Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU
I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.
|
2. |
DATGAN BUDDIANT PERSONOL
I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.
|
3. |
MATERION BRYS
Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried.
|
4. |
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 143 KB
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion
cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2025 fel rhai cywir.
|
5. |
TROSGLWYDDO'R BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD A'R CYNLLUN TWF I'R CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG PDF 394 KB
Alwen
Williams, Prif Weithredwr Dros Dro ac Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r
adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
- Cytuno i ymrwymo i
Gytundeb Cyflawni ac Ariannu ble trosglwyddir rôl corff Cyfrifol,
cyfrifoldeb am gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a’r trefniadau ariannu
ar gyfer y Cynllun Twf i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31
Mawrth, 2025.
- Cytuno i amnewid ac
aseinio yn ôl yr angen, cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a’r hawliau a’r
rhwymedigaethau ym mhob cytundeb ariannu sy’n dod i mewn a ddelir gan
Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran trosglwyddiad Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn
31 Mawrth, 2025.
- Cytuno i drosglwyddo,
amnewid ac/neu aseinio’r holl fuddiannau ym mhortffolio prosiectau a
ariennir gan Gynllun Twf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau
taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.
- Cytuno i drosglwyddo
a/neu aseinio’r holl falansau ariannol, arian
sy’n ddyledus ac asedau fel a ddelir ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru gan Gyngor Gwynedd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar
neu cyn 31 Mawrth, 2025.
- Dirprwyo awdurdod i’r
Prif Weithredwr Dros Dro, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r
Swyddog Adran 151, i gytuno a gweithredu’r cytundebau, gweithredoedd a’r
holl ddogfennau cyfreithiol terfynol eraill sy’n angenrheidiol i
weithredu’r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1, 2 a 3
uchod erbyn neu cyn 31 Mawrth, 2025.
- Cytuno i drosglwyddo
atebolrwydd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a bod y Cyd-bwyllgor yn
derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf
Gogledd Cymru yn amodol ar amnewid y Cynllun Twf a chymeradwyo Rheolau
Sefydlog ychwanegol sy’n ymgorffori telerau allweddol y Cytundeb
Cyd-weithio rhwng y 6 Cyngor Cyfansoddiadol a’r 4 parti Addysg.
|
6. |
IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD PDF 313 KB
Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
- Cymeradwyo penodi cynrychiolwyr o bob sefydliad partner yn Aelodau
cyfetholedig (heb bleidlais) i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd.
- Cadarnhau aelodaeth yr Is-bwyllgor Lles Economaidd fel y nodir yn
y tabl isod:
|
7. |
BWRDD BUSNES YMGYNGHOROL AC YMGYNGHORWYR ANWEITHREDOL PDF 214 KB
Hedd Vaughan-Evans,
Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
- Cymeradwyo’r Cylch
Gorchwyl a’r broses benodi ar gyfer sefydlu Bwrdd Busnes Ymgynghorol
newydd ar ôl trosglwyddo’r Cynllun Twf a dirprwyo’r broses weithredu i’r
Prif Weithredwr Dros Dro.
- Cymeradwyo’r disgrifiad
rôl ar gyfer y ddwy swydd Ymgynghorydd Anweithredol newydd ac awdurdodi’r
Prif Weithredwr Dros Dro i gymryd pob cam angenrheidiol i gaffael
ymgeiswyr i’w hargymell i’w penodi i Is-bwyllgor Lles Economaidd
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.
- Dirprwyo i’r Prif
Weithredwr Dros Dro, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, y Cadeirydd
a’r Is-gadeirydd yr awdurdod i wneud unrhyw fân newidiadau i’r Cylch
Gorchwyl a disgrifiadau rôl mewn ymateb i unrhyw adborth a dderbyniwyd gan
Lywodraeth Cymru a’r DU cyn ei weithredu.
|
8. |
RHEOLAU GWEITHDREFN CONTRACT PDF 187 KB
Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
- Mabwysiadu’r newidiadau
i’r Rheolau Gweithdrefn Contract a bod y Cyfansoddiad yn cael ei
ddiweddaru yn unol â hynny.
- Dirprwyo i’r Swyddog
Monitro y pŵer i wneud y mân addasiadau canlynol i’r Cyfansoddiad:
- Diwygiadau cyfreithiol
neu dechnegol nad ydynt yn effeithio’n sylweddol ar y Cyfansoddiad.
- Newidiadau y mae’n
ofynnol eu gwneud i gael gwared ag unrhyw anghysondeb, amwysedd neu wall
teipograffeg
- Geiriad er mwyn i
unrhyw benderfyniad gan Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd neu ei
is-bwyllgorau neu swyddog sy’n arfer pwerau dirprwyedig ddod i rym.
- Newidiadau sy’n
ofynnol i adlewyrchu unrhyw newidiadau i deitlau swyddi neu rôl
|
9. |
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r
cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o
Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion
ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny).
Mae budd
cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn
agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau busnes
cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a chytuno trefniadau penodi gan gynnwys
manylion swydd a amodau a thelerau cyflog
fydd yn destun proses recriwtio gystadleuol. Nodaf hefyd y bydd y wybodaeth a gytunir yn
cael ei gyhoeddi fel rhan o broses benodi agored. Gall cyhoeddi gwybodaeth
drafft yma yn gynamserol danseilio y broses recriwtio. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach
o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y
mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.
|
10. |
PENODI PRIF WEITHREDWR AR GYFER Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG
Geraint
Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Gwynedd i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
- Cytuno i sefydlu swydd
Prif Weithredwr ar sail llawn amser parhaol ar gyflog blynyddol o hyd at
£125,000.
- Awdurdodi cychwyn
proses recriwtio i benodi Prif Weithredwr.
3. Mai Cymraeg yn ‘ddymunol’, gan sicrhau
ymrwymiad gan yr ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu’r iaith (os nad yw eisoes yn
medru’r Gymraeg) fydd dynodiad iaith y
swydd o fewn y Manylion Person .
- Cadarnhau bod y
trefniadau dros-dro presennol yng nghyswllt cyflawni swyddogaethau Prif
Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig a Cyfarwyddwr Portffolio y Cynllun
Twf yn cael eu hymestyn hyd nes bod Prif Weithredwr parhaol yn gallu
ymgymryd a’i g/chyfrifoldebau.
- Cadarnhau bod cynnal y
broses recriwtio, gan gynnwys yr hysbysebu, yn cael ei ddirprwyo i’r Prif
Weithredwr arweiniol, mewn ymgynghoriaeth gyda’r Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd.
|