Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Maria Hinfelaar (Prifysgol Glyndŵr), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol
Bangor), Yana Williams (Coleg Cambria), Annwen Morgan
(Cyngor Sir Ynys Môn) ac Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2020 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais
a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2020 fel rhai cywir. |
|
Adroddiad gan
Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Mabwysiadu’r Fframwaith Rheoli
Risg sydd ynghlwm i’r adroddiad ac fel yr amlinellir yn Atodiad 1, gan ofyn i’r
Swyddfa Rhaglen addasu y fformat yn unol â’r pwyntiau a nodwyd yn y drafodaeth,
a datblygu Strategaeth Rheoli Risg yn unol â’r egwyddorion yn y fframwaith fel
rhan o’r pecyn terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. (b) Nodi y bydd adroddiad yn
adolygu cynnwys y gofrestr risg yn unol â’r fframwaith newydd yn cael ei
gyflwyno i gyfarfod nesaf y Bwrdd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr
Gweithrediadau. PENDERFYNWYD (a) Mabwysiadu’r Fframwaith Rheoli Risg sydd
ynghlwm i’r adroddiad ac fel yr amlinellir yn
Atodiad 1, gan ofyn i’r Swyddfa
Rhaglen addasu y fformat yn unol
â’r pwyntiau a nodwyd yn y drafodaeth
a datblygu Strategaeth Rheoli Risg yn
unol â’r egwyddorion yn y fframwaith fel rhan o’r pecyn
terfynol ar gyfer Cynllun Twf
Gogledd Cymru. (b) Nodi y bydd adroddiad
yn adolygu cynnwys y gofrestr risg yn unol
â’r fframwaith newydd yn cael
ei gyflwyno i gyfarfod nesaf
y Bwrdd. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae angen i’r Swyddfa
Rhaglen osod trefniadau rheoli risg effeithiol er mwyn sicrhau
y gellir cyflawni Cynllun Twf Gogledd
Cymru yn llwyddiannus. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad oedd
yn diweddaru Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar drefniadau
rheoli risg er mwyn cyflawni
Cynllun Twf Gogledd Cymru. Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Eglurwyd bod hwn yn adroddiad
ar y Fframwaith Rheoli, ac nid ar y risgiau eu
hunain, ac y byddai’r risgiau yn cael
eu trafod yn y cyfarfod nesaf. Nodwyd mai’r ddau risg
mwyaf oedd capasiti a chefnogaeth y sector preifat, a hynny oherwydd effeithiau Cofid-19. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd bod y Fframwaith Rheoli Risg i’w
ganmol, ond awgrymwyd ychwanegu’r canlynol at y templed:- ·
Colofn tueddiad risg (gwell, gwaeth neu
statig); ·
Colofn yn nodi pa mor sydyn y bydd risgiau na
liniarwyd yn cael adrawiad (yn syth, yn y tymor byr
neu’r tymor canolig). ·
Ail golofn goleuadau traffig yn dangos lefel y
risg yn sgil gweithredu camau i wella’r sefyllfa. Mewn ymateb, nodwyd y bwriedid gweithio ar dempled diwygiedig
fyddai’n cynnwys sgorau a thueddiadau risgiau a liniarwyd, gan hefyd ymgorffori’r
awgrymiadau uchod. Nodwyd nad oedd
Atodiad 2 yn gwneud unrhyw gyfeiriad
at newid cyfeiriad y Llywodraeth. Mewn ymateb, nodwyd
mai’r fframwaith yn unig oedd
dan ystyriaeth yn y cyfarfod hwn,
ac y byddai’r gofrestr risg yn cael
ei thrafod yn y cyfarfod nesaf. Cytunwyd â’r fframwaith gyda’r sylwadau a nodwyd, gan dderbyn
y bydd yna adroddiad ar y sefyllfa risg i’r
cyfarfod nesaf. |
|
CYTUNDEB LLYWODRAETHU 2 Adroddiad gan Iwan G. D. Evans, Swyddog Monitro – Awdurdod
Lletya. Penderfyniad: Cymeradwyo yr amserlen. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Iwan G.D.Evans, Swyddog Monitro – Awdurdod Lletya. PENDERFYNWYD cymeradwyo
yr amserlen. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae cytundeb y bartneriaeth yn allweddol i
gytuno ar Gytundeb Llywodraethu 2 cynhwysfawr (“GA2”).
