Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

·        Y Cynghorydd Dave Hughes (Cyngor Sir y Fflint) gyda’r Cynghorydd Richard Jones yn dirprwyo.

·        Y Cynghorydd Julie Fallon (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

·        Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda’r Athro Paul Spencer yn dirprwyo.

·        Yana Williams (Coleg Cambria) gyda Steve Jackson yn dirprwyo

·        Rhun ap Gareth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) gyda Sarah Ecob yn dirprwyo.

·        Wendy Boddington (Sylwedydd Llywodraeth Cymru), gyda Dewi Williams yn dirprwyo.

·        Dewi Morgan (Cyngor Gwynedd) gyda Sian Pugh yn dirprwyo

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Sirol Wrecsam) a gan Joe Yates (Prifysgol Wrecsam) ar gyfer Eitem 7. Ni fu iddynt adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar y mater hwn.

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol ar gyfer Eitem 8, gan gydnabod nad oedd angen i’r Cynghorydd Nia Jeffreys, y Cynghorydd Edgar Wyn Owen na Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) ddatgan buddiant ar yr eitem hon.

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan yr Athro Paul Spencer (Prifysgol Bangor) ar gyfer Eitem 9, gan fod y sefydliad ynghlwm â’r prosiect. Nododd ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Gary Pritchard (Cyngor Sir Ynys Môn) ar gyfer Eitem 9. Nodwyd nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Nia Jeffreys a Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) ar gyfer Eitem 10, gan fod y Cyngor yn un o noddwyr y prosiect. Nodwyd nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac nid oedd angen gadael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan y Cynghorydd Edgar Wyn Owen (Parc Cenedlaethol Eryri) ar gyfer Eitem 10. Nodwyd nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Aled Jones-Griffith (Grŵp Llandrillo Menai) ar gyfer Eitem 11, gan fod y sefydliad ynghlwm â’r prosiect. Nodwyd ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Aled Jones-Griffith (Grŵp Llandrillo Menai) ar gyfer Eitem 12, fod y sefydliad ynghlwm â’r prosiect. Nodwyd ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 170 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 06 Chwefror 2026 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 05 Rhagfyr 2025 fel rhai cywir.

5.

RHAGLEN SGILIAU PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM pdf eicon PDF 433 KB

Iain Taylor (Rheolwr Rhaglen Parth Buddsoddi) ac Sian Lloyd Roberts a Rees Brown o’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  • Nodi’r cynnydd ar roi’r Rhaglen Parth Buddsoddi ar waith mewn partneriaeth agos gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol, Coleg Cambria, Prifysgol Wrecsam a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

  • Nodi’r broses ar gyfer datblygu’r prosiectau a gyflwynwyd yn nogfennaeth yr eitem hon, a’u bod wedi cael eu cytuno fel prosiectau sgiliau priodol ar gyfer y Parth Buddsoddi i gefnogi’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’u bod yn cyd-fynd ag amcanion y Cynllun Sgiliau Parth Buddsoddi.

  • Cymeradwyo’r cynigion prosiect a gyflwynwyd gan Goleg Cambria gwerth hyd at £8,183,000 a dirprwyo i Brif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, y Swyddogion Monitro, a’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghorid â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gytuno ac ymrwymo i Gytundeb Cyllid Grant rhwng Cyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru a Choleg Cambria.

  • Cymeradwyo’r cynigion prosiect a gyflwynwyd gan Brifysgol Wrecsam gwerth hyd at £4,247,014 a dirprwyo i Brif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gytuno ac ymrwymo i Gytundeb Cyllid Grant rhwng Cyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru a Phrifysgol Wrecsam.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol a Cadeirydd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

PENDERFYNIAD

·       Nodi’r cynnydd ar roi’r Rhaglen Parth Buddsoddi ar waith mewn partneriaeth agos gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol, Coleg Cambria, Prifysgol Wrecsam a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

·       Nodi’r broses ar gyfer datblygu’r prosiectau a gyflwynwyd yn nogfennaeth yr eitem hon, a’u bod wedi cael eu cytuno fel prosiectau sgiliau priodol ar gyfer y Parth Buddsoddi i gefnogi’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’u bod yn cyd-fynd ag amcanion y Cynllun Sgiliau Parth Buddsoddi.

·       Cymeradwyo’r cynigion prosiect a gyflwynwyd gan Goleg Cambria gwerth hyd at £8,183,000 a dirprwyo i Brif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro, a’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghorid â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gytuno ac ymrwymo i Gytundeb Cyllid Grant rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a Choleg Cambria.

·       Cymeradwyo’r cynigion prosiect a gyflwynwyd gan Brifysgol Wrecsam gwerth hyd at £4,247,014 a dirprwyo i Brif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gytuno ac ymrwymo i Gytundeb Cyllid Grant rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a Phrifysgol Wrecsam.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

I geisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor Lles Economaidd ar gyfer Rhaglen sgiliau Parth Sir y Fflint a Wrecsam. Bydd hyn yn galluogi dechrau’r rhaglen sgiliau Parth Buddsoddi ar yr adeg caiff y Parth Buddsoddi ei gytuno arno rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

TRAFODAETH

Eglurwyd bod yr adroddiad yn cyflwyno Rhaglen Sgiliau Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam a gofyn am gymeradwyaeth yr Is-bwyllgor ar gyfer y rownd gychwynnol o brosiectau er mwyn cefnogi’r Parth Buddsoddi.

Cadarnhawyd bod y Rhaglen wedi cael ei ddatblygu ar y cyd gyda Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Coleg Cambria, Prifysgol Wrecsam, Gyrfa Cymru a’r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol.

Atgoffwyd yr aelodau o’r angen i ddarparu sgiliau ar gyfer gweithwyr newydd, gan fod y gweithlu yn gyffredinol yn heneiddio, a bod angen paratoi i ymdopi gyda thechnolegau newydd. Tynnwyd sylw mai nod y Rhaglen yw ymateb i’r anghenion hynny drwy sicrhau bod addysg a sgiliau sydd yn cael ei ddarparu yn cyfarch yr hyn sydd yn ddisgwyliedig o anghenion cyflogwyr. Nodwyd y bwriedir sicrhau bod trigolion lleol yn elwa drwy gyflogaeth oherwydd y sgiliau maent yn eu datblygu o fewn y Parth Buddsoddi.

Tywyswyd yr aelodau drwy’r prosiectau cychwynnol gan egluro eu bod yn canolbwyntio ar ‘Ymyrraethau Cyn 16’, ‘Ymyrraethau 16-18’, ‘Llwybrau ar gyfer 18+’ ac ‘Ail-sgilio ac Uwch-sgilio’. Manylwyd bod nifer o brosiectau pellach ar waith er mwyn cyfarch y prif agweddau hyn, ac eu bod wedi cael eu datblygu gan Coleg Cambria a Phrifysgol Wrecsam.

Nodwyd bod Coleg Cambria yn datblygu hyfforddiant ar Weithgynhyrchu Uwch, sgiliau digidol a Thechnolegau Diwydiant 4.4. Ymhelaethwyd bod y Coleg yn dymuno ehangu prentisiaethau a chryfhau’r gwaith ymgysylltu gyda chyflogwyr, yn enwedig y cwmnïau bychan a chanolig (SME). Pwysleisiwyd ei fod yn becyn cyflawn ar gyfer ymyraethau 16-18 ac 18+

Nodwyd bod Prifysgol Wrecsam yn canolbwyntio arlwybrau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Er bod diddordeb y cyhoedd mewn tryloywder ac atebolrwydd, mae hyn yn cael ei orbwyso ar hyn o bryd gan yr angen i ddiogelu gwybodaeth fasnachol sensitif o ystyried y byddai datgelu yn debygol o ragfarnu trafodaethau parhaus a gallu'r awdurdod i sicrhau'r gwerth gorau a diogelu'r defnydd priodol o arian cyhoeddus.

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon.

Cofnod:

Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon.

Cynigodd y Cadeirydd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Er bod diddordeb y cyhoedd mewn tryloywder ac atebolrwydd, mae hyn yn cael ei orbwyso ar hyn o bryd gan yr angen i ddiogelu gwybodaeth fasnachol sensitif o ystyried y byddai datgelu yn debygol o ragfarnu trafodaethau parhaus a gallu'r awdurdod i sicrhau'r gwerth gorau a diogelu'r defnydd priodol o arian cyhoeddus.

7.

ACHOS BUSNES AMLINELLOL PORTH WRECSAM

David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Prosiect Porth Wrecsam yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod y Cyngor yn mynd i’r afael â’r materion a nodir a disgrifiwyd yn Adran 7 yr adroddiad hwn, a gofyn i Achos Busnes Lawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.

Awdurdodi i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect gael eu hymrwymo yn amodol ar gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn.

Nodi bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o ddeuddeg mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn cymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd a chyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor ei gymeradwyo.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo.

PENDERFYNWYD

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Porth Wrecsam gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr Adroddiad.

8.

CAIS AM NEWID: PARC BRYN CEGIN, BANGOR

Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) a David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cytuno i’r cais am newid ar gyfer prosiect Parc Bryn Cegin i ddyrannu £1.43m ychwanegol o gyllid y Cynllun Twf i gyflawni Cam 2 y Prosiect i ddarparu 1,856 metr sgwâr (20,000 troedfedd sgwâr) ychwanegol o unedau cyflogaeth modern o safon uchel sy’n gweithredu ar sail carbon isel.

Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 i gytuno a chymeradwyo’r newidiadau perthnasol i’r Cytundeb Cyd-fenter â Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni’r prosiect.

Nodi y byddai’r Achos Busnes Llawn ar gyfer Parc Bryn Cegin yn cael ei ddiweddaru ar ôl llofnodi’r contract ar gyfer cam 2 i adlewyrchu’r costau terfynol ac i ddirprwyo cymeradwyaeth yr Achos Busnes Llawn i’r Cyfarwyddwr Portffolio.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau a Rheolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo.

