Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer 2023/24. Penderfyniad: Penodi’r
Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar
gyfer 2023/24. Cofnod: PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer
2023/24. |
|
IS-GADEIRYDD Penodi
Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24. Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24. Cofnod: PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y canlynol:- ·
Y
Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary
Pritchard yn dirprwyo; ·
Y
Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam); ·
Dafydd
Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Geraint Owen yn dirprwyo; ·
Neal
Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) gydag Andrew Farrow yn dirprwyo; ·
Emyr
Williams (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri) gydag Iwan Jones yn dirprwyo. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd
Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC, fuddiant personol yn eitem 8
gan fod yr adroddiad yn ymwneud ag ymestyn cyfnod ei secondiad i’r rôl
honno. Roedd o’r farn bod y buddiant yn
rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 130 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 26 Mai, 2023, fel rhai
cywir. |
|
RHAGOLWG O WARIANT 2023-24 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD PDF 512 KB Dewi A.
Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid
Cynorthwyol i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn rhagolwg o wariant y
Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2023/24 fel y cyflwynir yn Atodiad 1 i’r
adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyd-bwyllgor. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol. PENDERFYNWYD
nodi a derbyn rhagolwg o wariant y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2023/24
fel y cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyd-bwyllgor. |
|
YMESTYN CYFNOD SECONDIAD I ROL PRIF WEITHREDWR DROS DRO Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG PDF 80 KB Ystyried ymestyn cyfnod penodiad Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd, ar sail secondiad, hyd at ddiwedd Mawrth 2024. Penderfyniad: Ymestyn cyfnod penodiad Alwen Williams yn
Brif Weithredwr rhan-amser Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ar sail
secondiad, hyd at ddiwedd Mawrth, 2024. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Geraint Owen, Cyngor Gwynedd. Ymhellach
i gynnwys yr adroddiad, nodwyd bod y Bwrdd Uchelgais wedi cytuno yn ei gyfarfod
yn gynharach yn y dydd i ryddhau Alwen Williams i’r rôl am y cyfnod dan sylw. PENDERFYNWYD
ymestyn cyfnod penodiad Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ar sail secondiad, hyd at ddiwedd Mawrth,
2024. TRAFODAETH Holwyd
a olygai’r secondiad bod tanwariant ar gyflog Alwen Williams fel Cyfarwyddwr
Portffolio’r Bwrdd Uchelgais. Mewn
ymateb, eglurwyd bod y swm sy’n cael ei drosglwyddo i’r Bwrdd Uchelgais am
ryddhau Alwen Williams yn rhan-amser yn creu tanwariant, ond bod yr arian
hwnnw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer swyddog arall yn y Swyddfa Rhaglen sy’n
dirprwyo i Alwen Williams ar y 2 ddiwrnod y mae’n gweithio i’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig. Mynegodd
Arweinydd Cyngor Sir Fflint bryder ei bod yn ymddangos felly bod yna ôl-lenwi’r
swydd yn y Bwrdd Uchelgais tra bo gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael ei
gyflawni, gan ychwanegu nad oedd yn cofio i hyn erioed gael ei drafod yn y
Bwrdd Uchelgais. Mewn ymateb, eglurwyd mai
rhan o’r trefniadau, pan gymeradwywyd y trefniant secondio yn wreiddiol, oedd
rhoi sicrwydd i’r Bwrdd Uchelgais bod yna gamu i fyny o ran rôl y Cyfarwyddwr
Portffolio er mwyn cynnal y Cynllun Twf, a bod hynny wedi’i adrodd i’r Bwrdd
Uchelgais ar y pryd. Nodwyd
bod yr adroddiad yn cyfeirio at y ffaith bod eitem arall ar raglen y cyfarfod
yn ymhelaethu ar yr adnodd ychwanegol sydd wedi’i adnabod i gefnogi’r Prif
Weithredwr Dros Dro gyda’r gwaith o sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn
derfynol erbyn 1 Ebrill, 2024, ond na welid unrhyw gyfeiriad at hynny yn y
papurau. Mewn ymateb, awgrymwyd bod hyn
yn gwestiwn i’w ofyn i’r Prif Weithredwr Dros Dro wedi iddi ddychwelyd i’r
cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf gan mai hi oedd wedi rhoi’r trefniant hwn yn
ei le. Yn
dilyn y bleidlais ar yr eitem, nododd Arweinydd Cyngor Sir Fflint y dymunai
gofnodi iddo bleidleisio yn erbyn y secondiad gan nad oedd ganddo unrhyw gof o
adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais ynglŷn â phwy fyddai’n
llenwi i mewn ar gyfer y Cyfarwyddwr Portffolio. Nododd
y Cadeirydd y gellid gofyn y cwestiwn i’r Prif Weithredwr Dros Dro wedi iddi
ddychwelyd i’r cyfarfod, a gofynnodd i’r aelod a oedd yn dymuno parhau i nodi
ei wrthwynebiad. Nododd
Arweinydd Cyngor Sir Fflint ei fod yn dymuno i’w bryder gael ei nodi a’i fod yn
gofyn am adroddiad i’r Bwrdd Uchelgais ac i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn
egluro pwy sy’n llenwi i mewn yn y Bwrdd Uchelgais am y 2 ddiwrnod pan nad yw’r
Cyfarwyddwr Portffolio ar gael, a sut a phryd y cafodd y penodiad(au) hynny eu gwneud. Galwyd Alwen Williams yn ôl i mewn i’r cyfarfod, a gofynnwyd iddi roi esboniad o’r sefyllfa. Mewn ymateb, nododd, gan fod y 2 Lywodraeth yn dymuno cadarnhad na fyddai’r secondiad i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn amharu ar y gallu na’r adnoddau i gyflawni yn erbyn y Cynllun Twf, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
BRAND AR GYFER CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG RHANBARTH Y GOGLEDD PDF 603 KB Alwen
Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cymeradwyo’r brand
arfaethedig ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r brand arfaethedig ar gyfer y Cyd-bwyllgor
Corfforedig. |