Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan nodi ei bod yn ddiwrnod Owain Glyndŵr.

Diolchwyd i staff y Cyngor a’r Cynghorwyr am eu gwaith diflino drwy gyfnod yr Haf.

Croesawyd Catrin Thomas i’r cyfarfod yn ei rôl newydd, sef Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cyngor.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 6 gan y Cyng. Paul Rowlinson gan ei fod ar Fwrdd Ynni Ogwen, a gan y Cyng. Menna Trenholme gan ei bod yn gyfarwyddwr ar Gwyrfai Gwyrdd. Nodwyd bod y rolau hyn yn rai gwirfoddol felly nid oedd y buddiannau’n rhagfarnu, a ni wnaethant adael y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 GORFFENNAF 2025 pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2025 fel y rhai cywir. 

 

6.

CYNLLUN YNNI LLEOL pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.     Cefnogwyd Prif Adroddiad ac Adroddiad Technegol Cynllun Ynni Ardal Leol Gwynedd, gan ddeall bod y Camau Gweithredu ac Argymhellion a neilltuwyd i Gyngor Gwynedd yn amodol ar sicrhau a chynnal y cyllid angenrheidiol.

 

2.     Cytunwyd y bydd angen datblygu mecanwaith llywodraethu a monitro ar gyfer y Camau Gweithredu ac Argymhellion ar y cyd ag Uchelgais Gogledd Cymru ac awdurdodau lleol eraill gogledd Cymru, a dod â’r trefniadau hynny yn ôl i’r Cabinet i’w cymeradwyo. Dylai’r fecanwaith arwain at:

• Cytuno ar strwythur llywodraethu

• Alinio Strategaeth Ynni Rhanbarthol Gogledd Cymru (a’r cynllun gweithredu) â’r Cynllun Ynni Ardal Leol

• Alinio’r Cynllun Ynni Ardal Leol gyda chynlluniau ynni cenedlaethol all gael eu datblygu gan NESO (National Energy System Operator) ar ran Llywodraeth Cymru

• Nodi dangosyddion perfformiad allweddol

• Ffurfio Grŵp Llywio Rhanbarthol

 

Cofnod:

 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ei ganmol, ond nodwyd ei bod yn annhebygol y bydd adnoddau ac arian yn dod gan Lywodraeth Cymru i weithredu ar y Cynllun ar hyn o bryd.

Mynegwyd pryder nad yw’r cynlluniau newid hinsawdd yn rhan o ddiwylliant Cymru ar y funud, er pwysigrwydd cyrraedd y targedau a osodwyd. Nodwyd bod ansicrwydd ynglŷn â chanlyniad Etholiad y Senedd yn 2026 a sut y bydd hyn yn effeithio’r pwyslais a gaiff ei roi ar faterion amgylcheddol wrth symud ymlaen.

Cadarnhawyd bod dyfnder y cynllun hwn yn golygu y gellir ei ddefnyddio beth bynnag a ddigwyddai yn yr Etholiad.

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd cydweithio â siroedd eraill yng Ngwynedd er mwyn gweithredu’r Cynllun. Atgoffwyd pawb nad Cynllun i Gyngor Gwynedd yn unig yw hwn ond cynllun i Wynedd gyfan.

Datganwyd bod y Cynllun yn rhan o rwydwaith o gynlluniau ynni lleol i bob sir yng Nghymru, a bydd y cynllun yn bwydo i fewn i gynllun rhanbarthol sydd eisoes yn ei le. Ychwanegwyd bod gobaith y bydd y cynlluniau hyn yn arwain at gynllun ynni cenedlaethol a gaiff ei arwain gan y Llywodraeth.

 

Eglurwyd bod y Cynllun yn ceisio edrych ar ym mhle a gan bwy mae’r galw am ynni, a sut y caiff yr ynni ei gynhyrchu a’i ddosbarthu. Ychwanegwyd bod yr Adroddiad Technegol yn ddefnyddiol gan fod bas data gwerthfawr y gellir dibynnu arno, ond cadarnhawyd y bydd hwn angen ei ddiweddaru mewn ychydig flynyddoedd, fel mae sefyllfaoedd yn newid.

