Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·       Y Cynghorydd Edgar Wyn Owen (Parc Cenedlaethol Eryri).

·       Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda'r Athro Paul Spencer yn dirprwyo.

·       Yana Williams (Coleg Cambria).

·       Yr Athro Aled Jones-Griffith (Grŵp Llandrillo Menai).

·       David Roberts (Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol).

·       Rhun ap Gareth (Cyngor Conwy) gyda Sarah Ecob yn dirprwyo.

·       Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo.

·       Alwyn Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda Ian Jones yn dirprwyo.

·       Dewi Morgan (Cyngor Gwynedd) gyda Sian Pugh yn dirprwyo.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol gan y Cynghorydd Jason McLellan ar gyfer eitem 8 ac eitem 9. Nid oedd yr aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol gan yr Athro Joe Yates ar gyfer eitem 11 gan eu bod yn gyflogedig gan Brifysgol Wrecsam. Nodwyd ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddynt adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

 

Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol gan y Cynghorydd Gary Pritchard ar gyfer eitem 12, nid oedd yr aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellr eu

hystyried.

Cofnod:

Diolchwyd i’r Cynghorydd Charlie McCoubrey am ei waith ar yr Is-bwyllgor dros y flwyddyn ddiwethaf, a dymunwyd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 166 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Gorffenaf 2025 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2025 fel rhai cywir.

 

5.

SEFYLLFA REFENIW 2025/26 – ADOLYGIAD DIWEDD GORFFENNAF 2025 pdf eicon PDF 240 KB

Dewi Morgan and Sian Pugh i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Nodi yr adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2025, gan gynnwys y trosglwyddiad unwaith ac am byth yn y gyllideb sy'n ymwneud ag incwm a gwariant grant.
  2. Nodi y sefyllfa cronfeydd wrth gefn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Nodi'r adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2025, gan gynnwys y trosglwyddiad unwaith ac am byth yn y gyllideb sy'n ymwneud ag incwm a gwariant grant.

2.     Nodi'r sefyllfa cronfeydd wrth gefn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nodi tanwariant a ragwelir o £280,562 yn erbyn cyllideb refeniw ar gyfer 2025/26.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd adolygiad amcan o sefyllfa refeniw 2025/26 yn dilyn adolygiad a wnaethpwyd diwedd Gorffennaf.

 

Nodwyd bod proffil rhaglen gyfalaf y Cynllun Twf wrthi’n cael ei adolygu ar hyn o bryd a hynny’n dilyn yn sgil o rhai cynlluniau’n cael eu tynnu allan a chynlluniau newydd yn cael eu hychwanegu o’r rhestr wrth gefn. Bydd y gwaith yma yn cael ei adrodd fel rhan o’r Achos Busnes Portffolio ym mis Rhagfyr ac yna fel rhan o’r adolygiad ariannol chwarter tri.

 

Cyflwynwyd trosolwg o’r sefyllfa refeniw'r Cynllun Twf â’r sefyllfa ar gyfer y cynlluniau grant Ynni a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Nodwyd amcan o danwariant o £280 mil ar gyfer 2025/26. Nodwyd bod hyn yn bennaf oherwydd tanwariant mewn gwariant gweithwyr, swyddi llywodraeth ychwanegol a gwasanaethau cefnogol y corff atebol. Tynnwyd sylw at lwyddiant gyda’u cais Cronfa Ffyniant Gyffredin sydd wedi cyfrannu ymhellach at y tanwariant mewn gwariant gweithwyr,

 

Ymhelaethwyd bod grant o £177 mil gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Ynni a £444 mil o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael eu cynnwys yn y gyllideb yng ngholofn ‘Trosglwyddiadau unwaith ac am byth’.

 

Adroddwyd amcan o falensau'r cronfeydd ar 31 Mawrth 2026. Ymhelaethwyd eu bod yn rhagweld y bydd rhaid benthyca yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn ariannu'r Cynllun Twf, ac felly bydd y costau yma yn cael eu hariannu o’r gronfa llog.

