Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: ·
Y
Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary
Pritchard yn dirprwyo; ·
Y
Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda’r Cynghorydd
David Bithell yn dirprwyo; ·
Y
Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint) gyda’r Cynghorydd Christine Jones
yn dirprwyo; ·
Y
Cynghorydd Annwen Hughes (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri); ·
Graham
Boase (Cyngor Sir Ddinbych) gyda Gary Williams yn dirprwyo; ·
Ian
Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda Linda Roberts yn dirprwyo. ·
Dewi
Morgan (Prif Swyddog Cyllid). Anfonwyd
dymuniadau gorau’r Bwrdd i’r Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint) oedd
yn yr ysbyty. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 118 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2023, fel
rhai cywir. |
|
IS-BWYLLGOR SAFONAU - PENODI AELODAU PDF 137 KB Iwan Evans,
Swyddog Monitro, i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Mabwysiadu addasiadau i Gylch Gorchwyl yr Is Bwyllgor Safonau fel y
nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. 2.
Mabwysiadu y meini prawf ar gyfer penodi aelodau annibynnol i'r Pwyllgor
Safonau a Sefydlu Panel Cyfweld yn unol ag Atodiad 2. 3.
Dirprwyo trefnu y broses penodi i’r Swyddog Monitro. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Iwan Evans, Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD:
1.
Mabwysiadu addasiadau i Gylch Gorchwyl yr Is Bwyllgor Safonau fel y
nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. 2.
Mabwysiadu y meini prawf ar gyfer penodi aelodau annibynnol i'r Pwyllgor
Safonau a Sefydlu Panel Cyfweld yn unol ag Atodiad 2. 3.
Dirprwyo trefnu y broses penodi i’r Swyddog Monitro. TRAFODAETH Nododd y Swyddog Monitro ei
fod braidd yn siomedig ynglŷn â’r newid i benodi aelodau annibynnol drwy
broses statudol gan fod hynny’n golygu mynd drwy broses hysbysebu, cyfweld a
phenodi, ac nad proses hawdd oedd cael ymgeiswyr. Ategwyd y sylw a nodwyd bod
y newidiadau deddfwriaethol hyn yn golygu cost ychwanegol a llwyth gwaith
ychwanegol. Mewn ymateb i gwestiwn,
nododd y Swyddog Monitro y gallai addasu’r meini prawf fel bod modd i’r
Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd enwebu aelod arall o’r Cyd-bwyllgor i ddirprwyo
drostynt ar y Panel Cyfweld. Awgrymwyd y gellid hepgor y
frawddeg ‘Dim ond aelod annibynnol (Lleyg) o’r pwyllgor safonau all fod yn
gadeirydd neu’n is-gadeirydd’ o’r Cylch Gorchwyl gan y byddai holl
aelodau’r pwyllgor safonau yn aelodau lleyg beth bynnag. |
|
Alwen
Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC, i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r Cynllun
Gweithredu drafft arfaethedig i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro’r CBC. PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu drafft arfaethedig i’w gyflwyno i Lywodraeth
Cymru. TRAFODAETH Cwestiynwyd
a fyddai’n ymarferol bosib’ cyflwyno’r fersiwn terfynol o’r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd Mawrth 2025, o
ystyried maint y gwaith sydd angen ei gwblhau a’r arbenigedd sydd ei angen i
ddarparu prosiect enfawr o’r math yma, yn enwedig yn wyneb cyhoeddiad
Llywodraeth y DU ynglŷn â’r gwaith o drydaneiddio
rheilffordd arfordir y Gogledd, sydd hefyd yn ddarn enfawr o waith. Mewn ymateb, nododd Prif Weithredwr Dros
Dro’r CBC:- ·
Bod
rhanbarthau eraill wedi mynegi pryder ynglŷn â’r amserlenni hefyd, ond er
nad oedd wedi gweld yr adroddiad terfynol, roedd y Comisiwn Trafnidiaeth wedi
cyflawni llawer iawn o waith yng Ngogledd Cymru dros y 18 mis diwethaf a byddai
yna lawer o ddata yn sail i gasgliadau’r adroddiad fyddai’n ddefnyddiol, yn
arbennig o ran creu’r achos dros newid. ·
Y
credai y byddai’n rhaid comisiynu gwaith i ymgynghorwyr ag arbenigedd, yn
arbennig o amgylch yr Asesiad Ardrawiad Amgylcheddol, yn ogystal â chynnal
adolygiad annibynnol o’r cynlluniau yng Ngogledd Cymru. Byddai hynny, yn amlwg, yn ddibynnol ar
argaeledd ac amserlenni o fewn yr asiantaethau a allai ymateb i’r math yna o
waith. ·
Y
credai y byddai’n rhaid adolygu’r amserlenni wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen
ac wrth i ni gyrraedd y cerrig milltir, ond roedd yn optimistaidd ar hyn o bryd
y gellid cyflawni’r gofynion erbyn Mawrth 2025. ·
Y
byddai’n adrodd yn ôl i’r Cyd-bwyllgor yn rheolaidd ar gynnydd, gan amlygu
unrhyw risgiau, ac yn sgil cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu, byddai’r
Is-bwyllgor Trafnidiaeth yn cael ei sefydlu i arwain ar y gwaith. ·
Y
credai y byddai hynny’n elfen gritigol hefyd yn ogystal â sicrhau ein bod yn
cadw at yr amserlen ac at y gyllideb ac yn adrodd yn ôl yn briodol i’r CBC. Mewn ymateb i
gyfres o gwestiynau, eglurodd Prif Weithredwr Dros Dro’r CBC:- ·
Y
byddai’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth yn rhoi cyfeiriad i’r cynllun a chyfeiriad
i’r swyddogion i arwain ar greu'r cynllun a pharatoi’r gwaith. ·
Bod
y Llywodraeth wedi mynd drwy broses o gymeradwyo mewnol ar gyfer cynlluniau drafft
y 4 rhanbarth a byddent yn dyfarnu, ac yn ein hysbysu, o fewn yr wythnosau
nesaf gobeithio, ynglŷn â’r cyllid fydd yn dod yn ei flaen. ·
Y
disgwylid hyd at £125,000 i helpu gyda’r gwaith o ddatblygu’r cynllun. ·
Y
byddai rhywfaint o’r arian yn cael ei wario ar ymgynghorwyr. Byddai angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, a
byddai yna gostau ynghlwm â hynny mae’n debyg.
Byddai yna gost hefyd ynghlwm â’r gwaith o wneud yr Asesiad Ardrawiad
Amgylcheddol. ·
Y
bu’n ymgysylltu gyda swyddogion pob awdurdod yn y Gogledd i greu’r cynllun
drafft yn y lle cyntaf, a’i bod yn rhagweld, unwaith y byddai’r Is-bwyllgor
Trafnidiaeth wedi’i sefydlu ac yn weithredol, y byddai yna bwyllgor o
swyddogion i helpu hefyd. · Bod yna arbenigedd trafnidiaeth yn eistedd o fewn y cynghorau a’i bod yn bwysig eu bod hwy yn teimlo bod ganddynt berchnogaeth a’r gallu i arwain ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |