Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:- ·
Y Cynghorydd Edgar Wyn Owen (Parc Cenedlaethol
Eryri). ·
Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda'r
Athro Paul Spencer yn dirprwyo. ·
Yana Williams (Coleg Cambria). ·
Yr Athro Aled Jones-Griffith (Grŵp
Llandrillo Menai). ·
David Roberts (Partneriaeth Sgiliau
Rhanbarthol). ·
Rhun ap Gareth (Cyngor Conwy) gyda Sarah Ecob yn
dirprwyo. ·
Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned
Williams yn dirprwyo. ·
Alwyn Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
gyda Ian Jones yn dirprwyo. ·
Dewi Morgan (Cyngor Gwynedd) gyda Sian Pugh yn
dirprwyo. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol gan y Cynghorydd
Jason McLellan ar gyfer eitem 8 ac eitem 9. Nid oedd yr aelod o’r farn eu bod
yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol gan yr Athro Joe
Yates ar gyfer eitem 11 gan eu bod yn gyflogedig gan Brifysgol Wrecsam. Nodwyd
ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddynt adael y cyfarfod ar gyfer y
drafodaeth. Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol gan y Cynghorydd
Gary Pritchard ar gyfer eitem 12, nid oedd yr aelod o’r farn eu bod yn
fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellr eu hystyried. Cofnod: Diolchwyd i’r Cynghorydd Charlie McCoubrey am ei waith ar yr
Is-bwyllgor dros y flwyddyn ddiwethaf, a dymunwyd yn dda iddo ar gyfer y
dyfodol. |
|
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 11 Gorffenaf 2025 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2025 fel
rhai cywir. |
|
|
SEFYLLFA REFENIW 2025/26 – ADOLYGIAD DIWEDD GORFFENNAF 2025 Dewi Morgan
and Sian Pugh i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh. PENDERFYNIAD 1.
Nodi'r adolygiad refeniw
diwedd Gorffennaf 2025, gan gynnwys y trosglwyddiad unwaith ac am byth yn y
gyllideb sy'n ymwneud ag incwm a gwariant grant. 2.
Nodi'r sefyllfa
cronfeydd wrth gefn. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Nodi tanwariant a ragwelir
o £280,562 yn erbyn cyllideb refeniw ar gyfer 2025/26. TRAFODAETH Cyflwynwyd adolygiad amcan o sefyllfa refeniw
2025/26 yn dilyn adolygiad a wnaethpwyd diwedd Gorffennaf. Nodwyd bod proffil rhaglen gyfalaf y Cynllun
Twf wrthi’n cael ei adolygu ar hyn o bryd a hynny’n dilyn yn sgil o rhai
cynlluniau’n cael eu tynnu allan a chynlluniau newydd yn cael eu hychwanegu o’r
rhestr wrth gefn. Bydd y gwaith yma yn cael ei adrodd fel rhan o’r Achos Busnes
Portffolio ym mis Rhagfyr ac yna fel rhan o’r adolygiad ariannol chwarter tri. Cyflwynwyd trosolwg o’r sefyllfa refeniw'r
Cynllun Twf â’r sefyllfa ar gyfer y cynlluniau grant Ynni a’r Gronfa Ffyniant
Gyffredin. Nodwyd amcan o danwariant o £280 mil ar gyfer 2025/26. Nodwyd bod
hyn yn bennaf oherwydd tanwariant mewn gwariant gweithwyr, swyddi llywodraeth
ychwanegol a gwasanaethau cefnogol y corff atebol. Tynnwyd sylw at lwyddiant
gyda’u cais Cronfa Ffyniant Gyffredin sydd wedi cyfrannu ymhellach at y
tanwariant mewn gwariant gweithwyr, Ymhelaethwyd bod grant o £177 mil gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Ynni a £444 mil o’r Gronfa Ffyniant
Gyffredin yn cael eu cynnwys yn y gyllideb yng ngholofn ‘Trosglwyddiadau
unwaith ac am byth’. Adroddwyd amcan o falensau'r cronfeydd ar 31
Mawrth 2026. Ymhelaethwyd eu bod yn rhagweld y bydd rhaid benthyca yn ystod y
flwyddyn ariannol nesaf er mwyn ariannu'r Cynllun Twf, ac felly bydd y costau
yma yn cael eu hariannu o’r gronfa llog. Eglurwyd bod yr adroddiad yma eisoes wedi ei
dderbyn gan y Cydbwyllgor Corfforedig yn ei gyfarfod ar 19 Medi. Diolchwyd am yr adroddiad. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG CHWARTER 1 2025/26 Hedd
Vaughan-Evans i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau. PENDERFYNWYD 1. Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg