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yma eisoes wedi ei dderbyn gan y Cydbwyllgor Corfforedig yn ei gyfarfod ar 19 Medi.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG CHWARTER 1 2025/26 pdf eicon PDF 194 KB

Hedd Vaughan-Evans i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.
  2. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

2.     Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion

Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd adroddiad perfformiad chwarter 1, yn cwmpasu’r cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin eleni. Nodwyd bod sawl carreg filltir bwysig wedi’i chyrraedd yn ystod y cyfnod, gan gynnwys trosglwyddo’r gwaith Cynllun Twf i’r CBC. Adroddwyd bod adolygiad o’r portffolio wedi’i gynnal, gyda phenderfyniadau allweddol wedi’u gwneud ar brosiectau unigol, a bod y rhestr wrth gefn newydd, ynghyd â’r trefniadau sicrwydd a chymeradwyo, wedi’u symleiddio ac wedi’u gweithredu’n llwyddiannus.

Cyfeiriwyd at gymeradwyo dau achos busnes llawn yn ystod y chwarter, sef 4G+ a’r prosiect Ynni Lleol Blaengar. Yn ogystal, nodwyd bod y cytundeb benthyciad ar gyfer prosiect Cydnerth wedi’i gwblhau, bod yr achos busnes ar gyfer Theatr Clwyd wedi’i gymeradwyo, a bod y prif adeilad ym Mhlas Coch, fel rhan o brosiect EEOC, wedi’i gwblhau gyda lansiad meddal, tra bod y cyfleusterau labordy ym Mhlas Henfaes wedi’u hadnewyddu’n llawn.

Atgoffwyd bod pedwar prosiect yn parhau i adrodd statws coch ar hyn o bryd, a nodwyd y byddant yn rhan o’r ailgylch adolygu portffolio nesaf, gyda chynigion ac argymhellion i’w cyflwyno’n ôl i’r Bwrdd ym mis Tachwedd. Nodwyd bod nifer o achosion busnes ar rhaglen yr cyfarfod hwn, ac y byddai eu cymeradwyo’n gosod y Bwrdd mewn sefyllfa fwy cadarnhaol o ran perfformiad.

O ran buddion, nodwyd bod y nifer o swyddi a grëwyd erbyn diwedd chwarter 1 yn sefyll ar 38. Derbyniwyd nad oedd y ffigur hwn yn sylweddol ar hyn o bryd, ond bod hynny’n adlewyrchu nifer y prosiectau sydd yn y cam cyflawni presennol. Disgwylir cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd nesaf wrth i fwy o brosiectau symud i gam cyflawni. Nodwyd bod gwaith ar y gweill gyda’r cynlluniau twf eraill i safoni’r broses o gasglu data ar swyddi adeiladu a swyddi sydd wedi’u diogelu, er mwyn gallu darparu darlun mwy cynhwysfawr i’r Bwrdd a’r Llywodraeth o’r effaith y mae’r prosiectau’n ei chael.

Nodwyd bod buddsoddiad y Cynllun Twf erbyn diwedd chwarter 1 yn sefyll ychydig dros £22.6 miliwn, gyda chyfanswm y buddsoddiad dros £24 miliwn. Nodwyd ymhellach bod yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y buddion ehangach sy’n dechrau dod i’r amlwg, megis incwm ychwanegol wedi’i sicrhau, myfyrwyr yn cwblhau cymwysterau, a chamau i gryfhau cadwyni cyflenwi. Nodwyd y bydd yr elfen hon yn cael ei datblygu ymhellach mewn adroddiadau yn y dyfodol wrth i fwy o brosiectau symud i gyflawni a mwy o ddata ddod ar gael am eu heffaith.

O ran risg, nodwyd bod y sefyllfa’n weddol gyson â chwarter 4 2024/25. Nodwyd bod y risg weddilliol ar oedi wedi lleihau ychydig, yn sgil gweithredu’r rhestr wrth gefn. Fodd bynnag, nodwyd bod y risg weddilliol o ran cynllunio wedi cynyddu,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r  cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghroau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar Eitem 11-14 gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes  ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

8.

