Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

 

·         Y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary Pritchard yn dirprwyo;

·         Y Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda’r Cynghorydd David Bithell yn dirprwyo;

·         Y Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint) gyda’r Cynghorydd Christine Jones yn dirprwyo;

·         Y Cynghorydd Annwen Hughes (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri);

·         Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych) gyda Gary Williams yn dirprwyo;

·         Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda Linda Roberts yn dirprwyo.

·         Dewi Morgan (Prif Swyddog Cyllid).

 

Anfonwyd dymuniadau gorau’r Bwrdd i’r Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint) oedd yn yr ysbyty.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 118 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2023, fel rhai cywir.

 

5.

IS-BWYLLGOR SAFONAU - PENODI AELODAU pdf eicon PDF 137 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro, i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.         Mabwysiadu addasiadau i Gylch Gorchwyl yr Is Bwyllgor Safonau fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

2.         Mabwysiadu y meini prawf ar gyfer penodi aelodau annibynnol i'r Pwyllgor Safonau a Sefydlu Panel Cyfweld yn unol ag Atodiad 2.

3.         Dirprwyo trefnu y broses penodi i’r Swyddog Monitro.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD:

1.         Mabwysiadu addasiadau i Gylch Gorchwyl yr Is Bwyllgor Safonau fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

2.         Mabwysiadu y meini prawf ar gyfer penodi aelodau annibynnol i'r Pwyllgor Safonau a Sefydlu Panel Cyfweld yn unol ag Atodiad 2.

3.         Dirprwyo trefnu y broses penodi i’r Swyddog Monitro.

 

TRAFODAETH

 

Nododd y Swyddog Monitro ei fod braidd yn siomedig ynglŷn â’r newid i benodi aelodau annibynnol drwy broses statudol gan fod hynny’n golygu mynd drwy broses hysbysebu, cyfweld a phenodi, ac nad proses hawdd oedd cael ymgeiswyr. 

 

Ategwyd y sylw a nodwyd bod y newidiadau deddfwriaethol hyn yn golygu cost ychwanegol a llwyth gwaith ychwanegol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, nododd y Swyddog Monitro y gallai addasu’r meini prawf fel bod modd i’r Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd enwebu aelod arall o’r Cyd-bwyllgor i ddirprwyo drostynt ar y Panel Cyfweld.

 

Awgrymwyd y gellid hepgor y frawddeg ‘Dim ond aelod annibynnol (Lleyg) o’r pwyllgor safonau all fod yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd’ o’r Cylch Gorchwyl gan y byddai holl aelodau’r pwyllgor safonau yn aelodau lleyg beth bynnag.

 

 

6.

CYNLLUN GWEITHREDU DRAFFT AR GYFER DATBLYGU CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL NEWYDD I OGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 694 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC, i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu drafft arfaethedig i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro’r CBC.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu drafft arfaethedig i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cwestiynwyd a fyddai’n ymarferol bosib’ cyflwyno’r fersiwn terfynol o’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd Mawrth 2025, o ystyried maint y gwaith sydd angen ei gwblhau a’r arbenigedd sydd ei angen i ddarparu prosiect enfawr o’r math yma, yn enwedig yn wyneb cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynglŷn â’r gwaith o drydaneiddio rheilffordd arfordir y Gogledd, sydd hefyd yn ddarn enfawr o waith.  Mewn ymateb, nododd Prif Weithredwr Dros Dro’r CBC:-

 

·         Bod rhanbarthau eraill wedi mynegi pryder ynglŷn â’r amserlenni hefyd, ond er nad oedd wedi gweld yr adroddiad terfynol, roedd y Comisiwn Trafnidiaeth wedi cyflawni llawer iawn o waith yng Ngogledd Cymru dros y 18 mis diwethaf a byddai yna lawer o ddata yn sail i gasgliadau’r adroddiad fyddai’n ddefnyddiol, yn arbennig o ran creu’r achos dros newid.

·         Y credai y byddai’n rhaid comisiynu gwaith i ymgynghorwyr ag arbenigedd, yn arbennig o amgylch yr Asesiad Ardrawiad Amgylcheddol, yn ogystal â chynnal adolygiad annibynnol o’r cynlluniau yng Ngogledd Cymru.  Byddai hynny, yn amlwg, yn ddibynnol ar argaeledd ac amserlenni o fewn yr asiantaethau a allai ymateb i’r math yna o waith.

·         Y credai y byddai’n rhaid adolygu’r amserlenni wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen ac wrth i ni gyrraedd y cerrig milltir, ond roedd yn optimistaidd ar hyn o bryd y gellid cyflawni’r gofynion erbyn Mawrth 2025.

·         Y byddai’n adrodd yn ôl i’r Cyd-bwyllgor yn rheolaidd ar gynnydd, gan amlygu unrhyw risgiau, ac yn sgil cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu, byddai’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth yn cael ei sefydlu i arwain ar y gwaith.

·         Y credai y byddai hynny’n elfen gritigol hefyd yn ogystal â sicrhau ein bod yn cadw at yr amserlen ac at y gyllideb ac yn adrodd yn ôl yn briodol i’r CBC.

 

Mewn ymateb i gyfres o gwestiynau, eglurodd Prif Weithredwr Dros Dro’r CBC:-

 

·         Y byddai’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth yn rhoi cyfeiriad i’r cynllun a chyfeiriad i’r swyddogion i arwain ar greu'r cynllun a pharatoi’r gwaith.

·         Bod y Llywodraeth wedi mynd drwy broses o gymeradwyo mewnol ar gyfer cynlluniau drafft y 4 rhanbarth a byddent yn dyfarnu, ac yn ein hysbysu, o fewn yr wythnosau nesaf gobeithio, ynglŷn â’r cyllid fydd yn dod yn ei flaen. 

·         Y disgwylid hyd at £125,000 i helpu gyda’r gwaith o ddatblygu’r cynllun.

·         Y byddai rhywfaint o’r arian yn cael ei wario ar ymgynghorwyr.  Byddai angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, a byddai yna gostau ynghlwm â hynny mae’n debyg.  Byddai yna gost hefyd ynghlwm â’r gwaith o wneud yr Asesiad Ardrawiad Amgylcheddol.

·         Y bu’n ymgysylltu gyda swyddogion pob awdurdod yn y Gogledd i greu’r cynllun drafft yn y lle cyntaf, a’i bod yn rhagweld, unwaith y byddai’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth wedi’i sefydlu ac yn weithredol, y byddai yna bwyllgor o swyddogion i helpu hefyd. 

·         Bod yna arbenigedd trafnidiaeth yn eistedd o fewn y cynghorau a’i bod yn bwysig eu bod hwy yn teimlo bod ganddynt berchnogaeth a’r gallu i arwain  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.