Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y Cyd-bwyllgor. Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn
Gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y Cyd-bwyllgor. Cofnod: PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y
Cyd-bwyllgor. Diolchodd y
Cadeirydd am gefnogaeth y Cyd-bwyllgor gan nodi y byddai yn gweithio’n ddiflino
i wella Gogledd Cymru fel rhanbarth. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y Cyd-bwyllgor, os yw’r angen yn codi. Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Charlie McCoubrey yn Is-gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol nesaf y Cyd-bwyllgor. Cofnod: PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Charlie McCoubrey yn Is-gadeirydd hyd Cyfarfod Blynyddol
nesaf y Cyd-bwyllgor. Mynegwyd
llongyfarchiadau ar ran y Cyd-bwyllgor i’r Is-gadeirydd. Diolchodd yr
Is-gadeirydd am y gefnogaeth gan ategu y byddai’n gwneud popeth o fewn ei allu
er mwyn sicrhau llwyddiant y Cyd-bwyllgor hwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan: • Cyng. Jason McLellan Cyngor Sir
Ddinbych) gyda Cyng. Barry Mellor yn dirprwyo. • Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Geraint Owen yn dirprwyo. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod
y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2024 fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
LLYWODRAETHU'R CBC - IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac Iwan Evans (Swyddog Monitro) i gyflwyno’r
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl arfaethedig yn
atodiad 1 o’r adroddiad ar gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd. Cymeradwyo comisiynu gwasanaethau
Cyfreithiol, Democrataidd, Cyllid, TG, Adnoddau Dynol, Dysgu a Datblygu, Iechyd
a Diogelwch, a Chyfieithu drwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gyda Chyngor
Gwynedd o fewn y cyllidebau a gymeradwywyd. Cytuno i ddirprwyo awdurdod i Brif
Weithredwr Dros Dro y CBC, ac yn unol â’r adroddiad yma, ac mewn ymgynghoriad
â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gytuno a chwblhau Cytundeb Lefel Gwasanaeth
(CLG) ar gyfer y gwasanaethau yn 2.2 uchod gyda Chyngor Gwynedd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif
Weithredwr Dros Dro'r CBC ac Iwan Evans, Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl arfaethedig yn atodiad 1
o’r adroddiad ar gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd. Cymeradwyo comisiynu gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd, Cyllid, TG, Adnoddau Dynol, Dysgu a Datblygu, Iechyd a Diogelwch,
a Chyfieithu drwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gyda Chyngor Gwynedd o fewn y
cyllidebau a gymeradwywyd. Cytuno i ddirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr Dros Dro
y CBC, ac yn unol â’r adroddiad yma, ac mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd i gytuno a chwblhau Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) ar gyfer y
gwasanaethau yn 2.2 uchod gyda Chyngor Gwynedd. TRAFODAETH Darparwyd crynodeb o’r adroddiad oedd yn cynnig Cylch
Gorchwyl drafft ar gyfer Is-bwyllgor Lles Economaidd y Cyd-bwyllgor
Corfforedig, sydd i’w weld yn Atodiad 1 o’r adroddiad. Eglurwyd bod y Cylch
Gorchwyl yn canolbwyntio'n benodol ar y Cynllun Twf a'i drosglwyddiad
arfaethedig i'r CBC ar y 1af o Ebrill, 2025. Amlinellwyd y Model Llywodraethu arfaethedig ar gyfer
yr Is-bwyllgor Lles Economaidd fel sydd i’w weld yn Atodiad 2 o’r adroddiad.
