Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Sion E-bost: AnnesSion@gwynedd.llyw.cymru / 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Llinos Medi (Cyngor Sir Ynys Môn) a Emyr Williams (Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. COFNODION: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 287 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd 22 Gorffennaf 2022 fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar yr 22 Gorffennaf 2022 fel rhai cywir. |
|
RHAGOLWG O WARIANT 2022/23 CYD-BWYLLGOR CORFFORDEIG Y GOGLEDD PDF 509 KB Dewi A Morgan, Prif Swyddog Cyllid y CBC, Dafydd L Edwards, Swyddog Arweiniol y Prosiect CBC a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp y CBC i ddarparu rhagolwg o wariant y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 22/23. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd rhagolwg o wariant y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23, fel cyflwynwyd yn Atodiad 1. Cytunwyd fod tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael ei neilltuo i gronfa wrth gefn ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol. COFNODION: Cyflwynwyd
yr adroddiad
gan
Sian
Pugh (Cyfrifydd Grŵp y CBC). PENDERFYNIAD Nodwyd a derbyniwyd rhagolwg o wariant y
Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar
gyfer 2022/23, fel cyflwynwyd yn Atodiad 1. Cytunwyd fod tanwariant ar ddiwedd
y flwyddyn ariannol yn cael ei neilltuo i gronfa wrth gefn ar gyfer ariannu
costau unwaith ac am byth yn y dyfodol. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi
fod yr adroddiad yn adolygiad
ariannol o fis Medi 2022. Amlygwyd y prif bwyntiau gan ddangos y gyllideb ac yr
amcan o’r sefyllfa tan ddiwedd y flwyddyn. Eglurwyd eu bod yn amcanu tanwariant
o £50k ar y pennawd Gweithwyr. Nodwyd fod y gyllideb wedi ei selio ar gyflogi /
secondio dau weithwyr yn y maes Trafnidiaeth o Gorffennaf 2022 a 3 gweithiwr yn
y maes Cynllunio
Strategol
o Rhagfyr
2022,nid
oes penodiadau wedi eu gwneud hyd yma. Mae
Gwasanaeth
Cyllid Cyngor Gwynedd hefyd
wedi rhoi amcan ar gyfer costau y Cyfarwyddwr Portffolio
o Hydref ymlaen, ac fe fydd
y
Gwasanaeth Cyllid yn gweithio gyda’r
Bwrdd Uchelgais dros y misoedd nesaf gyda hyn. Amlygwyd
tanwariant tebygol o £2.5k ar
y pennawd Teithio a tanwariant o £45k ar y pennawd cyflenwadau
a gwasanaethau. Eglurwyd fod £1k o danwariant
ar y pennawd cyflenwadau
amrywiol, £4k ar y pennawd ymgysylltu a
chyfarfodydd a £40k ar y pennawd ymgynghorwyr allanol. Mynegwyd
fod tanwariant net o £3.5k
yn
cael ei ragweld ar y pennawd Gwasanaethau
Cefnogol.
Nodwyd fod gorwariant o £10k ar y costau cyllid gan fod rôl y Swyddog Arweiniol
y Prosiect wedi parhau yn hirach
na’r hyn â ragwelwyd yn wreiddiol.
