Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Ian Bancroft
(Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Annwen Morgan (Cyngor Sir Ynys Mon) a
Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 233 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2021 fel rhai cywir. |
|
ADOLYGIAD ARIANNOL CHWARTER 3 PDF 80 KB Dewi A.
Morgan, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod
Lletya a Sian Pugh, Cyfrifydd
Grŵp yr Awdurdod Lletya i ddarparu manylion
y gwariant a'r incwm gwirioneddol ar gyfer trydydd
chwarter blwyddyn ariannol 2021/22 i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ynghyd â rhagamcaniad o'r alldro blwyddyn
lawn yn erbyn ei gyllideb flynyddol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd yr adolygiad trydydd chwarter refeniw a
chyfalaf Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22. Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i drosglwyddo unrhyw
danwariant yn 2021/22 i'r gronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi a fydd ar gael yn
y dyfodol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog
Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a
Phrosiectau) PENDERFYNWYD Derbyniwyd a nodwyd yr adolygiad trydydd chwarter
refeniw a chyfalaf Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22. Derbyniwyd
cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2021/22 i'r
gronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi a fydd ar gael yn y dyfodol. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Nodwyd tanwariant
a ragwelir o £297,140 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2021/22. Mynegwyd y gellir
trosglwyddo unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i'r gronfa wrth
gefn sydd wedi'i chlustnodi. Mynegwyd fod llithriad bach pellach ar y rhaglen
gyfalaf o ganlyniad i oedi gydag achos busnes terfynol un o'r prosiectau. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi diolch i’r Cyd-Bwyllgor am eu croeso
i’r Pennaeth Cyllid newydd yng Nghyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad
oedd i adrodd ar gyllideb ar gyfer chwarter 3 gan nodi y gwir wariant yn erbyn
y gyllideb. Nodwyd fod yr Adran Gyllid yn amcanu tanwariant o £197k ar gyfer y
Swyddfa Rheoli Rhaglen. Mynegwyd fod hyn wedi cynyddu £69k ers y chwarter
diwethaf, yn bennaf oherwydd bod gwariant is bellach yn cael ei amcanu ar gyfer
y pennawd Gwariant Gweithwyr a’r pennawd Caffael a Chefnogaeth Allanol
Trafnidiaeth. Amlygwyd fod tanwariant o £18k yn parhau o dan bennawd y
Cyd-Bwyllgor. O ran prosiectau mynegwyd fod rhaid i’r gwariant yma gael ei ystyried yn
nghyd-destun y grant datgarboneiddio o £500k a’r gronfa adfywio cymunedol o
£80k a ddangoswyd o dan y gyllideb incwm gyfatebol ac a gymeradwywyd yn ystod y
flwyddyn. Amlygwyd fod penawdau datblygu achosion busnes, cefnogaeth
gyfreithiol allanol a sicrwydd hefyd yn cynyddu mewn tanwariant yn sgil
llithriad ar y rhaglen gyfalaf. Eglurwyd fod yr Adran Gyllid yn ail ymweld â’r
costau benthyca a gyfrifwyd yn ôl yn Hydref 2020 a bydd yn adrodd yn ôl ar
hynny yn y cyfarfod nesaf. Eglurwyd fod y ffynonellau incwm ar gyfer 2021/22 yn cynnwys cyfraniadau
partneriaid, Grant ESF, Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru, Grant Datgarboneiddio,
Cronfa Adfywio Cymunedol a’r gronfa wrth gefn. Mynegwyd fod yr adran yn amcanu
tanwariant o £297k ar gyfer 2021/22 a bydd o £620k o filoedd yn y gronfa wrth
gefn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. O ran yr adolygiad cyfalaf nodwyd fod 2 newid wedi bod ers yr adolygiad
diwethaf, sef mân addasiad yn y prosiect Canolfan Prosesu Signalau Digidol i
gytuno i’r Achos Busnes Terfynol a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr ynghyd â
llithriad a ragwelir ar brosiect Morlais. Amlygwyd fod llithriad o £16.81miliwn
yn 2021/22, £41.39miliwn yn 2022/23 a £18.93miliwn yn 2023/24. Mynegwyd y bydd
grant Cynllun Twf y Gogledd yn cael ei ddefnyddio i gyllido’r Rhaglen Gyfalaf
am y ddwy flynedd gyntaf a ni fydd angen benthyca’n allanol tan 2023/24. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:- ¾ Mewn ymateb i gwestiwn am gostau llog prosiectau, nodwyd fod yr Adran Gyllid wedi paratoi rhagolwg yn 2020 ar gyfer incwm grant a gwariant cyfalaf er mwyn adnabod y costau benthyca. Erbyn hyn mae’r sefyllfa ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 3 PDF 240 KB Hedd
Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau i gyflwyno adroddiad Chwarter 3 (Hydref -
Rhagfyr) y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd fod Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y
Portffolio wedi'i diweddaru. Cymeradwywyd i gyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd
Vaughan-Evans PENDERFYNIAD Nodwyd fod Adroddiad
Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.