Nodwyd y bydd y Cylch Gorchwyl yn esblygu wrth i ddealltwriaeth a chytundeb
ddod i’r amlwg ynglŷn â beth ydi’r diffiniad o les economaidd ar lefel
rhanbarthol ac felly beth ydi cyfrifoldebau ehangach y Cyd-bwyllgor Corfforedig
yn y maes yma. Nodwyd y bydd y ffocws cychwynnol ar y Cynllun Twf yn caniatáu i
drosglwyddo’r Cynllun i mewn i Strwythur llywodraethu o fewn y Cyd-bwyllgor
Corfforedig. Ymhelaethwyd ar y penderfyniad a geisir gan egluro y
bydd adroddiad pellach dan eitem 12 o’r Rhaglen ar y gyllideb ddrafft wrth
gyfeirio at ran 2.2 o’r penderfyniad oedd yn sôn am y Cytundeb Lefel Gwasanaeth
gyda Chyngor Gwynedd. Tynnwyd sylw at ran 4.6 o’r adroddiad oedd yn rhoi mwy o
fanylder ar yr adnoddau fyddai’n cael eu darparu i gyflawni’r CLG ac amlygwyd
bwriad i gomisiynu’r trefniant hwn am gyfnod cychwynnol o 3 mlynedd. I gloi cadarnhawyd y bydd gofynion y CLG yn cael eu
hariannu o fewn y cyllidebau Gwasanaethau Cefnogol y gobeithir bydd yn cael eu
cymeradwyo heddiw dan yr eitem Cyllideb. Diolchodd y Cadeirydd i Brif Weithredwr dros dro’r CBC
am yr adroddiad. Awgrymodd ychwanegu’r cymal “ac mewn ymgynghoriad â’r
Cadeirydd a’r Is-gadeirydd” i drydydd paragraff y penderfyniad a geisir.
Mynegwyd cefnogaeth i’r addasiad hwn gan fynegi barn ei fod yn addasiad
synhwyrol. Gwnaethpwyd sylw ei bod yn dda gweld y trefniadau yn cael eu ffurfioli a’r adnoddau priodol mewn lle a bod y Cyd-bwyllgor yn ymwybodol o be sy’n ddisgwyliedig. Cydnabuwyd y gwaith sydd wedi ei wneud gan Swyddogion Cyngor Gwynedd a diolchwyd iddynt am y gwaith yma. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
IS-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Iwan Evans (Swyddog Monitro) i gyflwyno’r adroddiad ar gyfethol aelodaeth i’r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.1 Cymeradwyo penodi'r chwe Chynghorydd enwebedig isod o bob
Cyngor cyfansoddol fel Aelodau
cyfetholedig (sydd â phleidlais) o'r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
1.2 Cymeradwyo penodi tri aelod lleyg i gael eu cyfethol (a chanddynt
bleidlais) i'r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD 1.1 Cymeradwyo penodi'r chwe Chynghorydd
enwebedig isod o bob
Cyngor cyfansoddol
fel Aelodau cyfetholedig (sydd â phleidlais) o'r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. 1.2 Cymeradwyo penodi tri aelod lleyg i gael
eu cyfethol (a chanddynt bleidlais) i'r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan atgoffa
ei bod yn ofyn statudol i’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig sefydlu Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cytunwyd yn flaenorol
i geisio Is-bwyllgor fydd yn
cynnwys 3 aelod lleyg a chwe aelod
etholedig. Adroddwyd ar y gwaith a ddilynodd
i benodi’r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a derbyniwyd enwebiadau o Bwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio’r Cynghorau. Eglurwyd yn sgil y gofynion cworwm llym sydd
o amgylch materion y Cyd-bwyllgor Corfforedig fod y cynnig hefyd
yn cynnwys ethol dirprwyon. Tynnwyd sylw at baragraff 3.8 o’r adroddiad sydd yn rhestru’r enwau
sydd wedi eu henwebu gan
y Cynghorau ac o blith aelodau lleyg Pwyllgorau
Llywodraethu ac Archwilio. Nodwyd ei bod yn
braf adrodd bod elfen o gydweithio wedi bod yn sgil
yr enwebiadau wrth i Gynghorau
gefnogi aelodau lleyg ar y cyd. Diolchwyd am yr adroddiad gan ategu fod hyn yn ofynnol er mwyn cydymffurfio a Rheoliadau Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd 2021 (Rheoliadau Sefydlu) a bod cyfrifoldeb ar y Cyd-bwyllgor i benodi. Cefnogwyd yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD CYNNYDD AR Y CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y Cyd-bwyllgor Corfforedig a David Hole, Rheolwr Rhaglen Gweithredu’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Derbyn y cynnydd hyd yma a'r trefniadau
