Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sera Jane Whitley  E-bost: serajanewhitley@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

2.

ETHOL CADEIRYDD AR GYFER 2026/27

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026/27.

Penderfyniad:

Bu i Nigel Rudd gael ei ethol yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2026/27.

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD AR GYFER 2026/27

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2026/27.

Penderfyniad:

Penderfynwyd gohirio'r penodiad hyd nes y cyfarfod nesaf.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

5.

MATERION BRYS

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 170 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2025 fel rhai cywir.

 

7.

CYLCH GORCHWYL A ROL YR IS-BWYLLGOR LLWYODRAETHU AC ARCHWILIO

Mark Watkins, Swyddog Monitro i gyflwyno.

8.

BLAENGYNLLUN GWAITH YR IS-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2026/27 pdf eicon PDF 358 KB

Mark Watkins, Swyddog Monitro a Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Cymeradwywyd Rhaglen Waith ar gyfer 2026/27.

 

  • Cytunwyd y dylid trin y Rhaglen Waith fel dogfen fyw a'i hadolygu ym mhob cyfarfod cyffredin, gydag eitemau pellach yn cael eu hychwanegu pan fyddant yn dod o fewn Cylch Gorchwyl yr Is-bwyllgor neu pan fyddant yn cael eu cyfeirio gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

  • Nodwyd bod y rhaglen wedi'i fframio o amgylch sicrwydd, digonolrwydd rheolaethau, effeithiolrwydd trefniadau, cydymffurfiaeth statudol a, lle bo hynny'n briodol, argymhellion i'r Cydbwyllgor Corfforedig.

 

9.

STRATEGAETH RHEOLI RISG pdf eicon PDF 290 KB

Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ystyriwyd cynnwys y Strategaeth Rheoli Risg ddrafft a chynnig sylwadau arno.

 

10.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 pdf eicon PDF 186 KB

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CJC) a Delyth Jones-Thomas, Rheolwr Buddsoddi i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar gyfer 2025/26.

 

11.

POLISI CANMOLIAETHAU, SYLWADAU A CHWYNION pdf eicon PDF 165 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Ystyriwyd y Polisi Canmoliaethau, Sylwadau a Chwynion drafft ac argymell ei fabwysiadu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

12.

SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF 2025/26 pdf eicon PDF 199 KB

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ystyriwyd y wybodaeth a'r penderfyniadau a geisiwyd.

 

13.

CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD - CYNLLUN ARCHWILIO ALLANOL 2026 pdf eicon PDF 174 KB

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CJC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a rhoi sylwadau ar Gynllun Archwilio Allanol 2026 ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.