Argymhellwyd bod angen ail edrych a diweddaru’r cynllun hwn bob rhyw 3 – 5 mlynedd.

 

Sylwadau’r codi o’r drafodaeth:

·       Soniwyd bod gan Uchelgais Gogledd Cymru nifer o gynlluniau ar y gweill a holwyd os oes bwriad o drafod gyda nhw er mwyn ceisio sicrhau cyllid i wireddu cynlluniau o’r adroddiad. Eglurwyd bod bwriad o sicrhau trafodaethau ar lefel rhanbarthol, gan gynnwys gydag Uchelgais Gogledd Cymru, a bod ceisiadau am gyllid pellach yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru neu sefydliadau perthnasol i ariannu’r cynlluniau.

·       Datganwyd bod dros £270miliwn wedi ei fuddsoddi mewn ynni gwyrdd rhwng 2012 a 2025 ond bod yr adenillon o hyn yn dros £400miliwn. Gan ategu pwysigrwydd y Cynllun hwn, ychwanegwyd bod buddsoddiad mewn ynni gwyrdd yn helpu’r economi yn ogystal â chreu swyddi, sydd yn ei dro yn sicrhau ein bod yn cyrraedd y targedau net sero.

·       Nodwyd bod yr ystadegau hyn wedi eu hamlygu gan y Llywodraeth wrth sôn am economi gylchol, ond eto bod dim buddsoddiad ganddynt i wireddu cynlluniau fel hyn.

 

Awdur: Bethan Richardson, Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd

7.

CYNNAL PLEIDLAIS ARDALOEDD GWELLA BUSNES BANGOR pdf eicon PDF 175 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. R Medwyn Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1. Nodwyd bod y Cynnig Ardal Gwella Busnes (AGB) a dogfennau atodol gan Gwmni Ardal Gwella Busnes Bangor wedi eu derbyn gan y Cyngor a’u bod yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau;

2. Cyfarwyddwyd y Swyddog Canlyniadau gan y Cabinet i gynnal pleidlais AGB Bangor;

3. Cymeradwywyd y trefniadau a’r goblygiadau ariannol a nodir yn Rhan 3 o’r adroddiad;

4. Dirprwywyd yr hawl i Aelod Cabinet Economi i bleidleisio ar ran yr Awdurdod ym mhleidlais yr AGB. 

5. Os yw’r bleidlais yn llwyddiannus ym Mangor, ac yn unol â Rheoliadau Ardal Gwella Busnes (Cymru) 2005, dirprwyir hawl i Bennaeth Gwasanaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â phenaethiaid yr adrannau canlynol i gymeradwyo'r fersiwn derfynol o’r Cytundeb Ymarferol a’r Cytundeb Gwaelodlin a chwblhau y cytundebau yn unol a threfniadau y Cyngor:

• Amgylchedd

• Priffyrdd, Peirianneg ac YGC

• Cyfreithiol

 • Cyllid.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. R Medwyn Hughes.

 

PENDERFYNIAD

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddatgan bod yr Ardal Gwella Busnes (AGB) ym Mangor wedi cyflwyno rhybudd i’r Cyngor ar gyfer adnewyddu’r AGB.

Nodwyd nad yw hi’n ymddangos bod y rhybudd yn gwrthdaro gydag unrhyw bolisi sydd gan y Cyngor, felly gyda chymeradwyaeth y Cabinet, y cam nesaf fydd i’r Cyngor gyfarwyddo’r swyddog canlyniadau i gynnal y bleidlais ar y dyddiadau a nodir yn yr adroddiad.

Ychwanegwyd bod y mater hwn yn dechnegol ac yn ymarferol o ran trefniadau.

 

 

Awdur: Llyr B Jones, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned ac Esyllt Rhys Jones, Rheolwr Rhaglenni Adfywio

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2024-25, CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2020-24 pdf eicon PDF 155 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Llio Elenid Owen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Nodwyd cynnwys a chymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2024-25, Cynllun Cydraddoldeb 2024-28.

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Llio Elenid Owen

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddatgan mai hwn yw adroddiad blynyddol cyntaf Cynllun Cydraddoldeb 2024-2028.