Adroddwyd i’r cyfarfod blaenorol ar y materion yma. Mae’r adroddiad hwn yn
diweddaru'r amserlen ar gyfer y gwaith. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad oedd
yn cyflwyno Cynllun GA2 wedi’i ddiweddaru i’r Bwrdd ac yn adrodd
ar ddeilliannau’r Gweithdy Llywodraethu. Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol, yr amserlen, goblygiadau
cyfreithiol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Nodwyd y bwriedid adrodd ar fodelau arfaethedig
a dogfennaeth derfynol i bwyllgorau craffu
yn ystod ail hanner mis Hydref;
i’r Cabinet yn ystod ail hanner mis Tachwedd ac i gyfarfodydd Cyngor o fewn hanner cyntaf
Rhagfyr. Eglurwyd fod gwaith penodol
i’w gwblhau o amgylch sefydlu ymrwymiadau ariannol y partneriaid ar gyfer y cytundeb GA2 a’r Cynllun Twf
yn benodol. Roedd hyn yn allweddol
o ran symud ymlaen i gael argymhellion i’r cynghorau eu mabwysiadu
yn unol â’r
amserlen. Bwriedid cynnal gweithdy swyddogion ym mis Awst,
fyddai’n cynnwys swyddogion y Grŵp Gweithredol, ynghyd â Chyfarwyddwyr Cyllid y partneriaid o’r cynghorau a’r colegau
i ddechrau cyrraedd safbwynt ar broffilio gwariant
y prosiectau a’r fframwaith ariannol yn GA2. Yn dilyn hynny,
byddai angen cynnal y gweithdy a nodwyd yn y rhaglen
waith i gynrychiolwyr
ac aelodau’r Bwrdd Uchelgais i drafod
canlyniad y gweithdy swyddogion ac i ddod i safbwynt
ar y ffordd ymlaen, ond hynny
ym mis Medi. Pwysleisiwyd bod yna falans i’w
daro rhwng yr awch i
symud yn gynnar gyda’r prosiectau,
ac effaith cost hynny o ran
llif arian. Nodwyd y comisiynwyd gwaith arbenigol dros y pythefnos nesaf fyddai’n dod
â gwybodaeth gerbron y gweithdy swyddogion, gyda ffrwyth hynny’n
cael ei gyflwyno
i’r gweithdy aelodau yn ei
dro. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig
bod yr Arweinyddion yn rhan o’r
gweithdai i’w cynnal gydag aelodau’r
cynghorau i gefnogi’r Cynllun. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - YMGYSYLLTU A'R SECTOR PREIFAT Adroddiad gan
Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen. Penderfyniad: (a) Nodi statws y perthnasau a’r
sianeli ymgysylltu cyfredol gyda’r Sector Preifat. (b) Nodi bwriad Cyngor Busnes
Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i dynnu’n ôl fel partner i Fwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru. (c) Nodi Cylch Gorchwyl drafft a
gyflwynir gan Gadeirydd dros dro’r Grŵp Cyflawni Busnes a gofyn am
adroddiad pellach gan y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Swyddog
Monitro’r Awdurdod, ar y diwygiadau arfaethedig i gylch gorchwyl y Grŵp
Cyflawni Busnes a fabwysiedir gan y Bwrdd Uchelgais. (ch) Cadarnhau’r camau a’r
gweithredoedd nesaf arfaethedig i wella ymgysylltu a dealltwriaeth y sector
preifat. (d) Gohebu â Gweinidog yr Economi,
Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i weld oes modd i Lywodraeth Cymru wneud cyfraniad
i gefnogi Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, a chyflwyno adroddiad
llawer mwy manwl ynglŷn â threfniadaeth ymgysylltu â’r sector preifat i’r
cyfarfod nesaf. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen. PENDERFYNWYD (a) Nodi statws y perthnasau a’r sianeli ymgysylltu cyfredol gyda’r
Sector Preifat. (b) Nodi bwriad Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i
dynnu’n ôl fel partner i Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru. (c) Nodi Cylch Gorchwyl drafft a gyflwynir gan Gadeirydd dros dro’r
Grŵp Cyflawni Busnes a gofyn am adroddiad pellach gan y Cyfarwyddwr
Rhaglen mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, ar y diwygiadau
arfaethedig i gylch gorchwyl y Grŵp Cyflawni Busnes a fabwysiedir gan y
Bwrdd Uchelgais. (ch) Cadarnhau’r camau a’r gweithredoedd nesaf arfaethedig i wella
ymgysylltu a dealltwriaeth y sector preifat. (d) Gohebu â Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i
weld oes modd i Lywodraeth Cymru wneud cyfraniad i gefnogi Cyngor Busnes
Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, a chyflwyno adroddiad llawer mwy manwl
ynglŷn â threfniadaeth ymgysylltu â’r sector preifat i’r cyfarfod nesaf. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae angen penderfyniad er mwyn galluogi
i’r Swyddfa Rhaglen fuddsoddi mewn dylunio a chyflawni mecanweithiau ar gyfer gwella
ymgysylltu gyda’r sector preifat yn y Gogledd. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad oedd