PENODI YMGYNGHORWYR ANWEITHREDOL

Alwen Williams (Prif Weithredwr) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Cytuno ar yr argymhellion a nodir yn adran 4.6 ar gyfer penodi dau ymgynghorydd i’r rolau Ymgynghorwyr Anweithredol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr y CBC.

 

PENDERFYNWYD

 

Cytuno ar yr argymhellion a nodir yn adra 4.6 ar gyfer penodi dau ymgynghorydd i’r rolau Ymgynghorwyr Anweithredol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Mawrth 2025, cymeradwyodd y Cydbwyllgor Corfforedig y Cylch Gorchwyl a'r broses benodi ar gyfer Bwrdd Busnes Ymgynghorol newydd yn dilyn trosglwyddo'r Cynllun Twf ynghyd â chymeradwyo'r disgrifiadau rôl ar gyfer dau Ymgynghorydd Anweithredol newydd. Awdurdododd y Cydbwyllgor Corfforedig y Prif Weithredwr dros dro i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i gaffael ymgeiswyr i'w hargymell i'w penodi i Is-bwyllgor Lles Economaidd y CBC.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

9.

CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU – CAIS AM NEWID

David Mathews i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

1.    Cytuno i'r cais am newid i rannu'r gwaith o gyflawni prosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn ddau gam gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel Noddwr y Prosiect ar gyfer Cam 1 Gwaith Dymchwel ac Adfer Hanfodol a Mesurau Lliniaru Ecolegol, a Jones Bros yn parhau i fod yn Noddwr y Prosiect ar gyfer Cam 2. (Y gwaith dymchwel ac adfer sy'n weddill, adeiladu unedau masnachol ac addasu Adeilad Rhestredig y Prif Ysbyty yn fflatiau a galluogi datblygu 300 o gartrefi.

2.    Cytuno i ryddhau £2m cychwynnol o gyllid ar gyfer Cam 1 i Gyngor Sir Ddinbych gyda'r opsiwn o ddarparu £1m arall wedi'i ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro gan ddal sylw at y materion yn rhan 4.3 o’r adroddiad

3.    Nodi y bydd cwblhau Cam 1 yn galluogi'r prosiect i weld yn llawn y costau sy'n gysylltiedig â Cham 2 ac y gallai hyn arwain at gais am gyllid pellach ond byddai hyn yn destun penderfyniad ar wahân yn y dyfodol os oes angen.

4.    Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gytuno ac ymrwymo i gytundeb cyllido gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer Cam 1 yn amodol ar gwblhau'r asesiad Rheoli Cymorthdal iadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo.

 

PENDERFYNWYD

 

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

1.     Mae angen bwrw ymlaen â'r gwaith Cam 1 yn fuan er mwyn darparu sicrwydd cost ar Gam 2 ac i fynd i'r afael â materion iechyd a diogelwch brys ar y safle o ganlyniad i gyflwr dirywiol yr adeiladau sydd angen eu dymchwel beth bynnag waeth beth fo’r materion iechyd a diogelwch.

2.     Drwy ddod â dymchwel yr adeiladau hyn ymlaen, gellir sicrhau mynediad diogel i'r Adeilad Rhestredig Prif Restr (MRLB) gan ganiatáu:

i. i'w arolygu fel y gellir cael asesiadau cyfredol o gostau trosi, hyfywedd y prosiect cyffredinol ac ati

ii. Y gellir cynnal unrhyw waith brys i'r MRLB i gyfyngu ar unrhyw ddirywiad pellach yn ei gyfanrwydd strwythurol

iii. momentwm/hyder i'w adeiladu yn y prosiect o ran y cerrig milltir eraill y mae angen eu cyflawni.

3.     Mae pob plaid wedi cytuno y dylai clirio'r adeiladau i'w dymchwel fod yn flaenoriaeth. Tra bod y gwaith hwn yn parhau, bydd y trafodaethau ynghylch cynnwys yr Adran 106 sy'n cysylltu â rhoi caniatâd cynllunio yn parhau.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

10.

