Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting
Cyswllt: Sera Jane Whitley
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Dave Hughes (Cyngor Sir
y Fflint), Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) a Claire Incledon (Dirprwy Swyddog
Monitro Dros Dro CBC). Cyn cychwyn ar y cyfarfod croesawyd Helen White, Prif
Weithredwr newydd Cyngor Sir Ddinbych i’w chyfarfod cyntaf. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Bu i’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Cyllid Statudol nodi
datganiad o fuddiant os y drafodaeth yn mynd i drafod eu swyddi yn eitem 5, ac
y buasent yn gadael y cyfarfod. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 7 Tachwedd, 2025 a 28 Tachwedd, 2025 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Amlygwyd fod un aelod wedi nodi ei bod yn erbyn cau allan y wasg a’r cyhoedd yn y cyfarfod ar y 7fed Tachwedd, gofynnwyd i’r cofnodion gael ei addasu i amlygu hyn. Derbyniwyd hyn a chofnodion cyfarfod 28 Tachwedd. |
|
|
CYLLIDEB 2026/27, ARDOLL AR AWDURDODAU CYFANSODDOL A CHYFRANIADAU PARTNERIAID Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru
Cynllun Twf
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Pennaeth Cynorthwyol
Cyllid – Cyngor Gwynedd) PENDERFYNIAD Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ·
Cymeradwywyd y gyllideb ar gyfer 2026/27 fel y'i
cyflwynir yn Atodiad 1. ·
Cymeradwywyd yr ardoll ar yr awdurdodau
cyfansoddol fel y nodir yn Atodiad 1. Cynllun Twf ·
Cymeradwywyd y gyllideb refeniw'r Cynllun Twf ar
gyfer 2026/27 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2. ·
Cymeradwywyd cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys
cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol a chyfraniadau
llog partneriaid. ·
Cymeradwywyd y gyllideb gyfalaf y Cynllun Twf ar
gyfer 2026/27 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 3. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu ei bod yn ofyniad
statudol i’r CBC gymeradwyo ei gyllideb, a dyraniad yr ardoll i’r Cynghorau ac
Awdurdod y Parc Cenhedlaeth erbyn 31 Ionawr. Nodwyd fod cyfanswm y gyllideb
gwariant ar gyfer 2026/26 yn £2.16m ac amlygwyd y modd mae’n cael ei ariannu. Esboniwyd fod yr ardoll, sy’n cael ei rannu i’r awdurdodau
cyfansoddol ar sail poblogaeth, wedi cynyddu £112,700 ar gyfer 2026/27 a hynny
oherwydd chwyddiant o 3.5% a’r costau ychwanegol wrth gynyddu capasiti’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151. Nodwyd er
mwyn cefnogi trefniadau llywodraethu ymhellach ar draws y CBC fod adolygiad
diweddaraf yn dangos yr angen am Swyddog Monitro llawn amser a Swyddog Adran
151 am 3 diwrnod yr wythnos wrth symud ymlaen. Amlygwyd ar ôl defnyddio’r cyfraniad o bron i £625mil o’r
gronfa wrth gefn ar gyfer 2026/27 y bydd tua £800mil o falans
yn parhau wrth gefn. Wrth edrych ar y Cynllun Twf, nodwyd fod cyllideb gwariant
ar gyfer 2026/27 yn £2.95m, gyda £470mil yn cael ei ariannu gan gyfraniadau’r
partneriaid, £240mil gan gyfraniadau atodol awdurdodau lleol, £154mil gan
gyfraniadau llog partneriaid, £660mil o'r grant Cynllun Twf sydd wedi ei
glustnodi ar gyfer yr elfen refeniw, £435mil o’r grant Cynllun Twf sydd wedi ei