Cymeradwywyd i gyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Ym mis Rhagfyr 2020 bu i’r Bwrdd Uchelgais a Llywodraethau Cymru a’r DU
gytuno ar Gytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae adrodd
rheolaidd ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion
Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn
adrodd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun Twf yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y
Cynllun Twf dros y chwarter diwethaf. Eglurwyd yn dilyn ystyriaeth y Bwrdd caiff yr adroddiadau eu
rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraethau y DU a phwyllgorau craffu’r
awdurdodau lleol. Amlygwyd uchafbwyntiau’r chwarter gan nodi
fod Cynllun Busnes Llawn cyntaf y Cynllun Twf wedi ei gymeradwyo yn ôl ym mis
Rhagfyr, sef Canolfan Prosesu Signal Digidol gyda Prifysgol Bangor. Nodwyd fod
dau brosiect arall wedi cwblhau eu hadolygiadau sicrwydd Porth 2 yn
llwyddiannus sef prosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych ynghyd a Fferm Sero
Net Llysfasi. Mynegwyd fod diweddariad ar Achos Busnes
Portffolio 2021 wedi ei gyflwyno i’r ddwy Lywodraeth fel rhan o’r broses
dyfarnu cyllid blynyddol. Amlygwyd fod y brand newydd ‘Uchelgais Gogledd Cymru’
wedi ei lansio ynghyd a’r wefan newydd. Nodwyd fod gweithgareddau recriwtio
wedi ei gwblhau yn ogystal gyda tair swydd olaf yn y tîm wedi cychwyn ym mis Ionawr
2022. Tywyswyd drwy’r projectau ran roi
diweddariad ar y gwaith sydd wedi ei wneud dros y chwarter diwethaf. Amlygwyd
fod y gofrestr risg wedi ei ddiweddaru
yn llawn gyda nifer o addasiadau wedi ei cofnodi yn y dogfennau a oedd yn
cynnwys disgrifiadau risg wedi ei diwygio, sgorio a camau lliniaru diwygiedig.
Tynnwyd sylw at dri gradd risg gweddillio a oedd wedi newid y cyntaf - risg capasiti
wedi lleihau nawr bod gweithgareddau recriwtio'r PMO wedi eu cwblhau, yr ail
- buddsoddiad sector cyhoeddus ac y
trydydd - amcanion gwario. Mynegwyd fod
yr ail a trydedd wedi codi yn sgil y ffaith bod nifer o geisiadau i newid
prosiectau yn cael eu hystyried. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Amlygwyd fod ffosffad
yn cael effaith ar nifer o gynlluniau yn benodol yn Fflint ac yn Wrecsam a
holwyd beth yw effaith hyn ar gynlluniau eraill. Pwysleisiwyd fod nifer o
prosiectau dan fygythiad, nodwyd fod angen iddo gael ei nodi fel risg ar gyfer
y portffolio ac angen trafodaeth ymhellach yn y cyfarfod nesaf. ¾ Mynegwyd fod angen
edrych ar risgiau llifogydd, gan fod goblygiadau i’r holl gynlluniau, o
ganlyniad fod angen mapio allan yr holl gynlluniau. ¾ Diolchwyd am y gwaith
da sydd wedi ei wneud gyda Prifysgol Bangor yn gwthio y cynllun Canolfan
Prosesu Signal Digidol yn ei blaen. |