Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: ·
Y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor
Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary Pritchard yn dirprwyo; ·
Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda
Geraint Owen yn dirprwyo ·
Iwan G Evans (Cyngor Gwynedd) gyda
Claire Incledon yn dirprwyo. Croesawyd y dirprwyon i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Alwen Williams
(Cyfarwyddwr Portffolio) oherwydd ei phenodiad fel Prif Weithredwr dros dro
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Nodwyd ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac
fe adawodd y cyfarfod ar gyfer rhan B o eitem 5. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 127 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2024 fel rhai cywir. |
|
I gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd o sefydlu'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac i weithredu ei ddyletswddau a’i
swyddogaethau statudol. A nodi’r cynllun arfaethedig mewn perthynas â
threfniant secondiad presennol Prif
Weithredwr y CBC sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 2024 a'r cynnig ar gyfer penodiad
o’r 1 Gorffennaf, 2024. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Rhan A: Nodwyd y
wybodaeth ddiweddaraf am waith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys datblygu'r Cynllun
Trafnidiaeth Ranbarthol (RTP) a'r Cynllun Datblygu Strategol (SDP) i
weithredu’r dyletswyddau a swyddogaethau statudol y CBC; a sefydlu Prosiect
Gweithredol ar gyfer CBC y Gogledd. Rhan B: Cytunwyd i roi estyniad i'r trefniant
presennol, ar gyfer secondiad rhan-amser Alwen Williams i rôl Prif Weithredwr
CBC, hyd at ddiwedd Mehefin 2024. Yn amodol ar gwblhau’n ffurfiol yr ymgynghoriad TUPE cyfredol gyda staff Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i gadarnhau trosglwyddiad arfaethedig a phenodi Alwen Williams fel Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig o 1 Gorffennaf, 2024. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad mewn dwy ran gydag Alwen Williams
(Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC) yn cyflwyno rhan A a
Geraint Owen (Cyngor Gwynedd) yn cyflwyno rhan B. PENDERFYNWYD: Rhan A: Nodwyd y wybodaeth ddiweddaraf am waith i sefydlu CBC y
Gogledd, gan gynnwys datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol (RTP) a'r
Cynllun Datblygu Strategol (SDP) i weithredu’r dyletswyddau a swyddogaethau
statudol y CBC; a sefydlu Prosiect Gweithredol ar gyfer CBC y Gogledd. Rhan B: Cytunwyd i roi estyniad i'r trefniant presennol, ar gyfer
secondiad rhan-amser Alwen Williams i rôl Prif Weithredwr CBC, hyd at ddiwedd
Mehefin 2024. Yn amodol ar gwblhau’n ffurfiol yr ymgynghoriad TUPE cyfredol
gyda staff Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i gadarnhau trosglwyddiad
arfaethedig a phenodi Alwen Williams fel Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor
Corfforedig o 1 Gorffennaf, 2024. TRAFODAETH Rhan A: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad
o’r cynnydd sydd wedi digwydd o ran sefydlu’r Cydbwyllgor Corfforedig y
Gogledd. Nodwyd rhwng Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022 fod Cabinet a Phwyllgorau
Gwaith ym mhob un o’r chwe Awdurdod Lleol, wedi cytuno mewn egwyddor y dylid
trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru drwy gytundeb dirprwyo
i’r CBC. Eglurwyd fod penderfyniad yr adroddiad hwn yn galluogi’r trosglwyddiad
hwn i gychwyn a’i gwblhau. Eglurwyd fod fframwaith statudol a sefydlu’r CBC yn
golygu fod angen symud ymlaen gyda’r trosglwyddiad arfaethedig. Eglurwyd fod atodiad 1 o’r adroddiad yn rhoi diweddariad ar
feysydd megis Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol, y Parth Buddsoddi yn Sir y
Fflint a Wrecsam ynghyd a’r Cynllun Datblygu Strategol. Ategwyd yr angen yn
ogystal i’r CBC fod yn ymgymryd â dyletswyddau a swyddogaethau statudol megis
Safonau’r Gymraeg ac i gydymffurfio a dyletswyddau i gyrff cyhoeddus megis
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a'r Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol.