glustnodi o’r prosiectau a £987mil o'r gronfa adnoddau. Eglurwyd nad oes
cynnydd yng nghyfaniadau partneriaid i’r Cynllun Twf o ganlyniad ostyngiad yng
nghyfradd cyfraniadau pensiwn y cyflogwr yn gwrthbwyso’r addasiad alldro ar
gyfer 2025/26 a’r amcan chwyddiant cyflog ar gyfer 2026/27. Manylwyd fod newidiadau mewn prosiectau yn y proffil cyfalaf
wedi arwain at gynnydd cyffredinol yn yr amcan gost o fenthyca o’i gymharu â’r
cyfrifiad a wnaethpwyd ar gyfer cyllideb 2025/26. Ategwyd fod rhai partneriaid
hefyd yn arwain eu prosiectau, ac felly bod cost benthyca wedi’i ychwanegu at
eu cyfraniadau llog. Nodwyd o ran cyllideb cyfalaf y Cynllun Twf fod proffil
gwariant diweddaraf wedi ei nodi yn rhan o’r atodiadau, a’i fod yn seiliedig ar
amserlen y projectau diweddaraf. Ychwanegwyd ei fod yn cael ei adolygu wrth i’r
achosion busnes gael eu cymeradwyo. Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi ei fod yn hunan
esboniadwy. Holwyd os yw defnyddio arian cronfeydd wrth gefn yn gynaliadwy, gan
ei bod yn mynd o flwyddyn i flwyddyn. Nodwyd yr angen i ystyried ymhellach wrth
wneud strategaeth gyllidol tymor hir. Mynegwyd fod angen eu defnyddio gan ei
fod yn lleihau’r angen i gynyddu’r ardoll ar Awdurdodau Lleol a’r Parc. |
|
|
SEFYLLFA REFENIW A CHYFALAF 2025/26 – ADOLYGIAD DIWEDD RHAGFYR 2025. Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd yr adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2025
ar gyfer y CBC (Atodiad 1). Nodwyd a derbyniwyd yr adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2025
ar gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (y Cynllun Twf), gan gynnwys y sefyllfa
cronfeydd wrth gefn (Atodiad 2 a 3). Nodwyd a derbyniwyd proffil gwariant cyfalaf diwygiedig y
Cynllun Twf (Atodiad 4). Nodwyd a derbyniwyd yr adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2025
ar gyfer y PSRh (Atodiad 5). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Pennaeth Cynorthwyol
Cyllid – Cyngor Gwynedd) PENDERFYNWYD: Nodi a derbyn Adolygiad diwedd Rhagfyr 2025 ar gyfer :- ·
Y Cydbwyllgor Corfforedig (Atodiad 1). ·
Yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (y Cynllun Twf),
gan gynnwys y sefyllfa cronfeydd wrth gefn (Atodiad 2 a 3). ·
Cynllun Cyfalaf y Cynllun Twf (Atodiad 4) ·
Y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (Atodiad
5). TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn rhoi
amcan o sefyllfa ariannol y CBC. Mynegwyd eu bod yn amcanu tanwariant o £959mil
ar gyfer eleni. Nodwyd fod hyn yn gynnydd o’r £411mil a ragwelwyd yn adolygiad
Gorffennaf. Eglurwyd fod hyn oherwydd llwyddiant y CBC i sicrhau cyllideb grant
gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol a gweithredu’r
Cydbwyllgor. Tynnwyd sylw at y Cynllun Twf gan nodi eu bod yn amcanu
tanwariant o £618mil, sydd eto yn gynnydd o £281mil a ragwelwyd ym mis
Gorffennaf. Mynegwyd fod hyn oherwydd tanwariant pellach mewn gwariant
gweithwyr a rolau llywodraethol ychwanegol, gwasanaethau cefnogol y corff ateb
a’r penawdau prosiectau. Nodwyd fod proffil cyfalaf diwygiedig ar gyfer y Cynllun TWF
yn dangos gostyngiad net o £7.46m yn y gwariant disgwyliedig ar gyfer 2025/26.
