Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

·        Y Cynghorydd Gary Pritchard (Cyngor Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Robin Williams yn dirprwyo

·        Yr Athro Edmund Burke, Prifysgol Bangor, gyda’r Athro Paul Spencer yn dirprwyo ar ei ran

·        Yana Williams o Brifysgol Cambrian

·        Y Prif Swyddogion canlynol: Graham Boase o Cyngor Dinbych, Neal Cockerton o Gyngor Sir Fflint. Dafydd Gibbard o Gyngor Gwynedd a Dylan Williams o Gyngor Ynys Mon.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Aled Jones-Girffiths (Grŵp Llandrillo Menai) ac Yr Athro Paul Spencer (Prifysgol Bangor) ar gyfer eitem 8 - Ysgol Fusnes Albert Gubay, Prifysgol Bangor, Achos Busnes Amlinellol. Roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddynt adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFODYDD BLAENOROL pdf eicon PDF 159 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 03 Hydref 2025 a 07 Tachwedd 2025 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 03 Hydref 2025 a 07 Tachwedd 2025 fel rhai cywir.

5.

DIWEDDARIAD ACHOS BUSNES Y PORTFFOLIO 2025 A CHYNLLUN BUSNES CYFFREDINOL pdf eicon PDF 238 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.

Mae Atodiad 2 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Is-bwyllgor yn unig. Mae’r Atodiad yn eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn a thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol Atodiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghroau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Tw fi rannu gwybodateh sensitive ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd diweddariad 2025 Achos Busnes y Portffolio a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol.

Gofynnwyd i'r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno'r holl ddogfennaeth ofynnol a'r ffurflen cais i newid i Lywodraethau Cymru a'r DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid blynyddol a dirprwyo hawl i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Monitro a'r Swyddog 151 i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad dyfarnu'r cyllid ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth neu'r llall.

Cymeradwywyd Cynllun Busnes Cyffredinol 2026-2030 wedi'i ddiweddaru sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.

Nodwyd diweddariad llafar yr Adolygiad Sicrwydd Portffolio 2025 ac yn gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r argymhellion.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau.

PENDERFYNWYD

Cymeradwywyd diweddariad 2025 Achos Busnes y Portffolio a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid blynyddol.

Gofynnwyd i'r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno'r holl ddogfennaeth ofynnol a'r ffurflen cais i newid i Lywodraethau Cymru a'r DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid blynyddol a dirprwyo hawl i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Monitro a'r Swyddog 151 i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad dyfarnu'r cyllid ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth neu'r llall.

Cymeradwywyd Cynllun Busnes Cyffredinol 2026-2030 wedi'i ddiweddaru sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.

Nodwyd diweddariad llafar yr Adolygiad Sicrwydd Portffolio 2025 ac yn gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r argymhellion

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Mae'n ofynnol dan Gytundeb Terfynol y Cynllun Twf bod Achos Busnes y Portffolio yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol.  

Mae'n ofynnol, fel y nodir yn y Cytundeb Cyflawni a Chyllido (Cytundeb Llywodraethu 2 gynt), i bartneriaid Cynllun Twf Gogledd Cymru ddiweddaru'r Cynllun Busnes Cyffredinol bob pum mlynedd. 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn ddiweddariad blynyddol i’r achos busnes y portffolio a chynllun busnes cyffredinol. Eglurwyd ei bod yn ofyniad i ddiweddaru’r Achos Busnes yn flynyddol yn rhan o’r broses dyfarnu cyllid blynyddol.

Amlygwyd yr addasiadau sydd wedi ei wneud i’r Cynllun Busnes a oedd yn cynnwys man ddiweddariadau i’r Achos Strategol, newidiadau mwy i’r Achos Economaidd er mwyn adlewyrchu Achosion Busnes sydd wedi eu cymeradwyo ac wedi eu haddasu dros y 12 mis diwethaf, ynghyd a’r drefn i greu’r Rhestr o Gynlluniau wrth gefn.

Nodwyd bellach fod 6 cynllun yn cyflawni, 9 Achos Busnes Llawn wedi’i gymeradwyo ond ddim yn weithredol, 4 Achos Busnes Amlinellol wedi’i gymeradwyo ac yn gweithio tuag at Achos Busnes Llawn, 1 yn datblygu tuag at Gynllun Busnes Amlinellol, 1 prosiect dan risg ac yn adrodd yn goch a 18 prosiect ar y rhestr wrth gefn. Amlygwyd fod hyn yn gynnydd sylweddol o Hydref 2024 gyda gwariant wedi cynyddu dros £20m a ynghyd a 23 swydd ychwanegol i’r rhanbarth.

Amlygwyd fod yr Achos Busnes Portffolio wedi edrych ar y gwariant ar arian sydd dros ben ar gyfer cyfnod y cynllun gan amlygu’r senario gorau, canolig a gwaethaf ar gyfer swyddi a gwariant.

Cadarnhawyd fod adolygiad wedi ei gynnal sydd wedi sicrhau fod y cynnydd ar y Cynllun Twf wedi symud eleni o lefel coch i lefel ambr. Eglurwyd fod hyn yn adlewyrchiad positif iawn o’r gwaith sydd wedi ei wneud dros y 12 mis, a bod hyn yn newid cam sylweddol ond fod risgiau yn cael ei amlygu. Eglurwyd y bydd yr asesiad yn llawn yn cael ei hanfon i’r aelodau dros yr wythnosau nesaf.

Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r staff am gynnal yr asesiad ac am eu gwaith dros y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r CBC ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon.

Cofnod:

Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon. 

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar Eitemau 7-10 gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r CBC ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

7.