yn:- ·
Cyflwyno trosolwg o’r berthynas a’r sianeli
ymgysylltu cyfredol rhwng Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r sector
preifat yn y Gogledd (Atodiad 1). ·
Cyflwyno diweddariad i’r aelodau ar statws
Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy fel
partner i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Atodiad 2). ·
Cyflwyno
Cylch Gorchwyl drafft arfaethedig a gyflwynwyd i’r ystyried gan Gadeirydd
dros dro'r Grŵp Cyflawni Busnes (Atodiad 3). ·
Cynnig y camau nesaf a’r dull o gryfhau
perthynas, ymgysylltiad ac ymglymiad y sector preifat yng Nghynllun Twf Gogledd
Cymru (Atodiad 4). Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol, goblygiadau cyfreithiol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Cyfeiriwyd at benderfyniad Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i dynnu’n ôl
o’r Bwrdd Uchelgais, a rhannwyd llythyr ymddiswyddo’r Cyngor Busnes yn ei
gyfanrwydd gyda’r aelodau. Diolchwyd yn arbennig
i Ashley Rogers am ei gyfraniad dros y blynyddoedd i waith
y Bwrdd wrth ddatblygu prosiectau a symud yr holl
gynllun yn ei flaen. Nodwyd y cydnabyddid, yn yr hinsawdd sydd
ohoni, bod rhaid i brif ffocws
y Cyngor Busnes fod ar y busnesau maent
yn eu cynrychioli. Fodd bynnag, er bod y sefyllfa’n un drist,
gallai hyn agor y drws i’r
Bwrdd ail-edrych ac atgyfnerthu ei berthynas â’r sector preifat drwy greu
rhywbeth newydd ac arloesol, fyddai’n cynnig cyfraniad sylweddol gan y sector preifat eto. Ychwanegwyd y bydd y sector preifat yng Ngogledd Cymru
yn gefnogol i amcanion y Cynllun
Twf, a chroesawyd y ffaith bod yna rywbeth cadarnhaol yn dod allan o sefyllfa ddigon anodd. Nodwyd ymhellach y cynhaliwyd cyfarfod eisoes gydag Ashley Rogers a Jim Jones o’r
Cyngor Busnes i drafod eu syniadau
ar gyfer cydweithio gyda’r Bwrdd yn y dyfodol. Nodwyd eu bod yn fudd-ddeiliaid
gyda chyfraniad i’w wneud, a bod rhai syniadau da iawn wedi’u crybwyll
eisoes. Nodwyd, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r
wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 14, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r
paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod cynnwys yr eitem yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a
masnachol sensitif am y prosiectau. Mae hyn yn berthnasol i sefyllfa y
cynghorau ond yn benodol y partïon sydd yn ceisio, neu yn bartneriaid ar gyfer
prosiectau o fewn y Rhaglenni Cynllun Twf. Cofnod: PENDERFYNWYD
cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitem ganlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 14, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod cynnwys yr eitem
yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a masnachol sensitif am y prosiectau. Mae hyn yn berthnasol
i sefyllfa y cynghorau, ond yn benodol y partïon
sydd yn ceisio,
neu yn bartneriaid
ar gyfer prosiectau o fewn y Rhaglenni Cynllun Twf. |
|
ADOLYGIAD GWAELODLIN PROSIECTAU Adroddiad i’w
gylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig. Penderfyniad: (a) Nodi cynnwys yr adroddiad
adolygiad gwaelodlin a’r cyflwyniad a wnaed yn y cyfarfod, a pharhau i
ddatblygu prosiectau er mwyn cynorthwyo i sicrhau’r Cytundeb Twf Terfynol ar y
cyfle cyntaf bosib’. (b) Cadarnhau ailenwi’r ‘Rhaglen Diwydiannau’r Tir a
Thwristiaeth’ yn Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth. (c) Cadarnhau ailenwi’r ‘Rhaglen Gweithgynhyrchu Uwch’ yn
Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr
Gweithrediadau. PENDERFYNWYD (a) Nodi cynnwys yr
adroddiad adolygiad gwaelodlin a’r cyflwyniad a wnaed yn y cyfarfod, a pharhau i ddatblygu
prosiectau er mwyn cynorthwyo i sicrhau’r Cytundeb
Twf Terfynol ar y cyfle cyntaf
bosib’. (b) Cadarnhau ailenwi’r ‘Rhaglen Diwydiannau’r Tir a Thwristiaeth’ yn Rhaglen Bwyd-Amaeth
a Thwristiaeth. (c) Cadarnhau ailenwi’r ‘Rhaglen Gweithgynhyrchu Uwch’ yn Rhaglen
Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Diweddaru Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar sefyllfa
pob rhaglen a phrosiect fel rhan
o’r broses o gyrraedd Cytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun
Twf Gogledd Cymru. Derbyn cymeradwyaeth y Bwrdd i ailenwi dwy
o’r rhaglenni fel eu bod yn
adlewyrchu eu cylch gorchwyl perthnasol yn fwy
cywir. TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad. |