Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Natalie Lloyd jones E-bost: NatalieLloydJones@Gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Nodwyd
bod y Cynghorydd David Bithell a Darren Williams yn cael trafferth ymuno a’r
cyfarfod oherwydd problemau technegol.
Cymerodd Y Cynghorydd Robert G Parry y Gadair at gyfer eitemau 1, 2, 3,
4, 5 a 6. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y
gellir eu hystyried. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw fater brys i’w drafod. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd
a gynhaliwyd ar y 14 Medi 2020 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Derbyniwyd y
cofnodion o’r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 14 Medi 2020 fel rhai cywir ac fe’i cynigiwyd ac
eiliwyd. |
|
MATERION YN CODI I ystyried
materion yn codi o’r cofnodion. Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion
yn codi o’r
cofnodion. |
|
YMGYNGHORIAD CYD BWYLLGOR CORFFORAETHOL GOGLEDD CYMRU PDF 305 KB Iwan Evans, Swyddog
Monitro – Awdurdod Arweiniol, i hysbysu’r Is
-Fwrdd o’r ymgynghoriad sydd ar y gweill. I
ddilyn, caiff diweddariad ei gyflwyno gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn y
wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd yr
eitem gan Iwan G D Evans – Swyddog Monitro yr Awdurdod Arweiniol. PENDERFYNIAD PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth yn y papur, gan
mai papur ydoedd i hysbysu’r Is-Fwrdd
o’r ymgynghoriad sydd ar y gweill. Nododd Y Swyddog Monitro mai diben yr eitem
oedd hysbysu yr Is-Fwrdd o’r ymgynghoriad sydd ar y gweill. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y papur
roedd wedi ei baratoi oedd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad
ar hyn o bryd ar gynigion i sefydlu Cyd Bwyllgorau Corfforedig (CBC) fesul 4
Ardal o Gymru ar sail ôl troed (Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Orllewin
Cymru a De Ddwyrain Cymru). O fewn y Bil, mae dau gategori o CBC sef CBC
drwy Orchymyn a CBC drwy Gais. Cyfyngir
y meysydd posib ar gyfer CBC Drwy Orchymyn ar gyfer 4 maes sef gwella addysg,
trafnidiaeth (Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol), y swyddogaeth o lunio Cynllun
Datblygu Strategol a’r swyddogaeth llesiant economaidd. Cadarnhawyd bod CBC yn gyrff corfforedig ar
wahân, sydd yn cael eu sefydlu drwy Gynghorau - hynny yw, yn gorfforaeth ar eu
traed eu hunain, ac yn bodoli lled ar-wahân i Gynghorau. O ran y maes trafnidiaeth, cadarnhawyd yr
aelodaeth fandadol fel chwe Arweinydd Cynghorau Gogledd Cymru (gyda hawl i
gyfethol). Nodwyd y byddai yr opsiwn ar
gael yma i sefydlu Is-bwyllgorau. O ran materion cyllid ac ariannu,
cadarnhawyd mai y cynghorau, drwy gytundeb, sydd yn ei ariannu, ynghyd a
threfnu materion craffu ac awdit, eto drwy gytundeb. Codwyd y cwestiynau canlynol o’r drafodaeth
: ·
Beth
fydd y berthynas ffurfiol gyda yr Awdurdodau? ·
O
ran materion megis craffu, cod ymddygiad ac ati, o dan ba drefniant fydd y
materion hyn yn disgyn? Diolchwyd am yr adroddiad ac derbyniwyd sylwadau fel a ganlyn : ·
Bydd
CBC yn mynd a phwerau oddi ar y Cynghorau.
