Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 06 Chwefror 2026 fel rhai cywir. |
|
|
RHAGLEN SGILIAU PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM Iain Taylor
(Rheolwr Rhaglen Parth Buddsoddi) ac Sian Lloyd Roberts a Rees Brown o’r Bartneriaeth
Sgiliau Rhanbarthol, i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNIAD
|
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Er bod diddordeb y cyhoedd mewn tryloywder ac
atebolrwydd, mae hyn yn cael ei orbwyso ar hyn o bryd gan yr angen i ddiogelu
gwybodaeth fasnachol sensitif o ystyried y byddai datgelu yn debygol o ragfarnu
trafodaethau parhaus a gallu'r awdurdod i sicrhau'r gwerth gorau a diogelu'r
defnydd priodol o arian cyhoeddus. Penderfyniad: Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a
bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon. |
|
|
ACHOS BUSNES AMLINELLOL PORTH WRECSAM David
Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cymeradwyo’r Achos
Busnes Amlinellol ar gyfer Prosiect Porth Wrecsam yn amodol ar gymeradwyaeth
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod y
Cyngor yn mynd i’r afael â’r materion a nodir a disgrifiwyd yn Adran 7 yr adroddiad
hwn, a gofyn i Achos Busnes Lawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried. Awdurdodi i’r
Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y
Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r
adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect gael
eu hymrwymo yn amodol ar gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn. Nodi bod
cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o ddeuddeg mis ac os na fydd y
prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn cymeradwy yn ystod y cyfnod hwn,
bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd a chyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor ei
gymeradwyo. |
|
|
CAIS AM NEWID: PARC BRYN CEGIN, BANGOR Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) a David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac
Eiddo) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cytuno i’r cais am newid ar gyfer prosiect Parc Bryn Cegin i
ddyrannu £1.43m ychwanegol o gyllid y Cynllun Twf i gyflawni Cam 2 y Prosiect i
ddarparu 1,856 metr sgwâr (20,000 troedfedd sgwâr) ychwanegol o unedau
cyflogaeth modern o safon uchel sy’n gweithredu ar sail carbon isel. Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r
Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 i gytuno a
chymeradwyo’r newidiadau perthnasol i’r Cytundeb Cyd-fenter â Llywodraeth Cymru
ar gyfer cyflawni’r prosiect. Nodi y byddai’r Achos Busnes Llawn ar gyfer Parc Bryn Cegin
yn cael ei ddiweddaru ar ôl llofnodi’r contract ar gyfer cam 2 i adlewyrchu’r
costau terfynol ac i ddirprwyo cymeradwyaeth yr Achos Busnes Llawn i’r
Cyfarwyddwr Portffolio. |
|
|
ACHOS BUSNES LLAWN EGNI Meghan
Davies (Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer Prosiect Egni. Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r
Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno
ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Prifysgol Bangor er mwyn cyflawni’r
prosiect, yn ddarostyngedig i Brifysgol Bangor yn rhoi sylw boddhaol i’r
materion sy’n weddill fel y nodir yn Adran 7 o’r adroddiad hwn. Nodwyd bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod
o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb cyllido wedi’i
lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno’r
achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo. |
|
|
ACHOS BUSNES AMLINELLOL CANOLFAN ARLOESI, BUSNES A SGILIAU TRAWSFYNYDD Meghan
Davies (Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Prosiect
Canolfan Arloesi, Busnes a Sgiliau Trawsfynydd yn amodol ar gymeradwyaeth
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod
Cyngor Gwynedd yn mynd i’r afael â’r materion a nodir a disgrifiwyd yn Adran 7
yr adroddiad hwn, a gofyn i’r Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i’r
Is-bwyllgor ei ystyried. Awdurdodi i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r
Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar
delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau ariannu
terfynol ar gyfer y prosiect gael eu hymrwymo yn amodol ar gymeradwyo’r Achos
Busnes Llawn. Nodwyd bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod
o ddeuddeg mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn
cymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd a chyflwyno’r
achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo. |
|
|
HWB ECONOMI WLEDIG GLYNLLIFON ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES AR GYFER DATBLYGIAD LLAETH CYNALIDAWY Elliw
Hughes (Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes drafft ar gyfer yr
Elfen Datblygiad Llaeth Cynaliadwy o brosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon yn
amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o’r broses
sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Grŵp Llandrillo Menai yn ymdrin â’r materion
a nodir a disgrifiwyd yn Adran 7 yr adroddiad hwn, ac yn sicrhau’r holl
gymeradwyaethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect. Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r
Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 i gytuno a
chadarnhau’r materion sy’n weddill yn yr adroddiad cyn i’r cyllid gael ei
ryddhau a nodi os na fydd hyn wedi ei gwblhau ymlaen llaw i’r Is-bwyllgor ym
mis Mai yna byddai angen i’r Achos Cyfiawnhad Busnes gael ei ail gyflwyno i’w
ystyried. Nodi bod cytundeb ariannu eisoes wedi’i wneud gyda Grŵp
Llandrillo Menai ar gyfer prosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon yn dilyn
cymeradwyaeth Achos Cyfiawnhad Busnes Laeth Defaid Cymru, ac y bydd y cytundeb
hwn yn cynnwys y broses o gyflawni’r elfen hon o’r prosiect ehangach os bydd yr
Is-bwyllgor yn cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes hwn. Nodi y bydd un cymeradwyaeth Achos Busnes arall i gyflawni’r elfennau sy’n weddill o brosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon ac y bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i’r Is-bwyllgor i’w hystyried yn y dyfodol. |
|
|
CAIS AM NEWID PROSIECT ACADEMI CROESO (A ELWID GYNT YN BROSIECT RHWYDWAITH TALENT TWRISTIAETH) Elliw
Hughes (Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cymeradwyo’r cais am newid ar gyfer prosiect Academi Croeso,
gan roi estyniad terfynol o hyd at chwe mis i gyflwyno lloeren newydd ar ffurf
Achos Cyfiawnhad Busnes i ail-ddyrannu’r £1m sy’n weddill o gyllid y Cynllun
Twf sydd eisoes wedi’i ymrwymo i’r prosiect. |