Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Dyfrig
Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2024/25. Cofnod: PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2024/25. |
|
IS-GADEIRYDD Penodi Is-gadeirydd
ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. Cofnod: PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:- ·
Y
Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary
Pritchard yn dirprwyo; ·
Y
Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) ·
Rhun
ap Gareth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) gyda Fran Lewis yn dirprwyo; ·
Neil
Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) gydag Andrew Farrow yn dirprwyo; · Graham Boase (Cyngor
Sir Ddinbych) gyda Gary Williams yn dirprwyo; · Emyr Williams (Awdurdod
Parc Cenedlaethol Eryri) gydag Iwan Jones yn dirprwyo. Croesawyd y Cynghorydd Edgar Owen i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyd-bwyllgor yn
sgil ei benodi’n Gadeirydd newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Nodwyd y byddai Emyr Williams (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri) yn
ymddeol yn fuan. Diolchwyd iddo am ei
gyfraniad i waith y Cyd-bwyllgor a dymunwyd iddo bob hapusrwydd i’r dyfodol. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd Alwen Williams,
Prif Weithredwr Dros Dro y CBC fuddiant personol yn eitem 9, ond gan ei bod yn
bwysig ei bod yn rhan o’r drafodaeth gyffredinol ar drosglwyddiad
swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais i’r CBC, ac na fu trafodaeth ar y rhan o’r
adroddiad sy’n ymwneud yn benodol ag ymestyn ei secondiad yn y rôl Prif
Weithredwr Dros Dro, ni adawodd y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gelir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 101 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Mawrth, 2024 fel rhai
cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth, 2024 fel
rhai cywir. |
|
DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS 2024/25 PDF 489 KB Dewi A Morgan, Pennaeth Cyllid y CBC (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y CBC i ddarparu Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo’r
Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys ar gyfer 2024/25. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Dewi Morgan, Prif Swyddog Cyllid. PENDERFYNWYD
derbyn a chymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys ar gyfer
2024/25. |
|
ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL 2023/24 PDF 515 KB Dewi A Morgan, Pennaeth Cyllid y CBC (Swyddog Cyllid
Statudol) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y CBC i ddarparu diweddariad
ar sefyllfa alldro terfynol 2023/24 i Gyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd a
chael cymeradwyaeth i'r Ffurflen Flynyddol Swyddogol ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Nodi a derbyn gwir wariant ac incwm y Cyd-Bwyllgor
Corfforedig ar gyfer 2023/24 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad. 2. Cymeradwyo trosglwyddo’r tanwariant yn 2023/24 i
gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth
yn y dyfodol. 3. Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol Swyddogol
y Cydbwyllgor Corfforedig ar gyfer 2023/24 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn
unol â'r amserlen statudol, sef 30 Mehefin 2024. (Mae wedi'i chwblhau a'i
hardystio'n briodol gan Bennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Cyllid
Statudol y Cydbwyllgor Corfforedig (Atodiad 2 i’r adroddiad)). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol. PENDERFYNWYD:
1.
Nodi a derbyn gwir wariant ac incwm y Cydbwyllgor Corfforedig ar gyfer
2023/24 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad. 2.
Cymeradwyo trosglwyddo’r tanwariant yn 2023/24 i gronfa wrth gefn wedi’i
chlustnodi ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol. 3.
Cymeradwyo
Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cydbwyllgor Corfforedig ar gyfer 2023/24 (amodol
ar Archwiliad Allanol), yn unol â'r amserlen statudol, sef 30 Mehefin 2024.
(Mae wedi'i chwblhau a'i hardystio'n briodol gan Bennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd
fel Swyddog Cyllid Statudol y Cydbwyllgor Corfforedig (Atodiad 2 i’r
adroddiad)). |
|
Dafydd
Gibbard, Prif Weithredwr y Cyngor Arweiniol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ag Alwen Williams, Cyfarwyddwr
Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru a Phrif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd i gyflwyno diweddariad pellach ar gynnydd i sefydlu'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) gan ymateb i'w swyddogaethau statudol a
chyflawni trosglwyddiad arfaethedig swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru i'r CBC. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Derbyn yr adroddiad ar y diweddariad cynnydd ar y gwaith
i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac ymateb i'r tasgau sy'n ofynnol
gan ei swyddogaethau statudol (Atodiad 1 i’r adroddiad). 2. Derbyn y cynllun wedi'i ddiweddaru ynghyd â'r dyddiad diwygiedig o’r 1af o Dachwedd ar gyfer
trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. 3. Cymeradwyo’r trefniadau interim i ryddhau amser y
Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr
Dros Dro a’i ymestyn hyd at 31 Hydref, 2024. (Bydd yr holl gostau cyflogaeth a
chostau cysylltiedig yn parhau i gael ei dalu gan CBC y Gogledd). 4. Gofyn am adroddiad pellach ar gynnydd yn y broses
drosglwyddo a monitro o'r amserlen. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC. PENDERFYNWYD:
1.
Derbyn yr adroddiad ar y diweddariad cynnydd ar y gwaith i sefydlu
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac ymateb i'r tasgau sy'n ofynnol gan ei
swyddogaethau statudol (Atodiad 1 i’r adroddiad). 2.
Derbyn y cynllun wedi'i ddiweddaru ynghyd â'r dyddiad diwygiedig o’r 1af
o Dachwedd ar gyfer trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd. 3.
Cymeradwyo’r trefniadau interim i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio
am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr Dros Dro a’i
ymestyn hyd at 31 Hydref, 2024. (Bydd yr holl gostau cyflogaeth a chostau
cysylltiedig yn parhau i gael ei dalu gan CBC y Gogledd). 4.
Gofyn am adroddiad pellach ar gynnydd yn y broses drosglwyddo a monitro
o'r amserlen. TRAFODAETH Holwyd ai adnoddau a
chyllid y Cyd-bwyllgor Corfforedig oedd yn mynd i mewn i’r gwaith caffael ar
gyfer symud y Parth Buddsoddi ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint yn ei flaen. Mewn ymateb, nodwyd:- · Bod cytundeb wedi’i wneud
eisoes i neilltuo £100,000 o gyllideb y Cyd-bwyllgor er mwyn hwyluso’r gwaith o
fynd drwy’r Pyrth i gyflawni’r Parth Buddsoddi. · Gan ein bod yn wynebu
Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf, bod trefniant ychwanegol mewn lle a
chytundeb gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Wrecsam i ddarparu hyd at £25,000
yr un o gyllid ar gyfer unrhyw waith sydd wedi cael ei gyfeirio tuag at
ddatblygu’r cynllun pe na fyddai’r llywodraeth newydd yn dilyn y broses o
Barthau Buddsoddi. Holwyd ymhellach
oedd yna unrhyw amheuaeth ynglŷn â dyfodol y polisïau hyn. Mewn ymateb, nodwyd:- · Nad oedd unrhyw lywodraeth
wedi rhoi arwydd y byddai yna drefniant newydd mewn lle, ond roedd angen
sicrwydd ynglŷn â hyn unwaith y byddai’r llywodraeth wedi’i sefydlu. · Yn sgil mynd drwy’r broses
o fynd drwy’r Pyrth i ddarparu’r cais i gadarnhau’r Parth Buddsoddi, byddai
cyfran o’r £160 miliwn sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y Parth Buddsoddi yn
gyfran all gael ei ddefnyddio ar gyfer costau gweinyddol, felly byddai’n bosib’
gwneud cais am y costau datblygu o’r arian yna unwaith y byddai’r Parth
Buddsoddi wedi’i gymeradwyo. Nododd Arweinydd
Cyngor Sir y Fflint ei fod yn siomedig bod y Parth Buddsoddi yn dod drwy’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig ac y byddai’n well ganddo petai yna gorff wedi’i
sefydlu rhwng Sir y Fflint a Wrecsam a’u partneriaid, megis Airbus,
i reoli’r prosiect. Nododd ymhellach y
gofynnwyd mewn dau gyfarfod o’r Cyd-bwyllgor o ble fyddai’r adnoddau yn dod,
gan fod hwn yn Barth Buddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam, ac awgrymodd
efallai y dylid edrych ar gostau amrywiol brosiectau sydd wedi’u lleoli mewn
ardaloedd daearyddol penodol. Nodwyd y deellid
bod yr adnodd gweithredu ar gyfer y Cyd-bwyllgor drwy secondiad gan Lywodraeth
Cymru bellach wedi dod i ben, a holwyd faint o ergyd oedd hyn i’n gallu i fwrw
ymlaen â’r gwaith o sefydlu’r Cyd-bwyllgor.