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn nodi’r cynnydd sydd wedi ei wneud yn erbyn y 5 amcan cydraddoldeb a gaiff ei nodi yn yr adroddiad, sef y gwaith hwnnw fydd yn flaenoriaeth i’r Cyngor drwy gydol cyfnod y Cynllun.

Ymfalchïwyd yn y ffaith bod y rhan fwyaf o’r gwaith a glustnodwyd ar gyfer y cyfnod wedi ei gwblhau, a bydd unrhyw waith heb ei gwblhau yn cael ei wneud eleni.

 

Amlygwyd rhai o brif bwyntiau’r adroddiad:

 

  • Soniwyd bod y Cyngor wedi derbyn achrediad lefel 2 o’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd, a nawr yn gweithio tuag at lefel 3.
  • Nodwyd bod Fforwm Cydraddoldeb Staff wedi cychwyn fel bod modd i staff gyfrannu a rhoi barn ar faterion cydraddoldeb o fewn eu cyflogaeth.
  • Amlygwyd bod hyfforddiant yn cael ei roi i staff ac i aelodau etholedig yn y maes niwroamrywiaeth. Ychwanegwyd bod y niferoedd o staff sy’n gwneud yr hyfforddiant mandadol nawr ar gael i’r aelodau, ac mae meysydd blaenoriaeth ar gyfer hyfforddiant wedi cael eu hadnabod felly mae’r gwaith i drefnu hyfforddiant yn y meysydd cydraddoldeb eraill ar droed.
  • Datgelwyd bod yr Adran Tai ac Eiddo wedi bod yn casglu gwybodaeth drwy’r arolwg corfforaethol Ardal Ni, yn uchafu’r nifer o dai fforddiadwy ac yn darparu cymorth er mwyn cynyddu effeithlonrwydd tai. Ategwyd bod trefniadau wedi cael eu symleiddio fel ei bod yn haws i bobl gael mynediad at grant cymorth tai a’r drefn tai cymdeithasol.
  • Nodwyd bod camau gweithredu wedi eu sefydlu ar gyfer ysgolion drwy  ddadansoddi’r Siarter ‘Y Gost o Fynychu’r Ysgol’, sy’n edrych ar y gost ariannol ac emosiynol i blant fynychu’r ysgol.
  • Mae Cydlynydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu wedi’i benodi i sefydlu trefniadau effeithiol i dderbyn mewnbwn plant a phobl ifanc, drwy gynghorau a fforymau ysgol, gan sicrhau gweithredu ar lais y disgybl, beth bynnag eu nodweddion gwarchodedig a’u hanghenion.

 

Eglurwyd bod nifer o adrannau gwahanol ar draws y Cyngor wedi bod yn rhan o adeiladu’r Cynllun, a bod hyn wedi cyfrannu at ei lwyddiant. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Diolchwyd am yr adroddiad, a mynegwyd balchder o weld ffocws wedi ei roi ar drafod gyda chymunedau a gwrando ar leisiau pobl ifanc y sir.
  • Holwyd am yr ymateb sy’n deillio o’r Fforwm Cydraddoldeb Staff. Cadarnhawyd mai un cyfarfod sydd wedi bod hyd yma, a bod bwriad i adeiladu ar hyn.
  • Crybwyllwyd cyfraniad yr Adran Tai ac Eiddo i’r cynllun a thynnwyd sylw at y ffaith fod y Siop Un Stop nawr ar agor. Nodwyd y bydd hyn yn ehangu mynediad y cyhoedd at wasanaethau tai a fydd, yn y pen draw, yn hyrwyddo cydraddoldeb.
  • Pwysleisiwyd pwysigrwydd y parhad yn ymrwymiad y Cyngor i gydraddoldeb. Soniwyd am y gwaith gwych a wneir gan y tîm awtistiaeth yn ogystal. Mynegwyd balchder bod Gwynedd yn Awdurdod Oed Gyfeillgar sydd wedi ei ddynodi gan sefydliad Iechyd y Byd, a bod y cynllun hwn yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Delyth G Williams, Ymgynghorydd Cydraddoldeb a Gwenno M Owen, Hyfforddai Cydraddoldeb

9.

CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG pdf eicon PDF 264 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones a Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Cymeradwywyd Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2026/27 – 2028/29.
  2.  Comisiynwyd y Prif Weithredwr i sefydlu ac arwain ar ystod o opsiynau, fel amlinellir yn rhan 4 a 5 o’r adroddiad, i ragbaratoi ar gyfer cyfarch y bwlch sylweddol yn ein cyllideb dros y tair mlynedd nesaf.

 

Cofnod:

 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Huw Wyn Jones. 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn hanfodol wrth gefnogi gwydnwch y Cyngor, drwy ddarparu rhagolwg strategol o’r rhagolygon ariannol ar gyfer cyfnod o 3 blynedd, sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2026.

Nodwyd bod yr amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y rhagolygon diweddaraf sydd ar gael am y newid yn yr incwm a fydd y Cyngor yn ei dderbyn dros y cyfnod (drwy Grant y Llywodraeth a Threth Cyngor), a’r gofynion gwariant ychwanegol dros yr un cyfnod.

Pwysleisiwyd bod yr adroddiad yn ddogfen fyw, ac y bydd yn newid fel mae mwy o wybodaeth ar gael.

 

Eglurwyd nad yw’r Cyngor yn disgwyl cael gwybod beth fydd Grant y Llywodraeth ar gyfer 2026/27 tan o leiaf fis Tachwedd eleni, ond gyda’r rhagolygon fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn bwriadu rhoi cynnydd o 2% ar holl benawdau gwariant cyllideb y Llywodraeth ar gyfer 2026/27, gall y Cyngor ddisgwyl cynnydd blynyddol yn ei setliad ariannol o oddeutu 1.5%.

Datganwyd bod blwch cronnus o £40miliwn yn cael ei ragweld dros y tair blynedd nesaf.

 

Soniwyd i’r Cyngor dderbyn arian ychwanegol yn ystod y flwyddyn hon gan Lywodraeth Cymru; nodwyd y croesawir hyn ond y byddai derbyn yr arian hwn ar gychwyn y flwyddyn fel rhan o’r setliad yn fwy buddiol i awdurdodau lleol.

Cadarnhawyd bod y diffyg eglurder a’r negeseuon anghyson gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn gwneud blaen gynllunio ar sail setliad tebygol 2026/27 yn anoddach na’r arfer.

 

Cyfeiriwyd at fygythiad Llywodraeth Cymru o “rollover budget” ar gyfer 2026/27, sef parhad o gyllideb eleni gan gynnwys ychwanegiad bychan tuag at chwyddiant yn unig. Ategwyd y golyga hyn na fydd cydnabyddiaeth ariannol o’r costau sylweddol eraill sy’n wynebu awdurdodau lleol.  Rhybuddiwyd y byddai hyn yn doriad cyllideb heblaw bod graddfa chwyddiant yn gostwng cyn Ebrill 2026.

 

Mynegwyd pryder mawr am y bwlch cyllidebol potensial sy’n wynebu’r Cyngor, gan amlygu bod y Cyngor yn barod wedi gwasgu’r gyllideb gan adnabod £74miliwn o doriadau ac arbedion dros y cyfnod o tua 15 mlynedd diwethaf.

 

Pryderwyd am effaith uniongyrchol toriadau pellach ar y gwasanaethau a gynigir i drigolion Gwynedd ac effaith hynny ar gymunedau, os na fydd y Cyngor yn derbyn setliad teg. Nodwyd bod y ffigyrau hyn yn rai brawychus, gan ategu pwysigrwydd ystyried y camau nesaf.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Cyfeiriwyd at y sefyllfa ansicr hon, gan nodi bod cryn wahaniaeth rhwng lefel chwyddiant a’r cynnydd yn y setliad. Nodwyd y bydd gorfod cynyddu’r dreth cyngor i gau’r diffyg hwn yn ganlyniad uniongyrchol o fethiant Llywodraeth Cymru i gynyddu’r setliad yn unol â chwyddiant.  

·       Ychwanegwyd bod awdurdodau lleol, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi bod yn pwyso am setliadau aml-flwyddyn, ond bod addewidion y Llywodraeth o hynny ddim wedi dod i law.

 

Awdur: Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid a Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr

10.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 125 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y flaenraglen.