SWYDDOGAETH
|
ASESIAD
(1/2/3/4)
|
Tystiolaeth
|
Camau pellach
|
1. Hyrwyddo a chynnal
safonau ymddygiad uchel gan aelodau
|
1.
|
Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm
Safonau Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill.
Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn.
|
Parhau i fynychu a chefnogi.
|
2. Cynorthwyo’r
aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad
|
1.
|
Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad
mewn cyfarfodydd ac ar sail un i un i aelodau.
|
|
3. Cynghori’r
Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad
|
1.
|
Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod.
Ond, adolygwyd y Drefn Datrys Mewnol i gefnogi
dyletswydd Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol dan 52A(1) Deddf Llywodraeth Leol
2000.
|
|
4. Monitro
gweithrediad y Cod Ymddygiad
|
1.
|
Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn
aelodau.
Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsmon a Phanel
Dyfarnu Cymru.
|
Parhau i fonitro ac ystyried dulliau amgen o dderbyn
gwybodaeth.
Derbyn adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a
lletygarwch.
|
5. Cynghori,
hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cod
Ymddygiad
|
3.
|
Trefnwyd hyfforddiant Cod Ymddygiad llawn ar gyfer
aelodau gyda’r sesiwn gyntaf yn cymryd lle yn ystod Chwefror a’r ail ym mis
Ebrill.
|
Angen edrych ar ddarparu hyfforddiant bellach gan fod
nifer o aelodau heb fynychu.
|
6. Rhoi goddefebau i aelodau
|
1.
|
Trafodwyd a dyfarnwyd dau gais am oddefeb
gan y Pwyllgor yn Chwefror 2024.
|
|
7. Ymdrin ag
adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar
faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon
|
1.
|
Cynhaliwyd 1 gwrandawiad yn ystod y flwyddyn
ynglŷn ag Aelod Cyngor Gwynedd.
Yn ogystal adolygwyd y drefn ar
gyfer gwrandawiadau er mwyn cryfhau'r cyfathrebu.
|
|
8. Awdurdodi’r
Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad
|
Dim angen gweithredu.
|
Dim i’w adrodd
|
|
9. Monitro cydymffurfiaeth Arweinyddion Grwpiau
Gwleidyddol ar y Cyngor a’u dyletswyddau o dan Adran 52A(1) Deddf Llywodraeth
Leol 2000.
Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi Arweinyddion
Grwpiau Gwleidyddol ar y Cyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â’r
dyletswyddau hynny.
|
2.
|
Cynhaliwyd sesiwn ar y cyd
gydag Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ac Aelodau'r Pwyllgor Safonau i
ystyried y dyletswydd.
Mabwysiadwyd meini prawf a
threfn adrodd ar y dyletswydd.
Mae’r Swyddog Monitro wedi
cyfarfod gyda’r Arweinyddion Grwpiau yn unigol i drafod materion Cod
Ymddygiad.
|
Bydd y trefniadau yn cael eu cynnal yn unol â’r
canllawiau statudol.
|
10. Ymarfer y swyddogaethau
perthnasol uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned
|
3.
|
Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad
i gynghorau, clercod ac aelodau.
Fodd bynnag
cydnabyddir fod darparu i weithgaredd
megis hyfforddiant wedi bod yn heriol
ac mae’r ardal yma angen sylw
a dod i gasgliad ynglŷn â ffordd ymlaen.
|
Angen ystyried adfer y rhaglen ar sail rithiol pan mae
adnoddau yn caniatáu.
|