Amlygwyd £11k o danwariant ar y pennawd Cefnogaeth Gorfforaethol oherwydd
lleihad yn y niferoedd o gyfarfodydd ffurfiol. Esboniwyd
fod oediad pellach gyda deddfu i roi statws adran 33 i’r Cyd-bwyllgorau
Corfforedig a hyn bellach ddim yn debygol o fewn mewn lle tan y 1af Mawrth
2023. Mynegwyd o ganlyniad i hyn ni fodd modd ad-hawlio TAW ar unrhyw drafodion
ariannol sy’n perthyn i’r cyfnod cyn hyn ac yn seiliedig ar yr amcan gorwariant
yn ystod y cyfnod hynny,
mae amcan y bydd tua £41k o TAW ddim yn gallu cael ei ad-hawlio. Mynegwyd
fod hyn yn gadael amcan sefyllfa ar gyfer 2022/23 yn danwariant o bron i £60k
a
fydd yn cael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Holwyd
am gyllideb ac ardoll y CBC ar
gyfer 2023/24,
gan nodi dylid rhoi
ystyriaeth ddwys i holl ardollau
2023/24,
gan gynnwys y Cyd-Bwyllgor Corfforedig,
oherwydd bod rhagolygon ariannol ar gyfer y
flwyddyn nesaf yn edrych mor wael. Nodwyd y bydd trafodaeth am y gyllideb pan
fydd cyllideb yn cael ei chreu. Nodwyd fod yr adroddiad yma am arian eleni ac
ei bod yn anodd dod o hyd i
arbedion eleni gan fod cyllideb y lleiaf posib ond cydnabuwyd yr angen i drafod
cyllideb nesaf. · Holwyd pam fod yr arian yn cael ei neilltuo i gronfa wrth gefn ac eglurwyd mai dim ond un cronfa ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
RHEOLAU SEFYDLOG A CHYFANSODDIAD PDF 351 KB Iwan G D
Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Cytunwyd
i fabwysiadu a) Rheolau
Sefydlog ar gyfer Is Bwyllgorau b) Cylch
Gorchwyl ar gyfer yr Is Bwyllgorau canlynol; ·
Trafnidiaeth Strategol ·
Cynllunio Strategol ·
Llywodraethu ac Archwilio. 2. Dirprwyo
hawl i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad a’r Swyddog Monitro i gwblhau
cytundebau cyfethol gyda aelodau yr Is Bwyllgorau Trafnidiaeth a Chynllunio
Strategol a threfnu drwy'r Swyddog Priodol i alw cyfarfod cychwynnol o’r Is
Bwyllgorau. 3. Cytuno
ar yr egwyddorion penodi aelodau i’r Is Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac
awdurdodi y Prif Weithredwr i gynnal proses ceisio datganiadau o ddiddordeb gan
adrodd i gyfarfod Rhagfyr y CBC ar gyfer penodi. COFNODION: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Iwan G Evans (Swyddog Monitro). PENDERFYNIAD 1.
Cytunwyd i fabwysiadu a.
Rheolau Sefydlog ar
gyfer Is Bwyllgorau b.
Cylch Gorchwyl ar gyfer
yr Is Bwyllgorau canlynol; ·
Trafnidiaeth Strategol ·
Cynllunio Strategol ·
Llywodraethu ac
Archwilio. 2.
Dirprwyo hawl i’r Prif
Weithredwr mewn ymgynghoriad a’r Swyddog Monitro i gwblhau cytundebau cyfethol
gyda aelodau yr Is Bwyllgorau Trafnidiaeth a Chynllunio Strategol a threfnu
drwy'r Swyddog Priodol i alw cyfarfod cychwynnol o’r Is Bwyllgorau. 3.
Cytuno ar yr
egwyddorion penodi aelodau i’r Is Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac
awdurdodi y Prif Weithredwr i gynnal proses ceisio datganiadau o ddiddordeb gan
adrodd i gyfarfod Rhagfyr y CBC ar gyfer penodi. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod
yr adroddiad hwn yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd yn ôl ym mis Mehefin.
Eglurwyd fod haner cyntaf yr adroddiad yn nodi mabwysiadu y Rheolau
Sefydlog a Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is-Bwyllgorau.
Eglurwyd mai dim ond tri o’r is-bwyllgorau sydd yn cael ei amlygu yma gan
fod y Swyddog Statudol
yn parhau i ddisgwyl y rheoliadau ar gyfer y Pwyllgor Safonau.
