Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Prifysgol Wrecsam a Zoom
Cyswllt: Sera Jane Whitley
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD AR GYFER 2025/26 I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2025/26. Penderfyniad: Bu i Cyng. Jason McLellan gael ei ethol yn Is-Gadeirydd y
Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26. Cofnod: Etholwyd y Cyng. Jason McLellan yn Is-gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26. |
|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Alwen Williams (Prif
Weithredwr y CBC) a Sian Pugh (Pennaeth Cynorthwyol Cyllid – Cyngor Gwynedd). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatgan o fuddiant personol. Cofnod: Bu i Cyng Dave Hughes (Cyngor Sir y Fflint) ar gyfer Eitem 5 oherwydd materion personol. Nid oedd yr aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM Y Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro, a cynrychiolydd o AMION Consulting i
gyflwyno’r adroddiad. Mae Atodiad 3 yn eithriedig gan fod yr adroddiad ynglŷn â Memorandwm Dealltwriaeth y Parth Buddsoddi gyda Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig sydd wedi ei ddynodi yn ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio Atodiad 3 rhag ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr Adroddiad Diweddaru a nodwyd gwaith a wnaed
gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a thîm y Parth
Buddsoddi, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Cymeradwywyd Cytundeb Rhyng-Awdurdod
(IAA) drafft rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC), Cyngor Sir y
Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan ddirprwyo’r hawl i gytuno a
chwblhau’r fersiwn terfynol i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Swyddog
Monitro, Swyddog Adran 151, yr Is-gadeirydd ac Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych,
fel cynrychiolwyr penodedig y Bwrdd Ymgynghorol Parth Buddsoddi Sir y Fflint a
Wrecsam. Cymeradwywyd Rhestr Prosiectau, gweithgareddau a cherrig
milltir Blwyddyn 1 a 2 sydd wedi'u drafftio i gefnogi'r Cynllun Cyflawni
Blynyddol. Cymeradwywyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft, gan
ddirprwyo’r hawl i gytuno a chwblhau’r fersiwn terfynol i’r Prif Weithredwr
mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151, yr Is-gadeirydd ac
Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, fel cynrychiolwyr penodedig y Bwrdd Ymgynghorol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro ac
Iain Taylor o AMION Consulting. PENDERFYNWYD: Derbyniwyd yr Adroddiad Diweddaru a nodwyd gwaith a wnaed
gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a thîm y Parth
Buddsoddi, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Cymeradwywyd Cytundeb Rhyng-Awdurdod
(IAA) drafft rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC), Cyngor Sir y
Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan ddirprwyo’r hawl i gytuno a
chwblhau’r fersiwn terfynol i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Swyddog
Monitro, Swyddog Adran 151, yr Is-gadeirydd ac Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych,
fel cynrychiolwyr penodedig y Bwrdd Ymgynghorol Parth Buddsoddi Sir y Fflint a
Wrecsam. Cymeradwywyd Rhestr Prosiectau, gweithgareddau a cherrig
milltir Blwyddyn 1 a 2 sydd wedi'u drafftio i gefnogi'r Cynllun Cyflawni
Blynyddol. Cymeradwywyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft, gan
ddirprwyo’r hawl i gytuno a chwblhau’r fersiwn terfynol i’r Prif Weithredwr
mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151, yr Is-gadeirydd ac
Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, fel cynrychiolwyr penodedig y Bwrdd Ymgynghorol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam. TRAFODAETH Diolchwyd i’r Aelodau am eu hamser a’u hystyriaeth o’r
adroddiad. Adroddwyd bod datblygiad y rhaglen bellach ar bwynt
allweddol ac wedi cyrraedd y cam cymeradwyo gyda Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU. Mae’r Broses Pum Porth wedi dod i ben ac mae cytundeb i’r
Porth (Gateways) wedi’i dderbyn. Eglurwyd bod
angen cymeradwyaeth y CBC i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r cytundeb rhyng-awdurdod rhwng y Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC),
Cyngor Sir y Fflint, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ymhelaethwyd mai’r
rhain fydd yn llywodraethu ar drosglwyddo arian refeniw a gweithgareddau
allweddol yn y rhaglen. Eglurwyd bod cynlluniau cyflawni blynyddol yn cael eu cytuno
bob blwyddyn i gefnogi’r ffordd y mae Parthau Buddsoddi yn cael eu strwythuro
a’u cyflawni. Cyflwynir drafft y Cynllun Cyflawni Blynyddol yng nghyfarfod
Grŵp Gwaith Parth Buddsoddi, lle mae arweiniwyr
Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyfarfod ac yn
adolygu’r Cynllun Cyflawni Blynyddol. Nodwyd mai’r bwriad yw cynnal cyfarfod
o’r Grŵp Gwaith Parth Buddsoddi ar 28 Tachwedd, i drafod gweithgareddau
cychwynnol y rhaglen. Manylwyd y byddent yn cynnal cyfarfod arall i drafod
Cynllun Cyflawni’r ail flwyddyn. Rhoddwyd trosolwg i’r Aelodau o’r Cynllun Cyflawni
Blynyddol, gan dynnu sylw arbennig at rai o bwyntiau allweddol Rhaglen y Parth
Buddsoddi a oedd wedi’u cynnwys yn Atodiad 2. Nodwyd bod y rhain wedi’u
rhannu’n gefnogaeth fusnes, sgiliau, arloesedd,
seilwaith, a safleoedd treth. Hysbyswyd yr Aelodau fod y safleoedd treth wedi’u
cyhoeddi ar Legislation.gov, a’u bod yn dod i rym cyfreithiol ar 21 Tachwedd. Hysbyswyd yr aelodau, pe bai’r CBC yn cymeradwyo’r
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r IAA, y byddai’r Llywodraeth yn gweithredu i
gyhoeddi fersiynau wedi’u llofnodi o’r ddogfen ymhen yr wythnos. Tynnwyd sylw’r aelodau at y Cynllun Cyflawni, gan amlygu gwaith cynnar. Atgoffwyd yr aelodau ei fod yn brosiect Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ar y cyd gyda Phrifysgol Wrecsam a Choleg Cambria. Nodwyd bod yr arian i weinyddu grantiau busnes yn cael ei ddirprwyo i Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cydnabuwyd bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir Gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Adran 100A(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r adroddiad yn ymwneud a gwybodaeth ariannol mewn perthynas a’r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol, sydd wedi’i dynodi’n wybodaeth gyfrinachol gan Llywodraeth Cymru ar ddibenion Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio’r adroddiad rhag ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol. Cofnod: Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir Gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Adran 100A(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r adroddiad yn ymwneud a gwybodaeth ariannol mewn perthynas â’r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol, sydd wedi’i dynodi’n wybodaeth gyfrinachol gan Lywodraeth Cymru ar ddibenion Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio’r adroddiad rhag ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol. |
|
|
RHAGLEN BLWYDDYN 1 Y GRONFA TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL Y Prif Weithredwr a’r Uwch Swyddog
Trafnidiaeth i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Adam Graham, Uwch Swyddog
Trafnidiaeth. PENDERFYNWYD: Cymeradwywyd Rhaglen Gynlluniau ddrafft i'w chyflwyno i
Lywodraeth Cymru. TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad. |