Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y collfarnau wedi digwydd mewn un digwyddiad yn ystod cyfnod heriol a bregus yn ei fywyd ac nad oedd wedi troseddu ers hynny. Ategodd ei fod bellach yn gweithio llawn amser mewn swydd gyfrifol oedd yn cynnwys gweithio mewn sefyllfaoedd o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yn gwirfoddoli mewn ysgol leol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan un o’r Aelodau ynglŷn â’i allu i reoli ei dymer wrth ymdrin â chwsmeriaid heriol, nododd ei fod wedi aeddfedu ers ei gyfnod yn y fyddin ac yn gallu anwybyddu unrhyw gymhelliant i ymateb yn dreisgar.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat 12 mis gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·     Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·     Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·     Datganiad DBS

·     Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·     Ffurflen gais yr ymgeisydd

·     Sylwadau llafar yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn mis Hydref 2008 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Guro (battery) yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (a.39) ac Ymysodiad gan Achosi Gwir Niwed Corfforol yn groes i Ddeddf Troseddau yn erbyn y Person 1861 (a.47)

 

Nid oedd collfarnau eraill i’w hystyried

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.