ACHOS FUSNES AMLINELLOL PROSIECT PRINCE

Elliw Hughes i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol (OBC) ar gyfer Prosiect Prince yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Knauf Insulation Limited yn mynd i'r afael â'r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y'u disgrifir yn Adran 7, a gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei bar atoi i'r Is-bwyllgor ei ystyried.
  2. Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â'r adroddiad hwn fel sail i'r trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect yn amodol ar gymeradwyo'r Achos Busnes Llawn.
  3. Bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o ddeuddeg mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn cymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd a chyflwyno'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo.
  4. Nodi'r bwriad i rannu'r cyllid rhwng y Cynllun Twf a'r Parth Buddsoddi (ar ôl ei gymeradwyo) ac y bydd y sefyllfa hon yn cael ei chadarnhau yn ystod y cam Achos Busnes Llawn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol (OBC) ar gyfer Prosiect Prince yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Knauf Insulation Limited yn mynd i'r afael â'r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y'u disgrifir yn Adran 7, a gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i'r Is-bwyllgor ei ystyried.

2.     Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â'r adroddiad hwn fel sail i'r trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect yn amodol ar gymeradwyo'r Achos Busnes Llawn.

3.     Bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o ddeuddeg mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn gymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd a chyflwyno'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo.

4.     Nodi'r bwriad i rannu'r cyllid rhwng y Cynllun Twf a'r Parth Buddsoddi (ar ôl ei gymeradwyo) ac y bydd y sefyllfa hon yn cael ei chadarnhau yn ystod y cam Achos Busnes Llawn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

1.     Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Prosiect Prince gan Knauf Insulation Limited.

2.     Bydd penderfyniad gan yr Is-bwyllgor Lles Economaidd i gymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol yn galluogi Knauf i symud ymlaen i gam nesaf eu proses gymeradwyo mewnol.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

11.

PROSIECT GWEITHGYNHYRCHU A GALLU BUSNES CYMDEITHAS 5.0 – ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES A MWY (BJC+)

Elliw Hughes i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes (BJC+) ar gyfer Prosiect Gweithgynhyrchu a Gallu Busnes Cymdeithas 5.0, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywod raeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a gynhaliwyd.
  2. Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeir ydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gadarnhau'r costau a'r buddion terfynol ar ôl caffael yn unol â'r achos busnes cymeradwy ac yn ymrwymo i gytun deb cyllido gyda Phrifysgol Wrecsam ar gyfer cyflawni'r prosiect, yn amodol ar Brifysgol Wrecsam yn mynd i'r afael â'r materion sydd heb eu datrys yn adran 7 o'r adroddiad ac yn sicrhau'r holl gymeradwyaethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.
  3. Sicrhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb cyllido wedi'i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes (BJC+) ar gyfer Prosiect Gweithgynhyrchu a Gallu Busnes Cymdeithas 5.0, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a gynhaliwyd.
  2. Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gadarnhau'r costau a'r buddion terfynol ar ôl caffael yn unol â'r achos busnes cymeradwy ac yn ymrwymo i gytundeb cyllido gyda Phrifysgol Wrecsam ar gyfer cyflawni'r prosiect, yn amodol ar Brifysgol Wrecsam yn mynd i'r afael â'r materion sydd heb eu datrys yn adran 7 o'r adroddiad ac yn sicrhau'r holl gymeradwyaethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.
  3. Sicrhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb cyllido wedi'i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer Prosiect Gwaith gynhyrchu a Gallu Busnes Cymdeithas 5.0.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

12.