Mynegwyd er mwyn trosglwyddo’r swyddogaethau i'r CBC y bydd angen creu Bwrdd
Prosiect Gweithredol ar gyfer CBC y Gogledd. Rhan B: Eglurwyd fod rhan gyntaf y penderfyniad wedi cael ei
gymeradwyo dwywaith dros y flwyddyn ddiwethaf, sef i ymestyn cyfnod secondiad
Alwen Williams o fel Prif Weithredwr y CBC o’r 1 Ebrill hyd ddiwedd Mehefin. Eglurwyd
fod yr eitem hon wedi ei drafod y Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd wythnos diwethaf
a’i fod wedi ei gytuno ganddynt. Mynegwyd fod 1 Gorffennaf wedi ei adnabod fel dyddiad amodol
ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r Bwrdd Uchelgais i’r Cydbwyllgor Corfforedig.
O ganlyniad i hyn y bydd angen trosglwyddo'r staff. Fel rhan o’r trefniadau yma
mae ymgynghoriad yn ofynnol gyda staff fel y nodir gan Reoliadau Trosglwyddo
Ymgymeriadau 2006. Gan y bydd staff y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
yn trosglwyddo ar y telerau ac amodau cyfredol, ni ragwelir y bydd y
trosglwyddiad arfaethedig y staff o un corff cyhoeddus i'r llall yn profi'r
cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â llawer o drosglwyddiadau TUPE ac felly nid yw'n cael ei ystyried yn
rhwystr posibl i drosglwyddo swyddogaethau ar 1 Gorffennaf, 2024. Dim ond un swydd fydd yn cael ei effeithio sef y Prif Weithredwr. Eglurwyd fod y swydd ddisgrifiad ar gyfer rôl ynghyd a chopi o swydd ddisgrifiad presennol y Cyfarwyddwr Portffolio’r Bwrdd Uchelgais ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU - ACHOS DROS NEWID DRAFFT PDF 588 KB I gyflwyno'r
15 amcan allweddol o fewn y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer Gogledd
Cymru - Achos dros y Newid drafft. Penderfyniad: Cytunwyd i’r 15 amcan o fewn yr Achos dros Newid drafft fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Gogledd Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams, Prif weithredwr dros dro'r CBC a Catrin Jones,
Rheolwr Rhaglen Gweithredu’r Cydbwyllgor Corfforedig. PENDERFYNWYD: Cytunwyd i’r 15
amcan o fewn yr Achos dros Newid drafft fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Gogledd
Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, fod
Canllawiau Statudol Cyd-bwyllgor Corfforedig Llywodraeth Cymru a'r Canllawiau i
Gyd-bwyllgorau Corfforedig ar Gynlluniau Trafnidiaeth Ranbarthol Fersiwn 2 yn
nodi un o swyddogaethau statudol Cyd-bwyllgor Corfforedig yw datblygu Cynllun
Trafnidiaeth Ranbarthol. Mae'r Achos dros y Newid yn rhan o'r broses o
ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer rhanbarth y Gogledd. Eglurwyd fod y
Cynllun Gweithredu ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol gan y CBC ers 24
Tachwedd 2023. Nodwyd mai cam nesaf yw gofyn am ddatblygu Achos dros Newid - a
fydd yn nodi nodau ynghyd ag amcanion ac adnabod y materion allweddol, heriau a
chyfleoedd y dylai’r cynllun eu hystyried wrth ddatblygu rhwydwaith
trafnidiaeth integredig ar gyfer Gogledd Cymru. Fel rhan o hyn mae angen adnabod 15 amcan i
danategu a chefnogi’r Achos dros Newid. Cyflwynwyd yr 15 amcan. |