Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Sera Jane Whitley 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

·        Cynghorydd Julie Fallon (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

·        Cynghorydd Nia Jeffreys (Cyngor Gwynedd) gyda Chynghorydd Medwyn Jones yn dirprwyo

·        Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo

·        Dylan Williams (Cyngor Sir Ynys Môn)

·        Rhun ap Gareth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

·        Claire Incledon (Swyddog Monitro dros dro – Cyngor Gwynedd)

·        Nia Medi Williams (Rheolwr Gweithrediadau ac Adnoddau – Uchelgais Gogledd Cymru)

·        Adam Graham (Uwch Swyddog Trafnidiaeth – Uchelgais Gogledd Cymru)

·        Andy Roberts (Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFODYDD BLAENOROL pdf eicon PDF 152 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23 o Ionawr, 2026, 6 o Chwefror, 2026, a 13 o Chwefror, 2026 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2026, 6 Chwefror, 2026, a 13 o Chwefror, 2026 fel rhai cywir.

 

5.

PENODIAD CYFARWYDDWR PORTFFOLIO CBC GOGLEDD CYMRU

Alwen Williams, Prif Weithredwr i cadarnhau’r apwyntiad..

Cofnod:

Adroddwyd gan Alwen Williams, Prif Weithredwr y CBC bod y broses recriwtio wedi dod i ben a bod Hedd Vaughan-Evans wedi cael ei benodi i rôl Cyfarwyddwr Portffolio Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Ychwanegwyd bod Hedd Vaughan-Evans bellach wedi’ derbyn y swydd.

 

Mynegwyd llongyfarchiadau iddo ar ran y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

6.

IS-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO - CYLCH GORCHWYL pdf eicon PDF 199 KB

Mark Watkins, Swyddog Monitro (dros dro) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd newidiadau a ganlyn i Gylch Gorchwyl yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: 

 

  • Mai’r cworwm ar gyfer yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fydd 7 aelod gydag o leiaf un Aelod Lleyg yn bresennol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu mai pwrpas yr addasiad arfaethedig i’r cylch gorchwyl yw sicrhau bod gan yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio y CBC gworwm pan fydd yn cyfarfod, a’i fod yn gallu cyflawni ei ddyletswydd statudol. Eglurwyd bod cworwm wedi bod,ac yn parhau i fod, yn broblem yng nghyfarfodydd yr Is-bwyllgor hwn.

 

Adroddwyd y byddai’r addasiad yn cadw’r gofyniad cworwm cyfreithiol ac yn cynnal cworwm fel saith aelod gydag o leiaf un aelod lleyg yn bresennol. Ychwanegwyd y bydd yn dileu’r gofyniad bod rhaid i gynrychiolydd o bob Cyngor cyfansoddol fod yn bresennol. Eglurwyd bod yr arfer presennol yn rhy gyfyng.

 

Amlygwyd bod y mater cworwm eisoes yn cael sylw wrth benodi dirprwyon ar gyfer aelodau’r Is-bwyllgor. Nodwyd siom bod cworwm yn parhau i fod yn broblem, a thynnwyd sylw at y ffaith y dylai Arweinwyr sicrhau bod eu cynrychiolwyr ar yr Is-bwyllgor hwn yn mynychu'r cyfarfodydd.

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r addasiad gan ystyried amserlenni prysur aelodau etholedig ac aelodau lleyg. Cydnabuwyd bod yr addasiad yn hanfodol i sicrhau bod yr Is-bwyllgor yn gallu cyflawni ei ddyletswydd statudol.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DYLETSWYDD PARTNERIAETH GYMDEITHASOL 2024-25 pdf eicon PDF 233 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol Dyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol 2024-25 i'w gyflwyno i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dyma adroddiad blynyddol cyntaf y Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC)  dan Ddeddf Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus Cymru 2023. Eglurwyd bod y Ddeddf hon wedi cyflwyno dyletswydd partneriaeth gymdeithasol newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus ers 1 Ebrill 2024. Ychwanegwyd fod y  ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r CBC gynnwys undebau llafur cydnabyddedig wrth osod amcanion lles a gwneud penderfyniadau strategol, a hefyd i gynhyrchu, cyhoeddi, a chyflwyno adroddiad blynyddol yn egluro sut  mae’r dyletswydd wedi’i chyflawni.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn adlewyrchu cyfnod pontio cynnar yn natblygiad y CBC. Adroddwyd bod y CBC yn weithredol cyn trosglwyddo staff yn ystod y cyfnod adrodd, ac roedd Cyngor Gwynedd, fel yr awdurdod lletyol, yn darparu cefnogaeth Adnoddau Dynol a chefnogaeth ynglŷn ag ymgysylltu ag undebau llafur. O ganlyniad, nodwyd bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar baratoi, alinio a chodi ymwybyddiaeth, gan gynnwys ymgysylltu â thîm Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru a chyd-fynd â dull adrodd yr awdurdod lletyol.

 

Amlygwyd bod y CBC bellach yn sefydlu perthnasau uniongyrchol a ffurfiol ag undebau llafur yn dilyn trosglwyddo staff yn 2025, a bydd adroddiadau yn y dyfodol yn dangos y newid ymarferol hwn.

 

Cadarnhawyd y byddai’r CBC yn derbyn adborth ar yr adroddiad gan y Cyngor Partneriaeth Cymdeithasol, er bod natur a graddfa’r adborth i’w chadarnhau.

 

Nodwyd ymhellach bod Partneriaeth Gymdeithasol yn unigryw i Gymru a phwysleisiwyd pwysigrwydd perthnas da ag undebau llafur. Nododd yr Aelodau eu bod yn edrych ymlaen at adroddiadau mwy manwl ar y perthnasau hyn yn y dyfodol.

 

8.

DIWEDDARIAD AR Y RHAGLEN TRAWSNEWID A GWELLA pdf eicon PDF 222 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr ac Uwch Berchennog Cyfrifol (SRO) a Dave Hole, Arweinydd y Rhaglen i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Diweddarwyd Aelodau ar gynnydd ar ddiwedd y rhaglen bresennol ar gyfer 2025/26 a'r rhaglen ddiwygiedig barhaus ar gyfer 2026/27.

 

Cofnod:

Nodwyd bod yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r CBC ar y cynnydd a wnaed ar y Rhaglen Trawsnewid.

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn darparu crynodeb cronolegol ers trosglwyddo’r Bwrdd Uchelgais Economaidd a’r Fargen Twf i’r CBC ar 1af Ebrill 2025, a’i fod wedi’i gyflwyno i gyfarfod y CBC ym mis Mehefin 2025 lle cydnabuwyd natur uchelgeisiol y rhaglen ar gyfer 2025/26. Daethpwyd â’r adroddiad i’r CBC eto ym mis Tachwedd 2025 i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd a heriau, ac mae’r rhain wedi’u hegluro yn adran 4 o’r adroddiad.

 

Nodwyd bod adran 5 yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd ar gyfer 2025/26. Atgoffwyd yr aelodau fod y rhaglen yn gymhleth ac yn ddibynnol ar adnoddau dynol i’w chyflawni.

 

Tynnwyd sylw at rai o’r heriau sy’n cael eu hwynebu ar hyn o bryd, gan gynnwys: recriwtio adnoddau a’r gallu i ddenu staff o fewn y farchnad bresennol, a chaffael. Eglurwyd hefyd fod trafodaeth ynghylch y Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Uchelgais Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd yn parhau. Fodd bynnag, diweddarwyd bod Arweinydd Polisi wedi’i benodi i Uchelgais Gogledd Cymru i leddfu rhai o’r heriau hyn.

 

Eglurwyd bod y cynllun ar gyfer 2026/27 yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd a bydd unrhyw beth na chafodd ei gyflawni yn 2025/26 yn trosglwyddo  i’r rhaglen newydd. Esboniwyd bod blaenoriaethu’r gwaith hwn yn hanfodol a bod cyflawni’r rhaglen yn seiliedig ar gydymffurfiaeth, cyllid, a chapasiti staff.