RHAGLEN UWCHRADDIO PORTHLADD MOSTYN, ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES+

David Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Achos Cyfiawnhad Busnes (ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES+ ) ar

gyfer Rhaglen Uwchraddio Porthladd Mostyn, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a gynhaliwyd.

Dirprwywyd y Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gadarnhau'r costau a'r buddion terfynol ar ôl caffael yn unol â'r achos busnes cymeradwy ac yn ymrwymo i gytundeb cyllido gyda Phorthladd Mostyn Ltd ar gyfer cyflawni'r prosiect, yn amodol ar y Porthladd yn mynd i'r afael â'r materion sydd heb eu datrys yn adran 7 yr adroddiad ac yn sicrhau'r holl gymeradwyaethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.

Cadarnhau fod  cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb cyllido wedi'i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Mathews , Reolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo.

PENDERFYNWYD

Cymeradwywyd Achos Cyfiawnhad Busnes (ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES+ ) ar  

gyfer Rhaglen Uwchraddio Porthladd Mostyn, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a gynhaliwyd. 

Dirprwywyd y Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gadarnhau'r costau a'r buddion terfynol ar  

ôl caffael yn unol â'r achos busnes cymeradwy ac yn ymrwymo i gytundeb cyllido gyda Phorthladd Mostyn Ltd ar gyfer cyflawni'r prosiect, yn amodol ar y Porthladd yn mynd i'r afael â'r materion sydd heb eu datrys yn adran 7 yr adroddiad ac yn sicrhau'r holl gymeradwyaethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect. 

Nodwyd fod angen  cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r Achos Cyfiawnhad Busnes+ ar gyfer prosiect Uwchraddio Porthladd Mostyn. 

Eglurwyd fod yr ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES+ yn cael ei gyflwyno i'r Is-bwyllgor ar 5 Rhagfyr cyn cwblhau'r caffael oherwydd gofyn masnachol i benodi contractwyr i symud ym mis Ionawr 2026 a dechrau Camau 1 a 2 o'r gwaith ym mis Chwefror. 

TRAFODAETH

Trafodwyd yr Adroddiad.

8.

YSGOL FUSNES ALBERT GUBAY, PRIFYSGOL BANGOR, ACHOS BUSNES AMLINELLOL

Stuart Whitfield, Rheolwr y Rhaglen Ddigidol, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol (OBC) ar gyfer Ysgol Fusnes Albert Gubay yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a

gynhaliwyd, a bod Prifysgol Bangor yn mynd i'r afael â'r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y disgrifir yn Adran 7, ac yn gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i'r Is-bwyllgor ei ystyried.

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â'r adroddiad hwn fel sail i'r trefniadau ariannu terfynol i’r prosiect gael eu hymrwymo yn amodol ar gymeradwyo'r Achos Busnes Llawn.

Cadarnhau fod  cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn gymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd gofyn dychwelyd a chynrychioli'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Mathews , Reolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo.

PENDERFYNWYD

Cymeradwywyd Achos Cyfiawnhad Busnes (ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES+ ) ar  

gyfer Rhaglen Uwchraddio Porthladd Mostyn, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a gynhaliwyd. 

Dirprwywyd y Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gadarnhau'r costau a'r buddion terfynol ar  

ôl caffael yn unol â'r achos busnes cymeradwy ac yn ymrwymo i gytundeb cyllido gyda Phorthladd Mostyn Ltd ar gyfer cyflawni'r prosiect, yn amodol ar y Porthladd yn mynd i'r afael â'r materion sydd heb eu datrys yn adran 7 yr adroddiad ac yn sicrhau'r holl gymeradwyaethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect. 

Cadarnhau fod  cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb cyllido wedi'i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo. 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Nodwyd fod angen  cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r Achos Cyfiawnhad Busnes+ ar gyfer prosiect Uwchraddio Porthladd Mostyn. 

Eglurwyd fod yr ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES+ yn cael ei gyflwyno i'r Is-bwyllgor ar 5 Rhagfyr cyn cwblhau'r caffael oherwydd gofyn masnachol i benodi contractwyr i symud ym mis Ionawr 2026 a dechrau Camau 1 a 2 o'r gwaith ym mis Chwefror. 

TRAFODAETH

Trafodwyd yr Adroddiad.

9.

PROSIECT GWELLA RHEILFFYRDD PADESWOOD - ACHOS BUSNES AMLINELLOL

David Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Padeswood yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Cyngor Trafnidiaeth Cymru yn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn ystod y drafodaeth, a gofyn i Achos Busnes Lawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth Achos Busnes Llawn.

Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn sicrhau caniatâd cynllunio ac yn mynd ymlaen i Achos Busnes Lawn gymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Mathews,  Reolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo.

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r OBC ar gyfer Prosiect Gwella Rheilffyrdd Padeswood.  

Nodwyd fod yr Achos Busnes Amlinellol yn cael ei gyflwyno i'r Is-bwyllgor ar 5 Rhagfyr fel y gall Trafnidiaeth Cymru sicrhau'r cyllid ar gyfer y Prosiect. 

TRAFODAETH

Trafodwyd yr Adroddiad.

10.

CAIS AM NEWID ANTURIAETHAU GYFRIFOL

Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

The request for change was agreed for the Responsible Adventure project, including the proposed element in Betws-y-coed instead of the eBus.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Reolwr Rhaglen y Cynllun Twf.

PENDERFYNWYD

Cytunwyd i'r cais am newid ar gyfer y prosiect Anturiaethau Cyfrifol gan gynnwys 

yr elfen arfaethedig ym Metws-y-coed yn lle'r eFws

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Mae ceisiadau am newidiadau i brosiectau gan Noddwyr Prosiectau yn faterion i'r Is-bwyllgor eu penderfynu. 

TRAFODAETH

Trafodwyd yr Adroddiad.