symud. Cefnogi'r amserlenni dangosol ar gyfer
datblygu'r Cytundeb Cyflawni ac awdurdodi ei baratoi yn unol â hynny. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif
Weithredwr Dros Dro’r CBC a David Hole, Rheolwr Rhaglen Gweithredu’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig. PENDERFYNIAD Derbyn y cynnydd hyd yma a'r trefniadau symud. Cefnogi'r amserlenni dangosol ar gyfer datblygu'r
Cytundeb Cyflawni ac awdurdodi ei baratoi yn unol â hynny. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn ofyniad yn
dilyn cyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Corfforedig i roi’r wybodaeth
ddiweddaraf ar y cynnydd a’r heriau wrth baratoi Cytundeb Cyflawni ar gyfer y
Cynllun Datblygu Strategol rhanbarthol. Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor dderbyn y
cynnydd hwn a chefnogi’r amserlenni dangosol ar gyfer datblygu’r Cytundeb
Cyflawni ac awdurdodi ei baratoi. Adroddwyd ar y tasgau y bydd y Swyddog Cynllunio
Datblygu Strategol Rhanbarthol yn eu hymgymryd ac amlinellwyd yr amserlen
ddangosol ar gyfer y gwaith yma, fel sydd i’w weld yn rhan 5.2 o’r adroddiad. Tynnwyd sylw at ran 4.5 o’r adroddiad oedd yn amlygu’r
adnodd fydd ei angen i arwain ar y gwaith. Cadarnhawyd bod anodd wedi ei
adnabod a bod Andy Roberts wedi cychwyn rhan amser yn ei swydd fel Swyddog
Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol y CBC. Dymunwyd yn dda i Andy gan nodi
y bydd yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos yn y rôl yma. Nodwyd bod y darn hwn
o waith yn ddarn pwysig ar gyfer y rhanbarth ac y bydd Andy yn arwain ar y
gwaith dan arweinyddiaeth yr Is-bwyllgor Cynllunio ar ran y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Diolchwyd am yr adroddiad ac estynnwyd croeso i Andy
gan y Cadeirydd ar ran y Cyd-bwyllgor gan gydnabod pwysigrwydd y gwaith Cynllun
Datblygu Strategol. Holwyd os ydi Prif Weithredwr dros dro’r CBC yn ymwybodol o unrhyw newid i’r amserlenni a gofynnwyd am ddiweddariad yn gyflym pe bai unrhyw newidiadau. Cadarnhaodd Prif Weithredwr dros dro’r CBC y byddai’r Cyd-bwyllgor yn cael eu diweddaru pe bai unrhyw newidiadau ac ategodd y bwriad o edrych ar fanylder yr amserlen a bwrw mlaen gyda’r gwaith. Ychwanegwyd pe bai unrhyw newid i’r amserlenni byddai’r rhesymau dros hynny yn cael eu hegluro’n llawn i’r Cyd-bwyllgor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y Cyd-bwyllgor Corfforedig) a David Hole (Rheolwr Rhaglen Gweithredu’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo'r Achos dros Newid gan gynnwys y
Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid. Cefnogi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif
Weithredwr Dros Dro’r CBC a David Hole, Rheolwr Rhaglen Gweithredu’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig. PENDERFYNIAD Cymeradwyo'r Achos dros Newid gan gynnwys y Cynllun
Ymgysylltu â Rhanddeiliaid. Cefnogi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu bod y Cynlluniau a
gyflwynwyd eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth gan yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth
Strategol yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr, 2024. Eglurwyd bod y Cynllun Achos dros
Newid a’r Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn gam gweithdrefnol beirniadol
wrth ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a chreu sylfaen
angenrheidiol i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar 20 Ionawr. Gofynnwyd i’r
Cyd-bwyllgor gymeradwyo’r ddau Gynllun a chefnogi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus. Rhannwyd gwybodaeth am linell amser bras oedd yn
crynhoi’r prif gerrig milltir ar gyfer cyrraedd cyhoeddi Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol. Eglurwyd mai’r bwriad yw i redeg ymgynghoriad o 20 Ionawr hyd ar
14 Ebrill sydd yn gyfnod o 12 wythnos. Nodwyd bod copi o’r ddogfen bolisi
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi ei chynnwys yn Atodiad 3 o’r adroddiad a
nodwyd bod yr holl ddogfennau cefnogol yn barod i’w lansio fel rhan o’r
ymgynghoriad pe bai’r Cyd-bwyllgor yn gefnogol heddiw. Mynegwyd balchder yn y gwaith sydd wedi cael ei
gwblhau gan ARUP a’r gwaith pwysig sydd wedi cael ei wneud gan Trafnidiaeth
Cymru fel rhan o’r broses o gasglu’r wybodaeth i gyd yn barod i fynd allan i
ymgynghoriad. Amlygwyd mai Gogledd Cymru fydd y rhanbarth cyntaf i fynd allan i
ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a bod hyn yn
destun balchder sy’n cydnabod y gwaith aeth yn ei flaen ers mis Hydref 2024 i
gael yr holl ddogfennaeth yn barod. Diolchwyd i Brif Weithredwr dros dro’r CBC a’r tîm am
eu gwaith i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus gan
gydnabod pwysigrwydd y gwaith. Mynegwyd diolch pellach i Brif Weithredwr dros dro’r
CBC am fynychu sesiwn briffio i aelodau etholedig Ynys Môn yn ystod yr wythnos
oedd yn fuddiol iawn. Cadarnhawyd bod yr aelodau etholedig wedi bod yn annog eu
partneriaid trydydd sector i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Gofynnwyd am sicrwydd y bydd yr iaith Gymraeg yn cael
ei llawn le yn yr ymgynghoriad a bod ystyriaeth hefyd i ymgysylltu wyneb yn
wyneb yn ogystal ag ymgysylltu digidol. Ychwanegwyd ei bod yn bwysig bod
cyfleoedd i bobl fedru ymateb ac ymgysylltu trwy’r iaith Gymraeg. Cadarnhaodd
Prif Weithredwr dros dro’r CBC bod yr holl ddogfennaeth yn ddwyieithog gyda’r
Gymraeg yn ymddangos yn gyntaf o fewn yr ymgynghoriad. Adroddwyd bod ystafell
rithiol wedi ei chreu ar y cyd efo ARUP a bod y byrddau rhithiol hyn i gyd yn
ymddangos efo’r Gymraeg yn gyntaf. Ychwanegwyd bod llinell ffôn wedi ei sefydlu
fydd yn agored i’r cyhoedd ffonio fydd hefyd yn cynnig darpariaeth Gymraeg i
unrhyw un sydd eisiau trafodaeth neu roi adborth yn Gymraeg. Nodwyd mai’r unig
ddogfennaeth sydd heb eu cyfieithu i’r Gymraeg yn llawn yw dogfennaeth hynod
dechnegol sydd wrth gefn i’r ymgynghoriad. Mynegwyd o ran ymgysylltu wyneb yn wyneb bod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGOLWG O WARIANT 2024/25 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU Dewi A. Morgan (Pennaeth
Cyllid - Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, (Pennaeth Cyllid
Cynorthwyol) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn rhagolwg o wariant y
Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2024/25 fel y cyflwynir yn Atodiad 1. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi A. Morgan (Pennaeth
Cyllid - Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, (Pennaeth Cyllid
Cynorthwyol). PENDERFYNIAD Nodi a derbyn rhagolwg o wariant y Cyd-Bwyllgor
Corfforedig ar gyfer 2024/25 fel y cyflwynir yn Atodiad 1. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad adolygiad ariannol Rhagfyr
2024 gan dynnu sylw’r aelodau at y tabl yn atodiad 1 o’r adroddiad. Eglurwyd
bod y gyllideb ar yr ochr chwith ac yna amcan o’r sefyllfa hyd at ddiwedd y
flwyddyn ariannol ar yr ochr dde, gyda’r golofn olaf yn dangos y gorwariant
neu'r tanwariant fesul pennawd. Amlygwyd, yn seiliedig ar yr wybodaeth diweddaraf,
rhagwelir tanwariant net o £270,000 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, a hynny
wedi cynyddu o’r £200,000 a ragwelwyd yn Adolygiad Awst. Rhagwelir tanwariant o
£311,000 ar y pennawd Gweithwyr a £5,000 o danwariant ar y pennawd Teithio.
