Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Sera Jane Whitley 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Dave Hughes (Cyngor Sir y Fflint), Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) a Claire Incledon (Dirprwy Swyddog Monitro Dros Dro CBC).

 

Cyn cychwyn ar y cyfarfod croesawyd Helen White, Prif Weithredwr newydd Cyngor Sir Ddinbych i’w chyfarfod cyntaf.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Bu i’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Cyllid Statudol nodi datganiad o fuddiant os y drafodaeth yn mynd i drafod eu swyddi yn eitem 5, ac y buasent yn gadael y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 116 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 7 Tachwedd, 2025 a 28 Tachwedd, 2025 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Amlygwyd fod un aelod wedi nodi ei bod yn erbyn cau allan y wasg a’r cyhoedd yn y cyfarfod ar y 7fed Tachwedd, gofynnwyd i’r cofnodion gael ei addasu i amlygu hyn. Derbyniwyd hyn a chofnodion cyfarfod 28 Tachwedd.

5.

CYLLIDEB 2026/27, ARDOLL AR AWDURDODAU CYFANSODDOL A CHYFRANIADAU PARTNERIAID pdf eicon PDF 248 KB

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyd-Bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru

 

  • Cymeradwywyd y gyllideb ar gyfer 2026/27 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1.
  • Cymeradwywyd yr ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol fel y nodir yn Atodiad 1.

 

Cynllun Twf

  • Cymeradwywyd y gyllideb refeniw y Cynllun Twf ar gyfer 2026/27 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2.
  • Cymeradwywyd cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol a chyfraniadau llog partneriaid.
  • Cymeradwywyd y gyllideb gyfalaf y Cynllun Twf ar gyfer 2026/27 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 3.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Pennaeth Cynorthwyol Cyllid – Cyngor Gwynedd)

 

PENDERFYNIAD

 

Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru

·       Cymeradwywyd y gyllideb ar gyfer 2026/27 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1.

·       Cymeradwywyd yr ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol fel y nodir yn Atodiad 1.

 

 Cynllun Twf

·       Cymeradwywyd y gyllideb refeniw'r Cynllun Twf ar gyfer 2026/27 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2.

·       Cymeradwywyd cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol a chyfraniadau llog partneriaid.

·       Cymeradwywyd y gyllideb gyfalaf y Cynllun Twf ar gyfer 2026/27 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 3.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu ei bod yn ofyniad statudol i’r CBC gymeradwyo ei gyllideb, a dyraniad yr ardoll i’r Cynghorau ac Awdurdod y Parc Cenhedlaeth erbyn 31 Ionawr. Nodwyd fod cyfanswm y gyllideb gwariant ar gyfer 2026/26 yn £2.16m ac amlygwyd y modd mae’n cael ei ariannu.

 

Esboniwyd fod yr ardoll, sy’n cael ei rannu i’r awdurdodau cyfansoddol ar sail poblogaeth, wedi cynyddu £112,700 ar gyfer 2026/27 a hynny oherwydd chwyddiant o 3.5% a’r costau ychwanegol wrth gynyddu capasiti’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151. Nodwyd er mwyn cefnogi trefniadau llywodraethu ymhellach ar draws y CBC fod adolygiad diweddaraf yn dangos yr angen am Swyddog Monitro llawn amser a Swyddog Adran 151 am 3 diwrnod yr wythnos wrth symud ymlaen.

 

Amlygwyd ar ôl defnyddio’r cyfraniad o bron i £625mil o’r gronfa wrth gefn ar gyfer 2026/27 y bydd tua £800mil o falans yn parhau wrth gefn.

 

Wrth edrych ar y Cynllun Twf, nodwyd fod cyllideb gwariant ar gyfer 2026/27 yn £2.95m, gyda £470mil yn cael ei ariannu gan gyfraniadau’r partneriaid, £240mil gan gyfraniadau atodol awdurdodau lleol, £154mil gan gyfraniadau llog partneriaid, £660mil o'r grant Cynllun Twf sydd wedi ei glustnodi ar gyfer yr elfen refeniw, £435mil o’r grant Cynllun Twf sydd wedi ei glustnodi o’r prosiectau a £987mil o'r gronfa adnoddau. Eglurwyd nad oes cynnydd yng nghyfaniadau partneriaid i’r Cynllun Twf o ganlyniad ostyngiad yng nghyfradd cyfraniadau pensiwn y cyflogwr yn gwrthbwyso’r addasiad alldro ar gyfer 2025/26 a’r amcan chwyddiant cyflog ar gyfer 2026/27.