y Portffolio wedi'i diweddaru. 2. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau
lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae adrodd chwarterol
ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb
Terfynol y Cynllun Twf. TRAFODAETH Cyflwynwyd adroddiad perfformiad chwarter 1, yn
cwmpasu’r cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin eleni. Nodwyd bod sawl carreg filltir
bwysig wedi’i chyrraedd yn ystod y cyfnod, gan gynnwys trosglwyddo’r gwaith
Cynllun Twf i’r CBC. Adroddwyd bod adolygiad o’r portffolio wedi’i gynnal, gyda
phenderfyniadau allweddol wedi’u gwneud ar brosiectau unigol, a bod y rhestr
wrth gefn newydd, ynghyd â’r trefniadau sicrwydd a chymeradwyo, wedi’u
symleiddio ac wedi’u gweithredu’n llwyddiannus. Cyfeiriwyd at gymeradwyo dau achos busnes llawn yn
ystod y chwarter, sef 4G+ a’r prosiect Ynni Lleol Blaengar. Yn ogystal, nodwyd
bod y cytundeb benthyciad ar gyfer prosiect Cydnerth wedi’i gwblhau, bod yr
achos busnes ar gyfer Theatr Clwyd wedi’i gymeradwyo, a bod y prif adeilad ym
Mhlas Coch, fel rhan o brosiect EEOC, wedi’i gwblhau gyda lansiad meddal, tra
bod y cyfleusterau labordy ym Mhlas Henfaes wedi’u hadnewyddu’n llawn. Atgoffwyd bod pedwar prosiect yn parhau i adrodd
statws coch ar hyn o bryd, a nodwyd y byddant yn rhan o’r ailgylch
adolygu portffolio nesaf, gyda chynigion ac argymhellion i’w cyflwyno’n ôl i’r
Bwrdd ym mis Tachwedd. Nodwyd bod nifer o achosion busnes ar rhaglen yr
cyfarfod hwn, ac y byddai eu cymeradwyo’n gosod y Bwrdd mewn sefyllfa fwy
cadarnhaol o ran perfformiad. O ran buddion, nodwyd bod y nifer o swyddi a grëwyd
erbyn diwedd chwarter 1 yn sefyll ar 38. Derbyniwyd nad oedd y ffigur hwn yn
sylweddol ar hyn o bryd, ond bod hynny’n adlewyrchu nifer y prosiectau sydd yn
y cam cyflawni presennol. Disgwylir cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd nesaf
wrth i fwy o brosiectau symud i gam cyflawni. Nodwyd bod gwaith ar y gweill
gyda’r cynlluniau twf eraill i safoni’r broses o gasglu data ar swyddi adeiladu
a swyddi sydd wedi’u diogelu, er mwyn gallu darparu darlun mwy cynhwysfawr i’r
Bwrdd a’r Llywodraeth o’r effaith y mae’r prosiectau’n ei chael. Nodwyd bod buddsoddiad y Cynllun Twf erbyn diwedd
chwarter 1 yn sefyll ychydig dros £22.6 miliwn, gyda chyfanswm y buddsoddiad
dros £24 miliwn. Nodwyd ymhellach bod yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth
am y buddion ehangach sy’n dechrau dod i’r amlwg, megis incwm ychwanegol wedi’i
sicrhau, myfyrwyr yn cwblhau cymwysterau, a chamau i gryfhau cadwyni cyflenwi.
Nodwyd y bydd yr elfen hon yn cael ei datblygu ymhellach mewn adroddiadau yn y
dyfodol wrth i fwy o brosiectau symud i gyflawni a mwy o ddata ddod ar gael am
eu heffaith. O ran risg, nodwyd bod y sefyllfa’n weddol gyson â chwarter 4 2024/25. Nodwyd bod y risg weddilliol ar oedi wedi lleihau ychydig, yn sgil gweithredu’r rhestr wrth gefn. Fodd bynnag, nodwyd bod y risg weddilliol o ran cynllunio wedi cynyddu, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau allan y wasg a’r
cyhoedd o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson
penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny) Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod
adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod
gwybodaeth o’r fath heb ei
gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn
a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu
bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghroau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd
yn ymwneud a’r Gytundeb Twf
i rannu gwybodaeth
sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn
groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau .
Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod
y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: PENDERFYNWYD cau
allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar Eitem 11-14 gan
ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth
ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys
yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod
buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath
heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn
benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai
cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i
fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn
tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth
sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o
sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
|
PENODI YMGYNGHORWYR ANWEITHREDOL Alwen
Williams (Prif Weithredwr) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cytuno ar yr argymhellion a nodir yn adran 4.6 ar gyfer penodi dau
ymgynghorydd i’r rolau Ymgynghorwyr Anweithredol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams,
Prif Weithredwr y CBC. PENDERFYNWYD Cytuno ar yr argymhellion a nodir
yn adra 4.6 ar gyfer penodi dau
ymgynghorydd i’r rolau Ymgynghorwyr Anweithredol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ym
mis Mawrth 2025, cymeradwyodd y Cydbwyllgor
Corfforedig y Cylch Gorchwyl
a'r broses benodi ar gyfer Bwrdd Busnes
Ymgynghorol newydd yn dilyn trosglwyddo'r
Cynllun Twf ynghyd â chymeradwyo'r disgrifiadau rôl ar gyfer dau Ymgynghorydd
Anweithredol newydd. Awdurdododd y Cydbwyllgor Corfforedig y Prif Weithredwr dros dro i gymryd
yr holl gamau angenrheidiol i gaffael ymgeiswyr i'w hargymell i'w
penodi i Is-bwyllgor Lles Economaidd
y CBC. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |
|
|
CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU – CAIS AM NEWID David
Mathews i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNIAD 1. Cytuno i'r
cais am newid i rannu'r gwaith
o gyflawni prosiect Cyn
Ysbyty Gogledd Cymru yn ddau
gam gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu
fel Noddwr y Prosiect ar gyfer
Cam 1 Gwaith Dymchwel ac Adfer
Hanfodol a Mesurau Lliniaru Ecolegol, a Jones Bros yn parhau i
fod yn Noddwr
y Prosiect ar gyfer Cam 2. (Y gwaith dymchwel ac adfer sy'n weddill, adeiladu
unedau masnachol ac addasu Adeilad Rhestredig y Prif Ysbyty yn fflatiau a galluogi
datblygu 300 o gartrefi. 2. Cytuno i
ryddhau £2m cychwynnol o gyllid ar gyfer
Cam 1 i Gyngor Sir Ddinbych gyda'r opsiwn o ddarparu £1m arall wedi'i ddirprwyo
i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro gan ddal sylw
at y materion yn rhan 4.3 o’r adroddiad 3. Nodi y bydd cwblhau
Cam 1 yn galluogi'r prosiect i weld yn llawn y costau
sy'n gysylltiedig â Cham 2
ac y gallai hyn arwain at gais am gyllid pellach ond byddai hyn
yn destun penderfyniad ar wahân yn y dyfodol
os oes angen. 4. Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio
mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro
i gytuno ac ymrwymo i gytundeb
cyllido gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer Cam 1 yn amodol ar
gwblhau'r asesiad Rheoli Cymorthdal iadau. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Mathews,
Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo. PENDERFYNWYD
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD 1.
Mae
angen bwrw ymlaen â'r gwaith
Cam 1 yn fuan er mwyn darparu sicrwydd
cost ar Gam 2 ac i fynd i'r afael â materion
iechyd a diogelwch brys ar
y safle o ganlyniad i gyflwr dirywiol
yr adeiladau sydd angen eu dymchwel
beth bynnag waeth beth fo’r
materion iechyd a diogelwch.
2.
Drwy ddod â dymchwel yr adeiladau hyn ymlaen, gellir
sicrhau mynediad diogel i'r Adeilad
Rhestredig Prif Restr (MRLB) gan ganiatáu: i.
i'w arolygu fel y gellir cael
asesiadau cyfredol o gostau trosi, hyfywedd
y prosiect cyffredinol ac ati ii.
Y gellir cynnal unrhyw waith brys
i'r MRLB i gyfyngu ar unrhyw ddirywiad pellach yn ei gyfanrwydd
strwythurol iii.
momentwm/hyder i'w adeiladu yn
y prosiect o ran y cerrig milltir eraill y mae angen eu
cyflawni. 3.
