Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: ·
Y
Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary
Pritchard yn dirprwyo; ·
Graham
Boase (Cyngor Sir Ddinbych) gyda Gary Williams yn dirprwyo; ·
Dafydd
Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Geraint Owen yn dirprwyo. Croesawyd y dirprwyon i’r cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w
nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 143 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2023 fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2023, fel
rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYLLIDEB 2024/25 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AC ARDOLL AR AWDURDODAU CYFANSODDOL PDF 773 KB Cymeradwyo Cyllideb 2024/25 y Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC) y Gogledd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Cymeradwyo Cyllideb 2024/5 Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) y
Gogledd fel y’i cyflwynwyd yn yr atodiad i’r adroddiad. Cymeradwyo’r gyllideb fel y nodir isod:-
2. Cymeradwyo’r ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol fel y nodir isod:-
COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Dewi Morgan, Prif Swyddog Cyllid. PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo Cyllideb 2024/5 Cyd-bwyllgor
Corfforedig (CBC) y Gogledd fel y’i cyflwynwyd yn yr atodiad i’r
adroddiad. Cymeradwyo’r gyllideb fel y
nodir isod:-
2. Cymeradwyo’r
ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol fel y nodir isod:-
TRAFODAETH 1.
Y Gyllideb Nodwyd bod swm sylweddol
o arian yn cael ei glustnodi ar gyfer yr elfen Cynllunio Strategol a holwyd a
olygai hynny wneud i ffwrdd â rhywfaint o’r gwaith mae’r cynghorau yn gyflawni
yn unigol ar hyn o bryd, a thrwy hynny greu arbedion i’r cynghorau, neu a
olygai fwy o waith a mwy o gost i’r cynghorau.
Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Ei bod yn bwysig dod o hyd i ffordd o fedru cynrychioli gwerth am arian
i’r awdurdodau yn lleol o fodolaeth y Cyd-bwyllgor. ·
Nad oedd yn hollol glir eto beth fyddai’r amcan hirdymor i anelu ato o
ran Llywodraeth Cymru, ond yn sicr roedd cyfleoedd yma i gydweithio’n fwy
effeithiol yn rhanbarthol ar rai elfennau o waith. E.e. roedd trafodaethau mewn lle ynglŷn
â’r posibilrwydd o gydweithio’n rhanbarthol ar faterion megis caffael ynni er
mwyn gweld oes ffordd o fod yn fwy effeithiol yn ariannol, fel bod yr arbedion
yn bwydo yn ôl i’r cynghorau yn lleol ar gyfer gwasanaethau craidd. ·
Ei bod yn anodd dweud ar hyn o bryd, yn enwedig o ochr Cynllunio
Strategol, beth fydd y budd i’r rhanddeiliaid penodol, ond bod yna elfennau o
waith ar hyn o bryd sy’n cael ei ddyblygu ar draws y siroedd ar sail
dystiolaethol i’w cynlluniau unigol hwy eu hunain. ·
Y gobeithid, wrth ganoli rhai rhannau o’r dystiolaeth yna, y byddai’n
haws wedyn i gael tystiolaeth ar lefel leol drwy weithio’n rhanbarthol. ·
Mai amser a ddengys beth fydd sgil-effaith hynny o ran unrhyw
effeithlonrwydd penodol yn yr ardaloedd o fewn y rhanbarth, ond yn sicr, dyna
fyddai’r uchelgais, sef ein bod mewn sefyllfa o fedru rhannu gwybodaeth a
thystiolaeth er mwyn gwneud y prosesau lleol yn haws. Nodwyd ei bod yn
bwysig cadw golwg ar yr elfen yma. Mynegwyd pryder
ynglŷn â’r bwriad i roi amcangyfrif chwyddiant o 6% ar gyfer cyflogau yn
2024/25, ond esboniwyd bod hynny wedi’i ariannu allan o reserfau ac na fyddai
yna unrhyw gynnydd yng nghyfraniadau’r partneriaid. Nodwyd bod yna
ymdeimlad o fewn y cynghorau bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn rhywbeth
dewisol, yn hytrach nag yn gyfrifoldeb deddfwriaethol, a rhybuddiwyd y bydd
llawer o gynghorwyr yn cadw golwg manwl ac yn holi cwestiynau wrth i waith y
Cyd-bwyllgor fynd rhagddo. Nododd y Cadeirydd fod hynny’n gwbl ddealladwy. Ychwanegodd y cynhelid ... view the full COFNODION text for item 5. |