Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21. Cofnod: Bu i Cyng. Dyfrig
Siencyn gael ei ethol yn gadeirydd ar gyfer 2020/21. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21. Cofnod: Bu i Cyng. Mark
Pritchard gael ei ethol yn is-gadeirydd ar gyfer 2020/21. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cyng. Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam) ac
Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatgan o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Nid oedd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2020 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 31
Gorffennaf 2020 fel rhai cywir. |
|
Alwen Williams i gyflwyno y pecyn o’r dogfennau allweddol sydd eu angen ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU ac Llywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ¾
Cymeradwywyd
cyflwyno'r Achos Busnes Portffolio a'r pum Achos Busnes Rhaglen i
Lywodraethau'r DU a Chymru am Gytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru. ¾
Cytundwyd
bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol
sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar
gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda
Llywodraethau'r DU a Chymru. ¾
Cytunwyd
bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo ac yn ymrwymo i Gytundeb
Llywodraethu 2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r dirprwyadau a'r Cylch Gorchwyl yn
“Atodiad 1 o Gytundeb Llywodraethu 2” ohono fel sail ar gyfer ymrwymo i'r
Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a
Chymru. ¾
Cymeradwywyd
y dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i
hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner
blynyddol cyfatebolsydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon a’r cyfraniadau craidd
ac atodol sydd wedi’u sefydlu, fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau
5.5 - 5.7 o’r adroddiad). ¾
Cytunwyd
bod y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y
Bwrdd Uchelgais, Swyddog Monitro'r Corff Atebol a Swyddog Adran 151 y Corff
Atebol, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau
fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb. ¾
Cymeradwywyd
ailenwi'r Swyddfa Rhaglen yn Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol ag arfer gorau
ac o ganlyniad i hynny, newid teitl swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Gyfarwyddwr
Portffolio. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen. PENDERFYNWYD ¾
Cymeradwywyd cyflwyno'r Achos
Busnes Portffolio a'r pum Achos Busnes Rhaglen i Lywodraethau'r DU a Chymru am
Gytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru. ¾
Cytunwyd bod pob un o'r Partïon yn
unigol yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol sy'n nodi'r trefniadau ar
gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb
Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru. ¾
Cytunwyd bod pob un o'r Partïon yn
unigol yn cymeradwyo ac yn ymrwymo i Gytundeb Llywodraethu 2 ac yn benodol yn
mabwysiadu'r dirprwyadau a'r Cylch Gorchwyl yn “Atodiad 1 o Gytundeb
Llywodraethu 2” ohono fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn
y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru. ¾
Cymeradwywyd y dull a ddefnyddir i
gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i hwyluso'r llif arian
negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner blynyddol
cyfatebolsydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon a’r cyfraniadau craidd ac atodol
sydd wedi’u sefydlu, fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 5.5 - 5.7
o’r adroddiad). ¾
Cytunwyd bod y Cyfarwyddwr Rhaglen,
mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais, Swyddog
Monitro'r Corff Atebol a Swyddog Adran 151 y Corff Atebol, yn derbyn awdurdod
dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau fel sydd angen i gwblhau'r
cytundeb. ¾
Cymeradwywyd ailenwi'r Swyddfa
Rhaglen yn Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol ag arfer gorau ac o ganlyniad i
hynny, newid teitl swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Gyfarwyddwr Portffolio. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Yn 2016,
mabwysiadodd partneriaid y Bwrdd Uchelgais Weledigaeth Twf ar gyfer Economi
Gogledd Cymru. Yn seiliedig ar Strategaeth y Weledigaeth Twf, yn Hydref 2018
cytunwyd ar y Cynllun Twf gan holl bartneriaid y Bwrdd Uchelgais drwy weithio
gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r sector breifat. Yn Nhachwedd 2019 cytunodd y Bwrdd Uchelgais
a’r ddwy Lywodraeth i Benawdau’r Telerau, gyda Chytundeb Terfynol i’w gwblhau
yn 2020. Mae’r Bwrdd
Uchelgais wedi ymrwymo i gyrraedd Cytundeb Terfynol gyda’r ddwy Lywodraeth cyn
diwedd Rhagfyr 2020. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn garreg filltir yn nhaith y Bwrdd
Uchelgais. Tynnwyd sylw tuag at yr argymhellion oedd yn cael ei amlygu ar
ddechrau’r adroddiad. Amlygwyd yr
amserlen gan nodi fod llawer wedi digwydd o fewn y 10 mis diwethaf. Nodwyd fod y
swyddfa raglen wedi bod yn gweithio yn ddiwyd ar y dogfennau perthnasol, ac y
bydd y cytundeb Terfynol yn cael ei ddiogelu ar sail Achos Busnes Portffolio ac
5 Achos Busnes Rhaglen. Mynegwyd fod yr Achos Busnes Portffolio yn amlygu’r
prif amcanion yn rhoi crynodeb o’r cynnig ariannu ar gyfer Cynllun Twf Gogledd
Cymru, ar gyfer cynnwys yn y Cytundeb Terfynol. Pwysleisiwyd fod yr achosion
busnes yn rhai byw sydd yn cael eu hadolygu yn gyson. Tynnwyd sylw at bob achos
busnes yn unigol. Amlygwyd y Cynllun Busnes Cyffredinol gan bwysleisio ei fod yn gosod allan y trefniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2020/21 - ADOLYGIAD AIL CHWARTER Dafydd L Edwards i
darparu manylion y gwariant a'r incwm gwirioneddol ar gyfer ail chwarter
blwyddyn ariannol 2020/21. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd Adolygiad Ail
Chwarter y Cyd-Bwyllgor ar gyfer 2020/21. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dafydd Edwards, Swyddog Cyllid Statudol – Awdurdod Lletya. PENDERFYNWYD Derbyniwyd a nodwyd Adolygiad Ail
Chwarter y Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD Mynegwyd fod angen darparu manylion y gwariant a’r
incwm gwirioneddol ar gyfer ail chwarter blwyddyn ariannol 2020/21 i’r Bwrdd
uchelgais ynghyd a rhagamcaniad o’r alldro blwyddyn lawn yn erbyn y gyllideb
flynyddol. Er mwyn gweithredu’n effeithiol mae angen i’r
Cydbwyllgor fod yn ymwybodol o’i sefyllfa gwariant a rhagamcan yn erbyn ei
gyllideb flynyddol gymeradwy. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi er y pandemig fod y sefyllfa gyllidebol yn dderbyniol.
Amlygwyd fod £78mil o danwariant gan nodi fod hyn yn bennaf o ganlyniad i oedi cyn penodi rhai swyddi o ganlyniad i’r
panedemig. Er hyn nodwyd ei fod yn dderbynion ac nad yw’r Bwrdd Uchelgais mewn
unrhyw drafferthion ariannol. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth: · Diolchwyd
i’r staff yr adran gyllid am ei gwaith caled. ·
Nodwyd ymwybyddiaeth o
gyllideb iach. |