Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679325

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y Bwrdd.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Mark Pritchard yn Gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y Bwrdd.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y Bwrdd, os yw’r angen yn codi.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Charlie McCoubrey yn Is-gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y Bwrdd.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 142 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2024 fel rhai cywir.

7.

CAIS AM NEWID Y PROSIECT CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 235 KB

David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

·         Cytuno mewn egwyddor i’r cais am newid i dderbynnydd y grant ar gyfer prosiect Cyn-Ysbyty Gogledd Cymru

·         Dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar fanylion y cais am newid, gan gynnwys unrhyw welliannau pellach y gallai fod eu hangen i’w cwblhau ac ymrywymo i’r Cytundeb Ariannu Grant.

 

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

9.

PARC BRYN CEGIN, BANGOR - ACHOS BUSNES AMLINELLOL

David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) a Margaret Peters (Rheolwr Prosiect Tir ac Eiddo) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.    Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Parc Bryn Cegin, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd, ac Uchelgais Gogledd Cymru yn ymdrin â’r materion a amlinellir yn yr adroddiad, fel y’u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i’r Bwrdd Uchelgais fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i’r Bwrdd ei Ystyried.

2.    Derbyn y bydd cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol yn gweithredu fel cymeradwyaeth i’r cais am newid i’r prosiect i leihau cwmpas  prosiect ar gyfer Cam 1 o 3,000 metr sgwâr i 1,856 metr sgwâr o unedau cyflogaeth newydd arfaethedig.

3.    Cytuno ar y broses ddiwygiedig a fydd yn gweld Achos Busnes Llawn yn cael ei gyflwyno ar ôl cwblhau’r Cytundeb Cyd-fenter a chadarnhau cyllid Llywodraeth Cymru cyn dechrau caffael.

4.    Cytuno ar egwyddorion y cynnig Cyd-fenter fel y’u nodir ac yn dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo a ymrwymo i’r cytundeb.

5.    Nodi’r adenillion a ragwelir fel rhan o’r Cytundeb Cyd-fenter ac yn cymeradwyo mewn egwyddor (yn amodol ar gadarnhau’r Achos Busnes Lawn) bod yr incwm a dderbynnir yn cael ei ddyrannu i gronfa wrth gefn i’w defnyddio i ariannu’r Swyddfa Rheoli Portffolio yn y  blynyddoedd i ddod.

6.    Cynnal trafodaeth bellach ar Gam 2 y Prosiect yn dilyn cwblhau Cam 1.

 

10.

CAIS AM NEWID Y PROSIECT ANTURIAETHAU CYFRIFOL

Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf) a Dafydd Jones (Rheolwr Prosiect Bwyd-amaeth a Thwristiaeth) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

·         Cytuno i’r cais am newid ar gyfer y prosiect Anturiaethau Cyfrifol ac yn cynnwys siglen ar safle Penrhyn yn y prosiect am y tro, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

·         Cadarnhau na fydd unrhyw gyllid pellach ar gyfer y prosiect yn cael ei ddarparu o’r Cynllun Twf, gyda’r gost ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cais am newid i’w hariannu gan Ariannwr y Prosiect.