Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2025 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
|
|
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2026-27 Cyflwyno adroddiad y Aelod Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL A HUNANASESIAD 2024/25 Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
|
|
|
TREFNIADAU DATRYS MEWNOL Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
RHYBUDDION O GYNNIG (A) RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD BECA BROWN Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Beca Brown yn cynnig fel a ganlyn:- Hoffem groesawu cyhoeddi’r Adolygiad Ymarfer Plant ar Dachwedd 4ydd, gan gofnodi ein diolch dwfn i’r cadeirydd Jan Pickles am ei gwaith gofalus, a felly hefyd i’r panel ac i Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru. Hoffem nodi teitl yr adroddiad, Sef Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y teitl bob amser wrth drafod yr adroddiad hwn, gan ei fod yn talu teyrnged gwbwl haeddiannol i ddewrder plant – plant oedd i fod yn saff yn eu hysgolion, a phlant ddaeth â blynyddoedd o droseddu erchyll un o ddynion mwyaf grymus y sir yma i ben. Mae’n dyled iddynt yn enfawr. Mae’n meddyliau ni gyda nhw ac rydym yn diolch o waelod calon iddynt am eu penderfynoldeb a'u gwytnwch rhyfeddol. Ymrwymwn fel cyngor i ddysgu pob gwers a ddaw yn sgil yr adroddiad, ond ymhellach na hynny, ymrwymwn i edrych ar unrhyw faterion perthnasol sydd wedi disgyn tu allan i gylch gorchwyl yr AYP, a oedd yn edrych ar achos y troseddwr hwn yn y cyfnod rhwng 2017 a Medi 2023. Galwn felly ar y cabinet i ystyried pa ymchwiliadau annibynnol pellach sydd eu hangen er mwyn cyfrach yr hyn sydd yn mynd tu hwnt i ffiniau’r AYP. Rydym yn gwbwl effro i’r ffaith fod gwaith pellach i’w wneud, ac yn gofyn I’r Cabinet fynd ati yn ddiymdroi I adnabod yr hyn sydd eto i’w gyflawni. Mynegwn unwaith eto ein ymddiheuriadau didwyll i’r plant sydd wedi dioddef niwed, a byddwn yn ymroi i droi pob carreg er mwyn sicrhau, hyd orau, ein gallu, fod ‘byth eto’ yn golygu ‘byth eto’ (B) RHYBUDD
O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD NIA JEFFREYS Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Nia Jeffreys yn cynnig fel a ganlyn:- Cynnig bod y Cyngor Nodwn hefyd mai hunanladdiad yw prif achos marwolaeth pobl ifanc i fyny at 35 oed yn ol yr elusen Papyrus, oherwydd nad yw pobl ifanc yn marw o achosion eraill yn aml iawn. Dynion canol oed rhwng 30-44 oed yng Nghymru sydd fwyaf
tebygol o ladd eu hunain. Roedd 76% o’r marwolaethau gan hunanladdiad yn
ddynion. Mae perthynas rhwng tlodi a hunanladdiad, efo 15.8 mewn 100,000 o
hunanladdiadau yn digwydd mewn ardaloedd difreintiedig, ac 8.6 mewn 100,000 yn
yr ardaloedd lliaf difreintiedig. Mae 126.7 mewn 100,000 yn ddiwaith. Mae modd atal hunanladdiad, ac mae cefnogaeth ar gael. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL (1) Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Gwynfor Owen I gyfarfod 3 Gorffennaf 2025 o’r Cyngor ynglŷn a datganoli Rheilffyrdd Cymru. (2) Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Rhys Tudur i gyfarfod 3 Gorffennaf 2025 o’r Cyngor ynglŷn a’r shifft iaith. Dogfennau ychwanegol: |