Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

·         Y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary Pritchard yn dirprwyo;

·         Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Geraint Owen yn dirprwyo

·         Iwan G Evans (Cyngor Gwynedd) gyda Claire Incledon yn dirprwyo.

 

Croesawyd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) oherwydd ei phenodiad fel Prif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Nodwyd ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac fe adawodd y cyfarfod ar gyfer rhan B o eitem 5.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 127 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2024 fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD AR GYNNYDD O DROSGLWYDDO SWYDDOGAETHAU I'R CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG, A THREFNIADAU CYCHWYNNOL AR GYFER YMESTYN SECONDIAD CYFREDOL A PHENODIAD DILYNOL Y PRIF WEITHREDWR pdf eicon PDF 626 KB

I gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd o sefydlu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac i weithredu ei ddyletswddau a’i swyddogaethau statudol. A nodi’r cynllun arfaethedig mewn perthynas â threfniant secondiad  presennol Prif Weithredwr y CBC sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 2024 a'r cynnig ar gyfer penodiad

o’r 1 Gorffennaf, 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Rhan A:

Nodwyd y wybodaeth ddiweddaraf am waith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol (RTP) a'r Cynllun Datblygu Strategol (SDP) i weithredu’r dyletswyddau a swyddogaethau statudol y CBC; a sefydlu Prosiect Gweithredol ar gyfer CBC y Gogledd.

Rhan B:

Cytunwyd i roi estyniad i'r trefniant presennol, ar gyfer secondiad rhan-amser Alwen Williams i rôl Prif Weithredwr CBC, hyd at ddiwedd Mehefin 2024.

Yn amodol ar gwblhau’n ffurfiol yr ymgynghoriad TUPE cyfredol gyda staff Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i gadarnhau trosglwyddiad arfaethedig a phenodi Alwen Williams fel Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig o 1 Gorffennaf, 2024.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad mewn dwy ran gydag Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC) yn cyflwyno rhan A a Geraint Owen (Cyngor Gwynedd) yn cyflwyno rhan B.

 

PENDERFYNWYD:

 

Rhan A:

 

Nodwyd y wybodaeth ddiweddaraf am waith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol (RTP) a'r Cynllun Datblygu Strategol (SDP) i weithredu’r dyletswyddau a swyddogaethau statudol y CBC; a sefydlu Prosiect Gweithredol ar gyfer CBC y Gogledd.

 

Rhan B:

 

Cytunwyd i roi estyniad i'r trefniant presennol, ar gyfer secondiad rhan-amser Alwen Williams i rôl Prif Weithredwr CBC, hyd at ddiwedd Mehefin 2024. Yn amodol ar gwblhau’n ffurfiol yr ymgynghoriad TUPE cyfredol gyda staff Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i gadarnhau trosglwyddiad arfaethedig a phenodi Alwen Williams fel Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig o 1 Gorffennaf, 2024.

 

 

TRAFODAETH

 

Rhan A:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad o’r cynnydd sydd wedi digwydd o ran sefydlu’r Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd. Nodwyd rhwng Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022 fod Cabinet a Phwyllgorau Gwaith ym mhob un o’r chwe Awdurdod Lleol, wedi cytuno mewn egwyddor y dylid trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru drwy gytundeb dirprwyo i’r CBC. Eglurwyd fod penderfyniad yr adroddiad hwn yn galluogi’r trosglwyddiad hwn i gychwyn a’i gwblhau. Eglurwyd fod fframwaith statudol a sefydlu’r CBC yn golygu fod angen symud ymlaen gyda’r trosglwyddiad arfaethedig. 

 

Eglurwyd fod atodiad 1 o’r adroddiad yn rhoi diweddariad ar feysydd megis Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol, y Parth Buddsoddi yn Sir y Fflint a Wrecsam ynghyd a’r Cynllun Datblygu Strategol. Ategwyd yr angen yn ogystal i’r CBC fod yn ymgymryd â dyletswyddau a swyddogaethau statudol megis Safonau’r Gymraeg ac i gydymffurfio a dyletswyddau i gyrff cyhoeddus megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a'r Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Mynegwyd er mwyn trosglwyddo’r swyddogaethau i'r CBC y bydd angen creu Bwrdd Prosiect Gweithredol ar gyfer CBC y Gogledd.

 

Rhan B:

 

Eglurwyd fod rhan gyntaf y penderfyniad wedi cael ei gymeradwyo dwywaith dros y flwyddyn ddiwethaf, sef i ymestyn cyfnod secondiad Alwen Williams o fel Prif Weithredwr y CBC o’r 1 Ebrill hyd ddiwedd Mehefin. Eglurwyd fod yr eitem hon wedi ei drafod y Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd wythnos diwethaf a’i fod wedi ei gytuno ganddynt.

 

Mynegwyd fod 1 Gorffennaf wedi ei adnabod fel dyddiad amodol ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r Bwrdd Uchelgais i’r Cydbwyllgor Corfforedig. O ganlyniad i hyn y bydd angen trosglwyddo'r staff. Fel rhan o’r trefniadau yma mae ymgynghoriad yn ofynnol gyda staff fel y nodir gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau 2006. Gan y bydd staff y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn trosglwyddo ar y telerau ac amodau cyfredol, ni ragwelir y bydd y trosglwyddiad arfaethedig y staff o un corff cyhoeddus i'r llall yn profi'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â llawer o

drosglwyddiadau TUPE ac felly nid yw'n cael ei ystyried yn rhwystr posibl i drosglwyddo

swyddogaethau ar 1 Gorffennaf, 2024.

 

Dim ond un swydd fydd yn cael ei effeithio sef y Prif Weithredwr. Eglurwyd fod y swydd ddisgrifiad ar gyfer rôl ynghyd a chopi o swydd ddisgrifiad presennol y Cyfarwyddwr Portffolio’r Bwrdd Uchelgais  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU - ACHOS DROS NEWID DRAFFT pdf eicon PDF 588 KB

I gyflwyno'r 15 amcan allweddol o fewn y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer Gogledd Cymru - Achos dros y Newid drafft.

Penderfyniad:

Cytunwyd i’r 15 amcan o fewn yr Achos dros Newid drafft fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Gogledd Cymru.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif weithredwr dros dro'r CBC a Catrin Jones, Rheolwr Rhaglen Gweithredu’r Cydbwyllgor Corfforedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytunwyd i’r 15 amcan o fewn yr Achos dros Newid drafft fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, fod Canllawiau Statudol Cyd-bwyllgor Corfforedig Llywodraeth Cymru a'r Canllawiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ar Gynlluniau Trafnidiaeth Ranbarthol Fersiwn 2 yn nodi un o swyddogaethau statudol Cyd-bwyllgor Corfforedig yw datblygu Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol. Mae'r Achos dros y Newid yn rhan o'r broses o ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer rhanbarth y Gogledd.

 

Eglurwyd fod y Cynllun Gweithredu ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol gan y CBC ers 24 Tachwedd 2023. Nodwyd mai cam nesaf yw gofyn am ddatblygu Achos dros Newid - a fydd yn nodi nodau ynghyd ag amcanion ac adnabod y materion allweddol, heriau a chyfleoedd y dylai’r cynllun eu hystyried wrth ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar gyfer Gogledd Cymru. Fel  rhan o hyn mae angen adnabod 15 amcan i danategu a chefnogi’r Achos dros Newid. Cyflwynwyd yr 15 amcan.