Mae
pob plaid wedi cytuno y dylai clirio'r adeiladau i'w dymchwel fod
yn flaenoriaeth. Tra bod y gwaith hwn yn
parhau, bydd y trafodaethau ynghylch cynnwys yr Adran 106 sy'n cysylltu â rhoi caniatâd cynllunio yn parhau. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |
|
|
ACHOS FUSNES AMLINELLOL PROSIECT PRINCE Elliw
Hughes i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Elliw Hughes,
Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf. PENDERFYNWYD 1. Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol (OBC) ar gyfer Prosiect Prince yn
amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses
sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Knauf Insulation Limited yn mynd i'r
afael â'r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y'u disgrifir yn Adran 7, a
gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i'r Is-bwyllgor ei ystyried. 2. Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd,
Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft
yn unol â'r adroddiad hwn fel sail i'r trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y
prosiect yn amodol ar gymeradwyo'r Achos Busnes Llawn. 3. Bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o ddeuddeg mis ac
os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn gymeradwy yn ystod y
cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd a chyflwyno'r achos busnes i'r
Is-bwyllgor i'w gymeradwyo. 4. Nodi'r bwriad
i rannu'r cyllid rhwng y Cynllun Twf a'r
Parth Buddsoddi (ar ôl ei gymeradwyo) ac y bydd y sefyllfa hon yn cael ei chadarnhau
yn ystod y cam Achos Busnes Llawn. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD 1. Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer
Prosiect Prince gan Knauf Insulation
Limited. 2. Bydd penderfyniad gan yr Is-bwyllgor Lles Economaidd i gymeradwyo'r
Achos Busnes Amlinellol yn galluogi Knauf i symud
ymlaen i gam nesaf eu proses gymeradwyo mewnol. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |
|
|
PROSIECT GWEITHGYNHYRCHU A GALLU BUSNES CYMDEITHAS 5.0 – ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES A MWY (BJC+) Elliw Hughes
i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Elliw Hughes,
Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf. PENDERFYNWYD
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor
i'r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer Prosiect Gwaith gynhyrchu a Gallu Busnes Cymdeithas 5.0. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |
|
|
PROSIECT SAFLEOEDD AC ADEILADAU GOGLEDD YNYS MÔN – ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES+ David
Mathews i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Mathews,
Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo. PENDERFYNWYD
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor
i'r ACB+ ar gyfer prosiect Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Ynys Môn. Mae'r
ACB+ drafft yn cael ei gyflwyno
i'r Is-bwyllgor ym mis Hydref er mwyn galluogi'r Cyngor i ymrwymo i Gytundeb
Menter ar y Cyd â Llywodraeth Cymru cyn cychwyn proses gaffael ffurfiol i benodi Prif
Gontractwr ar gyfer y ddau safle sydd
wedi'u cynnwys yn y prosiect. Ar hyn o bryd, mae
disgwyl i gaffael ar gyfer y prosiect ddechrau yn Ch4 2025 gyda dewis bidiwr a ffafrir wedi'i gadarnhau ar gyfer Adeilad y Derfynfa Forol a'r unedau
busnes newydd yn Ch1 2026. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |
|
|
PROSIECT PORTH Y PORTHLADD RHYDD - ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES+ David
Mathews i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Mathews,
Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo. PENDERFYNWYD
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor
i'r ACB+ ar gyfer prosiect Porth y Porthladd Rhydd. Mae'r
ABC+ drafft yn cael ei gyflwyno
i'r Is-bwyllgor ym mis Hydref er mwyn i CSYM gwblhau'r gwaith o brynu buddiant rhydd-ddaliad y safle gan Eastman. Gan fod gan y safle
rwymedigaethau sylweddol, mae CSYM yn dymuno
cael sicrwydd y bydd ganddynt ddigon
o gyllid i fynd i'r afael
â'r gwaith dymchwel, adfer a gwaith clirio safle
yn ogystal â darparu ar gyfer priffordd y gellir ei mabwysiadu i
gael mynediad i'r safle. Fel rhan o brosiect ehangach Porth y Porthladd Rhydd, mae CSYM yn dymuno adeiladu
unedau cyflogaeth ychwanegol ar Barc Diwydiannol Tregarnedd gerllaw a dod â llain datblygu ymlaen i fod
ar werth ar y farchnad agored. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |