Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer 2023/24.

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2023/24.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24.

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y canlynol:-

 

·                Y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary Pritchard yn dirprwyo;

·                Y Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam);

·                Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Geraint Owen yn dirprwyo;

·                Neal Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) gydag Andrew Farrow yn dirprwyo;

·                Emyr Williams (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri) gydag Iwan Jones yn dirprwyo.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC, fuddiant personol yn eitem 8 gan fod yr adroddiad yn ymwneud ag ymestyn cyfnod ei secondiad i’r rôl honno.  Roedd o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 130 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 26 Mai, 2023, fel rhai cywir.

 

7.

RHAGOLWG O WARIANT 2023-24 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD pdf eicon PDF 512 KB

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn rhagolwg o wariant y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2023/24 fel y cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyd-bwyllgor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn rhagolwg o wariant y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2023/24 fel y cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyd-bwyllgor.

 

8.

YMESTYN CYFNOD SECONDIAD I ROL PRIF WEITHREDWR DROS DRO Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG pdf eicon PDF 80 KB

Ystyried ymestyn cyfnod penodiad Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd, ar sail secondiad, hyd at ddiwedd Mawrth 2024.

Penderfyniad:

Ymestyn cyfnod penodiad Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ar sail secondiad, hyd at ddiwedd Mawrth, 2024.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Geraint Owen, Cyngor Gwynedd.

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad, nodwyd bod y Bwrdd Uchelgais wedi cytuno yn ei gyfarfod yn gynharach yn y dydd i ryddhau Alwen Williams i’r rôl am y cyfnod dan sylw.

 

PENDERFYNWYD ymestyn cyfnod penodiad Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ar sail secondiad, hyd at ddiwedd Mawrth, 2024.

 

TRAFODAETH

 

Holwyd a olygai’r secondiad bod tanwariant ar gyflog Alwen Williams fel Cyfarwyddwr Portffolio’r Bwrdd Uchelgais.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y swm sy’n cael ei drosglwyddo i’r Bwrdd Uchelgais am ryddhau Alwen Williams yn rhan-amser yn creu tanwariant, ond bod yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer swyddog arall yn y Swyddfa Rhaglen sy’n dirprwyo i Alwen Williams ar y 2 ddiwrnod y mae’n gweithio i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

Mynegodd Arweinydd Cyngor Sir Fflint bryder ei bod yn ymddangos felly bod yna ôl-lenwi’r swydd yn y Bwrdd Uchelgais tra bo gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael ei gyflawni, gan ychwanegu nad oedd yn cofio i hyn erioed gael ei drafod yn y Bwrdd Uchelgais.  Mewn ymateb, eglurwyd mai rhan o’r trefniadau, pan gymeradwywyd y trefniant secondio yn wreiddiol, oedd rhoi sicrwydd i’r Bwrdd Uchelgais bod yna gamu i fyny o ran rôl y Cyfarwyddwr Portffolio er mwyn cynnal y Cynllun Twf, a bod hynny wedi’i adrodd i’r Bwrdd Uchelgais ar y pryd.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at y ffaith bod eitem arall ar raglen y cyfarfod yn ymhelaethu ar yr adnodd ychwanegol sydd wedi’i adnabod i gefnogi’r Prif Weithredwr Dros Dro gyda’r gwaith o sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn derfynol erbyn 1 Ebrill, 2024, ond na welid unrhyw gyfeiriad at hynny yn y papurau.  Mewn ymateb, awgrymwyd bod hyn yn gwestiwn i’w ofyn i’r Prif Weithredwr Dros Dro wedi iddi ddychwelyd i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf gan mai hi oedd wedi rhoi’r trefniant hwn yn ei le.

 

Yn dilyn y bleidlais ar yr eitem, nododd Arweinydd Cyngor Sir Fflint y dymunai gofnodi iddo bleidleisio yn erbyn y secondiad gan nad oedd ganddo unrhyw gof o adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais ynglŷn â phwy fyddai’n llenwi i mewn ar gyfer y Cyfarwyddwr Portffolio.

 

Nododd y Cadeirydd y gellid gofyn y cwestiwn i’r Prif Weithredwr Dros Dro wedi iddi ddychwelyd i’r cyfarfod, a gofynnodd i’r aelod a oedd yn dymuno parhau i nodi ei wrthwynebiad.

 

Nododd Arweinydd Cyngor Sir Fflint ei fod yn dymuno i’w bryder gael ei nodi a’i fod yn gofyn am adroddiad i’r Bwrdd Uchelgais ac i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn egluro pwy sy’n llenwi i mewn yn y Bwrdd Uchelgais am y 2 ddiwrnod pan nad yw’r Cyfarwyddwr Portffolio ar gael, a sut a phryd y cafodd y penodiad(au) hynny eu gwneud.

 

Galwyd Alwen Williams yn ôl i mewn i’r cyfarfod, a gofynnwyd iddi roi esboniad o’r sefyllfa.  Mewn ymateb, nododd, gan fod y 2 Lywodraeth yn dymuno cadarnhad na fyddai’r secondiad i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn amharu ar y gallu na’r adnoddau i gyflawni yn erbyn y Cynllun Twf,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

BRAND AR GYFER CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG RHANBARTH Y GOGLEDD pdf eicon PDF 603 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r brand arfaethedig ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r brand arfaethedig ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig.