Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·       Dafydd Wyn Williams (Cyngor Gwynedd) gyda Gerwyn Jones yn dirprwyo

·       Darren Williams (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda Gwen Thomas yn dirprwyo)

·       Iwan Evans (Swyddog Monitro)

·       Dewi Morgan (Swyddog Cyllid)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 110 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2024 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD CHWARTEROL YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL pdf eicon PDF 383 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac David Hole (Arweinydd Gweithredu Rhaglen y CBC) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Adroddiad Chwarterol gan:

  1. Argymell i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn derbyn diweddariad o’r trefniadau i gyllido prosiect Diwygio Bysiau ac Masnachfreinio.
  2. Mynegi pryder am barhad gwasanaeth wrth i brosiect Diwygio Bysiau a Masnachfreinio gael ei ddatblygu ymhellach.
  3. Gofyn am drafodaeth bellach ar gyfer cyllido gwasanaeth bws (coets) o ddwyrain i orllewin Cymru a hefyd gwasanaeth bws Gogledd Cymru i’r De, i gyd fynd gyda gwasanaethau rheilffordd drawsffiniol, heb amharu ar wasanaethau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Dros Dro CBC y Gogledd ac Arweinydd Gweithredu Rhaglen y CBC.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r Adroddiad Chwarterol gan:

1.   Argymell i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn derbyn diweddariad o’r trefniadau i gyllido prosiect Diwygio Bysiau ac Masnachfreinio.

2.   Mynegi pryder am barhad gwasanaeth wrth i brosiect Diwygio Bysiau a Masnachfreinio gael ei ddatblygu ymhellach.

3.   Gofyn am drafodaeth bellach ar gyfer cyllido gwasanaeth bws (coets) o ddwyrain i orllewin Cymru a hefyd gwasanaeth bws Gogledd Cymru i’r De, i gyd fynd gyda gwasanaethau rheilffordd drawsffiniol, heb amharu ar wasanaethau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Cylch Gorchwyl yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor ar 1 Hydref 2024. Mae’r Is-bwyllgor wedi cyfarfod ar ddau achlysur, ac ystyrir ei bod yn briodol adolygu’r gwaith a wnaed a sicrhau bod yr adnoddau cywir yn eu lle i ddiwallu datblygiadau yn y dyfodol.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd mai dyma’r adroddiad chwarterol cyntaf sydd yn manylu ar ddatblygiadau, yn unol â dyletswydd gyfreithiol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wrth ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Ymhelaethwyd bydd adroddiad chwarterol yn cael ei gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig pob chwarter er mwyn manylu ar brosiectau penodol, perfformiad ariannol yr Is-bwyllgor a’r datblygiadau sydd ar y gweill. Atgoffwyd bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynorthwyo awdurdodau lleol gyda datblygiadau ac nid oes ganddo bwerau dros gynlluniau ffyrdd a rheilffordd strategol sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdodau hynny.

 

Diolchwyd i’r Is-bwyllgor ac i’r holl rhan-ddeiliaid am eu cymorth i gyflawni’r holl ddatblygiadau a welwyd o fewn yr adroddiad.

 

Cadarnhawyd bod cyfnod ymgynghori ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol draft wedi cychwyn ers 20 Ionawr 2025 ac yn parhau nes 14 Ebrill 2025. Eglurwyd bod y gwaith yn cael ei arwain gan ARUP ar ran y Cyd-bwyllgor, gan nodi hefyd bod cydweithio wedi digwydd gyda Thrafnidiaeth Cymru. Diweddarwyd bod dros 1120 o bobl wedi ymateb i’r ymgynghoriad hyd yma, gyda’r disgwyliad bydd y niferoedd hyn yn parhau i gynyddu’n raddol hyd at ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Ymhelaethwyd bod ARUP wedi canfod themâu yn codi mewn nifer o’r ymatebion, ac yn eu casglu gyda'i gilydd er mwyn ymateb yn effeithiol i unrhyw bryder neu syniad a gyflwynwyd gan y cyhoedd.

 

Tynnwyd sylw bod timau cyfathrebu’r awdurdodau lleol wedi cefnogi’r gwaith o hyrwyddo’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn. Ymhellach, mae’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ac ARUP wedi cymryd pob cam er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosib gyda Mynediad i’r ymgynghoriad megis rhif ffôn dwyieithog, Ystafell ymgynghori ddigidol a hefyd drwy ddatblygu fersiwn hawdd ei ddarllen o’r ymgynghoriad er mwyn cefnogi unrhyw un a all gael heriau i ddeall a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad hebddo.

 

Eglurwyd bod ARUP yn asesu’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus gan gadarnhau y byddent yn cyflwyno adroddiad ynghylch yr atebion pan yn amserol. Manylwyd bod cwestiynau meintiol wedi cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad a fydd yn cael ei asesu er mwyn canfod niferoedd a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DIWEDDARIAD CYNNYDD AR Y CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL A'R BERTHYNAS GYDA'R CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL pdf eicon PDF 234 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac Andy Roberts (Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol) i gyflwyno’r adroddiad.

 

Penderfyniad:

·       Derbyn yr Adroddiad gan nodi’r cynnydd ar y Cynllun Datblygu Strategol a’r berthynas gyda’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hyd yma.

·       Rhaglennu Adroddiad pellach i’r Is-bwyllgor hwn er rannu gwybodaeth gydag aelodau o gynlluniau, megis bws trydan, a geir o fewn prosiect Anturiaethau Cyfrifol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Dros Dro CBC y Gogledd a Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD

 

·       Derbyn yr Adroddiad gan nodi’r cynnydd ar y Cynllun Datblygu Strategol a’r berthynas gyda’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hyd yma.

·       Rhaglennu Adroddiad pellach i’r Is-bwyllgor hwn er rannu gwybodaeth gydag aelodau o gynlluniau, megis bws trydan, a geir o fewn prosiect Anturiaethau Cyfrifol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Sicrhau bod yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol yn gwbl ymwybodol o’r cynnydd gyda’r Cynllun Datblygu Strategol o gyfnod cynnar, i hyrwyddo ymgysylltiad rheolaidd ac ymagwedd integredig at gynllunio strategol.

 

TRAFODAETH

 

Croesawyd y Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol i’w gyfarfod cyntaf.

 

Darparwyd diweddariad o’r broses o ddatblygu Cynllun Datblygu Strategol a’r camau gweithredu sydd angen eu cyflawni. Ymhelaethwyd ar ystyriaethau amserlenni a gofynion cyfreithiol wrth fynd ati i ddatblygu’r Cynllun.

 

Nodwyd bod datblygu’r cynllun yn sicrhau bod Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn ymateb i ofynion statudol o fewn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 am faterion lles economaidd rhanbarthol, cynllunio gofodol a chynllunio trafnidiaeth. Ymhelaethwyd bod  Llawlyfr Cynllun Datblygu Strategol wedi cael ei gyflwyno i Awdurdodau Cynllunio Lleol  gan Lywodraeth Cymru yn 2022 gan ddarparu arweiniad ar sut i ddatblygu Cynllun. Cadarnhawyd y disgwylir y byddai’n cymryd 5 mlynedd i gynhyrchu Cynllun Datblygu Strategol lawn. Pwysleisiwyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn ystyried os all Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wneud addasiadau i weithdrefnau er mwyn cyflymu’r broses ble’n briodol.

 

Eglurwyd bod y Cynllun Datblygu Strategol yn un hirdymor a all fod yn weithredol am hyd at 25 mlynedd. Cadarnhawyd bod hyn yn caniatáu’r gallu i edrych ymlaen at ddatblygiadau’r dyfodol a sicrhau bod y materion hanfodol yn cael eu datblygu ar gyfer y rhanbarth cyfan. Tynnwyd sylw bod y Cynllun yn rhedeg ar y cyd gyda phrosiectau eraill Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd er mwyn sicrhau llesiant economaidd a bod isadeiledd addas ar gyfer cyrraedd targedau a gwireddu datblygiadau newydd.

 

Cadarnhawyd mai’r cam cyntaf wrth ddatblygu’r Cynllun bydd i baratoi Cytundeb Cyflawni. Ymhelaethwyd bydd y Cytundeb yn manylu ar sut bydd y Cynllun yn cael ei ddatblygu yn ogystal â chadarnhau sut gall rhan-ddeiliaid a’r gymuned fod yn rhan o’r broses datblygu. Manylwyd ar amserlen gychwynnol y broses ddatblygu gan nodi bod 8 prif gam ar gyfer datblygu’r Cynllun. Adroddwyd ar amserlen ddangosol y Cytundeb Cyflawni, gan nodi y gobeithir bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn ei fabwysiadu’n ffurfiol ym mis Gorffennaf 2025 cyn gofyn i Lywodraeth Cymru ei fabwysiadu. Pwysleisiwyd bydd y Cynllun Datblygu Strategol wedi cael ei ffurfioli yn dilyn y camau hyn a bydd mor ei ddatblygu ymhellach, gan dderbyn adborth Llywodraeth Cymru ar amserlen fanwl y Cynllun Datblygu Strategol maes o law. Tynnwyd sylw y gobeithir bydd amserlen datblygu’r Cynllun hwn yn cyd-fynd gyda Chynlluniau Datblygu Lleol yr Awdurdodau Lleol.

 

Adroddwyd bod y berthynas glos rhwng y Cynllun Datblygu Strategol a’r Cynllun Trafnidiaeth Strategol yn sicrhau bod dull integredig cydweithredol yn cael ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.