Nodwyd bod y pennawd ymgynghorwyr allanol yn dangos gorwariant o £53,000, ond
bod £80,000 o’r gwariant ar y pennawd yma yn ymwneud â chostau ymgynghori sy’n
cael ei ariannu o Grant Trafnidiaeth, a dangosir yr incwm fel gwarged o dan yr
incwm grant is lawr yn y tabl. Tynnwyd sylw at y gorwariant o £216,700 ar y costau
sefydlu, sef cynnydd o’r £136,000 o orwariant a ragwelwyd yn yr adolygiad Awst
a hynny oherwydd yr oedi wrth drosglwyddo swyddogaethau'r Cynllun Twf i'r
Cydbwyllgor Corfforedig gyda’r dyddiad trosglwyddo tebygol bellach ym mis
Ebrill. Diolchwyd i’r Pennaeth Cyllid Cynorthwyol am yr adroddiad a’r gwaith gan fynegi bodlonrwydd am yr hyn sydd wedi ei nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYLLIDEB 2025/26 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AC ARDOLL AR AWDURDODAU CYFANSODDOL Dewi A. Morgan (Pennaeth
Cyllid - Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid
Cynorthwyol) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.1 Cymeradwyo Cyllideb 2025/26 Cyd-Bwyllgor
Corfforedig (CBC) y Gogledd fel y’i cyflwynir yn yr atodiad i’r adroddiad.
Cymeradwyo’r gyllideb fel y nodir isod:-
1.2
Cymeradwyo’r ardoll
ar yr awdurdodau cyfansoddol fel y nodir isod:-
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dewi A.
Morgan (Pennaeth Cyllid - Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, (Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol). PENDERFYNIAD 1.1 Cymeradwyo Cyllideb 2025/26 Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC) y Gogledd fel y’i cyflwynir
yn yr atodiad
i’r adroddiad. Cymeradwyo’r gyllideb fel y nodir isod:-
1.2 Cymeradwyo’r ardoll ar yr
awdurdodau cyfansoddol fel y nodir isod:- TRAFODAETH Cyflwynwyd cyllideb
y Cydbwyllgor Corfforedig ar gyfer 2025/26 a rhedwyd trwy’r prif ychwanegiadau. Nodwyd bod argymhelliad diweddar y Llywodraethau i gael Cyfarwyddwr
Portffolio Cynllun Twf llawn amser
pwrpasol wedi cael effaith ar
y strwythur staffio. Yn flaenorol, rhannwyd swydd Prif Weithredwr
y Cydbwyllgor gyda’r Cynllun Twf, ond
yn dilyn eu hargymhelliad, mae cyllideb y Cydbwyllgor bellach wedi ei addasu
i gynnwys swydd Prif Weithredwr
llawn amser yn ogystal â Chynorthwyydd
Personol llawn amser. Adroddwyd bod pedair swydd ychwanegol
mewn Polisi, Caffael, Gweithrediadau a Gweinyddu wedi'u hychwanegu at y strwythur staffio a rheini i gael
eu hariannu o'r gronfa wrth
gefn am gyfnod o ddwy flynedd gyda
thrafodaethau pellach i’w cynnal yn
y dyfodol i benderfynu os oes
angen eu gwneud yn barhaol
a’u hychwanegu at yr ardoll. Eglurwyd bod y gyllideb gwasanaethau cefnogol wedi cynyddu,
a hynny i adlewyrchu'r adnoddau sydd eu hangen
wrth symud ymlaen ac mae'n cynnwys cefnogaeth Cyllid (gan gynnwys
Swyddog Adran 151), Cyfreithiol (gan gynnwys y Swyddog Monitro), Cefnogaeth Democratiaeth, Gwasanaethau Corfforaethol (Cyfieithu, Adnoddau Dynol, Dysgu a Datblygu, Iechyd a Diogelwch) a gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth. Nodwyd bod cyllideb o £180,000 ar gyfer rhaglen y Parth Buddsoddi gyda'r gobaith y bydd popeth mewn lle
i ddechrau ym mis Ebrill 2025. Ychwanegwyd y bydd cyfraniad o bron i £565,000 yn dod
o’r gronfa wrth gefn a fydd
wedyn yn gadael tua hanner
miliwn o falans yn y gronfa. Esboniwyd mai
cyfanswm y gyllideb net a ddefnyddir i gyfrifo'r
ardoll ar gyfer 2025/26 yw £902,480 ac sy'n gynnydd o £137,660 o
2024/25, ac mae’r cynnydd yma’n bennaf oherwydd
effaith argymhelliad diweddar y Llywodraethau i gael Cyfarwyddwr
Portffolio llawn amser pwrpasol ar gyfer y Cynllun
Twf. Diolchwyd am yr adroddiad. Nid
oedd unrhyw sylwadau pellach. |