Nodwyd yn ogystal ei bod yn gyn-amserol
i drafod y Bwrdd Uchelgais. Mynegwyd
fod ail agwedd y
penderfyniad am cyfethol i’r Is-Bwyllgorau. Nodwyd yn unol ar ddeddf fod angen
creu a cwblhau cytundebau
cyfethol gyda aelodau’r Is-Bwyllgorau Trefniadaeth
a Chynllunio Statudol
er mwyn
eu hymrwymo i fod yn aelodau cyn galw cyfarfod. Amlygwyd yr angen i sefydlu
calendr
is-bwyllgorau Trafnidiaeth Strategol a
Chynllunio Strategol. Nodwyd
fod y rheoliadau yn nodi’r angen i’r Cyd-Bwyllgor fod yn creu Is-Fwrdd Llywodraethu
ac Archwilio. Eglurwyd
yr angen i symud ymlaen i’w sefydlu ac fod yr aelodaeth fel Awdurdodau Lleol yn
1 traean yn aelodau lleyg ac dwy ran o
dair yn Cynghorwyd. Mynegwyd o ran argymhelliad y gweithdrefn
fod yr aelodaeth yn dod o blith pwyllgorau Llywodraethu
ac Archwilio y Cynghorau
gan ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb o blith yr aelodau lleyg. Esboniwyd y
bydd angen i’r enwebiadau fod yn gynrychiolaeth ar draws y rhanbarth gyda
balans o sgiliau. Credai’r Swyddog Monitro mai dyma’r ffordd mwyaf pragmataidd
o sicrhau’r aelodaeth. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd fod niferoedd ar
gyfer Pwyllgor Archwilio
yn 9 aelod, 6 wedi ei ethol a 3 aelod lleyg
a beth oedd y drefn ar gyfer hyn Eglurwyd
fy bydd angen gofyn am enwebiadau
ar gyfer yr aelodau lleyg a bydd angen
proses dewis drwy’r Cyd-Bwyllgor gan sicrhau
traws
doriad
a balans. |
|
SECONDIAD I RÔL PRIF WEITHREDWR Y CBC PDF 77 KB Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr y CBC a Dafydd
Edwards, Swyddog Arweiniol Prosiect y CBC i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cytunwyd i benodi Alwen Williams yn Brif Weithredwr
rhan-amser y CBC, ar sail secondiad dros dro, hyd nes caiff y swydd ei hadolygu
eto gan y CBC cyn diwedd y flwyddyn ariannol 2022/23. Dirprwyo’r grym i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd gadarnhau
trefniadau ffurfiol ar gyfer y secondiad. COFNODION: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Dafydd Gibbard
(Prif
weithredwr y CBC). PENDERFYNIAD Cytunwyd
i benodi Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser y CBC, ar sail secondiad
dros dro, hyd nes caiff y swydd ei hadolygu eto gan y CBC cyn diwedd y flwyddyn
ariannol 2022/23. Dirprwyo’r
grym i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd gadarnhau trefniadau ffurfiol ar gyfer y
secondiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr eitem
hon wedi ei thrafod yn ôl ym mis Gorffennaf, pan gytunwyd i wneud
cais i’r Bwrdd Uchelgais i ryddhau Alwen Williams i fod yn Brif Weithredwr
rhan-amser tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd fod yr
eitem wedi ei thrafod yn y Bwrdd Uchelgais wythnos diwethaf ac wedi cefnogi’r
cais i’w secondio ar sail rhan amser gan ryddhau ei
hamser
am ddau ddiwrnod yr wythnos. Eglurwyd
fod yr adroddiad hwn yn cadarnhau
penodiad Alwen Williams gan egluro y bydd papur
am y swydd i’r dyfodol yn cael ei gyflwyno
i’r Cyd-Bwyllgor yn fuan. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd
o ran geiriad y penderfyniad fod angen ei addasu i nodi fod y
swydd yn cael ei hadolygu cyn diwedd y flwyddyn ariannol gan roedd
y geriad
gwreiddiol yn awgrymu na
fyddai
trafodaeth tan ddiwedd Mawrth 2023. ·
Holwyd pam fod angen
dirprwyo’r hawl i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd i gadarnhau’r
trefniadau ffurfiol ar gyfer y secondiad, oni ddylai’r penderfyniad ar y
secondiad ddod yn ôl at y Cyd-Bwyllgor. Eglurwyd mai’r elfen Adnoddau Dynol yn
unig sydd yn cael ei wneud i sicrhau cyflogaeth,
gan mai Cyngor Gwynedd fel corff arweiniol yw’r cyflogwr
cyfreithiol. Pwysleisiwyd
mai dim ond awdurdodi elfen weinyddol o gyflogaeth
mae’r
Prif Weithredwr i gadarnhau
fod Alwen Williams yn cael ei phenodi,
a nid yw’n ymrwymo’r
Cyd-Bwyllgor heibio mis Mawrth 2023. ·
Mynegwyd fod
penderfyniad hwn yn trio dod o hyd i ddatrysiad i broblem
ac ei fod yn ateb pragmatiadd
i allu symud ymlaen a dechrau ar y gwaith. Dechreuodd
y cyfarfod am 12:00pm
a
daeth i
ben am
12:35pm. ___________________________________ CADEIRYDD |