PROSIECT SAFLEOEDD AC ADEILADAU GOGLEDD YNYS MÔN – ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES+

David Mathews i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes (ACB+) ar gyfer prosiect Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Ynys Môn, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o'r broses sicrwydd a gynhaliwyd.
  2. Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gadarnhau bod y costau a'r buddion terfynol ar ôl caffael yn unol â'r achos busnes cymeradwy, ac yn ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Chyngor Sir Ynys Môn (CSYM) ar gyfer cyflawni'r prosiect, yn amodol ar Gyngor Sir Ynys Môn yn mynd i'r afael â'r materion sydd heb eu datrys a nodir yn adran 7 yr adroddiad a sicrhau'r holl gymeradwyaethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.
  3. Sicrhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb cyllido wedi'i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes (ACB+) ar gyfer prosiect Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Ynys Môn, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o'r broses sicrwydd a gynhaliwyd.
  2. Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gadarnhau bod y costau a'r buddion terfynol ar ôl caffael yn unol â'r achos busnes cymeradwy, ac yn ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Chyngor Sir Ynys Môn (CSYM) ar gyfer cyflawni'r prosiect, yn amodol ar Gyngor Sir Ynys Môn yn mynd i'r afael â'r materion sydd heb eu datrys a nodir yn adran 7 yr adroddiad a sicrhau'r holl gymeradwyaethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.
  3. Sicrhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb cyllido wedi'i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r ACB+ ar gyfer prosiect Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Ynys Môn.

 

Mae'r ACB+ drafft yn cael ei gyflwyno i'r Is-bwyllgor ym mis Hydref er mwyn galluogi'r Cyngor i ymrwymo i Gytundeb Menter ar y Cyd â Llywodraeth Cymru cyn cychwyn proses gaffael ffurfiol i benodi Prif Gontractwr ar gyfer y ddau safle sydd wedi'u cynnwys yn y prosiect. Ar hyn o bryd, mae disgwyl i gaffael ar gyfer y prosiect ddechrau yn Ch4 2025 gyda dewis bidiwr a ffafrir wedi'i gadarnhau ar gyfer Adeilad y Derfynfa Forol a'r unedau busnes newydd yn Ch1 2026.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

13.

PROSIECT PORTH Y PORTHLADD RHYDD - ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES+

David Mathews i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes (ACB+) ar gyfer prosiect y Porthladd Rhydd, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a gynhaliwyd.
  2. Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gadarnhau'r costau a'r buddion terfynol ar ôl caffael yn unol â'r achos busnes cymeradwy, ac yn ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Chyngor Sir Ynys Môn (CSYM) ar gyfer cyflawni'r prosiect, yn amodol ar Gyngor Sir Ynys Môn yn mynd i'r afael â'r materion sydd heb eu datrys a nodir yn adran 7 o'r adroddiad a sicrhau'r holl gymeradwy aethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.
  3. Cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb cyllido wedi'i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes (ACB+) ar gyfer prosiect y Porthladd Rhydd, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a gynhaliwyd.
  2. Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gadarnhau'r costau a'r buddion terfynol ar ôl caffael yn unol â'r achos busnes cymeradwy, ac yn ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Chyngor Sir Ynys Môn (CSYM) ar gyfer cyflawni'r prosiect, yn amodol ar Gyngor Sir Ynys Môn yn mynd i'r afael â'r materion sydd heb eu datrys a nodir yn adran 7 o'r adroddiad a sicrhau'r holl gymeradwy aethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.
  3. Cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb cyllido wedi'i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r ACB+ ar gyfer prosiect Porth y Porthladd Rhydd.

 

Mae'r ABC+ drafft yn cael ei gyflwyno i'r Is-bwyllgor ym mis Hydref er mwyn i CSYM gwblhau'r gwaith o brynu buddiant rhydd-ddaliad y safle gan Eastman. Gan fod gan y safle rwymedigaethau sylweddol, mae CSYM yn dymuno cael sicrwydd y bydd ganddynt ddigon o gyllid i fynd i'r afael â'r gwaith dymchwel, adfer a gwaith clirio safle yn ogystal â darparu ar gyfer priffordd y gellir ei mabwysiadu i gael mynediad i'r safle. Fel rhan o brosiect ehangach Porth y Porthladd Rhydd, mae CSYM yn dymuno adeiladu unedau cyflogaeth ychwanegol ar Barc Diwydiannol Tregarnedd gerllaw a dod â llain datblygu ymlaen i fod ar werth ar y farchnad agored.

 

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.