 

Manylwyd fod newidiadau mewn prosiectau yn y proffil cyfalaf wedi arwain at gynnydd cyffredinol yn yr amcan gost o fenthyca o’i gymharu â’r cyfrifiad a wnaethpwyd ar gyfer cyllideb 2025/26. Ategwyd fod rhai partneriaid hefyd yn arwain eu prosiectau, ac felly bod cost benthyca wedi’i ychwanegu at eu cyfraniadau llog.

 

Nodwyd o ran cyllideb cyfalaf y Cynllun Twf fod proffil gwariant diweddaraf wedi ei nodi yn rhan o’r atodiadau, a’i fod yn seiliedig ar amserlen y projectau diweddaraf. Ychwanegwyd ei fod yn cael ei adolygu wrth i’r achosion busnes gael eu cymeradwyo.

 

Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi ei fod yn hunan esboniadwy. Holwyd os yw defnyddio arian cronfeydd wrth gefn yn gynaliadwy, gan ei bod yn mynd o flwyddyn i flwyddyn. Nodwyd yr angen i ystyried ymhellach wrth wneud strategaeth gyllidol tymor hir. Mynegwyd fod angen eu defnyddio gan ei fod yn lleihau’r angen i gynyddu’r ardoll ar Awdurdodau Lleol a’r Parc.

6.

SEFYLLFA REFENIW A CHYFALAF 2025/26 – ADOLYGIAD DIWEDD RHAGFYR 2025. pdf eicon PDF 262 KB

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd yr adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2025 ar gyfer y CBC (Atodiad 1).

 

Nodwyd a derbyniwyd yr adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2025 ar gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (y Cynllun Twf), gan gynnwys y sefyllfa cronfeydd wrth gefn (Atodiad 2 a 3).

 

Nodwyd a derbyniwyd proffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Cynllun Twf (Atodiad 4).

 

Nodwyd a derbyniwyd yr adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2025 ar gyfer y PSRh (Atodiad 5).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Pennaeth Cynorthwyol Cyllid – Cyngor Gwynedd)

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi a derbyn Adolygiad diwedd Rhagfyr 2025 ar gyfer :-

·       Y Cydbwyllgor Corfforedig (Atodiad 1).

·       Yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (y Cynllun Twf), gan gynnwys y sefyllfa cronfeydd wrth gefn (Atodiad 2 a 3).  

·       Cynllun Cyfalaf y Cynllun Twf (Atodiad 4)

·       Y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (Atodiad 5). 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn rhoi amcan o sefyllfa ariannol y CBC. Mynegwyd eu bod yn amcanu tanwariant o £959mil ar gyfer eleni. Nodwyd fod hyn yn gynnydd o’r £411mil a ragwelwyd yn adolygiad Gorffennaf. Eglurwyd fod hyn oherwydd llwyddiant y CBC i sicrhau cyllideb grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol a gweithredu’r Cydbwyllgor.

 

Tynnwyd sylw at y Cynllun Twf gan nodi eu bod yn amcanu tanwariant o £618mil, sydd eto yn gynnydd o £281mil a ragwelwyd ym mis Gorffennaf. Mynegwyd fod hyn oherwydd tanwariant pellach mewn gwariant gweithwyr a rolau llywodraethol ychwanegol, gwasanaethau cefnogol y corff ateb a’r penawdau prosiectau.

 

Nodwyd fod proffil cyfalaf diwygiedig ar gyfer y Cynllun TWF yn dangos gostyngiad net o £7.46m yn y gwariant disgwyliedig ar gyfer 2025/26. Ategwyd bod llithriad ar rai prosiectau, er bod rhai yn symud ymlaen ac o ganlyniad wedi lleihau’r tanwariant.