 

Amlygwyd bod adnoddau contractau yn cael eu monitro’n gyson. Nodwyd goblygiad ariannol, lle gallai fod angen gofyn am gyllid pellach ar gyfer prosiectau gan y CBC lle nad yw cyllid eisoes wedi’i sicrhau yn y cyllidebau neu lle mae’r cyllid grant gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi’i wario.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am yr adroddiad, ac atgoffwyd yr Aelodau bod problemau ynghylch recriwtio a chadw staff yn parhau yn broblem ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru ac ar draws y wlad.

 

9.

CRONFA TWF LLEOL YNG NGHYMRU - CYNLLUNIO AR GYFER BLWYDDYN DROSIANNOL (2026/27) GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 199 KB

Dylan Griffiths, Rheolwr, Cronfa Ffyniant Gyffredin Gogledd Cymru (Rheolwr, Gwasanaeth Datblygu Economaidd) Cyngor Gwynedd i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

  • Awdurdodi Is-bwyllgor Lles Economaidd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol i fonitro cyflwyno blwyddyn bontio’r Gronfa Twf Lleol (2026/27) ac i arwain y gwaith o baratoi ar gyfer trosglwyddo’r Gronfa i’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol o 2027/28 ymlaen. 

 

  • Cymeradwywyd bwriad i gynnal y dull gweithredu a’r trefniadau llywodraethu presennol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Ngogledd Cymru — gan gynnwys rôl Cyngor Gwynedd fel awdurdod lleol arweiniol — ar gyfer blwyddyn bontio’r Gronfa Twf Lleol yn 2026/27, a chyflwyno cynllun i’r perwyl hwn i Lywodraeth Cymru. 

 

  • Awdurdodi’r defnydd o’r cyllid a ddarperir i’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol i baratoi ar gyfer cyflwyno’r Gronfa Twf Lleol y tu hwnt i 2026/27, gan weithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i gynhyrchu cynigion y rhanbarth. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu mai 2025/26 yw blwyddyn olaf y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF). Nodwyd bod yr SPF wedi darparu bron i £169 miliwn i gefnogi datblygiad economaidd a chymunedol yng Ngogledd Cymru ers 2022, ond o’r 1af Ebrill 2026 bydd Cronfa Twf Lleol (LGF) yn cymryd ei le. Esboniwyd y bydd yr LGF yn cael eu cyllido am gyfnod o dair blynedd, gyda’r gobaith gan Lywodraeth Cymru ei fod yn parhau tu hwnt i hynny.

 

Eglurwyd bod symudiad o SPF i LGF yn cynnwys llawer o newidiadau i fwriad ag i drefn ar gyfer yr arian, gan gynnwys y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi cyllid LGF i Lywodraeth Cymru, sydd, yn ei dro, yn bwriadu trosglwyddo’r cyllid i’r rhanbarthau yng Nghymru. Ychwanegwyd bydd bwriad i ganolbwyntio llawer mwy ar sicrhau twf.

 

Esboniwyd bod Llywodraeth Cymru yn dymuno i’r awdurdodau lleol arweiniol, sef Cyngor Gwynedd yng Ngogledd Cymru, barhau yn eu rôl ar gyfer y tymor bir. Ymhelaethwyd bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu’r rhan fwyaf o’r cyllid i’r CBC o 2027/28 ymlaen, a bydd arian ychwanegol yn dod i’r CBC yn 2026/27 er mwyn cynllunio a pharatoi.

 

Nodwyd bod cyfansoddiad yr arian yn newid yn sylweddol, gan fod yn symud o fod yn bennaf yn arian refeniw mewn natur i fod yn arian cyfalaf yn bennaf. Hysbyswyd bod newid wedi’i bod i’r swm sydd wedi’i gyflwyno yn adran 4.12 o’r adroddiad yn dilyn camgymeriad gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod yr adroddiad yn nodi swm o £35.69 miliwn, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai £33.78 miliwn yw’r swm cywir, gan nodi gostyngiad o tua £1.9 miliwn.

