Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Prifysgol Wrecsam a Zoom

Cyswllt: Sera Jane Whitley 

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL IS-GADEIRYDD AR GYFER 2025/26

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2025/26.

Penderfyniad:

Bu i Cyng. Jason McLellan gael ei ethol yn Is-Gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26.

Cofnod:

Etholwyd y Cyng. Jason McLellan yn Is-gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26.

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Alwen Williams (Prif Weithredwr y CBC) a Sian Pugh (Pennaeth Cynorthwyol Cyllid – Cyngor Gwynedd).

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

Cofnod:

Bu i Cyng Dave Hughes (Cyngor Sir y Fflint) ar gyfer Eitem 5 oherwydd materion personol. Nid oedd yr aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

4.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi.

5.

PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM pdf eicon PDF 199 KB

Y Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro, a cynrychiolydd o AMION Consulting i gyflwyno’r adroddiad.

 

Mae Atodiad 3 yn eithriedig gan fod yr adroddiad ynglŷn â Memorandwm  Dealltwriaeth y Parth Buddsoddi gyda Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig  sydd wedi ei ddynodi yn ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer  darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio Atodiad 3 rhag ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu  gwybodaeth gyfrinachol.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr Adroddiad Diweddaru a nodwyd gwaith a wnaed gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a thîm y Parth Buddsoddi, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

Cymeradwywyd Cytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) drafft rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC), Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan ddirprwyo’r hawl i gytuno a chwblhau’r fersiwn terfynol i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151, yr Is-gadeirydd ac Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, fel cynrychiolwyr penodedig y Bwrdd Ymgynghorol Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.

 

Cymeradwywyd Rhestr Prosiectau, gweithgareddau a cherrig milltir Blwyddyn 1 a 2 sydd wedi'u drafftio i gefnogi'r Cynllun Cyflawni Blynyddol.

 

Cymeradwywyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft, gan ddirprwyo’r hawl i gytuno a chwblhau’r fersiwn terfynol i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151, yr Is-gadeirydd ac Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, fel cynrychiolwyr penodedig y Bwrdd Ymgynghorol Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro ac Iain Taylor o AMION Consulting.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyniwyd yr Adroddiad Diweddaru a nodwyd gwaith a wnaed gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a thîm y Parth Buddsoddi, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

Cymeradwywyd Cytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) drafft rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC), Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan ddirprwyo’r hawl i gytuno a chwblhau’r fersiwn terfynol i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151, yr Is-gadeirydd ac Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, fel cynrychiolwyr penodedig y Bwrdd Ymgynghorol Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.

 

Cymeradwywyd Rhestr Prosiectau, gweithgareddau a cherrig milltir Blwyddyn 1 a 2 sydd wedi'u drafftio i gefnogi'r Cynllun Cyflawni Blynyddol.

           

Cymeradwywyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft, gan ddirprwyo’r hawl i gytuno a chwblhau’r fersiwn terfynol i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151, yr Is-gadeirydd ac Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, fel cynrychiolwyr penodedig y Bwrdd Ymgynghorol Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.

 

TRAFODAETH

 

Diolchwyd i’r Aelodau am eu hamser a’u hystyriaeth o’r adroddiad.

 

Adroddwyd bod datblygiad y rhaglen bellach ar bwynt allweddol ac wedi cyrraedd y cam cymeradwyo gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae’r Broses Pum Porth wedi dod i ben ac mae cytundeb i’r Porth (Gateways) wedi’i dderbyn. Eglurwyd bod angen cymeradwyaeth y CBC i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r cytundeb rhyng-awdurdod rhwng y Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC), Cyngor Sir y Fflint, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ymhelaethwyd mai’r rhain fydd yn llywodraethu ar drosglwyddo arian refeniw a gweithgareddau allweddol yn y rhaglen.

 

Eglurwyd bod cynlluniau cyflawni blynyddol yn cael eu cytuno bob blwyddyn i gefnogi’r ffordd y mae Parthau Buddsoddi yn cael eu strwythuro a’u cyflawni. Cyflwynir drafft y Cynllun Cyflawni Blynyddol yng nghyfarfod Grŵp Gwaith Parth Buddsoddi, lle mae arweiniwyr Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyfarfod ac yn adolygu’r Cynllun Cyflawni Blynyddol. Nodwyd mai’r bwriad yw cynnal cyfarfod o’r Grŵp Gwaith Parth Buddsoddi ar 28 Tachwedd, i drafod gweithgareddau cychwynnol y rhaglen. Manylwyd y byddent yn cynnal cyfarfod arall i drafod Cynllun Cyflawni’r ail flwyddyn.

 

Rhoddwyd trosolwg i’r Aelodau o’r Cynllun Cyflawni Blynyddol, gan dynnu sylw arbennig at rai o bwyntiau allweddol Rhaglen y Parth Buddsoddi a oedd wedi’u cynnwys yn Atodiad 2. Nodwyd bod y rhain wedi’u rhannu’n gefnogaeth fusnes, sgiliau, arloesedd, seilwaith, a safleoedd treth. Hysbyswyd yr Aelodau fod y safleoedd treth wedi’u cyhoeddi ar Legislation.gov, a’u bod yn dod i rym cyfreithiol ar 21 Tachwedd.

 

Hysbyswyd yr aelodau, pe bai’r CBC yn cymeradwyo’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r IAA, y byddai’r Llywodraeth yn gweithredu i gyhoeddi fersiynau wedi’u llofnodi o’r ddogfen ymhen yr wythnos.

 

Tynnwyd sylw’r aelodau at y Cynllun Cyflawni, gan amlygu gwaith cynnar. Atgoffwyd yr aelodau ei fod yn brosiect Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ar y cyd gyda Phrifysgol Wrecsam a Choleg Cambria. Nodwyd bod yr arian i weinyddu grantiau busnes yn cael ei ddirprwyo i Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cydnabuwyd bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir Gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Adran 100A(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r adroddiad yn ymwneud a gwybodaeth ariannol mewn perthynas a’r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol, sydd wedi’i dynodi’n wybodaeth gyfrinachol gan Llywodraeth Cymru ar ddibenion Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio’r  adroddiad rhag ei  chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol. 

Cofnod:

Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir Gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Adran 100A(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r adroddiad yn ymwneud a gwybodaeth ariannol mewn perthynas â’r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol, sydd wedi’i dynodi’n wybodaeth gyfrinachol gan Lywodraeth Cymru ar ddibenion Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio’r adroddiad rhag ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol.

7.

RHAGLEN BLWYDDYN 1 Y GRONFA TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL

Y Prif Weithredwr a’r Uwch Swyddog Trafnidiaeth i gyflwyno’r adroddiad.

 

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Adam Graham, Uwch Swyddog Trafnidiaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwywyd Rhaglen Gynlluniau ddrafft i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.