Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y cyfarfod arbennig hwn o’r Cyngor Llawn wedi cael ei alw gan y Cadeirydd yn unol â pharagraff 4.12.1(b) o Gyfansoddiad y Cyngor, i drafod ‘Cynllun Ymateb i’r adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder’. Amlygwyd bod eitem ychwanegol wedi ei raglennu fel eithriad i’r rhaglen, sef ‘Ail-benodi Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau’. Adroddwyd y byddai trafodaeth ar y Cynllun Ymateb yn cael ei gynnal yn gyntaf oherwydd ei bwysigrwydd, gyda chaniatâd yr Aelodau.

 

Cydymdeimlwyd â theuluoedd y diweddar John Wynne Meredith, cyn-gynghorydd Garth (Bangor) ac Alwyn Elis Roberts, cyn-ysgrifennydd Cyngor Gwynedd yn dilyn eu profedigaeth ddiweddar. Mynegwyd cydymdeimladau  i bawb o fewn cymunedau’r Sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Nodwyd bod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd gwellhad buan iddynt.

 

Llongyfarchwyd y canlynol:

·       Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn a’i wraig Anwen ar enedigaeth eu merch, Nanw Eluned, yn ddiweddar.

·       Y Cynghorydd Craig ab Iago ar ennill Gwobr Enablement UK 2025.

·       Elfyn Evans am y gamp o ddod yn ail yn rali gyntaf Pencampwriaeth Ralio’r Byd ym Monte Carlo yn ddiweddar. Rhannwyd dymuniadau da iddo i’r bencampwriaeth eleni.

·       Clwb Pêl-droed Dinas Bangor 1876 a Chlwb Pêl-droed Tref Caernarfon am gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru.

·       Nick Thomas o Dalysarn ar ennill medal aur ym Mhencampwriaeth Para-Archery y Byd.

 

4.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

 

5.

AIL-BENODI AELOD ANNIBYNNOL I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 111 KB

I ystyried a chymeradwyo ail-benodiad Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD ail-benodi Hywel Eifion Jones fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau i wasanaethu am dymor pellach o bedair blynedd o 05 Chwefror 2026.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Monitro gan nodi bod tymor Mr Hywel Eifion Jones wedi dod i ben ond mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 yn caniatáu i aelodau annibynnol gael eu hail-benodi am dymor ychwanegol, heb fod yn hwy na pedair blynedd, fel y gofynnir o fewn yr adroddiad.

 

Adroddwyd bod Mr Hywel Eifion Jones wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Safonau ers 2019 a'i fod wedi gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor ers 2023. Cadarnhawyd bod ei dymor cyntaf fel Aelod o’r Pwyllgor wedi dod i ben ym mis Gorffennaf 2025 ac nid yw’r sedd wag honno wedi cael ei llenwi yn y cyfamser. Sicrhawyd bod modd ei ail-benodi yn unol â’r Rheoliadau uchod, am ail dymor aelodaeth. Amlygwyd bod bwlch yn ei aelodaeth ond bod cyngor cyfreithiol yn cytuno ei fod yn briodol iddo gael ei ail-ethol.

 

Derbyniwyd nifer o sylwadau o gefnogaeth gan yr Aelodau, gan fod Mr Hywel Eifion Jones wedi bod yn Aelod gweithgar iawn o’r Pwyllgor Safonau. Diolchwyd iddo am ei waith trwyadl, gwybodus, gwerthfawr a gwrthrychol drwy gydol ei dymor cyntaf.

 

PENDERFYNWYD ail-benodi Hywel Eifion Jones fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau i wasanaethu am dymor pellach o bedair blynedd o 05 Chwefror 2026.

 

6.

CYNLLUN YMATEB I'R ADRODDIAD CYFIAWNDER TRWY EIN DEWRDER pdf eicon PDF 314 KB

Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried y sylwadau ychwanegol a wnaed yn y cyfarfod hwn, yn ogystal a sylwadau y Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, wrth fabwysiadu’r Cynllun Ymateb newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd prif drafodaethau’r Cyfarfod fel a ganlyn:

 

  • Atgyfnerthu’r cais i Lywodraeth Cymru am ymchwiliad cyhoeddus, gan rannu ymateb y Llywodraeth i’r cais gydag Aelodau’r Cyngor Llawn.
  • Pwysleisio pwysigrwydd effeithlonrwydd Polisïau Canu’r Gloch, Diogelu a Grym Rhesymol.
  • Gofyn i Ffurflenni Cyfeiriadau Diogelu gael eu dosbarthu yn ehangach nac i Benaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr yn unig.
  • Rhannu gwybodaeth am wariant ar gefnogaeth, therapi a chwnsela i ddioddefwyr i roi sicrwydd ein bod yn gwario digon ar y gefnogaeth hyn.
  • Pwysleisio pwysigrwydd Polisi Grym Rhesymol a’i fod yn cael sylw priodol yn yr ymateb.
  • Ystyriaeth i sut mae sicrhau fod polisi diogelu yn cael ei ddilyn pan fo’r wybodaeth yn gyfrinachol a ddim yn hysbys i holl aelodau o gorff llywodraethu ysgol
  • Rhoi ystyriaeth i sicrhau bod pryderon yn cael eu hystyried o ddifrif a bod hynny yn cael ei atgyfnerthu mewn diwylliant
  • Sicrhau bod trefniadau cadw cofnodion, ac unrhyw hyfforddiant perthnasol, yn cael eu adolygu ac ystyried swyddog penodol i wirio ansawdd cofnodion.
  • Yr angen am sicrwydd petai rhywun yn codi pryderon heddiw beth fyddai’n wahanol
  • Yr angen i gyhoeddi fersiwn cryno a hawdd i ddarllen o’r ddogfen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gofyn i’r Cabinet ystyried y sylwadau uchod, yn ogystal a sylwadau Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Gofal (13 Ionawr 2026), Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi (19 Ionawr 2026) a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (15 Ionawr 2026), wrth fabwysiadu’r Cynllun Ymateb newydd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem hon gan y Cadeirydd gan nodi’r  prif bwyntiau canlynol:

 

Cydnabuwyd bod adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy ein Dewrder’ yn ddogfen anodd ac emosiynol  i’w ddarllen a'i fod yn amlygu nifer o gyfleoedd a gollwyd, gan nifer o gyrff yn cynnwys Cyngor Gwynedd, i geisio atal Neil Foden: Cyn-bennaeth Ysgol Friars. Ategwyd ymddiheuriadau didwyll sydd wedi cael eu cyflwyno i’r dioddefwyr a phwysleisio’r cyfrifoldeb i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd eto.

 

Adroddwyd bod gwaith craffu sylweddol i’r Cynllun Ymateb wedi cael ei gynnal yn ystod mis Ionawr 2026. Ymhelaethwyd bod 12 awr wedi cael ei dreulio yn craffu’r mater rhwng y Pwyllgor Craffu Gofal (13 Ionawr 2026), Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (15 Ionawr 2026) a Phwyllgor Craffu Addysg ac Economi (19 Ionawr 2026). Amlygwyd bod sylwadau’r pwyllgorau wedi cael eu cynnwys fel rhan o’r ddogfennaeth i’r cyfarfod hwn.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy drefn y cyfarfod gan nodi bod blaenoriaeth yn cael ei roi i’r Aelodau hynny nad ydynt wedi cael y cyfle i  gyflwyno sylwadau yn y pwyllgorau uchod eisoes, er mwyn sicrhau fod  yr holl Aelodau yn cael cyfle i roi mewnbwn. Eglurwyd, er rhoi tegwch i bawb, y dylai  Aelodau atal rhag  ailadrodd yr un materion a godwyd yn y cyfarfodydd uchod gan hefyd nodi pa un o 7 thema’r Cynllun Ymateb y cyfeirient ato. Atgoffwyd yr Aelodau o’r drefn arferol o geisio peidio cymryd mwy na 5 munud o amser y cyfarfod i gyfrannu i’r drafodaeth.

 

Pwysleisiwyd nad oes gan yr Aelodau na swyddogion yr hawl i drafod unrhyw faterion cyflogaeth neu ymchwiliadau posib, gan eu bod yn faterion sydd rhaid i gyflogwr ymdrin â hwy yn unol â chyfansoddiad a hawliau cyflogaeth statudol. Atgoffwyd bod y Swyddog Monitro wedi darparu a chylchredeg nodyn briffio i’r aelodau yn eu cynghori ar y mater hwn.

 

Eglurwyd bod sylwadau a gyflwynir yn ystod y drafodaeth yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ynghyd â sylwadau’r Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, pe byddai’r sylwadau yn derbyn cymeradwyaeth yr Aelodau ar ddiwedd y drafodaeth ar yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor. Pwysleisiwyd y prif faterion canlynol:

 

Ymddiheurwyd yn ddiffuant i’r dioddefwyr ac i bawb a effeithiwyd gan y troseddau erchyll sydd wedi cael eu cyflawni i ddod a’r angen am adroddiad hwn ymlaen. Ymhellach, ymddiheurwyd na chafodd lleisiau’r plant eu clywed, gan bwysleisio mai gweithredu er mwyn sicrhau newid yw’r deyrnged fwyaf all y Cyngor ei gyflawni.

 

Cadarnhawyd bod y Cynllun Ymateb hwn yn ceisio sicrhau na fydd methiannau o’r math a amlygwyd o fewn yr Adolygiad yn digwydd eto. Croesawyd mewnbwn gan holl aelodau’r Cyngor gan nodi bod her a thrafodaeth iach yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun.

 

Amlygwyd bod y Cynllun Ymateb yn ddogfen fyw a chyhoeddus, gan gadarnhau bydd cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb hefyd yn gyhoeddus. Nodwyd bod tryloywder yn angenrheidiol er mwyn adfer hyder ymhlith y cyhoedd, staff ac Aelodau.

 

Diolchwyd i’r Aelodau am eu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.