PENDERFYNWYD

Cytuno i’r cais am newid ar gyfer prosiect Parc Bryn Cegin i ddyrannu £1.43m ychwanegol o gyllid y Cynllun Twf i gyflawni Cam 2 y Prosiect i ddarparu 1,856 metr sgwâr (20,000 troedfedd sgwâr) ychwanegol o unedau cyflogaeth modern o safon uchel sy’n gweithredu ar sail carbon isel.

Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 i gytuno a chymeradwyo’r newidiadau perthnasol i’r Cytundeb Cyd-fenter â Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni’r prosiect.

Nodi y byddai’r Achos Busnes Llawn ar gyfer Parc Bryn Cegin yn cael ei ddiweddaru ar ôl llofnodi’r contract ar gyfer cam 2 i adlewyrchu’r costau terfynol ac i ddirprwyo cymeradwyaeth yr Achos Busnes Llawn i’r Cyfarwyddwr Portffolio.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r cais am newid ar gyfer prosiect Parc Bryn Cegin, Bangor.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr Adroddiad.

9.

ACHOS BUSNES LLAWN EGNI

Meghan Davies (Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer Prosiect Egni.

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Prifysgol Bangor er mwyn cyflawni’r prosiect, yn ddarostyngedig i Brifysgol Bangor yn rhoi sylw boddhaol i’r materion sy’n weddill fel y nodir yn Adran 7 o’r adroddiad hwn.

Nodwyd bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb cyllido wedi’i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Ynni a Sero Net.

            Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r Achos Busnes Llawn ar gyfer Prosiect Egni.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr Adroddiad.

10.

ACHOS BUSNES AMLINELLOL CANOLFAN ARLOESI, BUSNES A SGILIAU TRAWSFYNYDD

Meghan Davies (Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Prosiect Canolfan Arloesi, Busnes a Sgiliau Trawsfynydd yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Cyngor Gwynedd yn mynd i’r afael â’r materion a nodir a disgrifiwyd yn Adran 7 yr adroddiad hwn, a gofyn i’r Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.

Awdurdodi i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect gael eu hymrwymo yn amodol ar gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn.

Nodwyd bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o ddeuddeg mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn cymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd a chyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau a’r Rheolwr Ynni a Sero Net.

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Canolfan Arloesi, Busnes a Sgiliau Trawsfynydd.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr Adroddiad.

11.

HWB ECONOMI WLEDIG GLYNLLIFON ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES AR GYFER DATBLYGIAD LLAETH CYNALIDAWY

Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes drafft ar gyfer yr Elfen Datblygiad Llaeth Cynaliadwy o brosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Grŵp Llandrillo Menai yn ymdrin â’r materion a nodir a disgrifiwyd yn Adran 7 yr adroddiad hwn, ac yn sicrhau’r holl gymeradwyaethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.

Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 i gytuno a chadarnhau’r materion sy’n weddill yn yr adroddiad cyn i’r cyllid gael ei ryddhau a nodi os na fydd hyn wedi ei gwblhau ymlaen llaw i’r Is-bwyllgor ym mis Mai yna byddai angen i’r Achos Cyfiawnhad Busnes gael ei ail gyflwyno i’w ystyried.

Nodi bod cytundeb ariannu eisoes wedi’i wneud gyda Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer prosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon yn dilyn cymeradwyaeth Achos Cyfiawnhad Busnes Laeth Defaid Cymru, ac y bydd y cytundeb hwn yn cynnwys y broses o gyflawni’r elfen hon o’r prosiect ehangach os bydd yr Is-bwyllgor yn cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes hwn.

Nodi y bydd un cymeradwyaeth Achos Busnes arall i gyflawni’r elfennau sy’n weddill o brosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon ac y bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i’r Is-bwyllgor i’w hystyried yn y dyfodol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf.

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer Elfen Datblygiad Llaeth Cynaliadwy Prosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr Adroddiad.

12.

CAIS AM NEWID PROSIECT ACADEMI CROESO (A ELWID GYNT YN BROSIECT RHWYDWAITH TALENT TWRISTIAETH)

Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r cais am newid ar gyfer prosiect Academi Croeso, gan roi estyniad terfynol o hyd at chwe mis i gyflwyno lloeren newydd ar ffurf Achos Cyfiawnhad Busnes i ail-ddyrannu’r £1m sy’n weddill o gyllid y Cynllun Twf sydd eisoes wedi’i ymrwymo i’r prosiect.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf.

PENDERFYNWYD

Cymeradwyo’r cais am newid ar gyfer prosiect Academi Croeso, gan roi estyniad terfynol o hyd at chwe mis i gyflwyno lloeren newydd ar ffurf Achos Cyfiawnhad Busnes i ail-ddyrannu’r £1m sy’n weddill o gyllid y Cynllun Twf sydd eisoes wedi’i ymrwymo i’r prosiect.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Mae ceisiadau am newidiadau i brosiectau gan Arianwyr Prosiectau yn faterion i’r Is-bwyllgor eu penderfynu.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr Adroddiad.