 

Mynegwyd o ystyried cyllideb y  Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol y bydd y sefyllfa yn niwtral, ac wedi ei ariannu gan grant Llywodraeth Cymru ynghyd â chronfa wrth gefn.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a tynnwyd sylw at y tanwariant gan nodi eu bod yn deall ei fod o ganlyniad i ddiffyg penodi i swyddi. Gofynnwyd a oes modd i leihau cyfraniad Awdurdodau Lleol gan fod cymaint o danwariant yn cael ei ragweld. Ymatebwyd gan nodi fod y cyfraniadau wedi ei nodi yng nghytundeb ariannu ag arwyddwyd gan yr holl Awdurdodau. Mynegwyd fod y gorwariant yn cael ei rhoi mewn cronfeydd penodol ac ar gael ar gyfer ariannu diffygion megis yng nghyllideb rhaglen Cynllunio Strategol. Eglurwyd fod yr arian wrth gefn wedi ei benderfynu gan yr aelodau'r llynedd ac y bydd yn cael ei drafod eto yn yr adroddiad diwedd blwyddyn er mwyn cymeradwyo’r defnydd o’r tanwariant.

 

Amlygwyd pryder am y tanwariant yn wyneb yr heriau ariannol sydd yn wynebu Llywodraeth Leol a chyllidebau mor dynn â gwasanaethau rheng flaen ar draws y rhanbarth yn gorwario.

 

Eglurwyd fod cyllidebau yn y Cynllun Datblygu Strategol yn amlygu defnydd o’r cronfeydd wrth gefn ar gyfer sicrhau cyllideb lawn ar gyfer 5 mlynedd y Cynllun. Amlygwyd y bydd gwybodaeth bellach ar y mater hwn i’w weld yn eitem 9 o’r agenda heddiw.

 

Nodwyd dealltwriaeth o’r rhesymeg tu ôl i roi'r arian mewn cronfeydd wrth gefn, ond fod angen sicrhau ddim yn pentyrru arian yn ddiangen, a drwy osod cyllideb yn flynyddol heb gynllun tymor canolig neu dymor hir mae pryder for cynydd aruthrol yn mynd i fod yn ardoll o un flwydd i’r llall. Ymatebwyd drwy nodi fod y CBC yn gorff newydd ac o ganlyniad fod swyddi heb eu llenwi. Pwysleisiwyd mai rhagolygon yw’r adroddiad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL – CYLCH GORCHWYL A HUNANASESIAD pdf eicon PDF 197 KB

Cadeirydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo'r newidiadau a ganlyn i Gylch Gorchwyl yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol:

  • Bod y gofyn i gynhyrchu adroddiad cynnydd chwarterol yn cael ei ddisodli gan adroddiadau bob chwe mis.
  • Bod gan yr is-bwyllgor y pŵer dirprwyedig i ystyried a gwneud argymhellion i'r CBC ar gyllid trafnidiaeth rhanbarthol ac ymrwymiadau cynlluniau.

 

Nodi'r adborth o holiadur hunanasesu'r is-bwyllgor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gadeirydd yr Is-Fwrdd Trafnidiaeth Strategol, y Cynghorydd David Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r newidiadau a ganlyn i Gylch Gorchwyl yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol: 

·       Bod y gofyn i gynhyrchu adroddiad cynnydd chwarterol yn cael ei ddisodli gan adroddiadau bob chwe mis.

·       Bod gan yr is-bwyllgor y pŵer dirprwyedig i ystyried a gwneud argymhellion i'r CBC ar gyllid trafnidiaeth ranbarthol ac ymrwymiadau cynlluniau. 

 Nodi'r adborth o holiadur hunanasesu'r is-bwyllgor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi diolch am y cyfle i’w gyflwyno fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor. Nodwyd ei fod yn adrodd yn ôl ar 2 adroddiad sydd wedi ei drafod ar y 15fed o Ragfyr sef addasiadau i’r Cylch Gorchwyl ac adrodd yn ôl ar ymatebion positif a dderbyniwyd o holiadur hunanasesu’r Is-bwyllgor.