Mewn ymateb, nodwyd:- · Bod y secondiad wedi terfynu yn gynt na’r disgwyl oherwydd penderfyniad personol i fynd yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
PENODI AELODAU CYFETHOLEDIG I'R IS-BWYLLGORAU CYNLLUNIO A THRAFNIDIAETH PDF 133 KB Iwan Evans, Swyddog
Monitro i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Penodi fel aelodau cyfetholedig i is-bwyllgorau'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig a ganlyn: (i)
is-bwyllgor
cynllunio strategol (ii)
is-bwyllgor
trafnidiaeth strategol 2. Awdurdodi'r Swyddog
Monitro i dderbyn (a phenodi fel aelodau cyfetholedig) newidiadau i aelodaeth
yr is-bwyllgorau hyn a hysbyswyd yn ysgrifenedig i'r Swyddog Monitro, ar yr
amod bod y penodiadau hyn yn cael eu datgan i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y
cyfarfod nesaf. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Iwan Evans, Swyddog Monitro. Diolchodd y Swyddog Monitro
i Claire Incledon (Cyfreithiwr) am y gwaith o gael y cytundebau yn eu lle ac
wedi’u harwyddo. PENDERFYNWYD:
1.
Penodi fel aelodau cyfetholedig i is-bwyllgorau'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig a ganlyn: (i) is-bwyllgor cynllunio
strategol (ii) is-bwyllgor trafnidiaeth
strategol 2.
Awdurdodi'r Swyddog Monitro i dderbyn (a phenodi fel aelodau
cyfetholedig) newidiadau i aelodaeth yr is-bwyllgorau hyn a hysbyswyd yn
ysgrifenedig i'r Swyddog Monitro, ar yr amod bod y penodiadau hyn yn cael eu
datgan i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y cyfarfod nesaf. |
|
HYSBYSIAD CYDYMFFURFIO DRAFFT SAFONAU'R GYMRAEG RHEOLIADAU RHIF1 PDF 136 KB Alwen Williams, Prif Weithredwr dros dro i gyflwyno’r
adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Awdurdodi'r Prif Weithredwr i ymateb i'r ymgynghoriad mewn ymgynghoriad
â'r Cadeirydd. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Swyddog Dros Dro y CBC. Mewn
ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y safonau yn debyg iawn i’r safonau sydd
wedi’u gosod ar y 6 awdurdod yn unigol, a’i bod yn debygol hefyd y byddai’r
safonau sy’n cael eu gosod ar yr holl gydbwyllgorau ar draws Cymru yn ymdebygu
i’w gilydd. PENDERFYNWYD
awdurdodi'r Prif Weithredwr i
ymateb i'r ymgynghoriad mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd. |
|
DATGANIAD POLISI TAL 2024/25 PDF 107 KB Alwen
Williams, Prif Weithredwr dros dro y CBC i gyflwyno polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu datganiad polisi
tâl Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2024/25. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro. Mewn
ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd nad oedd unrhyw beth yn y Datganiad Polisi Tâl
yn anarferol nac yn wahanol i bolisi tâl unrhyw gyrff eraill. PENDERFYNWYD
mabwysiadu datganiad polisi tâl Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer
2024/25. |
|
DYDDIADAU ARFAETHEDIG AR GYFER CYFARFODYDD Y DYFODOL PDF 115 KB Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r calendr
draft ar gyfer y cyfnod at fis Mai 2025. Penderfyniad: Cymeradwyo’r calendr drafft
at gyfer y cyfnod hyd at fis Mai 2025. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r calendr drafft at gyfer y cyfnod hyd at fis Mai 2025. |