Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 137 KB

PORTMEIRION CYFYNGEDIG, CAE DREIF A MAES PARCIO CASTELL DEUDRAETH, PORTMEIRION, MINFFORDD, PENRHYNDEUDRAETH, LL48 6EN

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor

Dydd Sul –  

Dydd Llun   

Dydd Mawrth –  

Dydd Mercher 

Dydd Iau   

Dydd Gwener 18:00 – 23:00 

Dydd Sadwrn 18:00 – 23:00 

 

Gweithgareddau Trwyddedig: 

  

Cerddoriaeth Fyw – Awyr Agored

Dydd Sul –  

Dydd Llun   

Dydd Mawrth –  

Dydd Mercher 

Dydd Iau   

Dydd Gwener 18:00 – 23:00 

Dydd Sadwrn 18:00 – 23:00 

 

Digwyddiadau tymhorol – Mai – Medi

Uchafswm o bedwar digwyddiad mewn blwyddyn

 

Cerddoriaeth wedi’i Recordio

Dydd Sul –  

Dydd Llun   

Dydd Mawrth –  

Dydd Mercher 

Dydd Iau   

Dydd Gwener 18:00 – 23:00 

Dydd Sadwrn 18:00 – 23:00

Digwyddiadau tymhorol – Mai – Medi

Uchafswm o bedwar digwyddiad mewn blwyddyn

 

 

Cyflenwi Alcohol - Ar yr Eiddo 

Dydd Sul –  

Dydd Llun   

Dydd Mawrth –  

Dydd Mercher 

Dydd Iau   

Dydd Gwener 18:00 – 23:00 

Dydd Sadwrn 18:00 – 23:00 

 

Digwyddiadau tymhorol – Mai – Medi

Uchafswm o bedwar digwyddiad mewn blwyddyn

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau gan gynnwys yr amod ychwanegol i reoli sŵn isod:

 

Amodau Rheoli Sŵn

1.     Ni fydd lefel y sŵn adloniant  a gynhyrchir yn ystod digwyddiad goruwch yr hyn a fanylir yn nhabl 1 isod, rhwng 18:00 a 23:00, 1 medr o bared unrhyw eiddo sensitif i sŵn yn yr ardal leol.

 

Tabl 1

 

Paramedr Mesur

Oriau caniataëdig

Lefel Pared (dB)

Lefel Cae Agored (dB)

LAeq, 15 munud (“)

10:00 – 23:00

65

62

Band octif 31.5Hz (*)

10:00 – 23:00

70

67

Band octif 63 Hz (*)

10:00 – 23:00

70

67

Band octif 125 Hz (*)

10:00 – 23:00

70

67

 

2.     Bydd unrhyw fesur sŵn i sefydlu cydymffurfiaeth gyda’r amod uchod i ddilyn y canllawiau mesur sy’n gynwysedig yn Safon Brydeinig 4142:2019

3.     Bydd nifer y digwyddiadau wedi eu cyfyngu i 4 dros unrhyw gyfnod o 12 mis.

4.     Ni chaniateir mwy na 2 ddigwyddiad yn olynol dros unrhyw gyfnod o 7 diwrnod.

 

(“) Diffinnir y paramedr mesur LAeq fel ;

Y lefel sŵn cymharol di dor mewn lleoliad dros amser penodol sydd gyda’r un egni sŵn a sŵn sy’n amrywio dros yr un cyfnod yn yr un lleoliad.

(*)Ni ddylid rhoi pwysedd amledd i’r mesuriadau band octif. Dylid mesuriadau band octif (amledd canol) 31.5 Hertz, 63 Hertz and 125Hertz fod yn unionlin.

Amodau yn seiliedig ar ganllawiau'r Cod Ymarfer ar gyfer Rheoli Sŵn amgylcheddol o gyngherddau (Cyngor Sŵn, 1995)

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)               Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo gan Portmeirion Cyf i gynnal hyd at bedwar digwyddiad awyr agored yn flynyddol rhwng mis Mai a mis Medi.  Bydd bwriad cynnal digwyddiadau trwyddedadwy fydd yn cynnwys cerddoriaeth wedi ei recordio, cerddoriaeth fyw a gwerthu alcohol i’w yfed ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003, yn argymell i’r Pwyllgor ganiatáu y cais yn unol â’r cytundeb sydd wedi bod gyda’r ymgeisydd i ychwanegu mesurau rheoli sŵn ar y drwydded.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

·          Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·          Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·          Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·          Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·          Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·          Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·          Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.

·          Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

 

·         Bod y cais yn un ar gyfer cynnal hyd at 4 digwyddiad yn Cae Dreif

·         Bod y digwyddiadau yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant Portmeirion ac yn fodd o nodi’r achlysur

·         Y digwyddiadau yn gyfle i ddarparu adloniant a mwynhad i’r pentref i gyd-ddathlu

·         Y gobaith yw cynnal pedair noson yn flynyddol wedi hyn

·         Eu bod yn cytuno gyda’r amodau rheoli sŵn – wedi cynnal trafodaethau gyda’r trefnwyr a swyddogion y Cyngor

 

c)         Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt:

 

            Alun Evans (Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd)

 

·        Yn cadarnhau bod yr amodau wedi eu cytuno

·        Bod yr amod yna i warchod yr amcan Trwyddedu o Atal Niwsans Cyhoeddus a thrigolion cyfagos o lygredd sŵn

·        Yn diolch i Portmeirion am eu cydweithrediad

 

ch)       Cymerodd y Swyddog Cyfreithiol y cyfle i grynhoi gofynion y cais

 

·     Yn gais syml am drwydded cerddoriaeth wedi ei recordio, cerddoriaeth fyw a gwerthu alcohol i’w yfed ar yr eiddo

·     Y mesurau fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau ar yr atodlen weithredol ynghyd a’r amod ychwanegol o reoli sŵn

 

Ymneilltuodd cynrychiolwyr yr ymgeisydd, Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.