Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

 

·         Y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary Pritchard yn dirprwyo;

·         Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych) gyda Gary Williams yn dirprwyo;

·         Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Geraint Owen yn dirprwyo.

 

Croesawyd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 143 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2023, fel rhai cywir.

 

5.

CYLLIDEB 2024/25 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AC ARDOLL AR AWDURDODAU CYFANSODDOL pdf eicon PDF 773 KB

Cymeradwyo Cyllideb 2024/25 y Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC) y Gogledd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cymeradwyo Cyllideb 2024/5 Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) y Gogledd fel y’i cyflwynwyd yn yr atodiad i’r adroddiad.  Cymeradwyo’r gyllideb fel y nodir isod:-

 

Cynllunio Strategol

Trafnidiaeth

Cyd-Bwyllgor Corfforedig

Cyfanswm

Cyllideb

£

  £

£

£

371,250

182,750

 210,820

764,820

 

2.    Cymeradwyo’r ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol fel y nodir isod:-

 

 

Cynllunio Strategol

Swyddogaethau eraill

Cyfanswm

Ardoll 

 

£

£

£

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

(58,510)

(65,370)

(123,880)

Cyngor Sir Ddinbych 

(52,080)

(55,220)

(107,300)

Cyngor Sir y Fflint

(83,780)

(88,830)

(172,610)

Cyngor Gwynedd 

(53,870)

(67,260)

(121,130)

Cyngor Sir Ynys Môn

(37,230)

(39,480)

(76,710)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

(73,010)

(77,410)

(150,420)

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 

 

(12,770)

 

 

 

(12,770)

 

Cyfanswm Ardoll

(371,250)

(393,570)

(764,820)

 

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan, Prif Swyddog Cyllid.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Cymeradwyo Cyllideb 2024/5 Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) y Gogledd fel y’i cyflwynwyd yn yr atodiad i’r adroddiad.  Cymeradwyo’r gyllideb fel y nodir isod:-

 

Cynllunio Strategol

Trafnidiaeth

Cydbwyllgor Corfforedig

Cyfanswm

Cyllideb

£

  £

£

£

371,250

182,750

 210,820

764,820

 

2.    Cymeradwyo’r ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol fel y nodir isod:-

 

 

Cynllunio Strategol

Swyddogaethau eraill

Cyfanswm

Ardoll 

 

£

£

£

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

(58,510)

(65,370)

(123,880)

Cyngor Sir Ddinbych 

(52,080)

(55,220)

(107,300)

Cyngor Sir y Fflint

(83,780)

(88,830)

(172,610)

Cyngor Gwynedd 

(53,870)

(67,260)

(121,130)

Cyngor Sir Ynys Môn

(37,230)

(39,480)

(76,710)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

(73,010)

(77,410)

(150,420)

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 

 

(12,770)

 

 

 

(12,770)

 

Cyfanswm Ardoll

(371,250)

(393,570)

(764,820)

 

 

TRAFODAETH

 

1.    Y Gyllideb

 

Nodwyd bod swm sylweddol o arian yn cael ei glustnodi ar gyfer yr elfen Cynllunio Strategol a holwyd a olygai hynny wneud i ffwrdd â rhywfaint o’r gwaith mae’r cynghorau yn gyflawni yn unigol ar hyn o bryd, a thrwy hynny greu arbedion i’r cynghorau, neu a olygai fwy o waith a mwy o gost i’r cynghorau.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Ei bod yn bwysig dod o hyd i ffordd o fedru cynrychioli gwerth am arian i’r awdurdodau yn lleol o fodolaeth y Cyd-bwyllgor.

·         Nad oedd yn hollol glir eto beth fyddai’r amcan hirdymor i anelu ato o ran Llywodraeth Cymru, ond yn sicr roedd cyfleoedd yma i gydweithio’n fwy effeithiol yn rhanbarthol ar rai elfennau o waith.  E.e. roedd trafodaethau mewn lle ynglŷn â’r posibilrwydd o gydweithio’n rhanbarthol ar faterion megis caffael ynni er mwyn gweld oes ffordd o fod yn fwy effeithiol yn ariannol, fel bod yr arbedion yn bwydo yn ôl i’r cynghorau yn lleol ar gyfer gwasanaethau craidd.

·         Ei bod yn anodd dweud ar hyn o bryd, yn enwedig o ochr Cynllunio Strategol, beth fydd y budd i’r rhanddeiliaid penodol, ond bod yna elfennau o waith ar hyn o bryd sy’n cael ei ddyblygu ar draws y siroedd ar sail dystiolaethol i’w cynlluniau unigol hwy eu hunain.

·         Y gobeithid, wrth ganoli rhai rhannau o’r dystiolaeth yna, y byddai’n haws wedyn i gael tystiolaeth ar lefel leol drwy weithio’n rhanbarthol.

·         Mai amser a ddengys beth fydd sgil-effaith hynny o ran unrhyw effeithlonrwydd penodol yn yr ardaloedd o fewn y rhanbarth, ond yn sicr, dyna fyddai’r uchelgais, sef ein bod mewn sefyllfa o fedru rhannu gwybodaeth a thystiolaeth er mwyn gwneud y prosesau lleol yn haws.

 

Nodwyd ei bod yn bwysig cadw golwg ar yr elfen yma.

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â’r bwriad i roi amcangyfrif chwyddiant o 6% ar gyfer cyflogau yn 2024/25, ond esboniwyd bod hynny wedi’i ariannu allan o reserfau ac na fyddai yna unrhyw gynnydd yng nghyfraniadau’r partneriaid.

 

Nodwyd bod yna ymdeimlad o fewn y cynghorau bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn rhywbeth dewisol, yn hytrach nag yn gyfrifoldeb deddfwriaethol, a rhybuddiwyd y bydd llawer o gynghorwyr yn cadw golwg manwl ac yn holi cwestiynau wrth i waith y Cyd-bwyllgor fynd rhagddo.

 

Nododd y Cadeirydd fod hynny’n gwbl ddealladwy.  Ychwanegodd y cynhelid  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.