Ategwyd bod llithriad ar rai prosiectau, er bod rhai yn symud ymlaen ac o
ganlyniad wedi lleihau’r tanwariant. Mynegwyd o ystyried cyllideb y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol y bydd y
sefyllfa yn niwtral, ac wedi ei ariannu gan grant Llywodraeth Cymru ynghyd â
chronfa wrth gefn. Diolchwyd am yr adroddiad a tynnwyd sylw at y tanwariant gan
nodi eu bod yn deall ei fod o ganlyniad i ddiffyg penodi i swyddi. Gofynnwyd a
oes modd i leihau cyfraniad Awdurdodau Lleol gan fod cymaint o danwariant yn
cael ei ragweld. Ymatebwyd gan nodi fod y cyfraniadau wedi ei nodi yng
nghytundeb ariannu ag arwyddwyd gan yr holl Awdurdodau. Mynegwyd fod y
gorwariant yn cael ei rhoi mewn cronfeydd penodol ac ar gael ar gyfer ariannu
diffygion megis yng nghyllideb rhaglen Cynllunio Strategol. Eglurwyd fod yr
arian wrth gefn wedi ei benderfynu gan yr aelodau'r llynedd ac y bydd yn cael
ei drafod eto yn yr adroddiad diwedd blwyddyn er mwyn cymeradwyo’r defnydd o’r
tanwariant. Amlygwyd pryder am y tanwariant yn wyneb yr heriau ariannol
sydd yn wynebu Llywodraeth Leol a chyllidebau mor dynn â gwasanaethau rheng
flaen ar draws y rhanbarth yn gorwario. Eglurwyd fod cyllidebau yn y Cynllun Datblygu Strategol yn
amlygu defnydd o’r cronfeydd wrth gefn ar gyfer sicrhau cyllideb lawn ar gyfer
5 mlynedd y Cynllun. Amlygwyd y bydd gwybodaeth bellach ar y mater hwn i’w weld
yn eitem 9 o’r agenda heddiw. Nodwyd dealltwriaeth o’r rhesymeg tu ôl i roi'r arian mewn cronfeydd wrth gefn, ond fod angen sicrhau ddim yn pentyrru arian yn ddiangen, a drwy osod cyllideb yn flynyddol heb gynllun tymor canolig neu dymor hir mae pryder for cynydd aruthrol yn mynd i fod yn ardoll o un flwydd i’r llall. Ymatebwyd drwy nodi fod y CBC yn gorff newydd ac o ganlyniad fod swyddi heb eu llenwi. Pwysleisiwyd mai rhagolygon yw’r adroddiad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL – CYLCH GORCHWYL A HUNANASESIAD Cadeirydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo'r newidiadau a ganlyn i Gylch Gorchwyl yr
Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol:
Nodi'r adborth o holiadur hunanasesu'r is-bwyllgor. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gadeirydd yr Is-Fwrdd
Trafnidiaeth Strategol, y Cynghorydd David Bithell. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo'r newidiadau a ganlyn i Gylch Gorchwyl yr
Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol: ·
Bod y gofyn i gynhyrchu adroddiad cynnydd
chwarterol yn cael ei ddisodli gan adroddiadau bob chwe mis. ·
Bod gan yr is-bwyllgor y pŵer dirprwyedig i
ystyried a gwneud argymhellion i'r CBC ar gyllid trafnidiaeth ranbarthol ac
ymrwymiadau cynlluniau. Nodi'r adborth o
holiadur hunanasesu'r is-bwyllgor. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi diolch am y cyfle i’w gyflwyno
fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor. Nodwyd ei fod yn adrodd yn ôl ar 2 adroddiad sydd
wedi ei drafod ar y 15fed o Ragfyr sef addasiadau i’r Cylch Gorchwyl ac adrodd
yn ôl ar ymatebion positif a dderbyniwyd o holiadur hunanasesu’r Is-bwyllgor. Amlygwyd fod y penderfyniad yn gofyn am bŵer
dirprwyedig i ystyried a gwneud argymhellion i'r CBC ar gyllid trafnidiaeth
ranbarthol ac ymrwymiadau cynlluniau wedi ei ddatblygu'n ddiweddar wrth
weithredu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Eglurwyd fod Llywodraeth Cymru
wedi rhannu canllawiau ar ddatblygu'r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol (RTF) sydd
wedi cefnogi'r gwaith o ddatblygu rhaglen o gynlluniau i gyflawni'r Cynllun
Cyflawni Trafnidiaeth Ranbarthol. Diolchwyd am yr adroddiad ac amlygwyd mai dim ond 5 aelod
oedd wedi ymateb i’r holiadur hunanasesu. Holwyd o ran y 6ed aelod os oed yn
aelod newydd, ac wedi cael cyfle i ymateb, ac os oedd y gefnogaeth yna i
aelodau newydd i fod yn ymwybodol o’i rôl a chyfrifoldebau. Ymatebwyd drwy nodi
fod yr aelod yn un newydd, ond eu bod fel aelodau yn teimlo fod cefnogaeth ond
fod gwaith yn parhau i ddatblygu i sicrhau fod aelodau yn derbyn cefnogaeth am
eu rôl a cyfrifoldebau. Mynegwyd fod pryderon, fel yn y Pwyllgor hwn o’r gwrthdaro
sydd rhwng y gwaith ar y Pwyllgorau a’r Is-bwyllgorau a’u rolau yn lleol fel
Aelodau Cabinet. Ond amlygwyd fod pwyntiau dilys wedi ei godi yn yr
hunanasesiad a holwyd oes yw’n cael ei adrodd ymhellach. Ymatebwyd drwy nodi ei
fod yn ddogfen fewnol i sicrhau fod y gefnogaeth a’r wybodaeth angenrheidiol yn
cael ei roi i’r aelodau. Ond wrth i’r gwaith ddatblygu fod angen edrych os oes
modd rhannu’r ymarfer da sydd yn cael ei amlygu â Llywodraeth Cymru. |
|
|
DIWEDDARIAD Y GRONFA TRAFNIDIAETH RANBARTHOL Adam Graham, Uwch Swyddog Trafnidiaeth i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Adam Graham, Uwch Swyddog
Trafnidiaeth PENDERFYNWYD: Nodi a derbyn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyd-bwyllgor yn ôl ym
mis Tachwedd wedi cymeradwyo Rhaglen Cynlluniau drafft i’w gyflwyno i
Lywodraeth Cymru. Cynlluniau oedd y rhain a oedd wedi ei adnabod a’i
blaenoriaethu gan Awdurdodau’r rhanbarth. Yn dilyn cyflwyno’r Rhaglen Gynlluniau i’r Llywodraeth
mynegwyd fod sylwadau wedi ei dderbyn a sgôr lliw wedi ei roi i bob un. Cafodd
37 sgôr gwyrdd, 43 sgôr ambr a 3 sgôr coch. Eglurwyd fod gwaith pellach wedi ei
wneud ar gynlluniau er mwyn ymateb i’r pryderon oedd wedi ei amlygu gan
Lywodraeth Cymru, a byddant yn cael eu cyflwyno eto i’r Llywodraeth cyn diwedd
y mis. Diolchwyd am yr adroddiad a gofynnwyd a oes amserlen wedi ei
bennu gan y Llywodraeth i dderbyn ymateb. Ymatebwyd drwy nodi nad oes ond y
bydd cyn y cyfnod cyn-etholiadaol a bydd llythyrau yn
cael ei gyrru gobeithio i’r Awdurdodau ddechrau’r flwyddyn ariannol nesaf. Gofynnwyd am fwy o wybodaeth yn yr adroddiad i’r dyfodol gan
ei fod yn adroddiad rhy lefel uchel a bod angen mwy o ddehongliad i’r aelodau
ac i’r cyhoedd. |
|
|
CYFLWYNO CYTUNDEB CYFLAWNI'R CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL YN FFURFIOL Andy Roberts, Swyddog Cynllunio Strategol Rhanbarthol i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i gyflwyno Cytundeb Cyflawni'r SDP yn ffurfiol i
Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo yn unol â Rheoliad 11(2) o Reoliadau Cynllunio
Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021. Rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i Brif Weithredwr Uchelgais
Gogledd Cymru mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr is-bwyllgor Cynllunio Strategol
i wneud unrhyw fân ddiwygiadau golygyddol neu fformatio i'r Cytundeb Cyflawni
i'w baratoi i'w gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Andy Roberts, Swyddog Cynllunio
Strategol Rhanbarthol. PENDERFYNWYD: Cytunwyd i gyflwyno Cytundeb Cyflawni'r SDP yn ffurfiol i
Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo yn unol â Rheoliad 11(2) o Reoliadau Cynllunio
Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021. Rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i Brif Weithredwr Uchelgais
Gogledd Cymru mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr is-bwyllgor Cynllunio Strategol
i wneud unrhyw fân ddiwygiadau golygyddol neu fformatio i'r Cytundeb Cyflawni
i'w baratoi i'w gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyd-bwyllgor yn ôl ym
mis Medi wedi cymeradwyo’r Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Strategol yn
barod i’r gyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn amodol ar wneud penderfyniad ynghylch
y cyllid ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol. Ers y cyfarfod hwnnw, mynegwyd
fod y broses o osod cyllideb yn mynd rhagddi a bod cyllideb wedi ei osod ar
gyfer rhaglen 1 o’r rhaglen cyflawni, a hynny heb roi effaith ar yr ardoll.
Pwysleisiwyd fod cyflwyno’r Cytundeb
Cyflawni i’r Llywodraeth yn ymrwymo’r CBC i gwblhau’r Cynllun o fewn 5 mlynedd. Amcangyfrifwyd bod y gost o gynhyrchu'r SDP yn £3.276m dros
y broses bum mlynedd, neu £655,272 y flwyddyn ar gyfartaledd i gychwyn. Ond ar
ôl ystyried y gorwariant refeniw cynigwyd cyllideb o £597,650. Eglurwyd fod sefyllfa a gyrhaeddwyd gyda'r
gyllideb o ran yr effaith gyfyngedig iawn ar ardoll yr Awdurdodau Lleol yn
gyflawniad sylweddol, gan roi'r sicrwydd roedd yr Aelodau yn chwilio amdano,
a'r potensial i ailadrodd hyn fel rhan o'r ymarfer gosod cyllideb ar gyfer
2027/28, o leiaf. Er nad yw Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi'i chytuno
eto ar gyfer y CBC, ystyrir mai'r sefyllfa hon yw'r gorau y gellir ei chyflawni
ar gyfer y flwyddyn nesaf gan roi’r sicrwydd sydd ei angen i ymrwymo i gyflwyno
Cytundeb Cyflawni'r SDP yn ffurfiol i'w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Diolchwyd am yr adroddiad a nodwyd fod y gofyniad hwn yn un
statudol, ac felly ei bod yn orfodol i’w ariannu. Amlygwyd fod ail edrych ar y
gyllideb yn dangos eu bod yn ymrwymo i fod mor effeithlon â phosib wrth symud
ymlaen. Ategwyd y bydd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gyflwyno yn
yr Hydref. |
|
|
CRONFA PARTNERIAETH ARLOESI GOGLEDD CYMRU - BWRDD ARLOESI GOGLEDD CYMRU Alwen Williams, Prif Weithredwr ac Iain Taylor, AMION Consulting i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr
ac Iain Taylor, AMION Consulting. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl sydd ynghlwm wrth yr adroddiad
hwn fel Atodiad 1. Cyflwyno Mynegiant o Barodrwydd ar gyfer cynnig Cronfa
Partneriaeth Arloesi Lleol Gogledd Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi haf diwethaf fod y
Cydbwyllgor wedi croesawu cynigion ar gyfer Bwrdd Arloesi Gogledd Cymru. Nodwyd
fod y drafodaeth gychwynnol wedi gyda’r Gweithgor y Bwrdd Arloesi wedi ystyried
sut gallai bwrdd â ffocws ddod ac arbenigedd ac arweiniad ar themâu arloesi.
Ers hynny mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei bwriad i weinyddu arian ar gyfer
rhaglen o Bartneriaethau Arloesi Lleol ledled y DU. Mynegwyd felly fod yr adroddiad hwn yn dod a’r ddau gynllun
hwn at ei gilydd er mwyn gallu cyflwyno Mynegiant o Barodrwydd a gyda’r gobaith
i gynnig ddod yn ôl i’r CBC i wahodd y rhanbarth i baratoi cynnig i gefnogi
cynlluniau arloesol dros y Gogledd dros gyfnod o 5 mlynedd. Eglurwyd ei fod yn
arwyddocaol i’r Gogledd i ddatblygu strwythur i edrych ar arloesedd
a'i wthio a’i yrru ar draws y rhanbarth. |