 

Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i baratoi cynllun gweithredu ar gyfer blwyddyn gyntaf y Gronfa, wrth weithio ar y cyd gyda Chyngor Gwynedd, swyddogion o’r awdurdodau lleol dros y rhanbarth, swyddogion o’r CBC, a swyddogion o Lywodraeth Cymru. Pwysleisiwyd mai bwriad Cyngor Gwynedd yw cael trefn mor gyson â phosib i’r dull sydd wedi’i ddilyn ar gyfer yr SPF. Amlygwyd mai  awgrym Cyngor Gwynedd ydi parhau i roi penderfyniadau i’r awdurdodau lleol, sicrhau bod awdurdodau lleol yn elwa ar yr adnoddau sydd ar gael iddynt, a bod unrhyw ddewis yn ymwneud efo’r gwaith rhanbarthol yn cael eu gwneud ar sail dewis y rhanbarthau.

 

Ychwanegwyd pan fydd cynllun gweithredu wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru, bydd rhaid sefydlu cytundeb newydd rhwng y siroedd.

Mynegwyd pryder am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddyrannu’r cyllid trwy’r CBC o 2027/28 ymlaen. Nodwyd nad yw hyn yn adlewyrchiad ar y CBC, ond yn hytrach yn gred cryf mewn datganoli ac yn gred bod anfon arian i’r CBC yn lle’r awdurdodau lleol yn tynnu pwerau gwneud penderfyniadau oddi ar yr awdurdodau lleol. Gofynnwyd am farn y Swyddog Monitro, ynghylch pa hawl sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau ariannol ar gyfer y dyfodol o ystyried Etholiad Senedd ym mis Mai 2026.

 

Eglurwyd gan fod y cyllid yn dod o Lywodraeth Cymru, dewis y Llywodraeth yw penderfynu sut mae’r arian yn cael ei ddyrannu. Nodwyd os  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS 2026/27 pdf eicon PDF 213 KB

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CBC) a Delyth Jones-Thomas, Rheolwr Buddsoddi i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a chymeradwywyd Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys ar gyfer 2026/27. 

 

Cofnod:

Esboniwyd mai pwrpas yr adroddiad yw darparu a chymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y CBC ar gyfer 2026/27.  

 

Ymhelaethwyd y gwneir penderfyniadau rheolaeth trysorlys yn ddyddiol ac fe ddirprwyir i staff yr Adran Gyllid yng Nghyngor Gwynedd. Nodwyd ei bod yn ofynnol gweithredu yn unol â’r Strategaeth Rheolaeth Trysorlys sydd wedi ei gymeradwyo. 

 

Nodwyd bod y Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys yn cynnwys balansau arian y CBC, y Cynllun Twf a'r Parth Buddsoddi ar gyfer 2026/27.

 

Ymhelaethwyd bod  Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys 2026/27 wedi ei seilio ar Côd CIPFA a’r Canllaw ar Fuddsoddiadau Awdurdodau Lleol gan Lywodraeth Cymru ac felly yn cyflawni cyfrifoldeb cyfreithiol y CBC o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

 

Nodwyd mai rheolaeth trysorlys yn ymwneud â chadw digon ond nid gormodedd o arian parod i ddiwallu anghenion gwariant y CBC, gan reoli’r risgiau cysylltiedig â tharo’r cydbwysedd cywir rhwng risg ac enillion. Eglurwyd bod yr Adran Cyllid wedi derbyn cyngor arbenigol gan ymgynghorwyr rheolaeth trysorlys, Arlingclose er mwyn ffurfio’r Strategaeth yma, a bod y math o fuddsoddiadau a ganiateir gan y strategaeth wedi ei nodi yn nhabl 2. Cydnabuwyd bod y rhain yn gyson gyda’r math o fuddsoddiadau mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud, ac mae cyfyngiadau yn y swm a ganiateir ar gyfer pob sefydliad er mwyn lledaenu’r risg.

 

Cadarnhawyd bod y Strategaeth yma wedi ei selio bod y CBC yn fuddsoddwr ac yn benthyca’n fewnol rhwng cynlluniau os bydd angen. Esboniwyd os bydd yr Adran Cyllid yn adnabod yr angen i fenthyca’n allanol, a hynny os bydd cynlluniau’n dechrau gwario cyn i’r arian grant llywodraeth gyrraedd, y byddant yn paratoi strategaeth ddiwygiedig ond nid yw hyn yn debygol.