Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION Y CYFARFODYDD BLAENOROL pdf eicon PDF 159 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 03 Hydref 2025 a 07 Tachwedd 2025 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

5.

DIWEDDARIAD ACHOS BUSNES Y PORTFFOLIO 2025 A CHYNLLUN BUSNES CYFFREDINOL pdf eicon PDF 238 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.

 

Mae Atodiad 2 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Is-bwyllgor yn unig. Mae’r Atodiad yn eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn a thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol Atodiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghroau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Tw fi rannu gwybodateh sensitive ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd diweddariad 2025 Achos Busnes y Portffolio a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol.

 

Gofynnwyd i'r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno'r holl ddogfennaeth ofynnol a'r ffurflen cais i newid i Lywodraethau Cymru a'r DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid blynyddol a dirprwyo hawl i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Monitro a'r Swyddog 151 i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad dyfarnu'r cyllid ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth neu'r llall.

 

Cymeradwywyd Cynllun Busnes Cyffredinol 2026-2030 wedi'i ddiweddaru sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Nodwyd diweddariad llafar yr Adolygiad Sicrwydd Portffolio 2025 ac yn gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r argymhellion.

 

6.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r CBC ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau

 

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon.

 

7.

RHAGLEN UWCHRADDIO PORTHLADD MOSTYN, ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES+

David Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Achos Cyfiawnhad Busnes (ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES+ ) ar

gyfer Rhaglen Uwchraddio Porthladd Mostyn, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a gynhaliwyd.

 

Dirprwywyd y Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gadarnhau'r costau a'r buddion terfynol ar ôl caffael yn unol â'r achos busnes cymeradwy ac yn ymrwymo i gytundeb cyllido gyda Phorthladd Mostyn Ltd ar gyfer cyflawni'r prosiect, yn amodol ar y Porthladd yn mynd i'r afael â'r materion sydd heb eu datrys yn adran 7 yr adroddiad ac yn sicrhau'r holl gymeradwyaethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.

 

Cadarnhau fod  cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb cyllido wedi'i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo.

 

 

8.

YSGOL FUSNES ALBERT GUBAY, PRIFYSGOL BANGOR, ACHOS BUSNES AMLINELLOL

Stuart Whitfield, Rheolwr y Rhaglen Ddigidol, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol (OBC) ar gyfer Ysgol Fusnes Albert Gubay yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a

gynhaliwyd, a bod Prifysgol Bangor yn mynd i'r afael â'r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y disgrifir yn Adran 7, ac yn gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i'r Is-bwyllgor ei ystyried.

 

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â'r adroddiad hwn fel sail i'r trefniadau ariannu terfynol i’r prosiect gael eu hymrwymo yn amodol ar gymeradwyo'r Achos Busnes Llawn.

 

Cadarnhau fod  cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn gymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd gofyn dychwelyd a chynrychioli'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo

 

9.

PROSIECT GWELLA RHEILFFYRDD PADESWOOD - ACHOS BUSNES AMLINELLOL

David Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Padeswood yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Cyngor Trafnidiaeth Cymru yn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn ystod y drafodaeth, a gofyn i Achos Busnes Lawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.

 

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth Achos Busnes Llawn.

 

Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn sicrhau caniatâd cynllunio ac yn mynd ymlaen i Achos Busnes Lawn gymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.

 

10.

CAIS AM NEWID ANTURIAETHAU GYFRIFOL

Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

The request for change was agreed for the Responsible Adventure project, including the proposed element in Betws-y-coed instead of the eBus.