Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadarnhawyd bod y cyfarfod arbennig hwn o’r Cyngor Llawn
wedi cael ei alw gan y Cadeirydd yn unol â pharagraff 4.12.1(b) o Gyfansoddiad
y Cyngor, i drafod ‘Cynllun Ymateb i’r adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder’.
Amlygwyd bod eitem ychwanegol wedi ei raglennu fel eithriad i’r rhaglen, sef
‘Ail-benodi Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau’. Adroddwyd y byddai
trafodaeth ar y Cynllun Ymateb yn cael ei gynnal yn gyntaf oherwydd ei
bwysigrwydd, gyda chaniatâd yr Aelodau. Cydymdeimlwyd â theuluoedd y diweddar John Wynne Meredith,
cyn-gynghorydd Garth (Bangor) ac Alwyn Elis Roberts, cyn-ysgrifennydd Cyngor
Gwynedd yn dilyn eu profedigaeth ddiweddar. Mynegwyd cydymdeimladau i bawb o fewn cymunedau’r Sir oedd wedi colli
anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a
choffadwriaeth. Nodwyd bod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn
ddiweddar a dymunwyd gwellhad buan iddynt. Llongyfarchwyd y canlynol: ·
Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn a’i wraig Anwen
ar enedigaeth eu merch, Nanw Eluned, yn ddiweddar. ·
Y Cynghorydd Craig ab Iago ar ennill Gwobr Enablement UK 2025. ·
Elfyn Evans am y gamp o ddod yn ail yn rali
gyntaf Pencampwriaeth Ralio’r Byd ym Monte Carlo yn ddiweddar. Rhannwyd dymuniadau da iddo i’r
bencampwriaeth eleni. ·
Clwb Pêl-droed Dinas Bangor 1876 a Chlwb
Pêl-droed Tref Caernarfon am gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru. ·
Nick Thomas o Dalysarn
ar ennill medal aur ym Mhencampwriaeth Para-Archery y
Byd. |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
AIL-BENODI AELOD ANNIBYNNOL I'R PWYLLGOR SAFONAU I ystyried a chymeradwyo ail-benodiad Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD ail-benodi Hywel Eifion Jones fel aelod
annibynnol o’r Pwyllgor Safonau i wasanaethu am dymor pellach o bedair blynedd
o 05 Chwefror 2026. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Monitro gan nodi bod tymor Mr
Hywel Eifion Jones wedi dod i ben ond mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru)
2001 yn caniatáu i aelodau annibynnol gael eu hail-benodi am dymor ychwanegol,
heb fod yn hwy na pedair blynedd, fel y gofynnir o fewn yr adroddiad. Adroddwyd bod Mr Hywel Eifion Jones wedi bod yn aelod o’r
Pwyllgor Safonau ers 2019 a'i fod wedi gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor ers
2023. Cadarnhawyd bod ei dymor cyntaf fel Aelod o’r Pwyllgor wedi dod i ben ym
mis Gorffennaf 2025 ac nid yw’r sedd wag honno wedi cael ei llenwi yn y
cyfamser. Sicrhawyd bod modd ei ail-benodi yn unol â’r Rheoliadau uchod, am ail
dymor aelodaeth. Amlygwyd bod bwlch yn ei aelodaeth ond bod cyngor cyfreithiol
yn cytuno ei fod yn briodol iddo gael ei ail-ethol. Derbyniwyd nifer o sylwadau o gefnogaeth gan yr Aelodau, gan
fod Mr Hywel Eifion Jones wedi bod yn Aelod gweithgar iawn o’r Pwyllgor
Safonau. Diolchwyd iddo am ei waith trwyadl, gwybodus, gwerthfawr a gwrthrychol
drwy gydol ei dymor cyntaf. PENDERFYNWYD ail-benodi Hywel Eifion Jones fel aelod
annibynnol o’r Pwyllgor Safonau i wasanaethu am dymor pellach o bedair blynedd
o 05 Chwefror 2026. |
|
|
CYNLLUN YMATEB I'R ADRODDIAD CYFIAWNDER TRWY EIN DEWRDER Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried y
sylwadau ychwanegol a wnaed yn y cyfarfod hwn, yn ogystal a sylwadau y
Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, wrth
fabwysiadu’r Cynllun Ymateb newydd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cadarnhawyd prif drafodaethau’r Cyfarfod fel a ganlyn:
PENDERFYNWYD: Gofyn i’r Cabinet ystyried y sylwadau uchod, yn ogystal a
sylwadau Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Gofal (13 Ionawr 2026), Cyfarfod
Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi (19 Ionawr 2026) a’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio (15 Ionawr 2026), wrth fabwysiadu’r Cynllun Ymateb
newydd. Cofnod: Cyflwynwyd yr
eitem hon gan y Cadeirydd gan nodi’r
prif bwyntiau canlynol: Cydnabuwyd bod adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy ein
Dewrder’ yn ddogfen anodd ac emosiynol
i’w ddarllen a'i fod yn amlygu nifer o gyfleoedd a gollwyd, gan nifer o
gyrff yn cynnwys Cyngor Gwynedd, i geisio atal Neil Foden:
Cyn-bennaeth Ysgol Friars. Ategwyd ymddiheuriadau didwyll sydd wedi cael eu
cyflwyno i’r dioddefwyr a phwysleisio’r cyfrifoldeb i sicrhau bod popeth yn
cael ei wneud i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd eto. Adroddwyd bod gwaith craffu sylweddol i’r
Cynllun Ymateb wedi cael ei gynnal yn ystod mis Ionawr 2026. Ymhelaethwyd bod
12 awr wedi cael ei dreulio yn craffu’r mater rhwng y Pwyllgor Craffu Gofal (13
Ionawr 2026), Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (15 Ionawr 2026) a Phwyllgor
Craffu Addysg ac Economi (19 Ionawr 2026). Amlygwyd bod sylwadau’r pwyllgorau
wedi cael eu cynnwys fel rhan o’r ddogfennaeth i’r cyfarfod hwn. Tywyswyd yr aelodau drwy drefn y cyfarfod gan
nodi bod blaenoriaeth yn cael ei roi i’r Aelodau hynny nad ydynt wedi cael y
cyfle i gyflwyno sylwadau yn y
pwyllgorau uchod eisoes, er mwyn sicrhau fod
yr holl Aelodau yn cael cyfle i roi mewnbwn. Eglurwyd, er rhoi tegwch i
bawb, y dylai Aelodau atal rhag ailadrodd yr un materion a godwyd yn y
cyfarfodydd uchod gan hefyd nodi pa un o 7 thema’r Cynllun Ymateb y cyfeirient
ato. Atgoffwyd yr Aelodau o’r drefn arferol o geisio peidio cymryd mwy na 5
munud o amser y cyfarfod i gyfrannu i’r drafodaeth. Pwysleisiwyd nad oes gan yr Aelodau na
swyddogion yr hawl i drafod unrhyw faterion cyflogaeth neu ymchwiliadau posib,
gan eu bod yn faterion sydd rhaid i gyflogwr ymdrin â hwy yn unol â
chyfansoddiad a hawliau cyflogaeth statudol. Atgoffwyd bod y Swyddog Monitro
wedi darparu a chylchredeg nodyn briffio i’r aelodau yn eu cynghori ar y mater
hwn. Eglurwyd bod
sylwadau a gyflwynir yn ystod y drafodaeth yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet
ynghyd â sylwadau’r Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio,
pe byddai’r sylwadau yn derbyn cymeradwyaeth yr Aelodau ar ddiwedd y drafodaeth
ar yr eitem hon. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Arweinydd y Cyngor. Pwysleisiwyd y prif faterion canlynol: Ymddiheurwyd yn ddiffuant i’r dioddefwyr ac i
bawb a effeithiwyd gan y troseddau erchyll sydd wedi cael eu cyflawni i ddod
a’r angen am adroddiad hwn ymlaen. Ymhellach, ymddiheurwyd na chafodd
lleisiau’r plant eu clywed, gan bwysleisio mai gweithredu er mwyn sicrhau newid
yw’r deyrnged fwyaf all y Cyngor ei gyflawni. Cadarnhawyd bod y
Cynllun Ymateb hwn yn ceisio sicrhau na fydd methiannau o’r math a amlygwyd o
fewn yr Adolygiad yn digwydd eto. Croesawyd mewnbwn gan holl aelodau’r Cyngor
gan nodi bod her a thrafodaeth iach yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun. Amlygwyd bod y
Cynllun Ymateb yn ddogfen fyw a chyhoeddus, gan gadarnhau bydd cofnodion
cyfarfodydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb hefyd yn gyhoeddus. Nodwyd bod
tryloywder yn angenrheidiol er mwyn adfer hyder ymhlith y cyhoedd, staff ac
Aelodau. Diolchwyd i’r Aelodau am eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |