Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Dyfrig
Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2024/25. |
|
IS-GADEIRYDD Penodi Is-gadeirydd
ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gelir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Mawrth, 2024 fel rhai
cywir. |
|
DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS 2024/25 Dewi A Morgan, Pennaeth Cyllid y CBC (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y CBC i ddarparu Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo’r
Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys ar gyfer 2024/25. |
|
ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL 2023/24 Dewi A Morgan, Pennaeth Cyllid y CBC (Swyddog Cyllid
Statudol) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y CBC i ddarparu diweddariad
ar sefyllfa alldro terfynol 2023/24 i Gyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd a
chael cymeradwyaeth i'r Ffurflen Flynyddol Swyddogol ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Nodi a derbyn gwir wariant ac incwm y Cyd-Bwyllgor
Corfforedig ar gyfer 2023/24 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad. 2. Cymeradwyo trosglwyddo’r tanwariant yn 2023/24 i
gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth
yn y dyfodol. 3. Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol Swyddogol
y Cydbwyllgor Corfforedig ar gyfer 2023/24 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn
unol â'r amserlen statudol, sef 30 Mehefin 2024. (Mae wedi'i chwblhau a'i
hardystio'n briodol gan Bennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Cyllid
Statudol y Cydbwyllgor Corfforedig (Atodiad 2 i’r adroddiad)). |
|
Dafydd
Gibbard, Prif Weithredwr y Cyngor Arweiniol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ag Alwen Williams, Cyfarwyddwr
Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru a Phrif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd i gyflwyno diweddariad pellach ar gynnydd i sefydlu'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) gan ymateb i'w swyddogaethau statudol a
chyflawni trosglwyddiad arfaethedig swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru i'r CBC. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Derbyn yr adroddiad ar y diweddariad cynnydd ar y gwaith
i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac ymateb i'r tasgau sy'n ofynnol
gan ei swyddogaethau statudol (Atodiad 1 i’r adroddiad). 2. Derbyn y cynllun wedi'i ddiweddaru ynghyd â'r dyddiad diwygiedig o’r 1af o Dachwedd ar gyfer
trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. 3. Cymeradwyo’r trefniadau interim i ryddhau amser y
Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr
Dros Dro a’i ymestyn hyd at 31 Hydref, 2024. (Bydd yr holl gostau cyflogaeth a
chostau cysylltiedig yn parhau i gael ei dalu gan CBC y Gogledd). 4. Gofyn am adroddiad pellach ar gynnydd yn y broses
drosglwyddo a monitro o'r amserlen. |
|
PENODI AELODAU CYFETHOLEDIG I'R IS-BWYLLGORAU CYNLLUNIO A THRAFNIDIAETH Iwan Evans, Swyddog
Monitro i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Penodi fel aelodau cyfetholedig i is-bwyllgorau'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig a ganlyn: (i)
is-bwyllgor
cynllunio strategol (ii)
is-bwyllgor
trafnidiaeth strategol 2. Awdurdodi'r Swyddog
Monitro i dderbyn (a phenodi fel aelodau cyfetholedig) newidiadau i aelodaeth
yr is-bwyllgorau hyn a hysbyswyd yn ysgrifenedig i'r Swyddog Monitro, ar yr
amod bod y penodiadau hyn yn cael eu datgan i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y
cyfarfod nesaf. |
|
HYSBYSIAD CYDYMFFURFIO DRAFFT SAFONAU'R GYMRAEG RHEOLIADAU RHIF1 Alwen Williams, Prif Weithredwr dros dro i gyflwyno’r
adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Awdurdodi'r Prif Weithredwr i ymateb i'r ymgynghoriad mewn ymgynghoriad
â'r Cadeirydd. |
|
DATGANIAD POLISI TAL 2024/25 Alwen
Williams, Prif Weithredwr dros dro y CBC i gyflwyno polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu datganiad polisi
tâl Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2024/25. |
|
DYDDIADAU ARFAETHEDIG AR GYFER CYFARFODYDD Y DYFODOL Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r calendr
draft ar gyfer y cyfnod at fis Mai 2025. Penderfyniad: Cymeradwyo’r calendr drafft
at gyfer y cyfnod hyd at fis Mai 2025. |