Nodwyd bod swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cysylltu gyda rhai
Aelodau o’r Is-Fwrdd, gan nodi mai cerbyd ydyw hwn i Lywodraeth Leol siapio y
gwaith ac adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud Atgyfnerthwyd y pwynt mai cryfhau y sefyllfa, a chynnwys
Aelodau yw’r bwriad, gan roi cyfle iddynt rannu eu barn yn llawn, ac yn onest
ar y rheoliadau drafft hyn. ·
Sut
mae Trafnidiaeth Cymru a’r Asiantaeth Cefnffyrdd yn ffitio i mewn? Bydd apwyntio swyddogion yn bryder, yn enwedig o ddarllen y
bydd y rolau yn cymryd 1-5 diwrnod o amser swyddog. Onid oes camsyniad yma y bydd yn arbed arian? Erbyn hyn nid oes gan gynghorau swyddogion sydd
yn dyblygu gwaith. Sut byddent yn cael eu hariannu? Mae rhoi y pŵer i’r Awdurdodau Lleol i redeg eu
trafnidiaeth bws eu hunain yn anodd iawn heb arbenigedd lleol. Nodwyd pryder hefyd am faterion llywodraethu. Ymatebodd Swyddog Llywodraeth Cymru gan gadarnhau mai yr
unig swyddogaeth sydd yn cael ei drosglwyddo i’r CBC yw y Cynllun Trafnidiaeth
Lleol a bod y gweithgareddau o gwmpas bysiau yn aros gyda yr Awdurdodau Lleol,
ac mai dewisol fyddai symud swyddogaethau eraill drosodd. O ran Trafnidiaeth Cymru, cadarnhawyd mai corff danfon ydyw, ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
DIWEDDARIAD - BYSIAU RHANBARTHOL PDF 504 KB I gyflwyno diweddariad i’r aelodau ar ddatblygiadau
diweddar mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Rhwydwaith Bysiau Rhanbarthol. I gynnwys cyflwyniad gan Lee Robinson, TfW. Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad Cofnod: Cyflwynwyd y diweddariad gan Lee Robinson –
Trafnidiaeth Cymru PENDERFYNIAD PENDERFYNWYD derbyn
y wybodaeth oedd yn diweddaru’r Aelodau ar
ddatblygiadau diweddar mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Rhwydwaith Bysiau
Rhanbarthol a chyda chyllid parhad y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau mewn
perthynas ag effeithiau pandemig Covid
19. TRAFODAETH Cadarnhawyd,
oherwydd COVID bo Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gydag ymgymerwyr bysiau gan
edrych ar ffyrdd newydd o gyllido ac ystyried pa lwybrau maent yn eu
rhedeg. Cyfeiriodd hefyd ar y scheme Argyfwng Bysiau, gan gadarnhau bo sgwrs gydag ymgymerwyd
ar y gweill ar gyfer 8/12/20, ond bod cyfyngiadau amser oherwydd COVID. Cyfeiriodd
at y Cytundeb Partneriaeth i drafod llwybrau a’r agenda carbon, ond cadarnhaodd
bod yr ymgymerwyr yn gweld y drafodaeth yn unochrog. Rhoddodd
y Swyddog gyflwyniad ar Ddiwygio a Dyluniad Rhwydwaith Bysiau gan gadarnhau y
byddent yn gweithio mewn pedwar rhanbarth Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De
Ddwyrain Cymru a De Orllewin Cymru. Atgoffodd
yr Is-Fwrdd eu bod wedi comisiynu darn o waith i edrych ar wyth mater penodol
ar gyfer y rhanbarth a chytunodd i rannu y cyflwyniad. Gofynnwyd
am unrhyw sylwadau pellach gan yr Aelodau Cabinet cyn symud ymlaen : Mae
gwahaniaeth rhwng cefn gwlad a threfol ond mae pob Sir yma yn bresennol yn
wahanol. Mae twristiaeth yn bwysig iawn,
ac mae angen cael y neges honno ar draws.
Sylwyd bo gwaith wedi ei ffocysu o gwmpas hybiau trefol metro - mae rhai llwybrau craidd yn gallu bod yn rhai
trefol i drefol a chwestiynwyd ble mae hyn yn gweithio, sut mae modd mesur gwerth
cymdeithasol a gwerth economaidd?
Gofynnwyd i Drafnidiaeth Cymru beidio ag anghofio am y boblogaeth hyn
wrth wneud unrhyw waith ymgynghori gan gofio nad ydym yn byw mewn cyfod
arferol, cynrychiadol. Gofynnwyd
am ystyriaeth hefyd i sut mae cyllido addysg yn cysylltu, ynghyd a chyllido
gofal iechyd cymdeithasol. Nododd
swyddog o Lywodraeth Cymru ei fod yn annog materion cefn gwlad yn y gymuned,
ynghyd a phwysigrwydd cynllunio y rhwydwaith gan ystyried pobl mewn cymunedau. Cytunwyd
y byddai Iwan P Jones, fel paratoad i’r cyfarfod oedd wedi ei drefnu ar gyfer
18/1/21, yn cysylltu i geisio barn ar faterion bysiau. |
|
ADRODDIADAU GWYBODAETH PDF 353 KB (i)
Adolygiadau Fflyd Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru,
Rhys Horan -Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. (ii)
Diweddariad
ar Gynigion Tanwydd Hydrogen, Iwan Prys Jones - Rheolwr Rhaglen,
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. (iii)
Llwybr Newydd - strategaeth trafnidiaeth
newydd i Gymru, Iwan Prys Jones - Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiadau gan Iwan Prys Jones PENDERFYNIAD PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiadau gwybodaeth oedd yn rhoi diweddariad ar waith cyfredol ledled y
rhanbarth gan edrych ar sut ellir trosglwyddo fflyd y sector cyhoeddus i fod yn
fflyd allyriadau tra isel. TRAFODAETH Ni fu
trafodaeth |