Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025-26.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Jason McLellan yn Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26.

 

 

Cofnod:

Diolchwyd i’r Cynghorydd Charlie McCoubrey am ei waith a’i gefnogaeth i’r Bwrdd Uchelgais a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig dros y blynyddoedd, gan rannu dymuniadau gorau iddo i’r dyfodol.

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Jason McLellan yn Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·       Alwen Williams (Prif Weithredwr)

·       Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda’r Athro Paul Spencer yn dirprwyo

·       Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo

·       Sian Pugh (Cyngor Gwynedd)

·       Yana Williams (Coleg Cambria)

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Gary Pritchard (Cyngor Sir Ynys Môn) ar gyfer Eitem 7 gan ei fod yn sylwedydd ar fwrdd Menter Môn, sydd â chysylltiad gyda phrosiect a drafodwyd o fewn yr eitem. Nodwyd nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Julie Fallon a Rhun ap Gareth (Prif Weithredwr Cyngor Cyfansoddol) ar gyfer Eitem 8 gan fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn arwain ar y prosiect hwn. Nodwyd nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a ni wnaethant adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Dewi Morgan (Prif Swyddog Cyllid) ar gyfer Eitem 8 oherwydd bod cysylltiad personol iddo wedi bod ynghlwm a’r prosiect. Nodwyd ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac fe adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

 

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

5.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG CHWARTER 2 pdf eicon PDF 195 KB

I ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.
  2. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

2.     Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion

Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

 

TRAFODAETH

 

Tywyswyd yr Aelodau drwy brif uchafbwyntiau’r chwarter diwethaf megis cymeradwyo Achos Cyfiawnhad Busnes Llaeth Defaid Cymru - Hwb Economi Wledig Glynllifon ac Achos Busnes Llawn Diwifr Uwch. Cyfeiriwyd hefyd at Lansiad y Gronfa Ynni Glan ar y 10fed o Orffennaf a bod proses wedi cael ei weithredu ar gyfer penodi dau Ymgynghorydd Anweithredol.

 

Adroddwyd bod 6 Prosiect yn weithredol ar hyn o bryd, gyda chwe phrosiect arall wedi eu cymeradwyo ond ddim eto yn weithredol hyd yma, gyda thri achos busnes pellach ar y gweill.

 

Cadarnhawyd bod buddsoddiad y Cynllun Twf i’w brosiectau yn £23,164,812.52 erbyn diwedd yr ail chwarter o’r flwyddyn ariannol gyfredol. Ymhelaethwyd bod cyfanswm o £25,040,328.17 wedi cael ei glustnodi i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau, gan gadarnhau y disgwylir i’r ffigyrau hyn barhau i gynyddu’n raddol, gyda nifer o brosiectau cyffrous ar y gweill. Cydnabuwyd bod niferoedd o swyddi sydd wedi eu creu yn isel, gan egluro bod 49 swydd newydd a 49 o swyddi adeiladwaith wedi cael eu creu hyd yma.

 

Manylwyd ar Gofrestr Risg y Portffolio gan adrodd ei fod yn parhau i fod yn gyson gyda’r datblygiadau a wnaed yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol gyfredol. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod rhai risgiau uchel yn parhau ar y gofrestr mewn cyswllt â buddsoddiad y sector breifat yn ogystal â thargedau buddsoddi cyffredinol, yn dilyn oediadau. Ymhelaethwyd bod y risg gweddilliol ar deitl ‘Fforddiadwyedd’ wedi cael ei leihau oherwydd bod cyfran mwy o brosiectau wedi cael eu cymeradwyo, gan ddarparu sicrwydd eu bod yn fforddiadwy.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Mewn ymateb i sylwadau a oedd yn nodi bod niferoedd o swyddi sydd wedi cael eu creu yn isel ar hyn o bryd, eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau nad oes modd i’r ffigyrau hyn gynyddu nes bydd mwy o brosiectau yn weithredol, gan gydnabod bod oediad naturiol rhwng ariannu’r prosiectau a sicrhau eu bod yn cael eu hadeiladu. Fodd bynnag, adroddwyd y disgwylir i’r ffigyrau hyn gynyddu yn sylweddol yn fuan iawn gan fod mwy o brosiectau yn weithredol yn ddiweddar, gan gadarnhau bydd diweddariad pellach yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf yr Is-bwyllgor hwn. Mewn ymateb i sylwadau pellach, cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau y byddai’r Aelodau yn derbyn crynodeb manwl o’r holl swyddi sydd wedi eu creu, natur y gyflogaeth a’u lleoliadau ar draws rhanbarth y gogledd fel y gellir sicrhau aelodau bod y swyddi yn dod a budd ariannol i unigolion o’r rhanbarth.

 

Cyflwynwyd sylwadau gan Aelodau bod nifer o brosiectau wedi cael eu cymeradwyo yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol a bydd eu gwerth i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r CBC ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau

Penderfyniad:

Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd.

 

Cofnod:

Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon.

 

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar Eitemau 7 ac 8  gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r CBC ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

7.

ADOLYGIAD PORFFOLIO 2

Cyflwyno canfyddiadau’r ail adolygiad portfolio a gyflawnwyd.

Penderfyniad:

Cytuno ar yr argymhellion sy’n benodol i’r prosiectau a chamau nesaf yr asesiad, yn dilyn cwblhau’r ail adolygiad portffolio.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau

 

PENDERFYNWYD

 

Cytuno ar yr argymhellion sy’n benodol i’r prosiectau a chamau nesaf yr asesiad, yn dilyn cwblhau’r ail adolygiad portffolio.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’r penderfyniad a geisir yn ymateb i’r argymhellion a gymeradwywyd gan yr Is-bwyllgor Lles Economaidd ym mis Ebrill 2025 fel rhan o’r adolygiad portffolio cyntaf, i gadw pedwar prosiect yn y Cynllun Twf a’i adolygu eto o fewn chew mis.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

8.

DYFODOL VENUE CYMRU - CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY

I gyflwyno Achos Busnes Amlinellol Prosiect Dyfodol Venue Cymru.

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Venue Cymru yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn mynd i’r afael â’r argymhellion a nodwyd yn ystod y drafodaeth, a gofyn i Achos Busnes Lawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.

2.     Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth Achos Busnes Llawn.

3.     Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn sicrhau caniatâd cynllunio ac yn mynd ymlaen i Achos Busnes Lawn gymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Cynllun Twf

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Venue Cymru yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn mynd i’r afael â’r argymhellion a nodwyd yn ystod y drafodaeth, a gofyn i Achos Busnes Lawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.

2.     Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth Achos Busnes Llawn.

3.     Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn sicrhau caniatâd cynllunio ac yn mynd ymlaen i Achos Busnes Lawn gymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Prosiect Dyfodol Venue Cymru gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Bydd penderfyniad i gymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol gan yr Is-bwyllgor Lles Economaidd yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i symud ymlaen i gam nesaf eu proses gymeradwyo Mewnol.

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.