwg, ond ein bod yn pryderu bod gwerth ein buddsoddiad
yn gostwng wrth i ni aros
am ragor o eglurder. Cytunwyd i anfon
llythyr at Lywodraeth y DU, ar ran y Bwrdd, yn amlygu’r pryderon uchod. Gofynnwyd am ragor
o fanylion ynglŷn â’r bwlch hyfywedd ar brosiect Cyn Ysbyty Gogledd
Cymru. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Y
cytunwyd i roi £3m tybiannol ychwanegol i’r prosiect hwn yn gynharach eleni gyda’r bwlch hyfywedd
gwreiddiol. · Bod y bwlch wedi cynyddu, a hynny’n mae’n debyg o ganlyniad i’r ffaith bod y costau’n cynyddu a’r farchnad dai yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Dylan
Williams, Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd
Uchelgais, i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: 1.
Bod
y Bwrdd Uchelgais yn cefnogi
ymestyn y trefniant i ryddhau amser
y Cyfarwyddwr Portffolio am
ddau ddiwrnod yr wythnos tan 31 Mawrth, 2024 er
mwyn parhau i ymgymryd â rôl
y Prif Weithredwr ar sail dros dro. 2. Bod yr holl gyflogaeth a'r costau cysylltiedig yn parhau i gael eu hysgwyddo gan CBC y Gogledd Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dylan Williams, Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru
ar gyfer y Bwrdd Uchelgais. PENDERFYNWYD 1.
Bod y Bwrdd Uchelgais yn cefnogi ymestyn y trefniant i ryddhau amser
y Cyfarwyddwr Portffolio am
ddau ddiwrnod yr wythnos tan 31 Mawrth, 2024 er
mwyn parhau i ymgymryd â rôl
y Prif Weithredwr ar sail dros dro. 2.
Bod yr holl gyflogaeth
a'r costau cysylltiedig yn parhau i gael eu
hysgwyddo gan CBC y
Gogledd. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Gan
ystyried penderfyniad mewn egwyddor y cynghorau i drosglwyddo
swyddogaethau Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gynorthwyo rhanbarth
y Gogledd i sefydlu'r CBC,
a sicrhau bod buddiannau'r Bwrdd Uchelgais yn cael eu diogelu wrth
i'r CBC symud ymlaen. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Cofnod: PENDERFYNWYD cau
allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau
canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 -
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a
masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei
chyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol
ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif
o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn
tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth
sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn
yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
RHWYDWAITH TALENT TWRISTIAETH - ACHOS BUSNES AMLINELLOL Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth, i gyflwyno’r adroddiad (sydd wedi’i gylchredeg i Aelodau’r Bwrdd yn unig). Penderfyniad: 1. Bod y Bwrdd
yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Talent
Twristiaeth, yn amodol ar Grŵp Llandrillo Menai (GLlM)
yn ymdrin â'r materion a amlinellir yn yr adroddiad a gyflwynwyd i aelodau’r
Bwrdd, fel y'u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i'r Bwrdd Uchelgais
Economaidd fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried yn
dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd. 2. Bod y Bwrdd
yn dirprwyo’r gymeradwyaeth derfynol o’r fanyleb gaffael a’r meini prawf gwerth
cymdeithasol sydd i’w gynnwys gan Grŵp Llandrillo Menai yn eu caffael i'r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd. 3. Bod y Bwrdd
yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 ac
Swyddog Monitro yr Awdurdod Lletya i gytuno ar delerau drafft yn unol â'r
adroddiad hwn i'w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd fel sail i'r
trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect, fydd yn sail i’r Llythyr
Cynnig Grant a gytunir gan y Bwrdd yn ystod y cam Achos Busnes Llawn. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth. PENDERFYNWYD 1. Bod y Bwrdd yn
cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Talent
Twristiaeth, yn amodol ar Grŵp Llandrillo Menai (GLlM)
yn ymdrin â'r materion a amlinellir yn yr adroddiad a gyflwynwyd i aelodau’r
Bwrdd, fel y'u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i'r Bwrdd Uchelgais
Economaidd fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried yn
dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd. 2. Bod y Bwrdd yn
dirprwyo’r gymeradwyaeth derfynol o’r fanyleb gaffael a’r meini prawf gwerth
cymdeithasol sydd i’w gynnwys gan Grŵp Llandrillo Menai yn eu caffael i'r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd. 3. Bod y Bwrdd yn awdurdodi'r
Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno ar delerau
drafft yn unol â'r adroddiad hwn
i'w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd fel sail i'r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect, fydd yn sail i’r Llythyr Cynnig Grant a gytunir gan y Bwrdd
yn ystod y cam Achos Busnes Llawn. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd Portffolio i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect
Rhwydwaith Talent Twristiaeth. |
|
DIWEDDARIAD I ACHOS BUSNES Y PORTFFOLIO Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad (sydd wedi’i gylchredeg i Aelodau’r Bwrdd yn unig). Penderfyniad: 1. Bod
y Bwrdd yn cymeradwyo diweddariad 2023 Achos Busnes y Portffolio yn ogystal â’r
cais am newid cysylltiedig ac yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol. 2. Bod y Bwrdd yn gofyn i'r Cyfarwyddwr
Portffolio gyflwyno'r holl ddogfennaeth ofynnol a'r ffurflen gais i newid i
Lywodraethau Cymru a'r DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol a
dirprwyo hawl i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac
Is-gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a'r
Swyddog a151 i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad y
trosglwyddiad arian ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth
neu’r llall. 3. Bod y Bwrdd yn nodi bod
angen cyflwyno adroddiad Adolygiad Porth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
fel rhan o’r Achos Busnes Portffolio ac yn gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio
ddatblygu cynllun gweithredu i’r Bwrdd ei ystyried i fynd i’r afael â'r
argymhellion unwaith y bydd yr adroddiad terfynol wedi'i dderbyn. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau. PENDERFYNWYD 1. Bod y Bwrdd yn cymeradwyo
diweddariad 2023 Achos Busnes y Portffolio yn ogystal â’r cais am newid
cysylltiedig ac yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan
o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol. 2. Bod y Bwrdd yn gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio
gyflwyno'r holl ddogfennaeth ofynnol a'r ffurflen gais i newid i Lywodraethau
Cymru a'r DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol a dirprwyo hawl i'r
Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a'r Swyddog a151 i negodi
gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad y trosglwyddiad arian ac
i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth neu’r llall. 3. Bod y Bwrdd yn nodi bod angen cyflwyno
adroddiad Adolygiad Porth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o’r
Achos Busnes Portffolio ac yn gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu
cynllun gweithredu i’r Bwrdd ei ystyried i fynd i’r afael â'r argymhellion
unwaith y bydd yr adroddiad terfynol wedi'i dderbyn. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae'n ofynnol dan
Gytundeb Terfynol y Cynllun Twf bod Achos Busnes y Portffolio yn cael ei
ddiweddaru'n flynyddol a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel
rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol. |