 

Amlygwyd fod y penderfyniad yn gofyn am bŵer dirprwyedig i ystyried a gwneud argymhellion i'r CBC ar gyllid trafnidiaeth ranbarthol ac ymrwymiadau cynlluniau wedi ei ddatblygu'n ddiweddar wrth weithredu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Eglurwyd fod Llywodraeth Cymru wedi rhannu canllawiau ar ddatblygu'r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol (RTF) sydd wedi cefnogi'r gwaith o ddatblygu rhaglen o gynlluniau i gyflawni'r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Ranbarthol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac amlygwyd mai dim ond 5 aelod oedd wedi ymateb i’r holiadur hunanasesu. Holwyd o ran y 6ed aelod os oed yn aelod newydd, ac wedi cael cyfle i ymateb, ac os oedd y gefnogaeth yna i aelodau newydd i fod yn ymwybodol o’i rôl a chyfrifoldebau. Ymatebwyd drwy nodi fod yr aelod yn un newydd, ond eu bod fel aelodau yn teimlo fod cefnogaeth ond fod gwaith yn parhau i ddatblygu i sicrhau fod aelodau yn derbyn cefnogaeth am eu rôl a cyfrifoldebau.

 

Mynegwyd fod pryderon, fel yn y Pwyllgor hwn o’r gwrthdaro sydd rhwng y gwaith ar y Pwyllgorau a’r Is-bwyllgorau a’u rolau yn lleol fel Aelodau Cabinet. Ond amlygwyd fod pwyntiau dilys wedi ei godi yn yr hunanasesiad a holwyd oes yw’n cael ei adrodd ymhellach. Ymatebwyd drwy nodi ei fod yn ddogfen fewnol i sicrhau fod y gefnogaeth a’r wybodaeth angenrheidiol yn cael ei roi i’r aelodau. Ond wrth i’r gwaith ddatblygu fod angen edrych os oes modd rhannu’r ymarfer da sydd yn cael ei amlygu â Llywodraeth Cymru.

 

8.

DIWEDDARIAD Y GRONFA TRAFNIDIAETH RANBARTHOL pdf eicon PDF 229 KB

Adam Graham, Uwch Swyddog Trafnidiaeth i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Adam Graham, Uwch Swyddog Trafnidiaeth

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyd-bwyllgor yn ôl ym mis Tachwedd wedi cymeradwyo Rhaglen Cynlluniau drafft i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Cynlluniau oedd y rhain a oedd wedi ei adnabod a’i blaenoriaethu gan Awdurdodau’r rhanbarth.

 

Yn dilyn cyflwyno’r Rhaglen Gynlluniau i’r Llywodraeth mynegwyd fod sylwadau wedi ei dderbyn a sgôr lliw wedi ei roi i bob un. Cafodd 37 sgôr gwyrdd, 43 sgôr ambr a 3 sgôr coch. Eglurwyd fod gwaith pellach wedi ei wneud ar gynlluniau er mwyn ymateb i’r pryderon oedd wedi ei amlygu gan Lywodraeth Cymru, a byddant yn cael eu cyflwyno eto i’r Llywodraeth cyn diwedd y mis.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a gofynnwyd a oes amserlen wedi ei bennu gan y Llywodraeth i dderbyn ymateb. Ymatebwyd drwy nodi nad oes ond y bydd cyn y cyfnod cyn-etholiadaol a bydd llythyrau yn cael ei gyrru gobeithio i’r Awdurdodau ddechrau’r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Gofynnwyd am fwy o wybodaeth yn yr adroddiad i’r dyfodol gan ei fod yn adroddiad rhy lefel uchel a bod angen mwy o ddehongliad i’r aelodau ac i’r cyhoedd.

 

 

9.

CYFLWYNO CYTUNDEB CYFLAWNI'R CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL YN FFURFIOL pdf eicon PDF 227 KB

Andy Roberts, Swyddog Cynllunio Strategol Rhanbarthol i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i gyflwyno Cytundeb Cyflawni'r SDP yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo yn unol â Rheoliad 11(2) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021.

 

Rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i Brif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr is-bwyllgor Cynllunio Strategol i wneud unrhyw fân ddiwygiadau golygyddol neu fformatio i'r Cytundeb Cyflawni i'w baratoi i'w gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Andy Roberts, Swyddog Cynllunio Strategol Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytunwyd i gyflwyno Cytundeb Cyflawni'r SDP yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo yn unol â Rheoliad 11(2) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021.

 

Rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i Brif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr is-bwyllgor Cynllunio Strategol i wneud unrhyw fân ddiwygiadau golygyddol neu fformatio i'r Cytundeb Cyflawni i'w baratoi i'w gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyd-bwyllgor yn ôl ym mis Medi wedi cymeradwyo’r Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Strategol yn barod i’r gyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn amodol ar wneud penderfyniad ynghylch y cyllid ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol. Ers y cyfarfod hwnnw, mynegwyd fod y broses o osod cyllideb yn mynd rhagddi a bod cyllideb wedi ei osod ar gyfer rhaglen 1 o’r rhaglen cyflawni, a hynny heb roi effaith ar yr ardoll. Pwysleisiwyd fod  cyflwyno’r Cytundeb Cyflawni i’r Llywodraeth yn ymrwymo’r CBC i gwblhau’r Cynllun o fewn 5 mlynedd.

 

Amcangyfrifwyd bod y gost o gynhyrchu'r SDP yn £3.276m dros y broses bum mlynedd, neu £655,272 y flwyddyn ar gyfartaledd i gychwyn. Ond ar ôl ystyried y gorwariant refeniw cynigwyd cyllideb o £597,650.  Eglurwyd fod sefyllfa a gyrhaeddwyd gyda'r gyllideb o ran yr effaith gyfyngedig iawn ar ardoll yr Awdurdodau Lleol yn gyflawniad sylweddol, gan roi'r sicrwydd roedd yr Aelodau yn chwilio amdano, a'r potensial i ailadrodd hyn fel rhan o'r ymarfer gosod cyllideb ar gyfer 2027/28, o leiaf. Er nad yw Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi'i chytuno eto ar gyfer y CBC, ystyrir mai'r sefyllfa hon yw'r gorau y gellir ei chyflawni ar gyfer y flwyddyn nesaf gan roi’r sicrwydd sydd ei angen i ymrwymo i gyflwyno Cytundeb Cyflawni'r SDP yn ffurfiol i'w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a nodwyd fod y gofyniad hwn yn un statudol, ac felly ei bod yn orfodol i’w ariannu. Amlygwyd fod ail edrych ar y gyllideb yn dangos eu bod yn ymrwymo i fod mor effeithlon â phosib wrth symud ymlaen. Ategwyd y bydd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gyflwyno yn yr Hydref.

 

10.

CRONFA PARTNERIAETH ARLOESI GOGLEDD CYMRU - BWRDD ARLOESI GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 180 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr ac Iain Taylor, AMION Consulting i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn fel Atodiad 1.
  • Cyflwyno Mynegiant o Barodrwydd ar gyfer cynnig Cronfa Partneriaeth Arloesi Lleol Gogledd Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr ac Iain Taylor, AMION Consulting.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn fel Atodiad 1.

Cyflwyno Mynegiant o Barodrwydd ar gyfer cynnig Cronfa Partneriaeth Arloesi Lleol Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi haf diwethaf fod y Cydbwyllgor wedi croesawu cynigion ar gyfer Bwrdd Arloesi Gogledd Cymru. Nodwyd fod y drafodaeth gychwynnol wedi gyda’r Gweithgor y Bwrdd Arloesi wedi ystyried sut gallai bwrdd â ffocws ddod ac arbenigedd ac arweiniad ar themâu arloesi. Ers hynny mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei bwriad i weinyddu arian ar gyfer rhaglen o Bartneriaethau Arloesi Lleol ledled y DU.

 

Mynegwyd felly fod yr adroddiad hwn yn dod a’r ddau gynllun hwn at ei gilydd er mwyn gallu cyflwyno Mynegiant o Barodrwydd a gyda’r gobaith i gynnig ddod yn ôl i’r CBC i wahodd y rhanbarth i baratoi cynnig i gefnogi cynlluniau arloesol dros y Gogledd dros gyfnod o 5 mlynedd. Eglurwyd ei fod yn arwyddocaol i’r Gogledd i ddatblygu strwythur i edrych ar arloesedd a'i wthio a’i yrru ar draws y rhanbarth.